Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

YMGEISIAETH MR LLOYD MORGAN.

News
Cite
Share

YMGEISIAETH MR LLOYD MORGAN. DA iawn oedd genyf glywed pan yn sir Gaerfyrddin ddiwedd yr wythnos, am yr unfrydedd gyda pha un y dewiswyd Mr JOHN LLOYD MORGAN i fod yn olynydd i Mr POWELL, Maesgwyn, fel cynrychiol- ydd rhanbarth isaf sir Gaerfyrddin yn y Senedd. Aelod rhagorol oedd Mr POWELL. Er na chlywid ei lais yn ami, eto tra y dal- iodd ei iechyd yr oedd yn un o'r rhai ffydd- lonaf yn y Ty, a gallesid ymddibynu ar ei bleidleisiau. Yr oedd bob amser mewn llawn gydymdeimlad a'r etholwyr a gyn- rychiolai, a chymerai drafferth i ddeall eu syniadau. Nid yn ami y bu cynrychiolydd yn fwy o ffafryn gan ei etholwyr; ac nid yn ami ychwaith y gwelwyd cynrycbiolydd yn parchu syniadau a theimladau ei etholaeth yn fwy. Er nad oedd mewn un modd yn wasaidd iddynt, eto elai o'i ffordd i'w gwas- anaethu. Mae y teimlad a ddangoswyd ar ei farwolaeth, a'r deyrnged gyffredinol a dalwyd iddo, yn profi yn eglur mor ddwfn oedd parch y wlad oil iddo. Yr oedd yn eglur er's tro fod ei ddiwedd yn agos, ac oblegid byny yr oedd y blaid Ryddfrydol yn effro i'r hyn a allasai gymeryd lie unrhyw awr, a pban y daeth yr oeddynt yn barod i'w gyfarfod. Nid oedd prinder ymgeiswyr, a'r rhai hyny oil yn ddynion cymhwys, ond syrthiodd y dewisiad yn y modd mwyaf unol a chalonog ar Mr LLOYD MORGAN, a rhaid i mi ddyweyd fod hyny wedi peri i mi lawen- ydd mawr iawn. Mae yn dda genyf eu gweled wedi dewis un o'u plith eu hunain. Un o'r bobl ydyw. Mae ei holl gysylltiadau yn ngly-n a'r parth yma o'r wlad. Mae yn hanu o un o'r hen deuluoedd mwyaf cangenog yn y wlad ac un o'r teuluoedd y mae ei holl draddodiadau yn anrhydeddus. Nid rhaid iddynt ostwng pen yn y wlad, oblegid fod neb o'r achau wedi gwneyd dim yn ddiraddiol. Yr oedd ei dad, y Proffeswr MORGAN, yn foneddwr mewn gwlad a'i daid Mr DAVID MORGAN, y Forge, yn un o'r dynion mwyaf anrhyd- eddus yn ei oes, ac y mae yn rhywbeth i gael dyn o'r fatb gyff adnabyddus yn y wlad. Mae gan y fath gysylltiadau eu dylanwad. Nid wyf yn un o'r rhai sydd am gau tirfeddianwyr a phendefigion allan o gynrychiolaeth y wlad, ond yr wyf yn meddwl eu bod wedi ei gorfaelu yn rhy hir, a lie y ceir dynion cymhwys, wedi codi o'r bobl, yn deall eu hangenion, ac mewn ilawn gydymdeimlad a hwy, dylem roddi y flaen- oriaeth iddynt. Sicrbeir fi gan y rhai sydd yn gwyboa, fod Mr LLOYD MORGAN yn deilwng o'i hynafiaid, ac y ceir ef ar bob achlysur yn ffyddlon i'w egwyddorion. Mae yr hyn yw y dyn ei hun yn anhracthol bwysicach nac unrhyw broffes a wneir gan- ddo. Byddwn yn cefnogi ambell ymgeisydd oblegid ei gysylltiad a'r blaid Eyddfrydol, pan na bydd genym y syniad uchafam dano ef yn bersonol, ond y mae Mr LLOYD MORGAN yn gyfryw un ag y mae gan bawb sydd yn ei adnabod yr ymddiried llwyraf ynddo. Mae y ffaith ei fod yn Gymro, ac yn Ym- neillduwr, yn rheswm ychwanegol paham yr wyf yn llaweuhau am ei ddewisiad. Yr ydym yn son llawer am gael dynion o'n plith ein hunain i'n cynrychioli, eto pan ddelo yr adeg, ceir llawer yn rhy barod i redeg ar ol estroniaid o ran iaith a chenedl. Nid wyf am orfaelu cynrychiolaeth Cymru i Gymry ac Ymneillduwyr. Mae genym Saeson ac Eglwyswyr yn mysg ein cynrych- iolwyr, y rhai na fynwn er dim eu colli o'r Senedd. Maent yn ein gwasanaethu yn ffyddlon, ac yn gwylio ein buddianau gydag aiddgarwch, ond os gellir cael dynion cym- hwys o'n cenedl ein hunain, ac yn Ymneill- duwyr fel ninau, ar bob cyfrif dylem roddi y flaenoriaeth iddynt. Rhanbarth bollol Gymreig ydyw y rhanbarth yma o sir Gaer- fyrddin ac y mae corff y boblogaeth yn Ymneillduwyr; ac y mae Mr J. LLOYD MORGAN fel Cymro ac Ymneillduwr yn dra chymhwys i'w cynrychioli. Rhaid i mi ddyweyd fod yn dda iawn genyf weled mab Proffeswr MORGAN yn dilyn llwybrau ei dad, ac yn profi ei hun yn ffyddlon i grefydd ei dadau. Ni bydd dim yn fwy o ofid i mi na gweled plant hen weinidogion, a hen grefyddwyr nodedig, wedi y delont yn mlaen yn y byd, yn troi yn anffyddlon i ffydd eu hynafiaid yn wleidyddol a chrefyddol, ac yn myned ar ol coeg barehusrwydd. Ysywaeth y mae cryn nifer o'r fath engreifftiau. Ond y mae gan sir Gaerfyrddin yn awr gyfle i anrhydeddu un o'i pblant; ac un sydd byd yma wedi profi ei bun yn ddiysgog 'yn ei egwyddorion. Yr wyf yn credu yn gryf mewn cael i'r Senedd ddynion pur, o syn- iadau moesol ucbel, ac yn meddu parch dwfn i grefydd. Ni roddwn byth fy mhleid- lais yn ffafr dyn balogedig, didduw, pa mor Ryddfrydol bynag fyddo yn ei olygiadau gwleidyddol. Mae fy mhleidlais yn eiddo i mi, ac yr wyf yn gyfrifol i'r ARGLWYDD am y modd y defnyddiaf bi, ac er nad ydym yn dychwelyd dynion i'r Senedd i pfalu am grefydd y wlad, eto goreu pa fwyaf cref- yddpl fyddo ein holl Seneddwyr; ac o bob man, gwlad Ymneillduol fel Cymru a ddylai ofalu am ddychwelyd dynion pur a rhin- weddol i ffurfio y deddfau sydd i'w llywod- raethu. Mae Mr LLOYD MORGAN yn gyfryw ymgeisydd o ran ei gredo wleidyddol, ei gymeriad, a'i holl gysylltiadau, fel y teimlaf yn hollol galonog i'w gymeradwyo i'r holl etholwyr. Nid oedd hyd nos Sadwrn son am neb i ddyfod allan i'w erbyn, er y daroganid y deuai rhywun ar yr awr olaf, ond gwyr pwy bynag a ddaw allan, mai dyfod allan i gael ei orchfygu a wna. Mae canlyniad yr ethol- iad diweddaf, ac etholiad y Cynghor Sirol ar ol hyny, wedi dangos beth yw syniadau yr etholwyr. Croes drom yw hon i'r tir- feddianwyr Toriaidd i'w dwyn, ond y mae dyddiau eu teyrnasiad hwy wedi eu rhifo. Gwelaf mai bwrw poer a glafoerion y mae y Western Mail, ac nid rhyfedd, canys dyna ei arfer; ae ymddengys i mi fod y South Wales yn ceisio bollti blewyn wrth feirniadu y defnyddiad a wnaetb MR LLOYD MORGAN o'r ymadrodd Dydd yr Arglwydd,' i ddynodi y Sabbath. Nid amser i ymryson yn nghylch geiriau ydyw, ac y mae y geiriau Sabbath, seitbfed dydd, a Dydd yr Ar- glwvdd yn cael eu defnyddio mor gyffredin, a hyny yn gyfystyr, fel nad oes unrhyw berygl i neb yn Nghymru i ymrwystro ynddynt. Mae dychweliad Mr MORGAN yn sicr, pa un bynag a ddaw gwrtbymgeisydd allan ai ni ddaw, a chyn yr elo wythnos arall heibio bydd pob peth wedi ei bender- fyuu, ond yn y cyfamser gwnaed pob etbolwr ei ran yn gydwybodol. LLADMERYDD.

Family Notices

[No title]