Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

NODION CYMREIG.

News
Cite
Share

NODION CYMREIG. Clywais fod newyddiadur adnabyddus a chylchgrawn safonol wedi achosi colled o tua jQjoo y flwyddyn ddiweddaf. Da gennyf glywed fod y Parch. J. M. Griffiths, Goginan, yn gwella, a'i fod yn dis- gwyl gallu dlychwelyd at ei waith y mis nesa.f. -+- Mae'r oil o'r Beibl Cymraeg- erbyn hyn wedi ei argraffu yn ol cyfundrefn Braille at wasanaeth deillion gan Gymdeithas y Beiblau. Beirniadu a gofyn am eglurhad yr oedd llawer o'r papurau cyn ymweliad Mr. Lloyd George a Conwy, meddylgar a distaw ydynt yn awr. -+- -+- -+- Faint o'r gohebwyr a sylwodd.- fod Syr Robertson Xiooll yng nghyfarfod Mr. Lloyd George yng Nghonwy 1 Clywais nad oedd Z, z,, t, Arg-lwydd Northcliffe yno! -+- -+- -+- Dywed Mr. Gem Jones, mab Mr. R. Lloyd Jones, F'riog, a nai y Parch. J. Puleston Jones, M.A., iddo ysgrifennu llythyr Cymraeg adref, ond i'r Censor ei anfon yn ol! -+- -+- Penderfynodd eglwysi Biryn Scion1 a Moriah, Ystradmynach, gynnal cyfarfodvdd gfweddi Llun y Pasg'. Gwahcddwyd pawb, a dywedwyd ar yr hysbysleni nad oedd casgliad i fod. -+- -+- Clywais fod amryw o swyddogion milwrol Cymreig adnabyddus yn cael eu gwthio' o'r neilltu. Nid wyf yn sicr o'r rheswm, nac yn tybio y gallaswn ei gyhoeddi pe buaswn yn gwybod. Hen wraig ryfedd yw'r Swyddfa Ryfel. -+- -+- Dywed Y Cyfaill," cvlchgrawn misol y M.C. yn America, y carai y Parch. Hugh Jones, Ph.D., Penrhyndeudraeth, aros yn yr Unol Daleithiau. Mae yn awr yn gwasan- aethu eglwys Humboldt Park Chicago, hyd ddiwedd Awst. -+- -+- -+- Yn "Celt Llundain," mae gohebydd yn galw sylw at y lleihad difrifol sydd yn rhif Ysgol Sul y M.C., yn Llundain,—204 yn rhif yr aelodiau, a 14.9 yng nghyfartaledd y pres- 'ennoldeb. Dywed fed 200 yn Ilai nag a ddylai -fod o blant yn mynychu yr ysgol. -+-- -+-- Mae bron yr oil o'r newyddiaduron wedi eu ,Igwneud yn llai a faint er mwyn cyfarfod a, gfalwad; y Llywodraeth gyda chynbilo, papur. Mae pris papur dai.r gwaith yr hyn ydoedd ddwy flynedd yn ol, a dywedir mai ychydig iawn o newyddiaduron sy'n hunangynhaliol. -+-- A ellir dyfod o hyd i ffynnon o ddwfr gyda givialen y dewin ? Dyna fater a, llawer 0 chwilfrydedd yn codi yn meddwl dyn yn ei gylchi wrth weled fod yr awdurdüdau yng Nghaerfyrddin wedi gwario .£60 dan gyfar- Wyddyd y wialen ac heb d'dyfod, o hyd i'r dwfr? Pwy o'ch darllenwyr fedr daflu goleuni ar y mater? -+- -+-- -+- Clywais i breg"ethwr yn ddiweddar wneud fhestr i drysorydd ei Eiglwys yn cynn.wys enwau'r pregethwyr oedd i bregethu yn y daithl am gyfnod, a'r arian oedd i'w talu i bob un. Gostyngid hanner ooron yn nhal fhai oedd wedi gwasanaethu'n ffyddlon am flynyddau, ac yr oedderaill oedd hieb wasan- aethu'r eglwys namyn' unwaith neu ddwy i Rael y maximum.' Y mae'r trefnwr hwn yn flaenllaw iawn gyda chynllun Cynhaliaeth y Welmdogaeth! ;i!i'!n!L Dywed y Church Times" na: ddarfu i Dr. Joyce gynnyg am y swydd o brifathro yng ngholeg- Llanbedr, ond iddo gael cymell y penodiad. Uchiel-Eglwyswr ydyw, a dewisedig" Esgob Llanelwy. -+-- -+- -+- Anwadal hynod yw gwrthrychau goreu'r byd, ac nid yw hyn yn fwy gwir yn un cylch nag ym myd gwleidyddiaeth, ac enghraifft darawiadol o hyn yw hanes toddedig Mr. Birrell. D'yddorol i lawer fydd' gwybod, fod ei dad, yr hlwn oedd weinidog', yn gyfaill mynwesol i'r diweddar Barch. Henry Rees, Lerpwl. -+-- -+-- Rhoddwch i ni bregeth fer yw'r cri cyffredin heddyw yng Nghlymru, a pharod yw rhywrai i ddarogan ei fod yn arwydd 01 ddadfeiliad moesol. Ond clywir y cri hefyd y tu hwnt i Glawdd Offa, a chwyna un gohebydd yn un o brif wythnosolion y Saeson mai well i Dr. Campbell Morgan fuasai gfwybod mwy am y mesur byr. Cymerodd ysgrifennydd Prifweinidog- Aws- tralia ddarlun o bont Conwy wrth fyned yn ol o gyfarfod Mr. Lloyd George. Ond y funud nesaf yr oedd milwr a'i law ar ei war, ac yn cymryd y camera oddiarno. Aeth y Prif- weinidqg i eg-luro pwy oedd y troseddvvr, ond nid oedd hynny yn newid dim ar y gorchymyn. Bu raid rhoi'r d'arlun i fyny -+- -+- -+- Fel rheswm dros ddyfod i gyfarfodydd crefyddol mewn gwisgoedd' milwrol, clywais rai brodyr yn dweyd nad, oes caniatad i swyddogion wisgo, eu dillad eu hiunain. Nid oes y fath reol yn bod, a dylai yr hyn gymer- odd le yng nghyfarfod Mr. Lloyd George roi diwedd ar yr esgus. Ni chaniatawyd i, neb o'r swyddogion milwrol fyned i mewn yn eu gwisg filwrol. -+-- "+- -+-- Apeliai 72 am fedal Mr. Gee eleni, a rhodd- wyd medail i'r pump hynaf fel athrawon yn yr Ysgol Sul,-Thos. Glover, Llanymddyfri, 91 ml. oed, aelod 0"r Y sgol Sul am 88 mlyn- edd; Mrs. A. D. Pugh, Soughor, ger yr Wyddgrug, 901 ml. oed; Mr. Evan Bennett, Drefnewydd, 89 ml. a 9 mis oed'; Mrs. Mary Jones, Llanberis, 89t ml. oed- a Mrs. Margt. Jones, Blaenau Ffestiniog, 89 ml. oed. -+- -+- Gresyn fod Cyngrair Eglwysi, Rhyddion Gogledd Cymru wedi myned mor wan. Felly, o ran. hynny, y mae er ys blynyddoedd. Yn y cyfarfod diweddaf ym Magillt, datganwyd colledoherwydd marw y Parch. Evan Jones, Caernarfon, un o'r cyn-lywyddion. Bum yn gwrando ar Mr. Eivan Jones yn traddodi ei araith wrthi adael y gadlair, ac nid oedd 30 yn bresennol y tro hwnnw. Y Parch. D. E. Jenkins yw y llywydd am eleni,. Beth ddaeth o'r Cyngrair newydd? -+-- -+- -+- Y nos Fercher o'r blaen bu y Parchi. D. Tecwyn Elvans, M.A., yng Ngwyddelwern yn darlithioaJr "Lyfr Jonah,"—Darlith newydd ar yr un llinellau a'r un ar Lyfr job." Yn 01 y Ddarlith, ysgrifennwyd y llyfr (Jonah) tua 300 C.C.,—400 o flynyddoedd wedi dydd- iau Jonah mab Amitaii. Cynrychioli cenedl Israel y mae Jonah, y mortil yn cynrychioli Caethiwed Babilon, Ninife yn cynrychioli'r byd paganaidd. Jonah yn gwrthod mynd i Ninife yw Israel yn gwrthod cyflawni ei ahen- hadaeth tros Dduw at y byd cenhedlig", a Duw oherwydd hynny yn ei thaflu i'r Gaeth- glud er mwyn lledu ei byd a'i dysgu fod Duw yn Dduw i'r holl fyd, ac nid i un genedl. Felly ninnau, os na, wnawn ni ein rhan gyda'r Genhadaeth Dramor, y mae Duw yn sicr o'n taflu" ninnau i fol rhyw forfil. Yn llys ynadol Llandrindod, gwrthwyneb- odd dau o'r ynadon, sy'n feddygon, i ddyn iach, cryf, adael gwaith fferm er mwyn cadw tafarn. C'redgi y ddau feddyg y galla,sai ateb g-well pwrpas, pe buasai yn trin y tir ac yn gadael y ddiod! i ofal y merched. Mae'r pwynt yn un newydd. Am d'dyn y gafynir yn gyffredin pan fydd tafarn yn wag". A ydyw merched i ddyfod i, mewn yn eu He gyda'r fasnach? -+- -+- -+ Enillodd Mr. E. Osborne Samuel, B.A., ysgoloriaeth agored Muter yng' Ngholeg Westminster, Caergrawnt, yr wythnos ddi- weddaf. Efe'n un 01 hen efrydwyr Aberyst- wyth, ac yn fab i Mr. D. Morlais Samuel, ysgrifennydd Adran Abertawe o'r Undeb Cymdeithasau Cymreig'. Cyn dechreu ar ei gwrs mewn diwinyddiaeth yng1 Nghaer- grawnt, yr oedd Mr. Osborne s'amuel yn athraw yn Ysgol (janolradd Abertileri, ac yn gweinyddu'n ami yng nghaipeli'r fro honno. Yn ystod y misoedd hyn, efe fydd a goial eglwys y Presbyteriaid yng' Nghasnewydd ar Wysg". Boed llwydd iddo, medd pob un a'i adnebydd. -+- -+- -+- Clywais fod math newydd 0 fugeiliaid yn codi yn Arfon. Nid wyf yn sicr eu bod i-i cael eu "galw." "Dealltwriaeth" yw y gair sy'n cyfleu oreu yr hyn sy'n bod rhwng yr eglwys a'r bugail." Mae y brawd i 4 wasanaethiu yr eglwys,—^hynny yw, i gyn- orthwyo gyda chadw seiat, bedyddio', &c., ac i gael byw1 yn nhy'r gweinidog. Nid oes cyflog, wrth gwrs,—dim and cael byw yn y ty, fel y caniateir i'r rha,i sy'n gofalu am y croesffyrdd ar y reilffyrdd, neu lodges y palasau. Dylid cyfreithloini y dosbarth yma drwy gfael rheol neu ddeddf ar y mater. Un trefnus iawn yw C.M. Arfon, a dylai benodi pwyllgorar y mater. -+-- -+ -+- Mae y Free Church Year Book am 1916 newydd ddyfod o'r wasg, ac yn llyf'r dyddorol anghyffredin. Ynddo ceir y bregeth a dra- Z-- ddododd y P'arch. R. R. Roberts, BLA., yn y Cyngor, a dywedir iddo adrodd yr emyn yma ar ei bregeth,- Bydd myrdd 0' dryfedd odau Ar doriad boreu' wawr Parr dc plant y to'nau Yn dach o'r cystudd mawr. Ole yn eu gynnau gwynion Ac ar eu newydd wedd Yn debyg yn eu Harffwydd Yn dod i'r lan or bedd." Dyna fel y mae Saeson yn argraffu Cymraeg 1 Chwi grach-Saeson sy'n. beirniadu cysodwyr Cymreig- am eu bod yn cam-sillebu ambell air Saesneg neu Lladin, edrychwch ar y pennill yna. Dyddorol iawn yw darllen hanes y "Free Church Men of Note." Pwy yw y Cymry geir yn y rhestr ? Nid llawer ydynt,— Dr. Edwards, Caerdydd, James Evans!, B.A., David Lloyd George, Rhys Harries, Caer- fyrddin; H. M. Hughes, B.A., B.D., Lewis James, Llanfairmuallt; Dr. J. D. Jones, Bournemouth; Elvet Lewis, M.A., Mr. Her- bert Lewis, Thomas Phillips, B.A., Richard Roberts, a Thomas Charles Williams, M.A. Dyddorol iawn fuasai gwybod gfyda pha beth y mae'r brodyr yn cael difyrwch ac adlon- iant. Ond ni ddywed pob un ei gyfrinach. Da gennyf weled' fod amryw yn cael adloniant drwy ymweled, a llawer drwy chwarae golff. Mae un yn ddigon rhydd i ddeyd" talking with my friends," ac un arall Ambitious to' be quiet and do1 my own business." A wyddai awdurdbdau Cyng"or yr Eglwysi Rhydd ddim fod Mr. Lloyd George wedi peidio bod yn Ganghellydd y Trysorlys ?