Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Family Notices
PRIODASAU EVANS—DAVIES.—Mawrth 18fed, trwy drwydded yn swyddfa Cofrestryd, Llanbedr, Mr Titus Evans, Post Office, Llanwnen, a Miss Ann Davies o'r un lie. SAMUEL—WILLIAMS.—Mawrth 22ain, yn Eglwys St Pedr Llanbedr, gan y Parch Daniel Jones, M. A. Vicar, Mr William Samuel Draper 17 & 19 Baglan Place, Peiitre, Ystrad Rhandda, a Miss Claudia Rebecca Williams, merch henaf Police Sergeant Denis Williams, Llanbedr. MARWOLAETHAU EVANs.-Mawrth 17eg, Margaret, priod Mr David Evans, Alltfedw, Llanfihangel y Creuddyn, yn 73 mlwydd oed. Hu(iiiES Mawrth 17eg, Mr Rowland Hughes, labrwr, Lewis Terrace, Llanbadarn, yn 77 mlwydd oed. JONES.-Mawrth 17eg, Mr Lewis Jones, Ffactri, Pendre, Llanbadarn, yn 66 mlwydd oed. PUKTON.—Mawrth 19eg, Annie, priod Mr James Purton, Jeweller, 18 Terrace Road, Aberystwyth yn 33 mlwydd oed.
CANOLBARTH CEREDIGION
CANOLBARTH CEREDIGION DAMWAIN.—Dydd ffair Garon, mewn amaethdy o'r enw Moelfrynniawr, Bethania, dygwyddodd damwain ddychrynllyd gyda pheiriant tori gwellt. Fel yr oedd David Evans, llanc 18 oed, yn edrych ar ol y peiriant, yr hwn oedd yn cael ei yru gan geffyl, llithrodd ei law ddehau i fewn i enau y peiriant, a'r canlyniad fu i'w law law gael ei thynu i fewn a'i malu yn ddarnau gyda'r gwellt hyd o fewn ychydig i'w benelin. Gwaeddodd y traun yn groch yn ei gyfyngder ar y ceffyl i aros, a gwnaeth felly, ond rhoddodd y gyrwr, Evan Evans, Bwthyn Judah, llanc ieuanc, orchymyn i'r ceffyl i ail gychwyn, yr hyn a wnaeth y canlyn- iadau yn ofnadwy. Methwyd a chael braich y truan yn rhydd heb dori y peiriant yn ddarnau. Gyrwyd am y meddyg, Dr Lloyd, i'r lie, yr hwn a wnaeth ei waith yn rhagorol. Y mae yn gorwedd mewn sefylla lied anobeithiol. Dyma wers fawr eto i fod yn ofalus gyda'r peirianau peryglus hyn. Mae y llanc uchod heb dad na mam i gydym- deimlo dim ag ef, ond gobeithio y gwnaiff Mr D. Thomas, ei ewythr, fod fel tad iddo o hyn allan os caiff wella. CANU.—Yn Llangeitho, nos Wener, Mawrth 18fed, cynhaliodd undeb Glanau Aeron ei rehearsal i ymbarotoi erbyn y gymanfa gerddorol fydd yn Pontrhydfendigaid, Mai yr lleg. Cafwyd caira da a chynulliad lluosog, yn enwedig o Bwlchyllan. Y mae y Bwlchyllaniaid yn selog dros y canu bob amser. Yr arweinydd eleni yw Mr J. T. Rees, Penygarn. Nid doethineb yn y pwyllgor oedd newid yr hen arweinydd galluog, Mr Jenkins, Aberystwyth. Y BNVRDD YSGOL.-Nos Wener, ar ol darllen yn Y* BKYTHON am Fwrdd Ysgol Bwlchyllan, darfu i mi freuddwydio y noson hono, a gwelais y pump aelod wedi eu dewis. Ar dop ypoll yr oedd Mr J. Samuel, Cwmeiarth Mr L. Jones, Bwlchy- graig Mr D. Jones, Frongoch Mrs Elizabeth Jones, Pantsych a Mr R. Jones, Tylan. Dalier sylw a fydd coel ar fy mreuddwyd !—Artliinian.
YSTRAD
YSTRAD BWHDD YSGOL.—Yr wythnos ddiweddaf ofnid y cawsem frwydr Bwrdd Ysgol yn y Dosbarth Unedig yma, ond llwyddwyd i heddychu y pleidia,u ac i leddfu awyddfryd ymgeiswyr am seddau. Dychwelwyd ypersonau canlynol yn ddiwrthwyn- ebiad :—Meistri D. Hughes, Rhydfydir Evan Hughes, Nanthenfoel; D. Evans, Pantrhewfach; John Jones, Cwmere; John Owens, Park, Ciliau; D. Williams, Ffosdwn, Dihewid, a Daniel Jones shop Lon, Llanerchaeron. CYNGllOR SLROL.—Mae yn debyg cawn etholiad yma eto cyn llenwi y sedd aeth yn wag drwy ddyrchafiad Mr Jenkins, Blaenplwyf, yn Henadur. Yr ymgeiswyr ydynt Mr D Jones, Temple Build- ings, Cribin; a Mr W Davies, Pontmarchog, dau Ryddfrydwr. Daw Mr Jones allan fel ymgeisydd dros y dosbarth gweithiol.
LLANRHYSTYD
LLANRHYSTYD CYFFREDINOL—Pe cawsai rhifyn crwn cyfan o'r BRYTHON ei argraffu ar gyfer y rhan yma o'r wlad ar ei ben ei hun, yn cynwys dim ond newyddion lleol, gellid dywedyd hyd yn nod ar ol hyny, na fynegwyd mor haner." Gwaith dyrus iawn felly ydyw o fewn i ychydig ofod groniclo pob peth sydd yn galw am sylw ar dudalenau hanesiaeth y Sir. ETHOLIADAU.—Dyna brif siarad y dydd ydyw Etholiadau. Aeth y Cynghor Sirol heibio, ac y mai hi yma fel yn 11a,wer bro yn gwestiynau i gyd am yr etholiadau mewn rhanbarthau eraill. Ofer meddwl ymladd byth mewn unrhyw dalaeth lie mae henafgwyr yn agos i gant oed yn gafaelyd yn eu harfau er mewn eu hogi gogyfer A dydd y frwydr —dyna gAn a genir heddyw mewn llawer bro. Ond y mae yn ofynol, er mwyn achos rhinwedd, ialoosoldeb, a phurdeb cymdeithasol, gofyn yn ami pa foddion a ddefnyddir i hogi arfau arnynt yn adeg etholiadau. Yr ydym wedi bod yn ceisio chwilio a chael allan yn ddiamwys a chlir pa beth ydyw arferion gwahanol ranau o Gymru yn y cyfeiriad yma ac wele ffrwyth ein hymchwilion gerbron y darllenydd. Y xnae genym obaith cael manylion o Sir Gaerfyrddin yn fuan yn nghylch y diriogaeth hono hefyd ond heddyw rhaid boddloni ar y wyb- odaeth sydd yn ein meddiant, ac wedi dyfod eisoes i law.. Clywsom fod rhai cymydogaethau yn dar- ganfod mai pethau tra chymwys i hogi arfau a pwy ydyw, ffedogaid o rywbeth bwytadwy ar y pryd, yu ngliyda bwndel o addewidion i'r rhyw fenyw- aidd i stocio gogyfer a'r dyfodol; telpyn neu ddau o fel i ireiddio'r cleddyfau ychydig arian yn nwy- law y plantos i'w cadw yn lion a rhag llefain, rhyw gyffeiriau i leddfu poenau. y bydd afiechyd yn achosi ar y pryd, mcgys y gwddf yn ddrwg ei hwyl, ac felly yn y bla-Jii. Pethau dit iawn hefyd, a gellir eu hargymell, ydynt, pwys neu ddau o weniaith, ysgwyd dwylaw yn wresog, ac ol dydd yr etholiad, golygon byr, uos rnofchu gweled nac adnabod neb, oddigerth a.r adegau neiilduol, hyd ddydd yr etholiad nesaf. Truoni ofnadwy meddwl fod unrhyw gymydogaeth wedi suddo mor isel a hynyna. Hyderwn mai pelh pur cithriadol ydyw cyfarfod a bro o'r fath, ond diolchwn o eigion ein calonau yn wresog fod y rliaiibarth hwn yn bur, dihalog, a goruwch drwg-dybiacth. Gobeithiwn y gwna rhanbarthau eraill eu goreu i fod yr un modd a'n cymydogaoth ninau yn adcg etholiadau. Anmhosibl ceisio taflu llaid atom yn adeg y polio yma, gan ein bod yn cymeryd gofal pryderus yn wastadol i gael dynion cymwys ar y niaes-dynion ag y mae eu cymeriadau a'u sefyllfaoedd yn sicr- hau iddynt safle yn marn y cyhoedd goruwch amheuaeth. Y tro diweddaf gofalwyd cael dau Ryddfrydwr selog a thyna ddechreuad da gonestrwydd a didwylledd ydyw prif hanfodion Rhyddfrydiaeth rhaid oedd hefyd i ni gael cref- yddwyr, a dyna ddos extra o onestrwydd eto ond nid digon hynyna chwaith, mynasom gael dau o flaenoriaid y bobl, a thyna ddigon o berffeithrwydd i foddhau yr angrhedadyn gwaethaf. Nid oedd modd felly dysgwyl am weithredoedd y tywyllwch oddiwrth blant y goleuni. Dim dweyd celwyddau am eu gilydd, na chamddarlunio a lliwio eu gilydd chwaitb, dim ymgais i hudo drwy drais a moddion cyffelyb, dim ymdrech i ddenu pleidlais neb, ond trwy lwybrau uniondeb. Gofaled y wlad ddewis gwyr o sefyllfa gyffelyb y tro nesaf, a cheir pob boddlonrwydd ar ol hyny. GLAX WVHE. Derbyniasom a ganlyn oddiwrth Ohebydd arall Dywedir fod un o deilwriaid Llanrhystyd ar ddechreu'r etholiad i'w ganfod yn mhob man ond ar ben y bwrdd. Mae clociau capel Rhiwbwys ar streic os amser, yn pallu gwneud dim. Dywedir fod y lecshwn mor baeth yn y capel nes iddi godi yn mhen hyd yn nod y clociau. Dywedir fod yn well i'r dyn a'r whiscer felon yna" sydd yn gwrando pob peth, ac yn pipo ar ol dynion i adael ei gampau, neu bydd cyn boethed arno ag y bu ar luaws yn adeg helynt y forwynig o'r ffatri. Dywedir fod dau neu dri yn pentre Llanrhystyd yn mynd i starto vans, gan obeithio fod llawer o lecshynau i fod yn fuan. Dywedir fod rhaid peidio dweyd rhagor y tro hwn.
CAPEL WIG, LLANGRANOG
CAPEL WIG, LLANGRANOG CYFARFOD CHWARTEROL.—Dechreuwyd y cyf- arfodydd hyn drwy gynal cynadledd am ddau o'r gloch dydd Mercher diweddaf, Mawrth 16eg. Cadeirydd, y Parcb D. Jones, Gwernllwyn. Yr Ys- grifydd yn absenol, achymerwyd ei le gan Evans, Llanbedr. Materion dan sylw:—Y Genhadaeth Dramor, yn nghyd a phenderfyniad i wneud cais at y Gymdeithas Genhadol am gael Mr. Rees, y Cenhadwr Chineaidd a'r ymweliad drwy Sir Aber- teifi pleidlais o gydymdeimlad a gweddw y di- weddar Jones, Pencadcr, yn nghyd ag anogaeth i gyfranu tuag at y Relief Fund; marwolaeth Spurgeon ymweliad y pregethwr ieuanc dall o Penrhyndeudraeth. Cafwyd anerchiad ymadawol o'r gadair ar Duedd yr oes i fyned yn ormodol ar ol cyfarfodydd adloniadol," ac yn olaf rhoddodd yr hybarch dad o Aberaeron gynghorion ardderch- og i'r gweinidogion ieuainc ar iddynt fod yn ddi- frifol egniol a chydwybodol gyda'r gwaith pwysig. Cynghorai hwynt i dreulio awr gyfan ar eu glin- iau i ofyn am gyfarwyddid y Nefoedd cyn dechreu ar eu gwaith. Yr oedd dysg a dawn yn dda, ond y mae yn rhaid cael yr Ysbryd tragwyddol i ddryllio creigiau adamantaidd peehod. Dechreuwyd y cyfarfod hwyrol gan y Parch. Roger Owen, Ceinewydd, a phregethwyd gan y Parchn. Gwilym Evans, Aberaeron, a D. Cadfwlch Davies, Cilcenin. Dechreuwyd y cyfarfod boreu dydd Iau, Mawrth 17eg, gan y Parch. B. Carolan Davies, Tynygwndwn, a phregethwydd gan y Parchn Job Miles, Aberystwyth, a William Evans, Aberaeron. Dechreuwyd cyfarfod y prydnawn gan y Parch. D. Walis Davies, Beulah, a phregeth- wyd gan y Parchn. G. Parry, Llanbadarn, a D. Jones, Gwernllwyn. Dechreuwyd y cyfarfod hwyrol gan y Parch. T. R. Davies, Pisgah, a preg- ethwyd gan y Parchn. D. Walters, Castellnewydd, t, y E. Evans, Llanbedr, a Job Miles, Aberystwyth, Cafwyd cyfarfodydd da a lluosog er fod yr hin yn anffafriol. Byddai yn fendith i holl eglwysi y Sir glywed pregeth Miles ar Gadewir eich ty i chwi yn anghyfanedd." Y mae yn rhoddi note of warning i Gymru y dyddiau hyn. Wele fraslun o hom :-Math. xxiii. 38. Wrth y ty y golygir person neu gynulleidfa neu wlad wedi gadael Duw. 1. Ty heb breswylydd yw. 2. Ty y cymerir llawer o ryddid arno. 3. Ty heb fod o wasanaeth i neb. Ty a feddienir gan bethau aflan. T anhawdd iawn cael neb i fyw ynddo. Wele dri pheth a glywais yn y dyrfa ar ddiwedd y cyfarfodydd :—1. Llanbadarn, ymdrechweh ddweyd eich testyn yn uwch. 2. Llanbedr, peid- iwch codi yn uwch nag y mae eich llais yn caniatau yn y beroriaeth orphenol. 3. Y dylasai Aberys- twyth gymeryd taith drwy Geredigion gyda'r testyn uchod.
DERRY ORMOND
DERRY ORMOND GWLEDD BRIODASOL.—Ar noson ei briodas, sef Mawrth 13eg, rhoddodd Mr. John Jones, Ty'n- lofft, wledd ragorol i'w gyfeillion a'i gymydogion. pryd y daeth oddeutu haner cant yn nghyd i gyf- ranogi o'r wledd. Wedi i bawb gael eu digoni, ymneillduwyd i ystafell arall er anerch y par ieu- ainc ar yr achlysur, pryd y dewiswyd y Parch. R. C. Jones yn gadeirydd, a Mr. Evan Davies, Bryn- coedgleision, yn arweinydd y cyfarfod, pryd y cafwyd anerchiadau barddonol, areithiau, a chan- euon yn taro i'r amgylchiad. Cafwyd caneuon wedi eu cyfansoddi ar yr achlysur gan Mri. S. Davies, Coedpark, J. Davies, Kilerwisk. ac N. Evans, gof. Wedi treulio dwy awr hynod gysurus ymwahanwyd gan ddymuno hir oes a llwyddiant i'r par ieuainc. Canwyd y llinellau canlynol gan Mr Nathaniel Evans, gcf:— Jones Tynlofft a gafodd allan Mai nid da bod dyn ei hunan Rhag y deuai anhawsderau, Gan fod asen arno'n eisiau. Boed i'r ddau lwyr fwynhau, Boed i'r ddau lwyr fwynhau, Pob dedwyddwch heb ddim tristwch Tra bo'u hoes hwy yn parhau. I Trellwyn yr aeth i chwilio Am ymgeledd gymwys iddo, A phan welodd Marged dirion Aeth yn llwyr a serch ei galon. Boed i'r ddau, &c. N Pan welodd Marged John o ddifri', Cydgytunwyd i briodi, Heddyw gwnaethant selio'r fargen, Gwaeddwn bawb, Hwre yn llawen, Boed i'r ddau, &c. Yn Tynlofft ar ben pob llawnder Byddont byw tra pery'u hamser, Yn wr a gwraig o unfryd calon Gyda'u gilydd yn gariadlon. Boedd i'r ddau, &c. Caffer gweled cryd yn siglo A baban bach yn gwenu ynddo, A hwythau'n canu hwyan gerddi "Bwtwn Data calon fami" Boed i'r ddau, &c. Tyfu wnelo'u plant heb alaeth Yn addurniant i'r gymdogaeth, Rhodio llwybrau eu rhieni, Gyda hyn mi wnaf ddistewi. Boed i'r ddau, &c. YMDBECHFA ARE]) I(, Cyr)h-,tliwyd yr ymdrechfa hon elei dydd Sadwrn, Mawrth 19eg mewn cae perthynol i Mr Evan Evans. Gan ei bod wedi ei gohirio ddwy waith yn flaenorol, am fod y tywydd yn anffafriol, ni ddaeth cymaint ac a ddisgwylid ynghyd. Dosbarth 1. Prif gampwyr. Y buddugol oedd Mr Samuel Davies Kilerwisk. Dos 2. Cyff- redinol. Dyfarnwyd y wobr flaenaf i Mr David Evans Penrhiw Silian, a rhanwyd yr ail a'r tryd- ydd rhwng Mr Richard Davies, Tynllofft a Mr John Jenkins, Blaenplwyf. Cloddio a phlygu. Enillydd y wobr flaenaf oedd Mr Evan Hughes Lodge, Blaenplwyf; yr ail oedd Mr Evan Jones, Gwargors Blaenplwyf. Beiniaid oeddynt Mr David Evans, Castell, Cribyn, a Mr Jekin Jenkins, Gilfachfran a chynorthwyid hwynt i feirniadu y cloddio a'r plygu gan Mr Samuel Davies Coedpark yr oedd y cystadleuwyr oil wedi myned trwy eu gwaith yn rhagorol, a chawsant ganmoliaeth uchel gan y Beirniaid. Y mae Mr Evans yn addaw cyn- al yr ymdrechfa yn gynarach y flwyddyn nesaf ac bydd Cwpan Arian yn brif wobr. E. D.
RHYDYPENAU
RHYDYPENAU TYSTEB.—Prydnawn dydd Gwener, y 18fed o'r mis hwn, cafodd aelodau ysgol ddyddiol y Bwrdd uchod wledd o de a bara brith, ynghyd a allai fod yn bresenol o'r aelodau ac amryw o'r gymdogaeth, gan Mr Evans, F.L.S., ysgolfeistr y lie ar ei ym- adawiad i Merthyr Tydfil. Yr oedd Mrs Evans wedi gwneuthur darpariaeth helaeth, ac fe gyf- ranodd nifer luosog o'r danteitlxion goreu, Am (5 o'r gloch cafwyd cyfarfod, pryd y cynygiodd y Parch J. M. Griffiths, Y.H., fod y Parch W. Morgan, Pwllglas, i fod yn Gadeirydd, ac eiliwyd ef gan Mr J. B. Morgan, Glanfread. Ar ol cym- eryd y gadair cafwyd araeth bwrpasol i'r achlysur gan y Cadeirydd. Gwnaeth grybwylliad ei fod yn aelod o'r Bwrdd Ysgol pan gafodd Mr Evans ei ethol yn ysgolfeistr ac ei fod yn awr yn aelod, ac am y tair blynedd ar ddeg y bn Mr Evans yn llafurio fel ysgolfeistr ei fod wedi llafurio yn ddiwyd a llwyddianus iawn. Yna gwnaeth y Parch W. Jankyn Jones, B.A., Dole, ddarllen yr anerchiad, yr hon oedd Saesneg, ac yn dra can- moladwy, ond nid yn fwy nag a haeddai Mr Evans. Yna cafwyd englyn o glod i Mrs Evans am y te a'r bara brith gan Mr Isaac Prichard, un o blant yr ysgol, ac yna cafwyd penillion i Mr a Mrs Evans a'r plant ar eu hymadawiad gan Mr R. L. Thomas, Brysgaga, pa rai oedd yn hynod dlws. Cafwyd cyfrifon y swm a gasglwyd gan y gwa- hanol bersonau tuag at y dysteb gan y Parch J. M. Griffiths, yr ysgrifenydd, yn Saesneg, yr hwn a roddodd ganmoliaeth uchel i Mr Evans fel ysgol- feistr medrus a galluog i- gyfranu dysg i eraill. Dywedodd y trysorydd, Mr J. B. Morgan, Pwll- glas, iddo dderbyn £ 27 15s o arian tuag at y dysteb, a chafwyd araeth for a phwrpasol ganddo. Yna cyfododd y Cadben Francis, Glanwern, Borth, Cadeirydd y Bwrdd Ysgol, i gyflwyno yr oriawr aur i Mr Evans fel dangosiad o'u teimladau tuag ato fel ysgolfeistr a chyfaill lioff, gan fawr hyderu y caiff ef hir oes ar ei ddyrchafiad i swydd mor bwysig. Yr oedd wedi ei gerfio arni- "Presented to Mr. John Evans, F.L.S., on his appointment as Her Majesty Inspector's Assistant. March 18th, 1892," Diolchodd Mr Evans mewn geiriau pwrpasol, gan ddweyd y buasai yn edrych yn ol gyda hyfrydwch ar ysgol Rhydypenau. Siaradodd Mr Kemp, ysgolfeistr Talybont, am p cl lwyddiant Mr Evans fel dyn ieuanc yn y Science Clause*. Canwyd pedwarawd gan D. James, Fagwr, a'i barti; Ti wyddost beth ddywed fy nghalon." Talwyd diolchgarwch i'r Cadeirydd am wneud ei waith mor drefnus.
LLANGRANOG
LLANGRANOG DAFAD EPILGAR.- Y mae gan Mr. Thomas Thomas, Danllyn, ddafad, ag sydd wedi bwrw pedwar oen yn y mis hwn, ac y mae y pedwar oen a'r famog yn dod yn en blaen yn rhagorol; darfu y ddafad dan sylw, fwrw pedwar oen mis mawrth blwyddyn yr mis hwn, a daeth y pedwar hyny yn eu blaen yn rhagorol hefyd. Yr wyf wedi clywed a gweled llawer o hanes defaid epilgar, ar hyd a lied y wlad cyn hyn; ond nid wyf etto wedi clywed son am ddafad mor ardderchog ag eiddo Mr Thomas, yr hon sydd wedi bwrw wyth oen cyn pen deuddeg mis o amser, ac yn eu mhagu; yr wyf yn credu y dylai y rhai hyny sydd yn cadw defaid ac yn cymeryd sylw ynddynt fyned at Mr Thomas i gael breed y ddafad hon, er mwyn gwella eu praidd. BUGAIL.
LLANDDEWI BREFI
LLANDDEWI BREFI BwmJD YSGOL.-Cyfarfyddodd y Bwrdd uchod dvdd Gwener diweddaf, yr lleg gyfisol, am y tro cyntaf ar ol yr etholiad diweddaf. Daeth yr holl aelodau yn nghyd, sef Mri. John Jones, Felin D. W. E. Rowland, Garth Jaseph Morgan, Post Office; David Davies, Stone-cutter a Thos. Jones, Cwmdu. Yr oedd yn bresenol hefyd J. Aeronian Jenkins, Clerc. Gwaith y cyfarfod oedd ethol a àyflogi swyddogion am y tair blynedd dyfodol. Dywedodd y Clerc mai y gwaith cyntaf oedd ethol Cadeirydd am dri mis ac ar amrantiad dyma Mr. David Davies yn cynyg Mr. Thomas J ones, ond ni wnaeth neb ei eilio ef. Ar ol hyn cododd Mr John Jones, a gofynodd i'r Clerc beth oedd ei fwriad wrth nodi tri mis ? ei fod ef wedi bod yn eistedd ar y Bwrdd hwnw o'r blaen, ac wedi bod wrth y gorchwyl o ethol Cadeirydd fwy nag unwaith, ond ni chlywodd son am dri mis o'r blaen. Mr. Joseph Morgan a ddywedodd hefyd mai nid hwn oedd y waith gyntaf iddo yntau fod yn ethol Cadeirydd yn y lie hwnw, mai dyma y tro cyntaf iddo glywed son am dri mis. Cynygiodd Mr Thos. Jones fod Mr David Davies i fod yn Gadeirydd, ac eiliwyd ef gan Mr David Davies ei hunan (chwerthin). Yna cododd Mr D. W. E. Rowland, a chynygiodd fod t, Mr John Jones yn cael ei- ddewis yn gadeirydd, eiliwyd ef gan Mr Joseph Morgan. Felly ethol- wyd Mr John Jones i'r gadair. Y gorchwyl nesaf oedd dewis is-gadeirydd, a chyuygiodd Mr. John Jones fod Mr D. W. E. Rowland i fod yn is-gad- eirydd, ac eiliwyd ef gan Mr Joseph Morgan. Cyn- ygiodd Mr Thomas Jones fod y Clerc i gael aros yn ei swydd am yr hen gyflog, ond ni eiliwyd ef. Cynygiodd Mr. D. Davies fod Mary Davies, meis- tres y gwnio, a Mary Jones, yr hon sydd yn gofalu am y tanau i gael eu diswyddo, fod ereill yn y pentref a fedrai wneud eu gwaith. Ond ni ddarfu iddo ddweyd fod yno neb allai wneud y gwaith yn well, nac am lai o gyflogau. Mr John Jones a ddywedodd nad oedd ef yn hoffi i d dynion ddangos teimladau personol mewn lleoedd o'r fath hyn, a'i fod hefyd yn groes i aflonyddu ar hen swyddogion heb gael un bai ynddynt. 0 CLUiST WHTH DWLL Y CLO.
TREGARON
TREGARON Dydd Mercher, Mawrth 16eg, bu farw Junkin Thomas, mab i Jonathan Thomas, argraflydd, Tregaron. Cafodd gystudd trwm am fisoedd. Chwith iawn gan ei deulu a'r wlad golli Jenkin o'u mysg, a hyny mor gynharol mewn bywyd. Llwyddodd, drwy ymdrech, i ddiwyllio ei feddwl mewn addysg, a gwnaeth hyny drwy ymgystadlu ag anhawsderau. Diau pe arbedasid ei fywyd, ac iddo yntau barhau yn yr un ymdrech, y buasai yn sicr o fod yn aelod gwerthfawr iawn o gym- deithas, yn wladol a chrefyddol. Cymerodd ei angladd le dydd Llun, yr 2lain cyfisol. Yr oedd y dyrfa yn lluosog, a'r teimladau yn hynod ddrylliog a hiraethus. Claddwyd ei weddillion yn yn mynwent y Methodistiaid, pryd y gwasanaetR- wyd wrth y ty, y capel. a'r bedd gan y Parchn M. Evans (T.C.), ac R. Hughes (W.), Llanbedr. Canwyd amryw emynau a ddewiswyd gan yr ym- a adawedig ei hun. Erys yn hir adgofion am y cyfaill hoff. Duw fyddo yn nodded i'r teulu galarus.
ESGERDAWE
ESGERDAWE PRIODAS.—Dydd Gwener, Chwefror 2Bain, yr oedd cymydogaeth dawel Esgerdawe i gyd yn llawn terfysg, yr achlysur ydoedd priodas Mr Abel Thomas, Bryndifyr, mab Mr A. Thomas, masnachydd, Penllain, a Miss Hannah Jones, merch ieuangaf Mr John Jones, Caemawr. Tra yr oedd y par ieuanc yn nghymdeithas rhyw ychydig o'u perthynasau yn cychwyn yn eu cerbydau gwych a'u meirch porthianus er myned i Llanbedr-pont-Stephan i gyflawni y seremoni briodasol, yr oedd swn ergydion gynau yn adseinio y cymoedd tawel o bob tu, a'r hen wragedd yn rhedeg allan o'u bythynod mewn dychryn gan gredu fod rhyw ormeswyr wedi goresgyn y w, lad fel yn y dyddiau y moriodd y Ffrancod gynt i Abergwaun. Ar ol i'r seremoni briodasol gael ei b chyflawni ac iddynt gyfranogi o giniaw ar- dderchog a ddarparwyd ar eu cyfer yn y Black Lion Hotel, ymadawsant er myned i orsaf y Ffordd Haiarn i gyfarfod y tren un o'r gloch er myned i Devonshire i dreulio eu mis mel. Yr oedd y rhoddion priodasol yn ddrudfawr a lluosog. A ganlyn sydd restr o honynt:—Miss Thomas, Maesteile, set o lestri te Miss Evans, Clynby, tepot addurnedig; Miss Davies, Cwm- dawe Mill, par o addurniadau Miss Getta Evans, Pettygate, tea stand Miss Thomas, Penllain, par o antimacassars Mrs Williams, Brynllefrith, par o addurniadau Mr John Davies, Cwmdawe, bord addurnedig Mr D. Morgan, ieu., Gwarcoed, Llyfr y ty a'r tenlu Mr Griffith Davies, Pantfyd, dau coffee pot tlws, &c., &c.