Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
LLANBEDR •!
LLANBEDR • ETHOLIAD CYNORORWP, ISIROL.-Aeth y sedd dros Ddosbarth Gwledig Llanbedr yn wag drwy ddyrchafiad Mr T. H. R- Hughes, Neuaddfawr, yn Henadur. Cynwysa y dosbarth b]wyfi Llanwnen, Silian, a rhan wledig Llanbedr. Dydd Iau di weddaf, cymerodd etholiad le. Fel y canlyn y pleidleisiwyd Mr E. O. Jones, Llwynygroes (R) 104 „ Joseph Price, Gwarcoed (C) 91 Mwyafrif 13 Fel y canlyn. y ceisiodd bardd lleol heb ddysgu y grefft wneud Englyn meddai efe ar yr achlysur:— Plwyf Silian, plwyf siriol, plwyf dedwydd—plw'/f Bob tro gyda'u gilydd, [un Plwyf rydd ei lais oleu dydd Heb ofni'r un Gohebydd." Mi MARWOLAETH.-N os Sadwrn diweddaf, bu farw hen wraig adnabyddus wrth yr enw Mary Jones, Llettytwppabach, yn y dref hon yn 95 mlwydd oed. Bu yn aelod dichlynaidd gyda'r Trefnyddion Calfinaidd am flynyddau lawer. Claddwyd hi dydd Mercher yn mynwent Eglwys y Plwyf. PRIODAS.—Dydd Mawrth diweddaf, yn addoldy y Trefnyddion Calfinaidd, unwyd mewn priodas Mr D. P. Davies, vet. surgeon, a Miss Jones Royal Oak." Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn Mr Evans, gweinidog y lie, a R. Cribyn Jones. Cychwynodd y par ieuanc gyda'r gerbyd- res 10.9 am bleserdaith yn nghanol dymuniadau da llu o gyfeillion. LLYS YR Y NADON.—Cynhaliwyd dydd Gwener y oed, o flaen y Meistri J. Fowden, J. C. Harford, H. Tobit Evans, W. Inglis Jones, a L. Davies. Gwnaed gorchymyn i David Williams, Nantycaws, Llanfihangel-Rhosycorn, i dalu 1/- yr wythnos a'r treuliau at gynortbwyo ei dad i fyw. Dirwywyd John Davies, Cellan, bachgenyn, i swllt am bys- gotta heb drwydded. I
ABERTEIFII
ABERTEIFI I CODI CYFLOGAU.—Yn eu cyfarfod diweddaf, I darfu Warcheidwaid Undeb Aberteifi godi cyflog meistr a meistres y Tlotty o jE40 i X50, LLYS YR YNADON.—Cynhaliwyd dydd Mawrth, o flaen y Meistri J. S. H. Miles, Levi James, a J. W. Stephens. Dirwywyd Daniel Davies, Cenarth, i j61 a'r costau, George Davies, a John Thomas, Cenarth, i bob o 5/- a'r costau, a John M. Rees, Cenarth, i X2 a'r costau am bysgota ar amser can yn yr afon Teifi. Dirwywyd John Griffiths, a James Michael, Dolbodau, Cilgerran, i bob o 5/- am ddefnyddio abwyd anghyfreithlon i bysgotta.
LLANILAR
LLANILAR LLYS YR YNADON.—Cynhaliwyd dydd Gwener, y 5ed cyfisol, o flaen y Meistri G. W, Parry, a G. Rowland. Cyhuddodd Edward Owen, Tynrhos, Llanflhangel-y-creuddin, gwarcheidwad, y Parch. J. P. Evans, periglor, Llanfihangel-y-creuddin, o wathod talu 910 7s 7tc o dreth ar y 18fed o Chwefror diweddaf, Cafodd yr achos ei ohirio ar y laf o Fawrth am nad oedd ond un ynad yn bres- enol. Dywedodd y Parch. J. P. Evans yr amser hwnw mai yr achos ei fod yn gwrthod talu ydoedd ei fod yn cael ei drethu yn ormodol, a'i fod yn dyfod i apelio i'r llys. Dywedodd yr ynad (Mr Yaughan Davies) wrtho nad oedd yn y llys priodol, mai yn yr Assessment Committee y dylai wneud byny. Pan alwyd yr achos yn mlaen heddyw ni wnaeth yr erlynydd na'r amddiffynydd eu hym- hymddangosiad. Felly taflwyd yr achos allan. Cyhuddodd H. Evans, prif-gwnstabl, Daniel Price, Aberystwyth, gyriedydd, o fod yn feddw ar yr heol yn mhlwyf Llanfihangel-y-creuddin ar y 27a,in cyfisol, pan yn ngofal ceffyl a cherbyd. Dywedodd Morris Jones, Minffordd, iddo ef weled cerbyd wedi ei ddymchwelyd ar y fEordd yn agos i Pentre- du, a'r gyriedydd yn gorwedd yn agos ato, yr oadd y ceffyl yn y cerbyd ac wedi ei rwymo wrth goeden, ar y 27ain cynfisol, oddeutu haner awr wedi un o'r gloch y boreu. Yr oedd y dyn feddw neu yn sal, ond ei farn ef oedd mai meddw ydoedd. Galw- odd ar Lewis Powell, a chyfodasant y cerbyd, a rhoddasant y gyriedydd ynddo, yna gyrodd ef i Aberystwyth, ac am nad oedd yn gwybod pwy oedd y dyn na pherchen y ceffyl a'r cerbyd, rhoddodd hwynt yn ngofal heddgeidwad Owen T. Owen. Dywedodd P.C. Owen T. Owen i'r tyst diweddaf ddyfod i orsaf yr heddgeidwad i Aberystwyth am haner awr wedi pedwar ar y boreu dywededig a gofyn iddo a oedd yn adnabod y ceffyl a'r cerbyd. Adnabyddodd hwynt fel eiddo Mr Bennison, Aber- ystwyth, a'r gyriedydd oedd Daniel Price, Aberyst- wyth, yr hwn oedd yn feddw a hollol ddigymmorth, wedi'n aeth a'r cerbyd a'r gyrwr i Mr Bennison. Dirwywyd ef i jEl.—Cyhuddodd D. Rees, Belle vue, Llanilar, Richard Bitchel, Penrheffyn, o esgeuluso anfon ei blentyn Mary i'r ysgol ar y 15fed cynfisol. Dirwywyd ef i 2/6.Cyhuddodd Edward H. Davies, Waunfawr, John Morgans, Cefnmelgoed, Llanych- aiarn, ffermwr, o esgeuluso anfon ei fab Morgan O. Morgans, i'r ysgol ar y 21ain cynfisol. Gorchym- ynwyd iddo i'w anfon i'r ysgol.
DIHEWID
DIHEWID YMWELIAD.—Efallai y bydd yn ddywenydd gan ddarllenwyr ye BRYTHON gael rhyw grynodeb o hanesiymweliadau a wnaed a, rhai ardaloedd yn y sir yma, gan ddau gyfaill, y rhai ydym newydd ddych- welyd gartref o siroedd cylchynol Ceredigion. Yr ydym yn hyderus y gwnewch dderbyn am dro, ryw ychydig bach o gyfnewidiad, yn hytrach na chael igorinod o'r unrhywiaeth a'r undonog yn barhaus. Yn ein barn ni, y mae gormod o'r adran ystadegol yma yn cael sylw, sef rhifres faith o en- wau a ffigyrau cysylltiedig a'r Cynghorau Sirol, Cynghorau Dosbarth, a llawer iawn o sefydliadau cyffelyb. Gan nad ydym yn deall fawr o egwydd- orion Political hconomy, awn rhagom i adrodd i chwi mewn modd syml, di-rodres, a gonest, ein barn, ein golygiadau. a'n profiad yn nglyn a'r ani- gylchiadau y daethom i gysylltiad a hwynt. Cych- wynasom yn lied foreu un diwrnod, a phender- fynasom yn gyntaf oil i ymweled ag ardal Dihewid, lie yr oedd ymdrechfa aredig i gymeryd lie yr un dydd—manylion pa un a ymddangosodd mewn rhifyn diweddaf. Yr oeddem yn darogan pan yn cychwyn ein bod yn myned i gael diwrnod lied ffafriol, ond siomwyd ni yn ddirfawr pan wnaeth yr hin gyfnewid —y gwynt yn ychwanegu ei nerth fwy-fwy, a'r cymylau yn clafychu yn y nen nes erbyn yr hwyr, yr ydoedd wedi myned yn genllif o wlaw nas gwelwyd yn ddiweddar ei gyffelyb. Ond er hyn fe ddarfu i ai gael Ilawer iawn o bleser a a dyddanwch ar fryniau rhamantus Dihewid, trwy dramwy ar hyd y lie, ac ymweled a rhai o'r fferm- ? "os' Gyda Haw, y mae -clod yn ddyledus l r bobl fuom yn ymwel'd a hwynt; oblegid caw- som serchogrwydd dihafal gan bawb, ac y mae j hyny,,a yn adlewychu clod, parch, ac edmygedd, at bobl Dihewid fei cyfangorph. Yn y prydnawn, pan oedd y dydd yn cwtogi, gorfu i ni droi ein gwynebau tuag adre, gan adael y golygfeydd ys- blenydd a rhamantus ar ol. Darfu i ni ddychwelyd trwy ffordd arall, a galwasom yn y Board School, Dihewid, gan fod un o honom yn teimlo dvddordeb neillduoldeb yn nygiad y cyfryw sefydliadau. Boddlonwyd ni yma eto i wel'd dysgyblaeth mor ganmoliaetliol, a'r plant mor eithriadol sinol yr olwg arnynt. Cawsom yehydig o ymddyddan a Miss loW ymhlith petbau eraill dywedodd wrthorn ei bod yn gorfod dal ati yn Hed gyson ar hyny o bryd, gan fod yr Arholiad Flynyddol yn ymyl, a hithau wed gorfod wynebu ar amryw anfanteision drwy fod yr hin wedi bod mor erwin gan luddias y plant i'r ysgol. Yn hyn fe wnaeth- om ddatgan ein cydymdeimlad mwyaf trylwyr a hi. Ar ol ymweled a dau neu dri o dyddynod ychwanegol, cyfeiriasom ein camrau tuag adre, gan alw yn nhy Mr Davies, y gweinidog, ty newydd, yn ymddangos mewn ewmwd dymunol iawn o ran sefyllfa. Gwelodd Mr a Mrs Davies yn dda ein croesawu yn serchog iawn, ac ystyried ein bod yn gydmarol ddyeithr ac ymddungosent hefyd yn llawen ac yn foddhaus wrth ein gwaith yn aflon- yddu ar dawelwch ac unigrwydd y lie. Cawsom ymddyddan amrywiaethol iawn yn nghyd a llawer o hyfforddiadau pwysig tuag ein llesoli yn bersonol. Hoffem pe baem yn gallu eyfleu i chwi grynodeb o'r ymddyddan, oblegid yr ydym yn ymwybyddus y buasai yn llawer iawn o adeiladaeth yn ogystal a lies personol i bob un o honoch chwi ddarllenwyr ye BRYTHON. Cyrhaeddasom gartre yn gynar yngnanol cenllif o wlaw, ar ol taith flinderog dros ben, ond fel yr ydym wedi crybwyll eisoes, nid heb lawer iawn o bleser a deddwyddwch. Yn awr rhag eich blino, yr ydym yn bwriadu trwy ganiatad eich hynawsedd a'ch amynedd, i gymeryd adran arall eto yr wytbnos nesaf. DAU YSBIWR.
LLECHRYD
LLECHRYD FANNY JENKINS.—Cofir enw Fanny Jenkins am ei chariad yn agor ei thy i'r eglwys Annibynol yn adeg y Cloi. Mynych y dywedai "Mi agorais y drws o gariad at yr Efengyl Agorodd yr Argl- wydd ei chalon hithau i dderbyn yr Efengyl yn ngoleu yr Ail-ddyfodiad, ac yn mhen pymtheg mlynedd wedi y cloi aeth yn y goleu hwnw trwy byrth cysgod angeu i gylch y goleuni ei hun. Dew- isodd Fanny Jenkins destyn addas i'r hanes i draethu arno yn ei hangladd. Nahum i 7 Daionus yw yr Arglwydd, amddiffynfa yn nydd blinder ac efe a edwyn y rhai a ymddiriedant ynddo." Yn y Bregeth dangoswyd o'r Bennod mae y Dydd Blinder yn y testyn yw dydd dyfodiad Duw yn mhob diwygiadau ysbrydol a naturiol. Fod ei Ail- ddyfodiad fel ei ddyfodiad cyntaf yn Hinder a barn i bawb a bleidiant ddrwg, ond yn amddiffynfa i bawb a bleidiant y da. Diolchwyd fod Duw wedi rhoddi ty Fanny Jenkins yn amddifynfa am flwyddyn rhag "Efengyl y Cloi amddiffynfa yn nydd blinder fel hafan ddymunol rhag y tonau a'r tymhestloedd, fel twr cadam "rhag gwynt y cedyrn, ac fel Winter Garden Madam Patti yn goleuo yn ymyl Craig y nos;" yn gynhes yn nghanol oerni y drychin, ac yn baradwys dawel yn nghanol cyndaredd amgylchynol yr Elfenau. Dal- iodd Fanny ei phrawf hyd y diwedd. Cariad at y goleu ai cadwodd rhag Kilroth lIatarah, rhag cynen Cades, a rhag Corah a'i ganlynwyr. CYMRU FYDD.—Syn fod Teryll y Bannau wedi ei hudo gan phylacterau llydain ac ymylwaith gwisgoedd ymhonwyr Cymru Fydd. Nid amcan- ion cywir, Cymreig, Cenedlaethol, a chyrhaeddfawr y Teryll sydd gan ei dwyllwyr, fel y dengys GOL. y BRYTHON, ac y gwyr y profiadol am bwrpas ac ymddygiadau atgas y rhai a gam enwir yn Blaid Ryddfrydig." Coeliaf fod pob gwae a berthyn i'r bodau sy'n hidlo gwybedyn ac yn llyncu camel yn crogi uwchben llaweroedd o Radicaliaid Cymru, ac yn neillduol Radicaliaid Cynghor Sirol Ceredigion. Dyfaled ar eu dyfais yn dewis Henaduriaid a cbyda Deddf y Tyddynod Bychain. Pe buasai dafn o waed gwir Ryddfrydol yn ngwythienau yr Henaduriaid hyn a etholwyd mor warthus, buasent yn gwrthod y swydd gyda dirmyg,yn y sicT-wydd mae i eraill y perthyn ac nid iddynt hwy. I Y GENHADAETTI.—Gwelir yn y Journal olaf fod y zel genhadol yn llesgau yu sir Aberteifi, a bod ] Poncader nerthol bron peidio casglu. Dyna y gwyn drwy Gymru a'r gwledydd, ac nid yw ond dechreu gofidiau, oblegid fel y dywed UD I- y bobl fwyaf cyfiawn a goleu sydd yn gwrthod cyfranu at y Genhadaeth." Nid rhyfedd, gan fod y cenhadon fel gweinidogion Cymru yn llygru yr Efengyl, yn addoli mammon, ac yn gorfaelu yn greulon lie y gallant, fel yn hanes Hawaii, y Cenhadon Annibyn- ol yno wedi trawsf eddianu tir y Brodorion, gan eu gorfodi i weithio fel slafiaid heb freiniau na haner digon o fwyd Fflangellir a saethir hwynt os gwrthodant. Ni bu Nero a Diocletian yn greulon- ach na'r CenhadoD Capelaidd hyn. Eu brodyr cynes yw gweinidogion Annibynol (?) Ceredigion. Gweddus eu bod yn dwyn zel dros y Genhadaeth, sef dros en cig a'u gwaed eu hunain. Rhyddfryd- iaeth, Annibyniaeth, a Chenadaeth yr oes sydd fel Korah, Dathan, ac Abiram yn y gwersyll, ac fel rhaff deircaingc wedi ei chordeddu yn groes i Gadwyn yr Angel sydd yn rhwymo Satan. MINAR.
TALYBONT
TALYBONT LLYS YR YNADON.—Cynhaliwyd dydd Iau di- weddaf, o flaen Mri J. T. Morgan a Griffith Rowlands. Cyhuddodd y Prif Gwnstabl ar dyst- iolaeth P.C. Hughes, Elizabeth Benjamin o'r Bow Street am werthu llaeth, yr hwn, yn ol tyst ysgrif y dadansoddydd a gynwysai bump rhan o gant o ddwfr, a dirwywyd hi i swllt heb gostau. Cy- huddodd Sarah Ann Isaac o Craigpenrhyn, ger Tre'rddol, gweddw, James Thomas, o'r un lie, ffermwr, o ymosod arni a'i churo ar y 27ain o'r mis diweddaf. Ymddangosodd Mr Hugh Hughes, ar ran y diffynydd, ac ar ol gwrandaw pedwar o dystiolaethan, taflodd yr Ynadon yr achos allan. Cyhuddodd Margaret Hughes, Brynfedwen, ger Talybont, John Bonnor Jones, 46, South Street, Llundain, llaethwr, o fod yn dad i'w phlentyn anghyfreithlawn, ynghyd a thystiolaethau, dan- gosodd y ferch weithred gyfreitliiol ag oedd wedi ei gwneyd rhyngddynt yn yr haf diweddaf, yn ol pa un yr oedd y diffynydd i dalu 2/6 yr wythno s, ond nid oedd wedi talu yr un geiniog, a gorchy- myuwyd iddo yn awr idalu 3/6 yr wythnos.
--------PENBRYN
PENBRYN ETHOLIAD.—Bu yma frwydr etholiadol dydd Iau y 4ydd cyfisol am y sedd aeth yn wag yn y Cynghor Sirol drwy ddyrchafiad y Dr Enoch Davies yn Henadur. Fel hyn y pleidleisiwyd, dros Mr D. G-riiffths, Penlan 121 P. R. Beynon, Pantygenau 96 Mwyafrif 25 Ni ddarfu i tua chant o'r etholwyr gymeryd y drafferth i fyned i'r etholfan o gwbl.
SYNOD INNj\.; :;:
SYNOD INNj\ MARWOLAETH.-Dydd Mawrth, yr ail cyfisol, ar ol cystudd byr, bu farw Mrs Ann Jones, Goyffos- fflch, plwyf Llandyssilio-go-go, yn 89 mlwydd oed. Dydd Sadwrn canlynol, er mor arw yr hin, ym- gasglodd tyrfa luosog o bobl o bell ac agos i hebrwng ei gweddillion i fynwent capel henafal y Crugiau. Gwasanaethwyd yn y ty, yn y capel, ac ar Ian y bedd gan y Parch W. Griffiths, Maeny- groes. Nodded Duw fyddo dros y plant, yr wyr- ion, a'r perthynasau oil sydd yn eu galar, a chym- orth gaffont i'w hefelychu yn mhob rhinwedd dda a berthynai iddi. CYFAILL.
CEINEWYDD
CEINEWYDD ETHOLIAD.-Cymerodd etholiad Bwrdd Ysgol Llanllwchaiarn le dydd Llun diweddaf, yr 8fed cyfisol. Wele y canlyniad Parch Stephen Jones (E.) 451 Mr W. Timothy eM.) 365 Parch 0. R. Owen (A.) 287 W. Griffiths (A) 280 Mr Hugh Davies (B) 188 S.C. James (M) 153 Thos. Evans (M) 1 J. G. Rees (M) Etholwyd v pump cyntaf, Tynodd y ddau olaf yn ol dydd yr etholiad.
LLANDYSSILIO-GO-GO
LLANDYSSILIO-GO-GO CLYWEDIGION.-Clywed na wnaeth dros gant o etholwyr Penbryn eu hymddangosiad ar ddydd etholiad aelod ar y Cynghor Siy,ol-enghraifft fod etholiadau wedi myned yn I play-things' ,gyda dynion. Clywed fod trigolion plwyf Llandyssilio-go-go mewn helbul mawr ynghylch y dreth. Clywed fod mwy o elw o 4 fasged y cigydd,' nag o sach y melinydd.' Clywed fod y c llwybr uchaf mor agos i fynwes un fel nas medr roddi gair o gynghor heb son am dano. Clywed mai efail y gof, siop y crydd, ac offis y cobbler, yw y manau a fynychir gan glecwyr ein gwlad. Clywed mai o'r tri anhwyldeb, anwydwst, clef yd y Sul, ac ysfa am seddau, mai y diweddaf sydd yn blino mwyaf 'o ddynion y dyddiau hyn. Ulywed mai y peth cyntaf i sylwi arno wrth chwilio am un i lenwi swydd (gan ei bod yn amlwg fod cymhwysder yn beth ail law yn awr) yw edrych a ydyw llogellau ei lodrau yn ddigon mawr os caiff ei eth')l. Clywed mai enw y Plwmp o hyn allan fydd' Old bachelors' station.' Clywed fod Ann wedi credu mai yn amlder Cynghorwyr y mae diogelwch. BUGAIL. MARWOLAETHATT.—Bu amryw hen bobl oedranus feirw yn y plwyf hwn yn ddiweddar. Fel y crybwyll wyd ychydig wythnosau yn ol bu farw Mr D. Jones, y Cottage, yn 86 mlwydd oed. Yr efe yn wr adnabyddus iawn yn Ngheredigion fel blaenor enwog a pharchus iawn gyda'r Trefnydd- ion Calfinaidd. Dydd Llun diweddaf, yr 8fed cyfisol, bu farw ei hen gyd-flaenor Thomas Jones, gof, Llwyndatydd yn 96 mlwydd oed. Hen Gristion Gloew oedd Thomas Jones. Nos Wener, y Sed cyfisol bu farw Thomas Davies, Caerllan, yn 82 mlwydd oed. Fel hyn y mae rhywrai yn marw yn barhaus. Pan ydym yn ysgrifenu, mae Mr Parry, Ffynonlefrith yn wael iawn, ac yn ol pob ymddangosiad, yn anhebyg i wella. CYFAILL.
. GOHEBIAETHAU
GOHEBIAETHAU and frcferm p no-va am, gyniadem mm, Gukdwft, thl..1 Y CYNGHOR SIROL. Syr,—Dymunwn gael gwybod genych paham na wnaech gyhoeddi adroddiad byr o gyfarfodydd y Cynghor Sirol yn ye BRYTHON. Byddai hyny yn dderbyniol iawn gan eich darllenwyr, Yr eiddoch, AERONFAB. [Mae yn bosibl nad yw Aeronfab yn gwybod fod yr hyn a elwir 'Cynghor Sirol Ceredigion' yn cael ei lywio yn hollol gan glymblaid o bobl hollol wrth-Gymreig eu tueddiadau. Telir arian miwr ganddynt bob blwyddyn i bapurau Seisnig am gyhoeddi Hysbygiadau y Sir ac er fod cylchrediad ye BRYTHON yn helaethach yn y Sir, ni dderbyniodd geiniog erioed oddiwrth y Cynghor Sirol am gyhoeddi hysbysiadau. Gwell gan fwyafrif yr aelodau gefnogi papurau Seisnig llawer llai eu cylchrediad, na gwneud dim dros bapur Cymreig. Nid ydym yn malio brwynen grin am danyat. Gallwn fyw yn gysurus heb eu cefnogaeth, ac y mae ein dwylaw yn rhydd- ion i dynu y ib drwy eu rhawu am bell waich pan welvvri hWYlJt yn camweddu. GOL]
[No title]
Country Gentlemen should not fail to obtain a copy of the COUNTRY GENTLEMEN'S CATALOGUE." It is the handiest and most useful book published. Everything you want is there. Cloth, 3s. (id. Paper boards, 2s. 6d. post free. EDEN FISHRR & Co., 6, 7 & S, Glement's Lane, E.C. and all booksellers and bookstalls. j J: H 7
[No title]
ar yr 22ain cynfisol, pryd y cyferfydd y Senedd ar ol y Gwyliau. Nid anhawdd i'r un mwyaf pwl ei lygaid ddyfalu amcan y Llywodraeth wrth geisio cyd-redeg tri mesur mawr fei. Dadgysylltiad yr Eglwys, Mesur Tir Gwyddelig, a Dewisiad Lleol mewn un Senedd-dymhor. Mae yn rhy amlwg taw ceisio taflu llwch i lygaid y bobl ydyw yr unig ddyben sydd ganddynt mewn golwg, oblegid gwyddant o'r goreu na fedrant eu pasio gyda'r mwyafrif bychan sydd ganddynt. Y gwir yw, mae yn hen bryd iddynt ymddiswyddo, a rhoddi cyfle i'r wlad i ddewis ereill yn eu lie. Ni ddaw dim daioni oddiwrth y Weinyddiaeth bwdr bresenol, ac nis gelJir dysgwyl i fasnach wella hyd nes y ceir gwared o honi. Fel arfer, y mae y Weinyddiaeth Rydd- frydig" bresenol wedi cychwyn rhyfel newydd. Mae braidd yn syn na fu y Rhydd- frydwyr erioed mewn swydd heb gyhoeddi rhyfel yn erbyn rhyw genedl tramor. Ar gyffiniau India mae y rhyfel presenol. Ni ddeallasom beth yw yr esgus roddir dros ei gychwyn, ond y mae yn debyg fod amryw frwydrau wedi eu hymladd eisoes. Mae Jabez Balfour o'r diwedd wedi cael ei ddal, neu yn hytrach, wedi cael ei dros- glwyddo i awdurdodau y wlad hon gan Lywodraeth yWeriniaeth Archentaidd. Cyoh- wynodd y llong yn mha un y dygir ef drosodd o Buenos Ayres dydd Sul diweddaf, a dysgwylir y cyrhaedda y wlad hon tua'r 7fed o Fi. Nid oes neb beUach a geisia honi fod y fath beth a "Phlaid Gymreig" yn y Senedd. Nos Fawrth diweddaf, hysbysodd Llefarydd y Ty ei fod yn ymddiswyddo, a chyfododd y blaenoriaid canlynol i dalu diolchgarch iddo am ei wasanaeth, Syr William Harcourt dros y Gladstoniaid; Mr Balfour dros y Ceidwadwyr; Mr Chamberlain dros y Rhyddfrydwyr Undeb- ol Mr Justin McCarthy dros y Gwrth- Barnelliaid Mr John Redmond dros y Parnelliaid Mr Naoroji dros bobl India, a—neb dros y Blaid Gymreig!" Yn Nghymru yn unig y clywir son am y Blaid hon. Ni wyr neb yn Nhy y Cyff- redin am ei bodolaeth. Etholwyd Mr Gully, Q.C., yn Llefarydd Ty y Cyffredin dydd Mercher diweddaf, drwy fwyafrif o 11, sef 285 yn erbyn 274. Wele nodyn o'r Genedl am yr wythnos hon :— Mae tawelwch Llandrindod wedi ei aflonyddu gan frWydr am addysg. Ymdrechodd yr Ymneillduwyr gael Bwrdd Ysgol, ond gorchfygwyd hwy yn y cyfar- fod cyhoeddus ac yn y cyfrifiad pleidleisiau. Bellach gwiieir ymgais i ddylanwadu ar y Llywodraeth i orfodi y plwyf i sefydlu Bwrdd Ysgol. Dalied yr aelodau Cymreig freichiau Mr Prank Edwards yn yr ymgyrch hwn." Mae y geiriau uchod yn swnio braidd yn ddyeithr pan ystyrir eu bod yn dyfod oddi- wrth bleidwyr Ymreolaeth, Dewisiad Lleol, &c. Ond dyna, beth ydym yn siarad ? Y dydd o'r blaen darfu i Gynghor Sirol Radicalaidd Ceredigion ddewis amry w bobl yn Henaduriaid wrthodwyd gan y trethdal- wyr. Bob yn dipyn anwybyddir y rhai sydd yn gorfod talu trethi yn hollol gan my "Blaid Ryddfrydig." Wfft i'r Blaid!" Urddwyd y Parch A.W. Little, gynt wein- gyda'r Annibynwyr yn Ivybridge, Devon, gau Esgob Llandaf, a thrwyddedwyd ef i guradiaeth y Bettws, sir Forganwg.