Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

.IColofn y Celt.

MOELONA. j

j Oddi ar y Clawdd.

IDirprwyaeth y Gio. I-

Newyddion.

News
Cite
Share

Newyddion. Tabernacl, Abercynon.—Nos Ferch- er, Mawrth 19, sefydlwyd y.Parch. W. M. Davies, o Dreorci, yn weinidog yr eglwys uchod. Llywyddwyd y cyfar- fod gan Mr. William Evans. Siarad- wyd ar ran y gweinidogion gan y Parchn. D. Jones, M.A., a Gwmryn Jones, Penrhiwceibr; M. H. Jones, B.A., Ton; Morgan Jenkins, a J. R. Davies, Abercynon, ac ar ran y lley- gwyr gan Mri. Daniel Fen wick, David Humphries, E. R. Edwards, Aber- cynon, ac Enoch Hopkins a John Davies, o Dreorci. Cafwyd unawdau gan Miss Avarina Ebenezer, Mri. Henry Jones, a T- rf Williams, Arweiniwyd mewn gvveddi gan y Parchn. Isaac Morris, B. A., B. D., ac E. C. Rees. Ganwyd y gweinidog newydd yng I Ngoginan, ger Aberystwyth. Yr oedd ei dad yn flaenorac yn arweinydd canu yng nghapel y Dyffryn. Cat'odd addysg elfennol gyd a'r ysgolfeistri, i Mri. VViliam Jones (wedi hynny A.S. I dros Gaernarfon) ac Owen Prys. sy'n awr yn brif athro coleg duwinyddol Aberystwyth. Pan oedd yn 14 oed daeth yn ymgeisydd am y swydd ois- athro yn yr ysgol, a chan fod tri ym- geisydd arall am y swydd, gorfu iddo eistedd arholiad a daeth allan ar dop y rhestr. Pan oedd yn 18 oed aeth trwy arholiad olaf ei gwrs fel is-athro, a chymhwysodd ei hun i gadw ysgol heb fyned i goleg. Bu wedi hynny yn athro ,ar ysgoi y bwrdd yn Aber- ffrwd am bedair blynedd, ac yno y daeth yn ymgeisydd am y weinidogaeth yn y Dyffryn- Wedi cwrs o addysg am bum mlynedd yn Aberystwyth, graddiodd yn B.A., a'r arholiad or- deinio yn y dosbarth cyntaf. Ei fugeiliaeth gyntaf oedd Dyffryn, Goginan, lie -elodd glirio'r ddyled oedd ar yr adeiladau er cyn ei eni ef. Wedi hyn aeth i Hendre a Chaersalem. Bu cynnydd o 180 yn yr eglwys mewn wyth mlynedd eliriwyd yr holl ddyled, a safai y daith yn uchaf yn y sir yn arholiadau yr Ysgol Sid. Symudodd i Gosen, Treorci, He cJirivvy d eto yr holl ddyled, a bu cynnydd o 72 yn yr eglwys. Cyflwynwyd iddo dystebau gwcrthfawr gan ei hen eglwysi yn Hendre a Threorcl ar ei ymadawiad.

Advertising