Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Cynghorau Dosbarth yn Sir…
Cynghorau Dosbarth yn Sir Gaerfyrddin. CYNGHOR DOSBARTH GWLEDIG LLANYBYTHER. I HEB ETHOLIAD. Llanycrwys (1 sedd)—Lewis Davies, Gelli. Pencarreg (3 sedd)—David Davies, Velindre Wm Edwards, Cwmoanol, a David Evans, Cilgellisaf. Llanybytber (2 se^d)— John Davies, Aber- duar, a Griffith Jones, Bant. DRWY ETHOLIAD. Llanfihangel Rhosycorn (2 sedd) Mr Thomas Evans, Brithdir 63 Mr Evan Davies, Llystyn 62 Mr James Jones, Pantycoubal 53 Llanllwni (2 sedd): Mr D H. James, Beilibedw 82 Mr John Thomas, Bryn. 77 Mr John Jones, Teifiside Hall 59 Mr David Thomas, Nantyrhendre 32 CYNGHOR DOSRARTH GWLEDIG CAS RELLNEWYDD-EMLYN. HEB FTHOLIAD, Llanfihangel-ar.arth- Thomas Barret, Cross. Vale Thos Davies, Galantalog Factory Wm. Jones, Pengraigwen a D Thomas, Blaen blodau. Llangeler (Parth Llangeler, sedd)—Evan Evans, Cwrt, a Henry Evans Penlan. Cilrhedyn ("Dwyrain)—David Marks Davies, Clunfelin, a A E Jeremiah, Gilfachgweision. DRWY ETHOLIAD. Cenarth (2 sedd) Mr Thos James, Bryn Farm 77 Mr G. Morris Williams. Gelligatti 65 Mr D. Davies, Angel House. 45 Llangeler (1 sedd): Mr John Lewis, Meiros Hall 103 Mr T. Thomas, Penwern 71 Mwyafrif 32 Penboyr(3 sedd): Mr Thos Davies, Penrallt 151 Mr Daniel Lewis, Brondeg 150 Mr John Davies, Penlanfawr. 147 Mr T. L. Williams, Dyffryn 145 Mr Henry Davies, Pantyr hebog 110 Mr Thos Jones, Bailygwyddil. 110
Byrddau Gwarcheidwaid. I
Byrddau Gwarcheidwaid. I fMa.e yr holl Gynghorwyr Dosbarth yn aelod- au yn rhinwedd eu swydd o Fwrdd Gwarcheid- waid yr Undeb sydd yn cynwys eu Dosbarth.] UNDEB ABERAERON. HEB ETHOLIAD. Aberaeron (Dinesig).-Mrs Leah Jones, 3, North Road Mrs Magdalen Ree3, Glasgow Houae. DRWY ETHOLIAD. Cei newydd Dinesig (2 sedd): David Evans 179 David R«es ••• 1"° William Thomas 113 UNDEB ABERYSTWYTH. HEB ETHOLIAD. Aberystwyth Parth 1 (2 sedd).—G. F. Roberts, Brewer; Hugh Hughes, Jeweller. DRWY ETHOLIAD. Aberystwyth Parth 2 (2 sedd): Mr B. E. Morgan 207 Mr J. J. James, solicitor 167 Mrs E. James 152 Aberystwvth Parth 3 (2 sedd): Parch T. A. Penry 190 MrT.E. Salmon 182 3ir John Jenkins 182 Mwyafrif 3 Dewiswyd Mr Salmon trwy goelbren. Aberystwyth Parth 4 (2 sedd): Mr Richard Edwards j™ Mr Edwin Morris ■J-jjl Thomas Jones 1"° UNDEB ABERTEIFI. HEB ETHOLIAD. St. Mebry-Gogleddbarth -Thomas Evans, Lion Terrace; Parch John Williams. DRWY ETHOLIAD. St. Mary, Deheubarth (2 sedd): Capt. Williams, Northgate Terrace 193 W. J Williams, solicitor 190 J. matilias, Grangetown 52 Xlandudoch (2 sedd): Ben Williams, Man:an-fawr 91 W. H. Davies, Glantivy 8$ Savard, Penally 73.
Llygriad Bwydydd.
Llygriad Bwydydd. Un o beryglon penaf yr oes bresenol yw gwaeledd ac anmhuredd bwydydd a diodydd. Dylai y llywodraeth dalu sylw manwl ac arbenig iddynt. Y mae cymaint o gystadleuaeth rhwng gwerth- wyr a gwneuthurwyr nwyddau yn ami fel y temlir hwy i roi pethau gwael ac I afiachus ar y farchnad. Pethau y dylid bod yn ofalus yn eu cylch yw llaeth, ymenyn, blawd a gwahanol ddiodydd. Y pethau rhataf yw y rhai mwyaf aflan ac afiachus. Drwg weithredwyr yw y rhai a werthant nwyddau aflan ac afiach- us yn fwriadol.
CASTELLNEWYDD EMLYN A'R CYLCHOEDD.
CASTELLNEWYDD EMLYN A'R CYLCHOEDD. BWRDD Y GWARCHEIDWAID. Dydd Iau, Ebrill 7ed, cynhaliwyd cyfarfod pythefnosol y Bwrdd mewn Ystafell yn y rlotty, Yr oedd yn bresenol: Y Parch R. J. Lloyd, t'heithor Troeriyraur (cadeirydd) yr Henadur J Lewis, Meiros Hall (is-gadeirydd), yn. hvd a'r aelodau canlynol Y Mri A. H. Jones, PenyraUt, Llangeler G. M. Williams, Gellygatti; E. Thomas, Coedllwyd D. Davies, Angel House; T. Morri?., Pantseirifawr; D. 0. Jones, Pantycreuddyn W. Thomas, Frowen D. Evans, Glanteifi, Llandyssnl; J. Phillips, Rhewyncoch; W. Davies, i Teifi Terrace, Adpar J. Griffiths, Lancwm; J. Maurice, Llwyncelynlan D. Bowen, Troedyrhiw; G. Davies, Allty- cordde; D. Davies, Tower Hill; J. H. Evans, Penralltfachnog D. Davies,' Gilwen Hill, Penboyr; T Thomas, Cwm- I dyllest; J. Griffiths, Birdiip J. C. Jones, V.S., Castellnewydd Emlyn; J. Evans, j Blaenafon Mrs Evans, Esgair, Penbryn Doctoriaid Lloyd a Powell, Adpar Mr Bircham (H,M.I.), a Mr W. E. George,; ysgrifettydd. j Adroddiadau y Eheidweinyddion.-—Dar- • llenodd y Mri D. Jones a J. Thomas, y rheidweinydd on, eu rhestrau cynorthwyol. Yr oedd y blaenaf wedi talu yn yr wythnos | gyntaf o'r bythefnos, 43p Is i 340 o dlodion, ac yn yr ail wythnos, 43p 5s i'r un nifer a'r olaf wedi talu 37p 14s 4d i 308 o dlodion j vu yr wythnos gyntaf, ac yu yr ail wythnos, j 36p 3c i 307 o dlodion. Nifer y tlodion yn y Ty, 12 yn yr wythnos gyntaf a'r ail wythnos o'r bythefnos, ar gyfer 16 a 18 yr un amser ddeuddeg mis yn ol, a thri o j blant yn mynychu yr Ysgol Genedlaethol ] yn y dref. j Parthranan Plwllfol.-Cynygiouu yr t Henadtir J. Lewis, Meiros Hall, fod rhestrau y tlodion yn y plwyfydd hyny ag > y mae parthranau (wards) i'w dodi lawr o dan enw y cyfryw barthau er hwylusdod i'r gwarcheidwaid mewn plwyfydd mawrion. Cafodd ei eilio gan Mr Thomas, Cwm- dyllest, a chytunwyd yn unfrydol. Mr Bircham, Arolygwr Bwrdd ij lotytv- odraeth Leol.-Dymuiiai Mr Bircham ar y gwarcheidwaid, pau yn ymwneyd ag achos arianol y cyhoedd, fod yn llawn mor ofalus j am danynt a phe buasai y peth yn perthyn t iddynt eu hunain yn uniongyrchol. Carai I weled mwy o ddefnydd yn cael ei wneyd o'r tlotty mewn achosion o bersonau yn an- alluog i ofalu am danynt eu hunain. Buasai I y tlotty yn well iddynt, gan fod yno swydd- ogion pwrpasol i edrych ar eu hoi, ac yn llawer rhatach na thalu 6s neu 7s yr wyth- nos iddynt allan, ac yr oedd achosion neill- i duol ereill paham y dylent fod yn ddeiliaid o'r tlotty, er nad oedd ef am wasgu arnynt i ddwyn y tlodion i'r tlotty ond yn yr achos- ion eithriadol a enwyd. Yr oedd yn ddrwg gauddo ddweyd mai gelyn mwyaf y cym- deithasau dyngarol ydoedd. Bwrdd y Gwarch- eidwaid. Carai weled pawb pan yn siarad yn anerch y Cadeirydd, ac un ar y tro; trwy hyny cawsai y gwaith ei gario ymlaen gyda mwy o rwyddineb, ac yn fwyeffeithiol hefyd. Yr oedd y Bwrdd yn gwneyd y gwaith yn foddhaol iawn o'i gymharu a Byrddau o'r un sefyllfa, megis Aberaeron ac ereill. Yr oedd Undeb Castellnewydd- Emlyn wedi talu yn ystod y flwyddyn ddi- weddaf 5,560p tuag at achosion y tlodion, ac o'r cyfryw swm yr oedd y tlodion wedi derbyn 4,377p yn uniongyrchol, set yn ol oddeutu 4s 6c y pen ar y boblogaeth, ac yr oedd swyddogion yr Undeb yn is eu tal nag mewn unrhyw Undeb arall; eto yr oedd cymaint arall o drethi wedi cael eu talu yn ystod y flwyddyn at achosion ereill, megis treth y sir, treth y ftyrdd, Byrddau Ysgol, &c. Nid oedd ond tua'r drydedd ran yn myned i'r tlawd, ac oddetu dwy ran o dair at achosion ereill. Yr oedd wedi cael ar ddeall fod cyfnewidiad mawr i gymeryd lie yn aelodau y Bwrdd, ond nid oedd yn ddoeth bob amser i droi allan bersonau cymwys i gario y gwaith ymlaen yn rheolaidd. Yr oedd yn dda iawn ganddo weled boneddiges (Mrs Evans, Esgair) wedi cael ei hethol ar y Bwrdd y tro hwn eto, ac i ddeall hefyd ei bod yn gwneyd ei gwaith yn rhagorol o dda (nchel gymeradwyaeth). —Cynygiodd yr Henadur J. Lewis, Meiros Hall, bleidlais o ddiolchgarwch gwresocaf i'r Cadeirydd am ei wasanaeth ffyddlon a gwerthfawr yn ystod y flwyddyn a aeth heibio.Cafodd j si eilio gan Mr Evans, Glanteifi, Llandysul. Cynygiodd Mr Thoraa3, Coedllwyd, ddiolchgarwch i'r is-gadeirydd am ei wasanaeth am y flwyddyn, a chafodd ei eiJio gan Mr Evans, Glanteifi. Atebodd y cadeirydd mewn araeth ragorol yn llawn o frwdfrydedd, gan ddymuno iddynt hir oes yn llawn o bob daioni. CYNGOR DOSBARTH GWLEDIG LLANDYSUI. Cynhaliwyd cyfarfod o'r cyngor uchod ar yr un dydd, ac mown ystafell yn y Tlotty. Yr oedd yn bresenol Mr T. Morris, Pantseiri-fawr (eadeirydd) Mr D. C. Jones, Pantycreuddyn (is gadeirydd), ynghyd ag aelodau ereill. Taliadau am dir, &c., at Ffordd newydd Ltandysitt. Cyiiygi odd Mr D. Evans, yn cael ei eilio gan Mr D. C. Jones, i fod cheques i gael eu tynu allan am symiau o arian i'r personau canlynol Mri Rule Owen, 217 17s E. Thomas, E20 C. H. Ll. Fitzwilliams, 2128 Mary Jones, I R21 7s 6c E. Jones, 220 Sarah Evans, £198; R. M. Davies, R20 E. Jones a ¡ H. Thomas, £122 C. H. Ll. Fitzwilliams, Ell 8s Sarah Evans, £ 12 3s. ) Adgyweirio Rhiwhaiirn Llanfair-or- | Ilwyn. -I r oedd cais wedi cael ei dderbyn oddiwrth Gyngor Plwyfol Llanfair-orllwyn, yn deisyf ar y cyngor i adgyweirio Rhiw- haiarn. Cynygiodd Mr Evans, Penrallt- fachnog.i fod y ffordd i gael ei hadgyweirio, eiliwyd ef gan Mr D. Evans, Glanteifi. Y ffordd o Penrallthebog i Blaensilltyn a Gwmsilltyn. Derbyniwyd hysbysrwydd oddiwrth Gwrdd Plwyfol plwyf Bettws Evan mewn cysylltiad a. sefyllfa y ffyrdd uchod, oherwydd tramwyaeth anarferol. Cytunwyd yn unfrydol i'r achos gael ei ■ ohirio hyd gorphen cario coed dros y ffyrdd. j Pyst y Pellebyr.—Derbyniwyd cais oddi- wrth y llyfchyrdy, yn gofyn caniatad i osod pysty pellebyr ar ochr y ffordd rhwng Pen- gwyn, Llandysul, a Pontshan. Cynygiodd I Mr Evans, Glanteifi, fod caniatad yn cael ei roddi; eiliwyd ef gan Mr D. C. Jones, Fantycreuddyn. GctÍs am blanu coed. Derbyniwyd cais oddiwrth Mrs Mary Davies, Llwynteg Shop, Llandysul, am gael caniatad i blanu coed ar ochr y ffordd fawr gyferbyn a'i thy. Pen- derfynwyd i'r achos gael aros ar y bwrdd. CYNGOR DOSBARTH GWLEDIG LLANFYRNACH. Cynhaliwyd cyfarfod o'r Cyngor ar yr un dydd mewn Y stafelI o'r Tlotty. Yr oedd yn bresenol, Mr E. Thomas, Coedllwyd (cadeirydd), yughyd a'r aelodau canlynol Mri J. Maurice, Llwyncelynlan; D. Bowen, Troedyrhiw J. Griffiths, Lancwm; Dr Lloyd, a Mr Bircham, arolygwr Bwrdd y Llywodraeth Leol. Trawsymwthiad G-erllaw Mynyddbach.- Wedi ychydig siarad ar yr achos, pender- fynwyd yn unfrydol ei ohirio hyd y cyfarfod nesaf. Yr Heolfesurydd.-Gan fod Bwrdd y Brif Ffordd wedi terfyuu bydd yn angen- rheidiol penodi heolfesurydd i fod o dan y Cyngor hwn. Wedi peth siarad ar y pwnc, penderfynwyd yn unfrydol i ohirio yr achos. Arolygwr Techydol.-Darllenodd Mr J. Bowen, yr arolygwr iechydol, ei adroddiad misol. Yr oedd wedi bod yn ymweled &'r lleoedd canlynol, ac heb yr un achos yn eu herbyn, sef Cwmpedran, Llwyndrain, Star, Ysgoldy y Bwrdd Bwlchygroes, Boncath, a Blaenffos. Yr oedd achos o diptheria yn Ffynonfraith. Gwnaeth ymchwiliad manwl o'r lie, a defnyddiodd gyfferi purol yn y ty. Yr oedd pentref Crymmych ar y cyfan mewn sefyllfa foddbaol oddieithr un buarth lie mae swm o biswail yn aros yn barhans. Y mae angen gwelliant ar fynedfa i dai bach y bechgyn yn Ysgol y Bwrdd, Herman; gan fod y lie mor isel (flat), mae angen dyfrffos briodol. Yr oedd bachgen 18 ml wydd oed wedi marw o'r enteric fevev (enw arall ar typhoid fever) yn Ty Cware, Penlan. Ystyriai nad oedd y ty byw yn un iachus, gan fod y ddaear tucefn i'r ty yn cyffwrdd a'r mur fyny hyd at uwchder y llofft. Yr oedd wedi derbyn llythyr oddi- wrth ornch wy I wyr fferm fechan Blaen waen yn hysbysu eu bod yn foddlawn treulio o 6p i 8p i adgyweirio y ty byw. Yr oedd Mr Evans, Gareglwyd, wedi addaw adgy- weirio tai Dolgoch mor fuan ag oedd yn bosibl.. Yr oedd pob peth o amgylch Ysgoldy y Bwrdd, Tegryn, yn foddhaol. Penderfynwyd i anfon rhybuddion i'r personau angenrheidiol. Mr Bii-chat)t.-Rhoddodd Mr Bircham ganmoliaeth uchel i'r swyddog am ei adrodd- iad manwl, a dywedodd nad oedd un o bob cent o arolygwyr iechydol yn cadw eu llyfrau mor dda ag ydoedd ef yn eu cadw, ac awgrymodd fod y gyflog a gawsai yn llawer rhy fach iddo am y gwaith ydoedd yn wneyd. BWRDD YSGOL UNDEBOL CENARTH. Cynhaliwyd cyfarfod misol o'r Bwrdd yn Ysgoldy y Bwrdd, Adpar, Castellnewydd- Emlyn. Yr oedd yn bresenol Mr W. Thomas (is-gadeirydd), yn y gadair, ynghyd a'r aelodau canlynol :—Mri D. Davies, Angel House E. E. Mathias, T. Herbert Williams, H. B. Evans, Pantygwenith a Mr W. E. George, ysgrif enyd d. -Pend er- fynwyd yn unfrydol dynu allan cheques am y symiau canlynol (sef cyflogau chwarterol sefydlog) :—Mri Davies, Adpar, 15p; Hughes, Parcylant 13p 15s; Mrs E. Davies am lanhau ysgoldy Parcylan, 10s ynghyd a, Is 2c i Mr D. Richards am archwiiio cwteri Ysgoldy Adpar.—Darllenodd Mr J. Bowen, swyddog mynychiad yr ysgolion, ei adroddiad misol.—Penderfynwyd yn un- frydol i'r swyddog roddi rhybudd ffurfiol i'r dosbarth mwyaf afreolaidd o'r plant, ac hefyd i'r porsonau hyny oeddynt yn cadw plant dan oed yn eu gwasanaeth. MARCHNAD. CASTELLNEWYDD-EMLYN, Ebrill 7fed.- Marchnad araf mewn perchyll am y prisiau blaenorol. Porkers, o 6s 9c i 6s 11e yr 20 pwys yn fyw perchyll, o wyth i naw wyth- nos oed, o 18s i 20s y pen defaid, o 3 £ c i 4c y pwys yn fyw ffowls ieuainc, o 4s 6c i 5s 6c y cwp! hen ieir, 3s i 3s 3c y cwpl; hwyaid, 4s 6c i 5s 6c y ewpl ymenyn ffres, 11c i 12c y pwys ceirch had, 2s 6c i 2s 7c J y mesur (bwsiel); haidd at had, o 3s 6c i J 3s 8c y mesur wyau, dau am geiniog.
CEINEWYDD.
CEINEWYDD. ETHQLIADAU. -BUDDUGOLIAETH ANRHY- DEDDUS UNDEBWYR.—Givarcheidwaid (2). —Oddiar pan y daliodd y Rhyddfrydwyr yr Undebwyr heb olew'yn eu llestri' yn ethol- iad y Cyngor Sirol, y maent wedi bod yn prysur barotoi ar gyfer y ddau etholiad gy- merodd le ddydd Mawrth, yr hyn nid oedd i yn ddim antigen nag ymladd yr un frwydr drowodd eilwaith a chredaf mai nid army- | ddorol fydd y dosraniadaa isod :—David j Evans, Myrtle Hill (U), 179 aDavidRees, I Eagle House (R), 128; William Thomas, I Brynarfor (R), 113. Evans yn unig, 69 I Rees yn unig, 34; Thomas yn unig, 7 I Evans a Thomas, 61 Rees a Thomas, 45; Evans a Rees, 49. Gyngor Lleol (3). -John Patrick, Black Lion (U), 188; John Grif- fith Rees, High-terrace (Annibynwr), 139 awilliam James, North-end (R), 138; David Morgan, Picton-terrace (R), 108.
LLANYBYTHER.
LLANYBYTHER. CYFARFOD YMADAWOL.-Cynhaliodd An- | nibyiiwyr Brynteg a Rhydybont gyfarfod | arbenig nos Fawrth, y 5ed cyfisol, yn I ngbapel Rhydybont, i ddango* eu parch at I y gweinidog, y Parch J. J. Jones, B.A., ar achlysur ei ymadawiad i gymeryd gofal bugeiliol eglwys yn Mhwllheli Cafwyd | sylwadau helaeth ar rinweddau y gweinidog j gan y Parchn E. Evans, Soar, Llanbedr, cadeirydd y cyfarfod; J. Morris, ficer Llan- j ybyther; H. James, Aberduar —Jones, t Pencader Davies, Penycader Mr J. j Evans, Ty'nyfron, Llanwenog a Mr Walis II Thomas, Ysgol Ramadegol Llanybyther. Er mai tymor byr y bu yn eu plith, yr oedd wedi enill iddo ei hunan le anwyl yo myn- wesau y trigolion, oherwydd yr oedd yn weinidog llafurus a chydwybedol, yn ddyn boneddigaidd, yn gyfaill didwyll, yn Grist- ion pur, yn bregethwr grymns, ac yn gwneyd ei ran bob amser yn urddasol gyda phob mudiad daionus yn yr ardal. Er dangos eu parch tuag ato, rhoddodd yr eg- lwysi dysteb iddo gwir deilwng ohono ac o'r tymor y bu yn eu gwasanaethu.
ABERAERON.
ABERAERON. Ymgasglodd Yagolion Sul eglwysi rhan- barth ogleddol Deoniaeth Glynaeron ynghyd eleni fel arfer i adrodd eu pynciau a chanu eu hanthemau yn Eglwys y Drindod ddydd Llun y Pasg. Holwyd yr ysgolion gan offeiriaid yr eglwysi cymydogaethol. Y pynciau a'r anthemau a ddewiswyd gan y gwahahol eglwysi oeddynt fel y canlyn Llanddewi—pwnc, Rhuf. viii. anthem, Mawr ac ofnadwy' (Spohr). Llanbadarn —pwnc, Ephes. ii. anthem, Mor hawdd- gar yw dy bebyll (T. Davies). Cilcennin -pwnc, Act. xii; anthem, 'Jerusalem, fy ngbartref gwiw' (Mason). Dihewid—pwnc, Exod. xiii. anthem, 'Moeswch i'r Ar- glwydd' (John Thomas). Llanaeron- pwnc, St loan xiv.: anthem, 'Jubilee An- them (Bridge). Llanon—pwnc, St loan iii. anthem, 'Cwymp Babilon.' (Ambrose Lloyd). LJanarth-pwnc, Act. x., sef yr Epistol am y dydd anthem, Ae mi a glywais lais o'r nef' (Ambrose Lloyd). Aberaeron—pwnc, Ephes. ii. anthem, The heavens are telling (Haydn). Yr oedd y cynulliad mor lluosog ag arferol, ac yr oedd y canu yn well ar y cyfgn eleni. Ond y mae Ilawer o le i wella yn y cyfeir- iad hwn eto. Byddai yn llawer o welliant pe dewisid darnau i'w cnu yn cyfateb i allu a nifer y corau. Mae clod a diolchgarwch yn ddyledus i arweinyddion y gwahanol gorau am eu mawr lafur yn parotoi gogyfer a'r wyl dan anfanteision. Y mae yr wyl hon yn hen sefydliad yn Aberaeron, ac wedi bod o fawr adeiladaeth i'r Eglwys yn y gorphenol, trwy greu dyddordeb yn ngwaith yr Ysgolion Sul. Teimlir erbyn hyn angen am ddiwygiadau ynglyn a phynciau'r Pasg yn Aboraeron. Y mae y drefn y gosodir yr Ysgolion Sul i sefyll, un ar ol y Hall, tra yn adrodd y pwnc a chanu yr anthem yn afreolaedd mewn eglwys, gan y goddefir i'r cor sefyll rhwng y gynulleidfa a'r allor, a llawer yn sefyll a'u cefnau ar yr allor. Gan fod canghell newydd yn cael ei hadeiladu yn bresenol yn Eglwys Aber- ayron, yr oedd yr allor wedi ei symud ymaith a'r hen gangell wedi ei gorchuddio oddiwrth gortr yr Eglwys. Yr oed^yr olwg hon.yn well nag a welid cyn hyn. Pan orphenir adeiladu y ganghell newydd ardderchog yn Aberayron, gobeithiwn y bydd Ficer parchus Aberayron a'i gyd- weitbwyr zelog, benderfynu diwygio y duU o adrodd y pynciau a chanu'r anthemau ar LIun y, Pasg yn Eglwys Aberayron. Cyhyd ag y goddefir y drefn hon ar brif wyl y flwyddyn yn y lie mwyaf cyhoeddus yn y ddeoniaeth y mae yn groes i anian Eglwysi'r gymydogaeth i ddiwygio yn y cyfeiriad hwn. Meddyliwn mae ystyr pwnc yw talu sylw arbenig i un point neu bwnc o athraw- iaeth, trwy holi ac ateb ar gyhoedd, er adeiladaeth i'r Eglwys. Mae Llun y Pasg yn gyfleusdra gogoneddus i egluro prif z, bynciau y ffydd, ac i gryfhau yr Eglwys yn ei manau gwan yr oes hon. Yn y goleuni hwn ymdrinid a'r gwahanol bynciau o dan sylw yn rhy wasgaredig, ac yr oedd tuedd i osgoi prif bwnc y benod, neu'r Epistol o ba un y cymerid y benod, os byddai yn ar- wain i ddangos y gwahaniaeth sydd rhwng gwir a gau-athrawiaeth. Mae lie i ofni fod gwir ddysgeidiaeth yr Eglwys wedi ei hes- geuluso yn ogymaint fel y mae yn anmhobl- ogaidd. Ac yn ol y dull presenol nid oes obaith am welliant. Nid rhyfedd i Griffith Jones ysgrifenu Catecism o eiddo ei hun, nid rhyfedd i Thomas Charles ysgrifenu ei Holwyddoreg, ac nid rhyfedd fod yr Eg- lwys yn gosod ei Chatecism yn ein Haw i ddysgu ei phlant, oblegid, yn ol y dull o ddewis pynciau, holi ac ateb ar antur, gellir treuho gwyl fawreddog heb argraffu yr un gwirionedd arbenig ar feddwl y bobl.
LLANDYFRIOC.
LLANDYFRIOC. ETHOLIAD CYNGOR PLWYF. Wele gan- lyniad yr ymdrechfa :—Wedi eu hethol :— William Davies, 121 Daniel Hughes, 115 Thomas Jones Thomas, 104 James Davies, 97 Thomas Morgan Davies, 96 Evan Davies, 93 Patrick Daniel Murphy, 85 David Davies, 84 John Davies, 83 Richard Griffith, 77 Thomas Davies, Goilanfelen, 76. Aflwyddianus David Thomas, 71 Thomas Davies, Garreg Wen, 69 Robert Lewis, 67.
ABERTEIFI.
ABERTEIFI. Y OYNGOR SmOL -Etholwyd Mr O. Beynon Evans yn daiwrthwynebiad i'r Cyngor Sirol, yn Hey Parch John Williams, yr hwn a ddyrchafwyd yn Henadur.
CARMEL. LLANILAR.
CARMEL. LLANILAR. Cynhaliwyd cyfarfod cxstadleuol yn y lie uchod dydd Gwener G! oglith. Ebril! 8ed, 1898. Cadeirydd, Mr D. Rees, Panty- gwyfol. Beirniaid: Cerddonaeth, Mr J. J. Hughes, A.C. (Afaon Alaw); llenydd- iaeth, Mr Thomas Owen, C.M., Aberyst- wyth celfyddyd, Mr J. Llovd, Trefechan, Aberystwyth, a D. Davies, Pentrellyn. Yr oedd y rhaglen fel y caulyn :—Cerddor- iaeth I'r cor heb fod dan 25,iin mewn rhif a gano oreu, 'Cydfolwn, Gorfoleddwn,' Hugh Davies, A.C. (Pencerdd Maelor) Dim cystadleuaeth. Wythawd,' Cariad o tonau yr Undeb; yr oedd pump parti yn cystadlu, goreu, parti o Gosen. Pedwar- awd, Ymnerthwn yn ein Duw,' J. R. Jenkins, Tyucha, a'i barti;' J. Williams, Ochrgader, a'i barti D. Davies, Cilcwm, a'i barti; J. D. Davies, Tinberllan, a'i barti; A. William James, Berthlwyd, a'i barti goreu, J. Williams a'i barti. Deuawd tenor a bass, Y ddeilen ar y lli cydradd, Mr Lloyd, Tinrhelig, a Mr Davies, Lledrod. Unawd bass, Mynydd i mi,' William Evans, Bronbanadl, a J. James, Penparke, yn gydradd. Unawd tenor, I Cardotyn,' J. R. Jenkins, Tyucha, a John Williams, Ochrgader, yn gydradd. Unawd soprano, Yr esgid ar y traeth:' goreu, Miss Jones, Tancastell; unawd contralto, 'Deio bach,' Miss M. J. Evans, Penybont, a Mary Jones, Bronant, yn gydradd. Unawd ar y melodeon, Codiad yr Ehed- ydd:' Goreu, J. Williams, Ochrgader. Llenyddiaeth :—Adrodd, Araeth Nelson' (cyfyngedig i feibion) Goreu, W. Evans, Cwmclud, Adrodd, Tlotty'r Undeb' (cyf. yngedig i ferched) Miss Evans, Cwmcy- barcut, a Miss Thomas, Rhosgoch, yn gyd- radd. Dadi, 'T&n a'r Dwfr Miss Evans, Cwmcybarcut, a Mr Evans, Pengaer, yn gydradd. Araeth, 'Y gwahaniaeth oedd rhwng dylanwad Abraham, Eli, a Samael ar eu teuluoedd,' amser, chwe' munyd Dim cystadleuaeth. Pedwar penill, 4 Crist a'r wraig o Samaria:' Goreu, John Edwards, Penciog. Ateb tri cwestiwn ar Salm viii. roddid ar y pryd Dim cystadleuaeth. Ant y wit oreu Thomas, Penybont, a Evans, Pengaer, yn gydradd. Celfyddyd :-Am y ffon gollen oreu J. D. Davies, Tinberllan. Am y ffon ysgafn oreu J. D. Davies, Tin- berllan. Am y llwy fwrdd oreu daeth 11 i law, ac yr oedd J. Davies, Pentrellyn, a W. Morgans, Nanteos Arms, yn gydradd. Am y pâr hosanau rips goreu i wryw: Goreu, Jane Jones, Gosen. Cafodd plant bychain, o dair i bedair ar ddeg oed, gyfar- fod yn y boreu, cyfyngedig i Gapel Carmel ac Eglwys Wladol y lie. Cafodd y rhai buddugol mewn adrodd a chanu wobrau, ynghyd a rosettes, a gwnaeth Mr Rees, y cadeirydd, roddi o'i logell ei hun wobr a i-osette i bob plentyn am adrodd a chanu ag oedd heb fod yn fuddugol, yr hyn a rodd- odd foddlonrwydd mawr i'r rhai bycbain. Hefyd, cawsant eu diwallu &'u gwala o fara brith rhwng y ddau gyfarfod. Yn yr hwyr yr oedd yr ysgoldy dan y capel yn orlawn, ac yr oedd trwy hyny yn anghysuras i wrando am bum' awr. Gobeithio y gwnaiff y pwyllgor y flwyddyn nesaf ei gynal yn y capel, fel ag y bydd i bawb gael lie i eis. tedd a chlywed pethau a fydd yn mvuo4 ymlaen.
Cynghorau Dosbarth yn Sir…
DRWY ETHOLIAD. Egiwyswrw (2 sedd): Parch. T. M. Jones, ficer 65 P J Edwards, Plough 57 J Davies, Trewilym 45 Nevern (Crugiau, 1 sedd) Thos Jones, Trefool 20 J Lloyd, Salutation 18 Mwyafrif. 2 Llandudoch (Cippin, 1 sedd): B. Rees, Garnant d. 3t Griffith Lewis, Pantirion 31 Etholwyd Mr Lewis trwy goelbren. CYNGHOR DOSBARTH GWLEDIG LLANFYRNACH. HEB ETHOLIAI). Clydau (2 sedd)—John Maurice, Llwyncelyn- lan Evan Thomas, Coedllwyn. Llanfyrnach (2 sedd)-Thomag Bowen, Pen- quarre, a Jonah Thomas, Gwarllwyn. Penrydd (yn cynwys Capel Colman a Castell- au)-Da.iiiel Bowen, Troedyrhiw, a John Jones, Lower Kings, Boncath. # DRWY ETHOLIAD. Cilrhedyn Orllewinol (1 sedd): Mr J. Griffith 24 Mr J. Clarke 10 I Mwyafrif 14