Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

Cynhadledd yr Amwythig.

Mr Lloyd-George yn Manchester.

Tan yn y Rhyl.

--0-Y Gymraeg yn yr Ysgolion.

—o o o— Diwygiwr Newydd.

Etholiad Horsham.

-0--Arlywydd yr Amerig.

-x.o-x-UWCHALED.

Advertising

Y Dr. Isaac Roberts.¡

News
Cite
Share

Y Dr. Isaac Roberts. ¡ Ac i mi basio heibio ein cyfarfyddiadau dilynol, a rhai gohebiaethau rhyngom, a pbethau eraill, y rhai fnasent i mi yn awr, ar ol ei farwolaeth, yn ddyddorol i'w hadrodd pe buaswn yn ymddiddan a chyfaill 0 gylch y tin, ond sydd hwyrach o natur rhy bersonol i'w hadrodd ar dudalenau Y Geninen,-er hwyrach y maddeuid i hen wr clebrog fel myfi wneud y fath beth a hyny. A gaf fi adrodd y modd yr arweiniwyd fi i ymweled ag ef yn Sussex, ac ychydig o'r hyn alwelais yno ? Ceit? Or gorea, mi wnaf. Bydd y tipyn ad- roddiad cyfrinachol hwn yn help i weled y dyn- y dyn yn hytrach na'r seryddwr,—ac y mae y dyn sydd y to cefn i'r seryddwr yn fwy o wrth ddrych edmygedd na'r seryddwr ei hun, wedi y cwbl. Ysgrifena o'r North Western Hotel, ar y 24ain o Ebrill, 1901, lythyr yn dechreu fel hyn Dear JEleazer Roberts,—I am staying here for a week or longer, at this'hotel, and would be glad to see you. Anaml yw hen gyfeillion i'r hen. Yna a yn mlaen i roi ychydig o hanes ei daith yn yr Aipht, lie yr oedd wedi bod am dri mis a haner; ac edrydd rai o'i syniadaa crefyddol; a rhydd hysbysiad am farwolaeth ei wraief taa mis cyn hyny*; ac ychwanega wrth gwt hyny :— If you could come here on Sunday next and take me to hear one of the modern preachers of the Hen Gorph it would be a treat to me, after the lapse of 50 years, without hearing one of them. I think it m ght be somewhat like a listener that had just risen from the dead; and I should be glad if you would come here before and after the service and lunch with me, and I would give you the impression made upon the mind of the one resurrected. Yr oedd yn y llythyr rai pethau nad oeddwn yn cydsynio a, hwy; a chawsom hi allan," chwedl y Saeson, pan gyfarfuasom. Euthum i'w weled fel y dymunai: ac aethom ein dau i gapel Nether- field Road, y capel a adeilidwyd yn lie ei hen gapel ei hon yn Burlington Street. Eisteddas- om yn bwrpasol yn set y gweinidog, y Dr Hugh Jones. Gwrandawodd yn astnd ar y Parch Griffith Ellis, M.A., Bootle, yn traddodi pregeth ragorol; a dywedwyd i mi wedi hyny ei fod wedi rhoi sofren felen yn y casgliad at y tlodion. Gall y bydd fy ngwaith yn adrodd amgylchiad bychan fel hwn yn ymddangos yn blentynaidd ond ai Did yw yn help i wel'd y dyn-y dyn oddimewn. Beth oedd yn gweithio yn meddwl y seryddwr enwog hwn, ar ol 50 mlynedd 0 esgoulusiad ac yn union ar ol claddu ei wraig, i awyddu clywed pregeth gan un o bregethwyr yr Hen Gorph nid at i ddyfalu. Y mae yn ddrwg genyf, pa fodd bynag, na chaw- som hamdden i ymddiddan am y bregeth: yn wir, nid oedd yr un a adgyf ods gid ei hun yn teimlo awydd mawr i ymddiddan o gwbl. Er iddo dreulio diwrnod gyda mi ar ol hyny yn Hoylake, ac ymddiddan am lawer 0 bethau heb. law y eer, ac yn eu mysg am y wlad "uwch ser y nefni soniodd air am y bregeth. Dyma'r pryd y llwyddodd i'm perswadio i dreulio wyth- nos gydag ef yn Sussex. Nid oeddwn yn bar iach ar y pryd a dadleuai y gwnai y daith les i mi; ac ymrwjmai wrth y teulu yma y cymerai ofal mawr obonof. Dadleuai hefyd ei fod yn teimlo yn unig ar ol colli ei briod; ac heblaw hyny yr oeddwn innau yn bur awyddus i weled ei Arsyllfa. Euthum gydag ef ar y 6ed o Fai, 1901.-ELEAZER ROBERTS yn Y Geninen. Gellir dweyd yma, mewn nodiad, fod yPrH oherts, y flwyddyn ganlynol, wedi priodi Madlle Klupke, ser- vddes enwog yn perthyn i Arsyllfa Paris, a'r hon a baratoasai rai papurau dysgedig ar faterion seryddol, a'r hon oedd yn ei gynorthwyo hyd ddiwedd ei oes yn ei archwiliadau seryddol yn Starfleld, Crowborough.

-.0.0'--Cribinion.

.Almanac y Gvreitliivrr am…

Advertising