Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
YS1AFELL Y BEIRDD I
YS1AFELL Y BEIRDD I Y eynhyrckion gogyfer a'r golofn hon i'w oyf- eulo:- PEDROG, 217 Prescot Road, Liverpool. MAE yma lawer o gyfansoddiadau ar law, yn disgwyl eu cyfle ond rhaid dethol y rhai parotaf i'r wasg, a ffafrio peth ar y rhai mwyaf amserol. Mantais, hefyd, pan mae'r gofod mor brin, yw cael darnau byrrion. Mae rhai caniadau hyd yn oed ar y rhyfel braidd yn rhy gynnar, a gallant fforddio aros am beth amser, oherwydd nid yw'r fuddugoliaeth ar y Kaiser, hyd yn hyn, wedi ei hennill. Cedwir rhai ohonynt wrth law, i weld a ddaw eu profiwydoliaeth i ben. CYMERADWY.—Can y Milwr, Dymuniad ac Edrychiad, Plwm, etc., Priodaa R.J.D., Dameg, y Rhyfel, Ahab yr Almaen. NEWYDDION RHYFEL. I TREMIWN am newydd 11 tramawre-we&" Rhed ei gwrs melltenwawr; [gael, Derfydd pob hanes dirfawr,— Mae'n rhy hen ymhen yr awr I PEDROG. Y KAISER. I YB Ymherawdr a i Marah-o herio Europ i ryfela; Caiff weled cwffio'i wala— Ac er ei ddysg caiff gweir dda.—MADBTN. DYN DUWIOL" (?) YR ALMAEN. "DYN duwiol yr Almaen, Dyn duwiol heb ras, Dyn duwiol ofnatsan 0 greulawn a chas Dyn duwiol lofruddia, ( Yn iadhus ei gan, Y saint, gan roi temlau lehofa ar dan. Dyn duwiol er hynny Yw Wilhelm, medd ef- Lieutenant- i Arglwydd Y ddaear a'r nef A ddigiai'r Goruchaf Pe rhegwn y cnaf Dry'r ddaoar yn Uffern A'r Nefoedd yn glaf ? Nid hawdd ydyw peidio Wrth weled y nen Yn rhuddo gan borffor Ei ddial uwchben; Wrth weled babanod Diniwed eu nawd Yn n6d i gynddaredd EHyllon mewn cnawd J. MYVENYDD MORGAN. St. DogmaeVe, Cardigan. I'R KAISER. En gollwng her a gallu-i glydwch Y gwledydd o'l ddeutu Ar eu terfyn er tyrfu Gwyr Liege rois gweir i'w lu. Ar ei filgwn, rhyfelgar-i ostwng Ei fombastiaith anwar Daw Rwss fyrdd, a diras far Wna Cossack ar dir Kaisar. Ac er ei flin drin hyd dranc—i Gaiser Uchelgeisiol fawrwano Ni adewir ond diano A'i holl ffrost yw' llaw y Ffranc. I'w gwyn eilwaith magnelau-ein morwyr A'n marwol belennau Lewaidd hil am Kiel sy'n cau Ei lynges yng nghol angau. Wedi'r gwaddod a'r gweiddi—yn y Toast To the Day a'i firi Ca'r hurtyn gwallgof brofi Nerth y Sais yn y North Sea. Ei faith ddiobaith ddiben—ni wel ef. Greulon lyw, ei orffen Caiff fin pob braw aflawen A dwrn Bwl yn darnio'i ben. T. MORRIS OWIK AHAB YR ALMAEN CAS wr y miloedd yw'r Caiser melyn, Ryw Ahab llidiog a byrbwyll adyn I Hyll lofrudd Iwrop, y llwfr ddyhiryn I'w hir hir ysgwyd, a'i lwyr oresgyn Wedi'r oil daw ar hyn—drech y treisiwr, A Wil y gwaedwr o'r golwg wedyn I Bodffordd, Mon JOHN OWEN CYFARCHIAD I JOHN PENRI, mebyn bychan Mrs. a Mr. J. W. Jonw, Tan-y-griaiau. PA anrheg a gaiff Penri-yn ei wyn ? Wnaiff englyn ei lonni ? Yn union gwnai ei eni Ennill hoen i mhennill i. Un lion ei gwrs, Ilawn o gan A gwiw, fywiog fo loan; Na wyred ond boed firain A'i droed heb gyffwrdd a drain; Hir haf a gaed yn brifardd, Heb weld dim ond blodau hardd. 0 fewn ei oes caed fwynhau Llwydd a hedd drwy'i hdll ddvddi&,K. Hyd henoed y boed heb wall, A boed wron byd arall, Yn ei oes yn chwyrn ysu Anwir fel y Penri fu; A di-anair fab dinam Diwyd fo i'w dad a'i fam.— ELftN. AR BRIODAS SYR E. CARSON HEB noeth arf yr hen arfer-y fenyw Fynnaist yn Home Ruler Ddyn dawnus, bydd'yn dyner, Na ro i hon unrhyw her. Salford LEINAD, CAN Y MILWR—HI A'M MACCODD I. I (CAS GWN NA CHABO'B WLAD A'.t MACCO). I Ar y don Ghoyr Harlech. MILWR wyf, a 'ngwlad rwy'n coelio Ar yr iawn-boed hyn neu beidio, Hyn nis gallaf byth anghofio Hi a'm maccodd i Hi yw annwyl wlad fy nhadau, Drosti rhoisant eu bywydau, Drosti'n awr ymladdaf innau,- Cnawd o'i chnawd wyf fi Er nad wyf ond bychan, '.Wghanol Hengoodd llydan— Pan fo nerth yn bygwth gwerth, Gall un trwy Dduw droi'r glorian I (Ac) os mai'n hochr ni fydd drechaf, Byth ar weiniaid ni fanteisiaf, Fy Hen Wlad nis gwaradwyddaf,— Gwlad rhy lan yw hi (Cyflwynedig i'r Corff Milwrol Cymreig, 1914). Oriecieth. E. LLOYD OWEN, M.D. DYMUNIAD I 0 NA bawn gadwyn Banon-am ei gwddf Neu em goeth ei dwyfron; Yn wiw frid, ar ei mwyn fron,— Oruchwyliwr ei chalon. EDRYCHIAD MERCH I ER im' ddal digdrem ddu-y fenyw deg, I 'Rwyf yn dal i grynnu Ond y drem sy goeth-em gu Wna' i fi wedyn ynfydu. West Kirby A. R. Fox I
I Ffetan y Gol. I
Ffetan y Gol. I Cofied pawb fo'n anfon i'r Ffetan mai dyma'r gair sydd ar ei genau:- NITHIO'R GAU A NYTHU'R GWIR. 1 Llithro o'r Ysgol. I At Olygydd Y BRYTHON I SYR.—Synnais ddeall fod y Gynhadledd Ysgolion Sul y M.C. yn Lerpwl yma wedi ei gohirio. Yr oeddwn wedi meddwl galw sylw y cyfarfod at y wedd sydd ar yr Ysgol Saboth- ol yn ein heglwysi. Da gennyf i'r Parch. Morris Thomas, Penmorfa, alw sylw Cyfarfod Misol Lleyn ac Eifionydd mai priodol fyddai manteisio ar ganmlwyddiant y Parch. Thos. Charles i wneud rhyw drefniant i hyrwyddo'r Ysgol Sul." Credaf fod ei awgrym yn amserol i'r holl wlad, a gwyn fyd na bae holl weinidog- ion pob C.M. yn barod i weithio fel y cyfaill hwn gyda'r Ysgol Sul. Yr wyf o'r farn ers blynyddoedd y dylai gweinidog a blaenoriaid pob Eglwys drefnu cyfarfod swyddogion yr Ysgol yn fisol ac edrych drwy'r Uyfrau ac ymweled a'r rhai esgeulus. Llithro'n raddol y maent o'r Ysgol, a lie cryf i gredu nad oes neb yn galw gyda hwy ond gadael iddynt. Mas ugeiniau os nad cannoedd o ddynion o 30 i 50 oed yn hollol esgeulus o'r sefydliad gwerth- fawr.—Yr eiddoch, R. J. GRIFFITHS. 2 Primrose Road, Birkenhead. Cawr a Chorach yn ymyl ei gilydd. I I At Olygydd Y BRYTHON SYB.—Sylwais yn Y BRYTHON eich bod yn cyfeirio sylw rhyw frawd at raglen neu law- lyfr Undeb y Cymdeithasau Cymraeg fel y man i gael hanes darlithwyr am y tymor. Digwyddaf fod yn berchen un o'r cyfryw, a chredaf y bydd ei gyhoeddiad yn fantais i'r Cymry Cymreig yn y De, lie y mae'r llifeiriant Seisnig mor gryf. Ond prin yr ystyriaf y rhestr yn gwneud cyfiawnder a doniau y cylch, ac annheg rhoi enwau talentau lleol syml yn gyfochrog a phigion y genedl, a charwn wybod pwy dynnodd y rhestr allan. Os rhoi enw y rhai fu'n digwydd darlithio neu ddarllen papyrau y llynedd a wnaed, popeth yn dda ond os mai rhoi rhestr o'r pigion oedd yr amcan, druan o farn y sawl fu'n ei threfnu. Fel un gafodd y fraint o glywed nifer fawr, ystyriaf y cyfryw ar un llaw yn annheg a champwyr adawyd allan, a,&-ar y llaw arall yn gam a'r cymdeithasau drwy gyfiwyno i'w sylw ddoniau na byddai'n werth iddynt dalu tren i'w hymofyn.—Yr eiddoch, gyda phob dymuniad da i'r mudiad uchod, NID DARLITHIWR. I Moelwyn a'r Rhyfel. I I 1 Olygydd Y, BRvTiaox ) ANNWYL SYR.- Y mae'r chwedl ar led nad wyf deyrngar ar fater y rhyfel, ac fod fy nghydymdeimlad yn wrth-Brydeinig. Nid oes cysgod o sail i'r cyhuddgwyn. Mi a bre- gethwn gartref Saboth, Awst y 9fed ac fe'm camddeallwyd neu fe wyrdrowyd fy ngeiriau. Son a wnawn am ryfel yn y byd paganaidd, ac am ryfel yng ngoleuni Datguddiad, gan ddangos y rhagor rhwng safbwyntiau yr Hen Destament a'r Newydd. Condemniwn y syn- iad o rym, fel un o weddillion y nos a flaenorai Ddydd Crist; a thystiwn yn gryf mai'r cyfryw ysbryd paganaidd a lywodraethai yrl Ymherawdr William, ac mai ei drachwant annuwiol ef,—ei grafanc am feddiannu-oedd yr achos o'r rhyfel. Dyna'm geiriau. Os ydym," meddwn wedyn, yn mynd i'r gad, yn cael ein cymell a'n hysgog gan yr un amcan anianol a'r Ymherawdr ffroenfalch hwn, ni allaf fi byth ddim gofyn bendith ar arfau rhyfel Prydain Fawr." Dyna'n llythrennol fel y lleferais. Yr wyf wedi italigo'r geiriau a ledaenir. Hawdd gweld fod iddynt ystyr tra gwahanol wrth eu tynnu o'u cyswllt, rhagor yr hyn a olygant o'u cymryd yn eu cyflead. Nid ysbryd llofrudd na Ileidr yw ysbryd Prydain Fawr amddiffyn ein gwlad yr ydym, ymfyddino ymhlaid anrhydedd ac iawnder, a "gwaredu ynys y diniwed." Felly, gallwn droi at yr Arglwydd am fendith ar ein hymdrech. Fel mater o ffaith, bu i mi ar ddechreu'r oedfa y cyfeirir ati ofyn am nawdd Duw dros ein teyrnas, a gweddiais dros y Fyddin a'r Llynges, gan grybwyll y milwyr o'n tref ni'n hunain, ac o'r eglwys hon; diolchais am fod inni Frenin mor heddychlon a phenaethiaid a chynghorwyr mor ddoeth ac ymbiliais ar fod i Dduw o'i drugaredd wasgar y bobl sy dda ganddynt ryfel." Yr oeddwn hefyd wedi troi'r seiat y nos Iau blaenorol yn gyfarfod gweddi i ddeisyf am- ddiffyn y Nef dros ein gwlad, ac am ysbryd ymostyngiad gerbron yr Arglwydd. Os fy nghamddeall yn amryfus a wnaed, yr wyf yn tosturio wrth gyflwr meddwl y sawl a'm camddeallodd; os gwyrdroi fy ngeiriau yn fwriadol a wnaed, yr wyf yn tysturio wrth ei gyflwr moesol, ysbrydol. Yr wyf yn ddigon parod i faddeu iddo, ond gwybod pwy yw: y mae'r parsel yn barod ond iddo alw amdano. Ond, fel gydag ystoriau cyffelyb, y mae'r un a roes fod i'r chwedl yn aros yn gudd. Ni ryfeddwn i ddim nad yw'n deall, erbyn hyn, fod y chwedl yn enllib ar fy nghymeriad,—yn drosedd cosbawl yn ol cyfraith gwlad, ac mai ofn SY'l peri iddo gadw yn ei gragen. Ymgynghorais a nifer o'r rhai mwyaf deallus yn y gynulleidfa, a sicrhawyd fi na ddywedwyd dim gair o'i le, na dim byd a awgrymai adiffyg teyrngarwch a gwlad- garwch. Wedi gwneud gwrthdystiad yn yr oedfa nos Saboth, Awst y 30ain, gobeithiwn y buasai'r chwedl ffol yn marw ond deallaf fod y sawl sy hoff ganddynt dderbyn enllib wedi bod wrthi'n brysur yn hau'r anwiredd led-led y tir. Clywais ei adrodd ym Morgannwg, Mynwy, Brycheiniog, Myrddin a Fflint; a deallaf oddiwrth lythyrau1 a dderbyniais ddarfod i'r stori gyrraedd rh&nnau eraill o'r De a'r Gogledd. A dyna parn y gofynnaf i chwi fod hynawsed a chyhoeddi'r llythyr hwn. Y mae'r wlad a minnau yn 'nabod ein gilydd yn o dda bellach, a meddaf bob hyder na chaf ddim cam gan fy nghydwladwyr wedi y deallent sut y bu byddaf yn foddlon hollol i'w dyfarniad. Bendigedig fyddo Argrwydd Dduw ein tadau." Duw gadwo'r Brenin !Yr eiddoch yn wir, I MOELWYN. ]
Gyda'r Clawdd,! Sef Clawdd…
Gyda'r Clawdd,! Sef Clawdd Offa. COLOFN SEM ][FAN. I Y DREF LLE TROIR Y GWENITH YX SOEG,—Y mae'r Parch. J. Glyn Davies, Rhyl, wedi derbyn yr alwad i fugeilio Eglwys Rossett, fel dilynydd i'r Parch. Scott Will- iams. Mal y gwyddis, Mr. Davies ydyw ysgrifennydd Cymdeithas Ddirwestol Gwy- nedd. Hyderir y cyffroir ef gan arogl brag y dref yma. Ag ystyried ei maint, diau gennyf nad oes dref yn yGogledd He troir cymaint o'r "gwenith gwyn" yn soeg drewllyd aGwrecsam. Diolchaf drwy'r cyfan am lawer o garedigion Dirwest sy'n preswylio yma. Bu'n ymladdfa dost fwy nag unwaith, a cheir eu poethach eto cyn hir. Diolch i Dduw nad oes gronyn o gydymdeimlad awdurdodau'r heddweision a'r fasnach. Pwy anghofia fel y gwnaethant a'r clybiau dro'n ol ? Cewch hwyl wrth gwympo rhai o'r ffauau yma i'r llawr. Mr. Davies. Wyddoch chwi beth sy'n poeni 11awer iawn ar Sem ? Drysau cefn y tai trwyddedol yma. Onid oes bosibl cael cwtogi tipyn ar y cario dibaid aiff ymlaen ? Ychydig iawn, os dim, o barch sydd gennyf i ddrws ffrynt ty tafarn- gorfoleddwn pe gwelwn gau pob un; ac am ddrysau cefn lie gwelir cannoedd o famau plant bach fy ngwlad i, gyda chymorth ffedog a hugan ysgwydd, yn trefnu baich i'r aelwyd, ac yn minio colyn y sarff; wel, a dweyd y Ueiaf, dylent gael eu bolltio a barrau haearn, byth i'w hagor mwy. BLINDER Y RHos.-Cwestiwn pwysicaf y Rhos at hyn o bryd yw mater y tai. Mae Cyngor Dosbarth Gwrecsam yn ymofyn ill-000 gan Fwrdd y Llywodraeth Leol, ac yn bwriadu adeiladu dros ddeugain o dai yn Garden Road. Cynhaliwyd ymholiad brwd yn Ysgoldy Bethlehem Nos Fercher, dan sylw Mr. Courtenay Clifton, M.I.C.A., a chlerc y Cyngor Dosbarth. Yr oedd amryw aelodau o'r Cyngorau Lleol a threthdalwyr amlwg yn bresennol, a dadleuwyd o blaid ac yn erbyn yn bur deg. Rhaid disgwyl y dyfarniad, mae'n debyg. Cydnebydd pawb drwy'r cwbl fod angen nifer o dai da, ond rhesymol eu rhent, yn y Rhos; ond beth am dalu am danynt ? Mae treth y Rhos yn awr yn 10/2 yn y bunt. BORD GRON Y CAPEL MAWR.-Mae Cym- deithas y Ford Gron wedi agor y tymor yn y Rhos, nos Wener yr wythnos ddiweddaf, trwy gael noson ddifyr ac adeiladol yn Ysgoldy'r Capel Mawr. Darparwyd te gan Gymdeithas y Chwiorydd, a llywyddwyd y cyfarfod dilynol gan y Parch. W. Wynn Davies. Efe yw'r llywydd am y tymor; J. Davies a T. Philips yr is-lywyddion Gladstone Jones a Wm. John Edwards yr ysgrifenyddion, a J. T. Pritchard yn geidwad y pwrs. Arweinir y canu gan Joseph Davies a Wm. Hughes. Mae'r pwyllgor hefyd yn un cryf. Cym- deithas ragorol yw Bord Gron y Rhos, a chaed ami noson i'w chofio o gylch y ford. Argoelir yn rhagorol eleni eto.J CHOELIA'I FA WR !-Pwy ddwed nad yw bechgyn glewion y Rhos yn deyrngar ? Y mae'n agos i 250 eisoes yn y rhengau ac os oes cynifer yma'n barod i farw dros egwyddor amser lecsiwn, ryfedd eu bod ar ol pan y mae brwydr olaf Iwrop ar droed, a Lloyd George wedi dweyd beth yw'n dyledswydd ? 'Choelia i fawr YR HOGEN DAIR A PHEDWAR UGAIN.— Methwn yn fy myw a gwybod beth oedd yn bod wrth weld cannoedd o blant yn mynd i Gapel Rehoboth, Coed Poeth, fore dydd Iau, ond deallais mai i ddiolch am y Cynhaeaf; ac wrth ddarllen yr hysbyslen, gwelais enw un annwyl iawn i bawb ym Maelor, sef Mrs. Jane Jones (mam i'r Caeneg amryddawn),—y hi dros ei 83 mlwydd oed, ac i lywyddu cyfarfod y plant! Gwn y cofia'r plant am y sylwadau wnai tra bont byw. Cyfarfodydd gweddio, gydag anerchiadau, geid y prynhawn a'r hwyr, a chlywais heddyw (ddydd Llun), na fu erioed well cyfarfodydd yn Coed Poeth. CURAD ALL SIARAD CYMRAEG.-Bydd yn od o dda gan lawer yng nghylch Maelor ddeall mai'r Parch. G. R. Davies, M.A. (y curad poblogaidd fu yng Nghoed Poeth beth amser yn ol), yn awr yn rheithor Nantglyn, Din- bych, sydd wedi ei alw i fywoliaeth Rhos- tyllen. 'Does ddichon mo'i well, yn bregeth- wr na dim, a gwn y gwnaiff ei 61 ar y plwyf yma. Cofiwch siarad Cymraeg ag ef, gan y bydd yn wledd i chwi glywed Cymraeg mor ddilediaith. Dyna wna Sem beth bynnag a dichon y cawn ymgom yn ami os bydd o yn digwydd bod ar y tren dau yna. DYNA'R GOREU ETO.—Clywais ganmol mawr iawn ar anerchiad yr ysgolfeistr D. E. Rees i Gymdeithas y Cymry ym Mrymbo. Dyna'i destyn, Dechreuad a Hanes yr laith Qymraeg. Mae'n fwy na thebyg iddo felly sôn am Adda a Lloyd George. Sut bynnag, clywais na chaed dim gwell ar raglen y Gym- deithas erieod. Y Parch. J. Talwrn Jones lywyddai, a John Williams a Samuel Jones yn diolch dros y rhai dderbyniodd gymaint o fendith. d1 LLENORION ENGEDI.—Gwelaf fod Cym. deithas Engedi, Brymbo, hefyd ar gychwyn, a gwn mai llwyddiant fydd hon gyda'r. Parch. Richard Hughes yn Ilywydd iddi. Medr ef droi pob dim yn llwyddiant. Os try Sem i mewn atoch ryw noson, peidiwch a gofyn iddo ddweyd dim, gan ei fod yn od o swiL NOSON DELYN LLANGOLLEN.—Dyna nos- on ddifyr ac adeiladol gaed gan Gymdeithas y Cymry, Llangollen. nos Wener yr wythnos ddiweddaf: y Parch. T. Miles Jones yn darlithio ar Y Delyn a Chanu gyda'r Tannau, a Thelynores Tegid yn tynnu mel o'r tannau man." Canodd y darlithydd ei enghreifftiau yn darawiadol. Mwynhawyd y noson tu- hwnt gan y Gymdeithas, a'r Pencerdd Will- iams a J. Roberts yn diolch drostynt. Cofion cynhesaf Sem at bawb sy'n caru'r hen offeryn annwyl ac yn gwneud a allont er cael ei le'n ol ar aelwydydd fy ngwlad. Oni fydd hi'n ddifyr, deudwch, pan y cawn eto Bawb a'i bennill yn ei dro, Heb son am bwrs y cybydd ?
Sunday at the Y.M.C.A. Tent,…
Sunday at the Y.M.C.A. Tent, Bedford, IT is Sunday morning again. One is re- minded of the fact by hearing the alarm clock buzzing away quite near. It is my turn to prepare early morning coffee at 6 a.m. As it is Sunday the soldier is allowed an extra hour in bed, consequently we have not to have coffee until an hour later. The men soon come trooping in and business is brisk. Coffee and buns disappear at a surprising rate. This continues until about 8 a.m., when these men have to go for their breakfast and also to get ready for Church Parade, which is at 9.15 a.m. Our other men have got up in the meantime and we then have breakfast, a meal which is certainly enjoyed by one at least. After breakfast we are able to get the large tent tidy and ready for the inevitable Sunday rush. The Parade is held just outside the tent and we all go and enjoy a simple service which is held by the military chaplain. He is a hearty old Scotchman and is greatly liked by the men and speaks to them in a homely way. The brass band leads, the hymns and the men all join in. Service over, they march off and are then dismissed for the whole day. We now begin our Sunday in real earnest. The men are always hungry and thirsty, and we are kept, very busy serving out refreshments. At the other end of the tent some men have gathered round the piano, and one of them begins to play one of the old favourite hymns, namely Lead kindly Light. This hymn is immensely popular, and they are never tired of singing its beautiful verses. Everyone joins in and the tent is filled with melody. We have no official service in the morning, but in the afternoon a short service is held and a Bible Class for a few who desire it. Our leader gives a short adddress and he speaks of the many temptations of camp life. He especially emphasizes the need for total abstinence from strong drink and its effect on soldiering. The National Council of Y.M.C.A. has issued a pledge card, asking men not to touch strong drink during the war. This, besides being beneficial to the men them- selves, is good for the physical fitness of the army with which we hope to defeat our enemies. We try to impress these facts upon the men, and they are coming up in large numbers to sign —some for the period of the war, and others for the rest of their lives. By this time tea is ready for the men, and the bugles blazon forth the fact by playing Come to the Cook-House door, Boys ( We are now able to have our own tea, and very soon afterwards the tent is again crowded. The evening service is fixed for 7.30 p.m., and we have a very busy time until then. The chief occupation of the men during the day is letter-writing to their homes, and we encourage this as much as possible by pro- viding note paper, envelopes and writing materials free, and by having a post office in the tent. Seven-thirty has arrived, and the leader calls for silence. A popular hymn is given out and the men sing out for all they are worth. A prayer is then offered. Some kind local friends have come to sing for us and they render a few appropriate songs, interspersed with a couple of hymns. The speaker for the evening now gets up and delivers an address in which there is something that appeals to every man. He is a Scotch- man, and speaks to them as a countryman, to uphold their honour while away from home. He plays upon their emotions, and every ear is strained to catch his words. Except for the speaker, breathless silence reigns, and after a few words regarding their duty to those at home, he closes. The men release their pent up emotions by singing Stand up, stand up, for Jesns with the utmost fervour. they aij,now in the hwyl (as no other language can oi r^ess that state of enthusiasm like the Welsh.) and more hymns are sung. The speaker then offers the closing prayer, and he now calls for the King. The men all stand up again to attention, and sing the National Anthem. During the service the refreshment counter has been close;?., uid the men now come for their tea or coffee before going to rest. The First Post is heard at 9.30 p.m., and the tent gradually empties until by 9-4(3 it has been c), ared, we have to start and clean up now, and while one man prepares supper the others perform Chicken Drill," which is the name we give for the process of picking up bits from the floor. We all put our backs into it, and by the time supper is ready, we have washed up and are clear for early morning coffee on Monday. Supper is soon finished and we close with prayers. We are now free to go to bed, which we are all too glad to do, and we are soon tucked up." Now that we are in bed, we have time to think of the rush and bustle of the day, of the many little incidents that have occurred and the confidences of the men in difficulties. All these phases make the work intensely interesting and fascinating, and prove the bright moments of perhaps a tiring work. The gratitude of the men for our work is shown in every way. They are always willing to lend a helping hand in anything we ask them, and do their utmost to show their appreciation for the presence of the tent in their midst. We feel that we are here to help the men in every way to try and make them feel at home in spite of the long distance it is away from them, and the feeling spurs us on to do our utmost on their behalf. Manchester. YALE LLOYD. I
Advertising
ur EVERY WOMAN SHOULD -nd 2 stamps for our 32 page Illustrated Book G containing valuable ,f,in how all Irregularitiea and Suppressions may be entirely, avoided or removed by simple means. Recommended by eminent Physicans, as the only Safe, Sure and Genuine Remedy. Never fail Thousands of Testimonials. Established i862. Mr. PAULBLANCHARDI ffloatSiHoass. Dalstoo Lane, LO 0, W. HUGHES,G. & L.T.S.C (Ar-kydd p Cass pV Nghaptl M.C. PriftM Xoady Arweinydd Cymanfaoedd Canu, Beirniad,ac Arholwr. Parotoir Ymgeiswyr at Dystysgrifau uwthat Ooleg y Solffa, Hen Nodiant a solffa, 70 KINGSLEY ROAD LERP* 1t¥. DAVIES, Conductorf AdJudicator. Accompanist* Teacher of Singing. Violin, & Pianoforte Terms for Festivals, Concerts, Eisteddfodau. At HAFOD, DEGANWY, N. Wales Y DDRAIG GOCH." THOMAS a JONES, Bookseller, 16 BROWNLOW HILL (opposite Midland Adelphi Hotel). Large stock of Welsh Books, new and second hand. Cardiau Oymraeg Nadolig a Clvalan. P. Lloyd Jones FUNERAL DIRECTOR, 364 Stanley Rood, Llpool.- TELEPHONE-261 BOOTLE. TELEPHONE—575 Anfield. j J. T. JONES, Funeral Undertaker, EVERTON, LIVERPOOL. Funerals personally arranged to all parts. Telephone-215 Old Swan." 16 Whitland Rd.. near Shell Rd.. Fairfield. R. W. EVANS Funeral and Wedding Director. (Agent for Thomas Porter & Sons, Ltd.). All orders personally attended to throughout at moderate charges. Highest testimonials oao be seen. JZJ-ARTLEY 4 00 J^IVfiBPOOL^ 202 LONDON R OAD. SALES BY ^AUCTION EVERY TUESDAY AND FRIDAY AT ONE, SATURDAY NIGHTS AT SEVEN VALUABLE HOUSEHOLD FURNITURE OF ALL DESCRIPTIONS. MAGNIFICENT NEW AND SECOND-HAND PIANONORTES, LARGE VARIETY OF BED8TEADS. BEDDING (fee EVBRY NECESSITY FOR HOUSEKEEPING. ATTEND THESE SALES AND SAVE AT LEAST 80 PER CENT. A MAGNIFICENT SELECTION OF SUPERIOR FURNITURE IS ALWAYS KEPT IN STOCK AND ANYTHING MAY BE PURCHASED BY PRIVATE TREATY. GOODS STORED. On view 8.30 a.m. to 9.80 p.m.; Saturday 1 pin, Telephone 1793 Royal. CONSIGNMENTS (EITHER LARGE OR SMALL OF ANY DESCRIPTION INVITED FOR THESE SALES. BEST RESULT GUARANTEED. BARDDON1AETH GORONWY OWEN. ChwechedArgraffiad. Gyda BywgrafiEiad byrr gan Pedrog a Llyfrbryf. Amlen, Is Wedi ei rwymo ynghyda'r Llythyrau, mewn llian, 2s. 6ch. HUGH EVANS & SONS, 356-8a Stanley Road Liverpool Coupon Rhad-Yswiriaeth (Peidier ti holltiim rhym). "BTDD I'»J GRESHAM Fire and Accident Insurance Society Ltci St. Mildred's House, Poultryi LONDON. E.C. dala £100 (can pant) i gynryohiolydd oyfreithio a phersonol y sawl a fo'n ddiles-ddaliwr y coupon hwn, os y bo iddo fo nen hi gael en lladd ynfaofio ao yn nniongyrchol drwy ddamwain o fewn l Deymas Gyfunol i dren unryw Gwmni Reilffordd, Tramcar, Omnibus, Cab, nen Gerbyd Trwyddedif a Llog yn yr bwn y bo'r daliwr yn oael ei glado fel teithiwr tocyn a chlud, yn ddarostyngedig bob amser i'r amodaa arbenmg a ganlyn sydd ystyried fel rhan a ohyfran o'r oytnndeb— (a) Fod y ven digwydd o fewn dene niwrnod ar hngain wedi'r ddamwain (b) tor rhybudd ohoni n oael ei roi i'r Gymdeithas o fewnsaith niwrnod yn eu Prif Swyddfa yn Llundain (c) fod y orlrvw dystiolaeth res- ymol parth achos y farwolaeth yn oael ei CTflwynoag a fo'r Gymdeithas yn ei ofyn; (d) fod y daliwr wedi 'sgrifennu ei arwydd- enw arferol, oyn i'r ddamwain ddigwydd, It iDo yn y lIe darparedig gogyfer a hyany M bo'r Gymdeithm yn gyfrifol i fwy nag m person parth mwy nag nn coupon yn 1 ?HK hwn na?r un oyhoeddiad arall; (/) na boVro- winaeth hwn ddim yn ganaoladwy i bofr-yo. tan ddeuddeg na thros ddeg a thrigain mlwydd oed, 8C a ddou yn ddilys am saith niwmod 0 12 o'r glooh y dydd y?i oodir.? I Arwyddnody Daliter Trigfod I i Danysgrifwyr, Raid i dderbynwyr cyaon y papur hwa ddim arwyddo r Coupon os ca'r Gymdeithaa gwbl sicrwydd a phrawf el fod 7D ca81 anfon iddynt yn ddifwlch.