Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
CARDIGANSHIRE.
CARDIGANSHIRE. PARISHES OF LLANARTH AND LLAN- LLWCHAIARN. IMPORTANT SALE OF VALUABLE FREEHOLD PROPERTY. MESSRS JONES & JONES have been favoured with instructions from Mr Edward Jones, to offer for Sale by Public Auction, at the LLOYD JACK ARMS, ABERAYKON, at 2 p m. precisely, on Wednesday, the 13th day of July, 1892, subject to conditions as shall there and then be read, the following desirable FREEHOLD PROPERTY. PARISH OF LLANARTH. LOT. I-All that desirable Freehold Residence called "GILFACH HOUSE," consisting of Dining and Drawing Rooms. 5 Bedrooms, Kitchen, Pantries, outer Kitchen, and Stable. The Dwelling-house is large and commodious, stone-built and slated, southerly aspect and splendid view, with about 2 acres of ex- cellent land, now in the occupation of Rev. J. Williams, curate of Mydroilyn, as yearly tenant at the annual Rent of £14. LOT. 2-A newly-built Freehold Cottage and Gar- den, stone-built and slated, now in the occupation of Mary Da vies as yearly tenant, at the annual Rent of 4 3 LOT. 3-A newly-built Freehold Cottage and Gar- den, adjoining Lot 2, now in the occupation of David Griffiths as yearly tenant, at the annual Rent of £ 3. LOT 4-All that Freehold Messuage or Tenement and lands called" GILF ACH," containing Dwelling- house, Cart-house, Stable, Cow-houses, Bam, and Pig- styes, together with 2 Fields called and known by Cae Fron," and" Cae Ffynon," of excellent pasture land consisting of 9 acres or thereabouts. LOT 5-Also those valuable and productive Pasture Fields adjoining Lot 4, called and known as Cae Bariwns," and "Caegwair," and bounded on the one side by the River Mydir, containing 9 acres or thereabouts. All the above Lots are situated in a most desirable locality in the immediate vicinity of the village of Mydroilyn, and being distant about 5 miles from the town of Aberayron, 9 miles from Lampeter, and 6 miles from New Quay. PARISH OF LLANLLWCHAIARN. LOT 6 All that Freehold Farm known as "FFYNONGYNEN." It comprises Dwelling-house, Cow-house, Barn, and Pigstyes, and 10 acres or there- abouts of Arable and Pasture Land, and now in the occupation of John Davies as yearly tenant, at the annual Rent of £ 10. For further particulars apply to Mr Edward Jones, Llaethliw, Cilieaeron, or to the Auctioneers at Aber- ayron. Auctioneers' Office, 25, Alban Square, Aberayron. 9th June, 1892.
Y DYFODOL 10.
Y DYFODOL 10. Mehefin 14eg a'r lofed, Cymanfa Tair Sirol yr Annibynwyr, yn Llanbedr. Mehefin 16eg a'r 17eg, Cyfarfod Misol Gogledd Ceredigion, yn Ponterwyd. Mehefin 20fed, Cymanfa Gerddorol Cylchdaith y Wesleyaid Llanbedr, yn Bethel, ger Llan- dyssul. Mehefin 24ain, Ail-agoriad Eglwys Llanycrwys.
[No title]
Oherwydd prinder gofod, yr ydym dan orfodaeth i adael allan luaws o Ohebiaethau ac i gwtogi ereill yr wythnos hon. Gorfu i ni hefyd adael allan ein herthygl arweiniol. Rhaid i ni erfyn ar ein Gohebwyr i ddanfon eu cynyrchion yn gynarach.
. Marwolaeth Eos Morlais.
Marwolaeth Eos Morlais. Bu farw y cerddor adnabyddus uchod yn ei breswylfa yn Henrietta Street, Abertawe, boreu Sabboth, diweddaf, yn 52 mlwydd oed. Bu yn dyoddef o dan afiechyd tost yn hir, yr hyn a'i gorfododd i gilio oddiar y llwyfan y bu yn swyno y miloedd a'i lais clochaidd oddiarni.
Family Notices
GENEDIGAETHAU MRGAN-Mai y 4ydd, priod Mr Morgan Morgans, v^wmberwyn, Tregaron, ai ferch. -Mai 6ed, priod Mr Thomas Rees, Cilpyll °w Doldre, Tregaron, ar ferch. PRIODASAU DAVIES, Jenkins. Mehefin 6ed Nghapel Bwlch- y-gwynt, Tregaron, gan y Parch R Jones, Rhos- llanercnrugog, yn mhresenoldeb y Cofrestrydd Mr Peter Williams, ac E Caronian Evans, Dir- prwy Gofrestrydd, Mr D. Davies, Frithwen, Llwynygroes, a Miss Jane Jenkins, Trecefel, Tregaron. EVANS -EVANs-Mehefin 7fed, yn Bethel, Addol- dy y Bedyddwyr, Aberystwyth, gan y Parch. T. E. Williams, Gaerwen, Mcin, yn ngwydd yr Is- gofrestrydd, Mr L. Roberts, Mr Evan Evans, Marine Fireman, a Miss Hannah Mary Evans, ail ferch Mr David D. Evans, argraffydd, Aber- ystwyth.
TREGARON.
TREGARON. Nid oes dim yn fwy cglur yn Nhregaron y dydd- iau yma nac fod rhyw anfoddogrwydd yn bodoli, ac ymraniad yn cymeryd lie yn mhlith Rhyddfryd- wyr yr ardal. Digon tebyg y gwelir hyn gan rai o aelodau y Pwyllgor Rhyddfrydig. ond waeth heb, o herwydd y mae y rhwyg yn ymagor fwy-fwy bob dydd, ac yn debyg o barhau i fyned ar gynydd. Tra y cynelid pwyllgor yn nhy'r Capel, nos Lun diweddaf, i wneud parotoadau ar gyfer y "lecsiwn," fel y dywedai John Glasdon, gellid gweled amryw o aelodau'r pwyllgor yn rhodiana'u hamddenol ar hyd heolydd y dref. Y mae'nllawn bryd ichwilio ailan yr achos o'r oerfelgarwch. Myn rhai mai dylanwad gwroniaid Rhyddfrydol gwrthgiliedig Glanbrenig sydd yn gyfrifol am hyn. Dywed Josi Goch fod amryw o'r Rhyddfrydwyr mwyaf blaen- llaw wedi cael digon ar lasdwnyddiaeth, ac yn awyddus am syrthio i fewn a'r Undebwyr. Teimla Rhyddfrydwyr yr ardal yn anfoddlawn i MrWill- iam Jones am gadw y fath bellder oddiwrthynt, tra yn gweithio mor egniol mewn rhanau eraill o'r sir.
LLANDDEWI-BREFI.
LLANDDEWI-BREFI. Cynaliwyd Cymanfa Ysgolion Eglwysi Llan- ddewi-brefi, Llanfair-cludogau, a Llangybi, yn y lie uchod dydd Llun Sulgwyn. Darllenwyd y gwasanaeth boreuol gan y Parch W. Evans, Vicar Llangybi, ac arholwyd Ysgol Llangybi gan y Parch T. Davies, Gartheli. Canodd y cor yr anthem Moliant i Dduw (Jfrs Watts Ifuqltes), o dan ar- weiniad Mr Jenkin Davies, Lletygybi. Yn y pryd- nawn undoniwyd y Litani gan Mr Phillips, Tregar- on, ac arholwyd Ysgol Llanfair gan Mr Worthing- ton, Rector, Llangeitho, yn rheolaidd, ac yr oedd yr atebion yn barod dros ben. Canodd y cor yr anthem, "Mawl a'th erys di yn Sion," (Tlotrell Idloes), David Lloyd yn arweinydd, ac arholwyd Ysgol Llanddewi-brefi gan Mr Phillips, Tregaron, a chanodd y cor yr anthem Gwyn fyd a ystyria wrth y tlawd," dan arweiniad Tom Davies, ac yr oedd y canu yn ardderchog gan gorau Llanddewi a Llanfair, a dylasent fod yn falch o'u harweinydd- ion. CRAIG Y FOCHALLT.
CLARACH
CLARACH PIIIODAS.-Dydd Mercher, y laf o'r mis hwn, ymgasglodd tyrfa fawr i Ffynonddu Farm yn nyffryn Clarach er croesawu a llongyfarch Miss Hughes, Ffynonddu, a Mr L. R. Lewis, Pengraig, Llanddeiniol, ar ddydd eu priodas. Yr oedd pawb a gwen ar eu gwyneb wrth weled Miss Hughes yn cael ei huno mewn glan briodas a bach gen hoffus gan bawb. Yr oedd yr heol yn ymyl Eglwys Llangorwen wedi ei llanw gan y Cor canu a phlarit yr ysgol ddyddiol, y rhai a wnaent daenu blodau hardd o flaen y parieuainc. Pan yn dyfod o'r Eglwys, cawsant gawodydd o rice, ond ni chlywyd yr un ergyd o ddryll. Miss Hughes, Ffynonddu, oedd yn chwareu ar yr harmonium ys llawer blwyddyn yn Eglwys Llangorwen. Priodwyd hwynt gan y Vicar, Parch. W. Evans. Rhoddodd Mrs Bonsall clone, carriage i gario y wraig ieuanc, a chafodd anrhegion gan y cor canu a llawer ereill. Hir oes i'r ddau yw ein dymuniad.
LLANFIHANGELGENEU'I[TG LYN
LLANFIHANGELGENEU'I[TG LYN CYFARFOD BLYNYDDOL—Cynaliwyd y Cyfarfod Blynyddol y lIe hwn, am 6 nos Fawrth, Mai 31ain, a thrwy'r dydd canlynol. Y noswaith gyntaf, pregethodd y Parch. J. M. Griffiths, y vicar, trwy fod y Parch. H. Jones, rector Manordifi, wedi ei daro gan y palsy yn y vicerdy pan ar cychwyn i bregethu yn ol ei gyhoeddiad. Gwnaeth ein parchus vicer y peth yn liysbys i'r gynulleidfa fawr, sef yr achos o absenoldeb Mr Jones, a chyd- ymdeimlai pawb ag ef. Am wyth o'r gloch boreu yr ail ddydd, gweinyddwyd y cymun bendigaid gan y Parch. R. Owen, Barmouth am haner awr wedi deg, pregethodd y Parch. W. Thomas, Aber- ystwyth yn Saesneg, a'r Parch. J. Pugh, R.D-, Llanbadarn, yn Gymraeg am haner awr wedi dau, pregethodd y Parch. R. Owen, Barmouth ac am chwech, pregethodd y Parchn. Z. M. Davies, Blaenpennal, a R. Owen, Barmouth. Arwein- iwyd y canu yn fedrus gan Mr David Hughes, Pantydderwen. Chwareuwyd ar yr harmonium y noswaith gyntaf gan Miss Griffiths, Pantyperran, a'r ail ddydd gan Mrs Griffiths, ficerdy. Yr oedd yr Eglwys yn orlawn, a chafwyd pregethau ardderchog trwy'r cyfarfodydd. MARWOLAETH Y PARCH. H. JONES, RHEITIIIOR MANORDEIFI.-Cymerodd yr amgylchiadhwn le yn ficerdy Llanfihangel-geneu'rglyn,lle yr oeddyn aros gyda'i ferch a'i fab-yn-ngyfraith, boreu dydd Gwener, ar ol byr gystudd. Yr oedd Mr a Mrs Jones wedi cyrhaedd Llanfihangel nos Lun y 3lain, yn ei gyflawn iechyd, a pan yn barod i gychwyn i'r Eglwys i bregethu yn ol ei gyhoeddiad y noswaith ganlynol cafodd ei daro gan y pahy, ac yr oedd ar y cyntaf yn bur anobeithiol. Er pob ymdrech meddygol, ehedodd ei ysbryd at yr hwn a'i rhoes ar foreu y 3ydd o'r mis hwn. Nid oedd Mr Jones ond 61 mlwydd oed ac felly yn ddyn mewn cyflawn nerth. Yr oedd fel pregethwr yn un poblogaidd iawn, ac yn cael ei gydnabod felly drwy Geredigion, Caerfyrddin, a Phenfro, a theimlir colled fawr ar ei ol; oherwydd yr oedd yn pregethu yn mhell ac agos yn mhrif gyfarfod- ydd yr Eglwysi. Cydymdeimlir yn fawr a Mrs Jones a'r teulu, ac hefyd a Mr a Mrs Griffiths, ar yr amgylchiad sydyn. Cludwyd ei weddillion marwol o Lanfihangel, boreu dydd Llun diweddaf gyda'r tren cyntaf i Manordeifi, a chladdwyd ef yno dydd Mercher.
LLANILAR,
LLANILAR, Llys yr YI/(ulo!l.-Cynaliwyd hwn ddydd Gwener, y 3ydd cyfisol, o flaen V. Davies, Ysw., larll Lisburn, J. James, Ysw., a G. Rowlands, Ysw. Cyhud(lwyd Mr Richard Morgan, Bridge-end house, Llangwyryfon, masnachwr, o gadw ci heb drwydded ar y 13eg o fis Ebrill diweddaf, gan Mr W. H. Pugh, Aberystwyth, (Supervisor of Inland Revenue). Dirwywyd ef i dalu 2s 6c a'r costau.— Cyhuddodd Margaret Jones, Ffynafan, Llanafan, ei gwr, William Jones am ei gadael hi a'r teulu, a gwrthod eu cadw hwynt. Archwyd iddo gyfranu 10s yr wythnos tuag at eu cynal.—Cyhuddwyd Richard Lloyd, Prignant isa, Llanfihangel uchaf, ac Edward Jones, Pantglas, o'r un plwyf, am ddefnyddio ffunen groes i gymeryd a dynystrio brithyllod, gwerth 7s, yn Llyn Rhyddnant, eiddo T. J. Waddingham, Ysw.,Hafod, ar y 13egcynfisol. Yr erlynydd oedd John Hughes, Hafod, ceidwad helwriaeth, yr hwn a ofynodd am gael tynu yn ol y cyhuddiad, < yr hyn a ganiatawyd gan yr Ynadon. Etholia(I.-Dydd Mercher, y laf o'r mis presenol, yn Bronant, cynaliwyd etholiad er mwyn dewis aelod i'r Cynghor Sirol dros Ranbarth Lledrod. Yr oedd dau ymgeisydd ar y maes, sef Mr William Bebb, Cruglas, Lledrod uchaf, ffermwr, a Mr John Williams, Bronant, Lledrod isa, masnach- ydd. Mr Roderick Lloyd, Penybont, Tregaron, oedd y Deputy Returning Officer, a Mr Evans, prif feistr ysgol Bronant, oedd ei ysgrifenydd. Ni wnaeth haner y pleidleiswyr eu hymddangosiad,nac ychwaith Mr Bebb nai gyfeillion, o herwydd am 8.30 p.m., gwnueth Mr Roderick Lloyd hysbysu fel y canlyn: John Williams, 101 I William Bebb 0 Creodd y dadganiad gryn chwerthin ijr rhai oedd yn bresenol. Nid oedd cymaYnt ag un o bapurau y-Tugel wedi eu camfarcio, yr hyn sydd yn profi fod y pleidleiswyr wedi cael eu haddysgu yn dda yn y gwaith, ond pa ryfedd tra y mae Dr Rees yn einmysg yn wastadol. Efe oedd y cyntaf i roddi ei bleidlais yn y boreu.
ABERAERON.
ABERAERON. Trwy hysbysleni wedi eu rhanu ar hyd plwyfydd Henfynyw a Llanddewi-Aberarth, galwodd Mr J. M. Howell, y Rhyddfrydwr Gladstonaidd yn nghyd i Bwyllgor nos Fawrth diweddaf, i drin materion cyffredin, a dewis cynrychiolwyr i fyned i gyfarfod a gynelir yn Aberayron, Mehefin 9fed. Daeth 17 o bersonau yn nghyd. Cymerodd Mr J. Tim Evans, Cynghorwr Sirol, y gadair. Y pwnc cyntaf o dan sylw oedd yr angenrheidrwydd cael rhyw un yn gymdeithydd i Mr Bowen Rowlands i areithio yn Gymraeg yn y rhan yma o'r Sir. Credai Mr J. M. Howell ei bod yn angenrheidiol cael rhywun, ac meddai, "Mae hen bapyr bach dimai Tobit-yr hen FRYTHON bach yna, yn myned i bob twll a chornel yn y wlad, am fod y bobl yn ei gael am ddimai, maent yn ei dderbyn: ac fel mae gwaethaf y modd, yn ei ddarllen i gyd drwyddo a'u gredu yn eu hanwybodaeth, tra yr ydym ni sydd yn derbyn y Daily News, a phapurau dyddiol Llundain, yn gwneud dim ond ei scano ac mae yn rhaid i ni gael rhyw un i wrthweithio yr hen FRYTHON bach yna—fel Lloyd George neu rywun cyffelyb." Cytunai pawb yn nylamvad Y' BRYTHOX a'r angenrheidrwydd o'i wrthwynebu. Yn ail—Ymgynghorwyd pa le yn y rhan yma o'r Sir, oedd y mwyaf sigledig i Bowen Rowlands. Dywedai un Aberaeron, y llall Dihewid, un arall Cilcenin, am mae Undebwr oedd yn eu cynrychioli ar y Cynghor Sirol, ond yr oedd y mwyafrif yn credu mae ardal Bethania oedd y mwyaf shaky am fod ganddynt gymaint o barch i Mr Wiiliam Jones fel dyn a blaenor gyda'r Methodistiaid, ac i Bethania y penderfynwyd i Lloyd George i fyn'd -i oleuo y Parchedigion Evan Evans, William Jones, a David Davies, ond tebyg fod y tri wyr hyn yn rhy oleu iddynt i'w tywyllu. Dywedodd y Parch J. Rowlands (W.), fod ganddo ef barch mawr i Mr William Jones fel boneddwr a Christion, ei fod yn ei adnabod yn dda yn Birmingham. Pan ddaeth y swn allan gyntaf ei fod yn myned i sefyll dros y Sir, byddai holl ardal Cilcenin yn chwerthin wrtho ef am ei ffolineb, ag yr oedd ardaloedd eraill yr un f ath, ond erbyn heddyw yr oedd ef yn ddigon sicr bod rhyw gyfnewidiad cyfFredinol wedi d'od dros y Sir, fel cwmwl dros Bowen Rowlands. Credent nad oedd Mr Bowen Rowlands ond yn dysgwyl Mr Gladstone i dd'od i'r Llywodraeth er mwyn iddo ef gael swydd, ac yna yn gadael sir Aberteifi i ymdaraw.fel y gallai; tra y credent am William Jones nad oes ganddo un amcan personol mewn golwg, a'i fod yn Gymro, wedi ac yn dangos ei fod yn caru ei wlad, ei iaith, a'i genedl. Yr oedd am iddynt ddeall os byddai Mr William Jones yn galw yn ei dy ef, y byddai yntau yn sicr o fyned allan gydag ef ar hyd y dref, ond na byddai hyny yn un prawf y byddai yn pleidleisio gydag ef. Gofynodd Mr J. M. Howell sut oeddynt i ym- ddwyn tuag at gyfarfod William Jones—pa un a'i cadw ffwrdd neu fyned yno a phasio penderfyniad gwrthwynebol i William Jones. Dywedodd Mr J. Roberts fod yn rhaid i Mr Jones gael gwrandaw- iad, yn hyn cydsynai y cadeirydd a phenderfynywd ycai wrandawiad os na fyddai yn chwerw iawn, ac yna pasio pleidlais o ddiffyg ymddiried ynddo os byddai yn bosibl, a gwasgwyd ar y 17 dd'od a'u gweisionyno, er mwyn, debygem, i fod yn barod i wneud yr un peth a Mr W. Jones ag a wnawd a Johnny yri y Ceinewydd.
i LLANGRANOG !
LLANGRANOG Yn ddiweddar talodd Mr Jones, yr ymgeisydd j Undebol dros y Sir, ymweliad a'r lie uchod, a chafodd roesaw rhagoroL Wrth ymddiddan ag un etholwr, dywedodd Mr Jones nad oedd efe yn cydweled a Mr Gladstone mewn llawer o bethau i oblegid nad oedd y wlad yn derbyn un lies oddi wrtho. "Eithaf gwir," meddai yr hen frawd, j "cedwais i Mr Gladstone yn y parlour am yn agos i ddwy flynedd, ond nid oedd un lies yn deilliaw i finau chwaith, a dydd Sadwrn diweddaf tefiais ef j dros y bont i'r afon, ac ni chaiff ef nag un o'i ganlynwyr chwaith, ddyfod i'n ty ni byth mwy." (Yr oedd yr hen wr wedi cael Almamich a darlun o'r G.O.M. arno, a dyna beth gafodd fyned dros y j bont). Llwyr gredaf fod pedwar o bob pump o etholwyr Llangranog yn ffafrioI i Mr Jones. G.
NEWYDDION MARGHNADCI -
NEWYDDION MARGHNADCI Yd.—Ychydig alw. Tueddu i ostwng. Ymenyn— Dim cyfnewidiad o bwys yr wythnos hon. Pris ymenyn Cork hedd- yw (dydd Iau) Firsts 83, Seconds 79, Thirds 76, swllt yr 112 pwys. Cig.-Parhau yn ddifywyd mae y fasnach. —
PENGARN, BOW STREET j
PENGARN, BOW STREET CYLCHWYL GERDDOROL. Cynhaliodd Undeb Cerddorol dosbarth YIGarn ei ugeinfed gylchwyl yn Nghapel y Garn, ar yr 2fed o'r mis hwn. Yn y boreu arholwyd y plant yn Hanes Joseph gan Mr I Pugh, Borth, a Mr Lloyd, Taliesin. Yn y pryd- nawn arholwyd yr Ysgolion Sabbothol yn y 3edd benod o'r Hyfforddwr, gan y Parchn. Hugh Roberts, Graig, a W. Morgan, Garn. Yn yr hwyr yr oedd y Gymanfa Gerddorol. Cafwyd anerch- iadau gan y Llywydd, Mr Richard Jones, Bow Street, y Parchn. R. Roberts, Borth, a J. C. Evans, Llailbedr,, a Mr Prys, Penllwyn. Arweiniwyd y canu gan Mr J. T. Rees, Mus. Bac., Bronceirio, a chwareuwyd ar yr organ gan Mr James, Aber- ystwith. Yr oedd y canu yn rhagorol dda; mae'n gwella bob blwyddyn, ac yr oedd cynulleidfa fawr wedi ymgasglu o bell ac agos, ac yr oedd agwedd lewyrchus arno eleni. Aed y gwaith da yn y blaen yw ein dymuniad.
. AR YR ADEN YN MHATAGONIA.
AR YR ADEN YN MHATAGONIA. Allan o'r Gwalia. (Parhad.) Dyna danio, a gafr, dyna goes un hen lew yn hongian wrtho fel gweilffon ffust, tra yr ymgercia ar ei dri-throed am ei hoedl. Ergyd eto, o'r 16-shooter, nes oedd y llwch yn gwmwl trostynt oil, a chwarddwn inau yn galonog am ben eu llwfrdra yn cymeryd y goes mor chwim. Ychydig o'r neilldu safai yr hen geffyl a'i fwng yn syth i fyny, ei lygaid yn melltenu, a'i olwg fel gafr ar daranau, gan chwythu tan o'i ffroenau. Adsefydlasom ein hunain yn ein cyfrwy drachefn, gan drotian yn hamddenol yn mlaen, a synwyd ni gan olygfa o yr o 400 i 500 o guanacos, wedi eu haflonyddu, y mae yn debyg, gan swn ein hymladd- faa'r llewod llwydion. Carlament yn hoyw a chyn- hyrfus yr olwg arnynt ond gan fod genym ddigonedd o gig yn y gwersyll, cawsant lonydd i fwynhau eu rhyddid. Y mae y fangre hon yn orlawn o bob math o helwriaeth, sef guanacos, estrysod, &c., a'r carw corniog, yr hwn a lecha y rhan amlaf yn y coed- wigoedd tewfrig. Tra, yn myned yn mlaen gyda'r mesuriad, daeth- om ar draws lie yr ymganghenai yr afon Teca yn ddwy, gan ffurfio ynysig o ddwy i dair erw o dir tywod-raianog ar wely o gareg-ryd (sandstone), a gwnaed arbrawf o lathen ysgwar o'r gweryd hwn. Nid ydyw yr oil o dir yr ynysig yn debyg i hwn bydd yno oddeutu pedwar neu bum' tunell o aur meIyn, yr hwn sydd yn werth, dyweder, haner miliwn o bunau. Tra yn mesur a phegio y tir, y mae genym y gorchwyl o cateos (take notes), a thra wrth hyn o orchwyl gwnaem arbrawfiadau ar wahanol fanau arno, a chawsom fod y tir taladwy o un troedfedd i ugain troedfedd o ddyfnder Ymddengys mai gwaddodion gorlifiadau yr afon- ydd a ffurfiodd y tir hwn, y rhai sydd yn golchi yr aur-bridd i lawr o'i gartref yn uwch i fyny. Credwn nad oedd yr aur a gaem wedi ei gludo o bell, a phenderfynasom ei ddilyn yn ofalus a gwyl- iadwrus i'w gartref cynhenid. Ac i'n mawr lawen- ydd daethom ar draws lluaws o reefs o amryw latheni o led, yn rhedeg o ddeheu i ogledd yn y gwahanol afonydd a ffrydiau a ymrolient i lawr o lechwedd o ia-oesol yr Andes. Rheda yr afonydd ar draws y reefs gan dreulio y graig a malurio yr aur sydd ynddynt, yr hwn sydd yn weledig yn- ddynt, a llygaid noeth, gan ddwyn y cenaur ( scaly gold ) i lawr gydag ef i'r gwastadeddau eangfaith islaw, fel y nodasom yn mlaenllaw. Ymddengys y bydd angenrheidiol cael peirianau lawer, gwerth miloedd o bunau, at weithio y quartz reefs hyn. Y mae yma ddigonedd o nerth dwfr at unrhyw wasanaeth perianol yn nodedig o gyfleus, a disgynfaau dyfiiol a atebai unrhyw faint arnynt. Ffolineb ydyw i mi geisio dim yn ychwaneg am y maes aur godidog hwn, gan y ca darllenwyr lluosog y Gwalia weled ar fyrder adroddiad yr arbrawfwyr profiadol, Cadben Richards, Meirion- ydd, a Mr Roberts, New York, am y lie. Y mae genyf air bach eto i'w ddywedyd wrth Eglwyswyr Cymru, sef y pwysigrwydd iddynt ddyfod a medd- ianu y tir. Pe deuai digonedd o deuluoedd Eglwysig allan yma gyda'u gilydd, gellid ffurfio plwyfi Eglwysig ar y dyffrynoedd breision a maintiolus hyn, yn lie eu bod, fel y maent yn bresenol, yn agored i ger- nodau anghariadus y rhai nid ydynt Eglwyswyr. Neu gallai cwmni yn Nghymru ymuno ag Eg- lwyswyr y Wladfa i brynu, dyweder, pedwar adran o'r tir hwn, yr hyn sydd gyfartal i 368,640 o erw- au, a gellid eu prynu am o ddwy i dair mil o bunau gan y Llywodraeth. Ychwanega y tir hwn yn ei werth cyn pen nemawr amser na wyr neb pa faint, gan ei fod nior agos i'r meusydd mwynawl cyfoeth- ocaf yn y byd yn awr. EnwYN CYNRIG ROBERTS. Y Castell, Chubut, Mawrth 14eg, 1892.