Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

Mining Successes.

Advertising

Bethany, Aberaman.

Present to the Aberdare Liberal…

---Secularists v. Christians.

The Humber Map."

Advertising

Nodion.I "—I

Bethel, Gadlys.

News
Cite
Share

Bethel, Gadlys. CWRDD YMADAWOL Y GWEINIDOG. Nos Sul diweddaf traddododd y Parch. J. Richards, gweinidog Eglwys Annibynol Bethel, Gadlys, ei bregeth ffarwel i'r eglwys, cyn ei symud i gymeryd gofal eglwys Bethel, Arfon. Yr cedd yr addoldy yn llawn, y tywydd yn wresog neillduol, a ffenestri a drysau y capel yn gauad-nid rhag ofn yr Iuddewon, ond rhag dylanwad niweidiol awyr bur. Amlwg yw nad ydyw efengyl y ffenestr agored wedi cyrhaedd y Gadlys eto. Hwyrfrydig ydyw pobl grefyddol i gredu fod oxygen mor hanfodol i'r corph ag ydyw gras i'r enaid. Ond os nad ydoedd awelon natur yn gallu treiddio i'r cyfar- fod yn Bethel yr oedd awelon mynydd Seion yn chwythu yn gryf yno: Yr oedd y gwasanaeth yn hwyliog, er fod y syniad mai hwn ydoedd cwrdd terfynol gweinid- ogaeth Mr. Richards yn chwerwi cryn tipyn ar felusder yr odfa. Cyn dechreu ei bregeth, diolchodd Mr. Richards yn fawr i'r dyrfa am ddod yn nghyd i'w gwrdd ymadawol. Nid hwn oedd y tro cyntaf iddynt ei anrhydeddu yn gyffelyb, ac hyderai mai nid hwn oedd y tro diweddaf iddo i'w gweled a'u han- erch. Cymerodd Mr. Richards ei destyn ¡ o loan 19, 15, lie y dywedir am Pilat, ar gais yr Iuddewon, yn traddodi yr Iesu i'w groeshoelio. Sylwodd Mr. Richards fod croesau y byd yn amlach na'i goron- au. Nid oedd angen myned o gwm Aber- dar i gael gafael mewn croesau-croesau anweledig i groesholio cymeriadau a chyeuron personol a theuluol. Pan y mae dynion yn methu cyfreithloni eu gweithredoedd ar dir rheswm maent yn apelio at eu myfiaeth. H Oni wyddost ti," meddai Pilat, H fod genyf awdurdod i'th groeshoelio, a bod genyf awdurdod i'th ollwng yn rhydd." Peth grymus, cas iawn, ydyw teimlad crefyddol wedi myned o chwith. 'Sentiment' crefyddol wedi myned o chwith oedd wrth wraidd erledigaethau y chwil-lys. Hwn iu yn achos i groeshoelio Crist. Nid yw y petli yn farw eto. Mae yn fyw mewn egwyddor. Gochelwn y croesau bychain a godir gan forwynion dinod, fel yn banes Pedr. Hynod fyr fu pregeth Mr. Richards. Yn y gyfeillach derbyniwyd pump o ferched ieuainc yn aelodau o'r eglwys, a rhoddodd Mr. Richards gyng- horion buddiol iawn iddynt.

Seion, Aberdar.

[No title]

MerthyrI Board of Guardians.…

Advertising