Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
EISTEDDFOD FAWKEDDOG LLANorLO…
EISTEDDFOD FAWKEDDOG LLANorLO FAWR Dyma fis Mai wedi dyfod i mewn gyda hin ddy- munol, a phob creadur braidd yn neidio o lawenydd i weled haf unwaith eto, a'r bobl yn ein gwlad ni, a chylchoedd y gweithfeydd yn neillduol, yn dechreu ymholi a'u gily dd i ba le i fyned am drip ar y tywydd rhagorol yma. Mae rhai yn dywedyd mai i Lundain yr ant, ac ereill yn ei gweled yn rhy bell i fyned yno, ac yn rhy gostus, a'r lie yn rhy Saesnigaidd iddynt hwy i gael inwyniant a chysur yn y brif ddinas, eu bod hwy wedi gwneud eu meddyliau i fyny er ys wythnosau i fyned i Eisteddfod Fawreddog Llandilo Fawr, ar y 29ain o'r mis hwu. Mae hyny yn nesu, sef dydd Llun mis i heddyw! Gan fod tickets i'w cael mewn amrywiol fanau yn Aberdar, a'r cyfryw yn hynod o rad, mae y bechgyn ieuainc yn dal ar y cyfleusdra i brynu tocynau iddynt eu hun- ain, a llawer un yn rhoddi anrheg i'r goreu ganddo am dani o'r rbyw deg ac yn sicr, ni fydd yn ormod i'r bechgyn i roddi cymaint a hyny o garedigrwydd iddynt am unwaith, er mwyn iddynt gael gweled Llandilo Fawr. Yr wyf am roddi ychydig gvfar- wyddiadau i'r ieuenctyd yma, pa le iddynt i agor eu llygaid, er mwyn gweled pethau prydferth a hynod, megys pont fawr Glandwr, a'r bont sydd yn croesi cilfach o for yn Casllwchwr, a thyna ni toe yn Llan- elli rhaid newid y train yno, a hyfryd fydd myned gyda'r afon Llwchwr trwy Llangenych, ac ar ol myned trwy dynel byeban Pontardulais, dyna chwi yn myned trwy Llandilo Talybont, (Llandilo fach,) gwlad y perllanau toreithiog, a thyna ni yn cydiad y ddwy, lie y mae Antan a Llwchwr yn ymuno a'u gilydd. Ond gyda Llwchwr y byddwn ni yn myned y waith hon, a gadael Tross Inn anwyl ar y llaw ddeau yn y fan hono. Buasai yn dda genyf fyned hyd Cwmaman, i gael gweled fy hoff fam, ond dyma ni yn mhen dwy filMir o Cross Inn, yn Llandybie, hen bentref a phobl garedig iawn ynddo, a chapel Wesleyaidd, ac un perthynol i'r Trefnyddion Cal- finaidd, ac eglwys a chlochdy. Ar ol myned trwy y pentref, cadwch eich golwg ar y llaw chwith, i chwi i gael gweled creigiau y ddinas, ac odynau calch Cil-yr-ychain. Dyna odynau mawrion I fyny yno y mae pentref Gwenlais, lie y triga y Bardd Barfof, a dyna lie y mae tylwyth Ieuan Ddu, Alltwen. Ni a allem gaei Honed y tren o water-cresses yno, ond ychydig o amser a fydd genym-y mae yn bryd ein bod yn Llandilo. Dyna ni heibio i Glancenen, a dilyn yr afon Cenen i Llandilo. Pan y celoch yeh- ydig amser yn y dref, cofiwch edrych ar bont Llan- dilo, sef y bont gerig sydd yn croesi yr afm. Nid wyf yn meddwl i chwi weled ardderchocach trin cerig nag a fu yno. Trueni ydoedd i fechgyn yr hen William Morgan, Ty-llwyd, Cwmaman, i cael eu siomi yn y ddaear cyn cael gafael ar sail dda, fel yr aeth gormod o'r arian yno iddynt allu ei gorphen. Ond mae y prif waith yn eiddo iddynt hwy. Os byddwch yn aros yno ddiwrnod yn rhagor, cofiwch roddi tro dros bare Arglwydd Dinefor, a rhoddweh drem dros yr afon Towy, tua'r ochr dde-orllewin, er cael gweled pare a phalas y Gelliaur, &c. Yr eiddoch yn serchus, Cwmbach, Aberdar, J. MORGAN. Mai 1, 1865.
CYFLWYNO TYSTEB I'R PARCH.…
CYFLWYNO TYSTEB I'R PARCH. A. MATHEWS, LLWYDCOED. Nos Wener, y 21ain o Ebrill diweddaf, ymgynullodd cyfeillion y Parch. A. Mathews, i gapel Horeb, Llwyd- coed, er arddan^os eu parch iddo ar ei ymadawiad o wlad ei enediyaeth, gyda'r Cymry gwladgarol a gwrol sydd yn penderfynu ymfudo i Patagonia, er ffurtio gwladychfa Gymreig. Etholwyd Mr. John Williams, London Ware- house, yn llywydd, yr hwn a agorodd y cyfaifod mewn modd bywiog a hwylus. Dywedai fod yn dda ganddo weled yr oes yn diwygio gyda go.wg ar y tystebau. Nad oedd yr oesoedd a aethant heibio wedi dirnad yn mha le yroedd awir fawredd yn ami, a thrwy hyny wedi codi cofadeiladau i ddynion nad oeddynt yn gwir deilyngu hyny. Os oedd rhyw un yn deilwng o barch, ystyriai ef mai y gweinidog ffyddlon ydyw hwnw ac yr oedd yn dda ganddo fod eglwys Llwvdcoed, yn nghyda chyfeiilon ereill i Mr. Mathews, wedi cael ar eu meddyliau i gyflwyrio iddo eu parch mewn inodd sylweddol ar ei ymadawiad o'u plitb. Ni wyddai efe beth oedd i'w ddweyd am yr ymfudiaeth l Patagonia; ond gwyddai am Mr. Mathews fad ynddo ea cymwvsderau i ymfudo i wledydd pellenig. Ynun pettb| yr oedd Mr. Mathews yn bercheo ar benderfyniad diysgog ac er na fu hyny lawer gwaith yn achos erhyw gydgord- iad mawr rhyngddo ef a Mr MathtWs, eto i gyd ei fod yn gymhwysder i ymfudwr. Peth araH oeddYll pertbyn, iddo ag oedd yo gymhwysder neillduol i ymfudo, oedd pnrdeb buchedd. Dangosodd mai un o'r melldithion n)wyaf i'r byd oedd fod dynion o arferiadau a bucheddau; anweddus yn ymfudo, a thrwy hyoy ddysgu arferiadau Ilygredig. i frodorion y gwtedydd yr ymfiident iddynt. Ondyn bya yr oedd Mr. Mathews yn esiampl i'w efeiychu, ac yn eier o effeithio daioni yn mha gymdeithas bynag y byddai i'w goelbren syrthio. Wedi i'r l1ywVdd orphen a'iatlercbiad a¡.!oriadol, galw. odd ar y Parch W. Edwards, Ebenezer, Trecynon, i ddar- 11 en yr anerchiad ag yr oeddid wedi ei pharotoi i'w gyf- lwyno i Mr Mathews. Cyn ei ddarllen, svlwai Mr Ed- wards nad oedd yr anerchiad yr hyn y dymuoai iddo fod, a hyny am nad oedd amser piiodol wedi cael ei roddi i'w gyfansoddi. Hefyd, iddo gael ei gyfansoddi ar y cyntaf yn yr iaith Saesonaeg; ond fid Mr Mathews y fath G-ym to selog, a'i wyneb ar wlad nad oes i fod ynddi ond Cymraeg yn unig, fel y tystini yn erbyn derbyn antrchiad o fath yn y byd oni fyddai yn Gymraeg. Wedi i Mr Edwards ddatgan ei ddymuniad goreu i Mr Abraham Mathews, a'i obaith y byddai iddo gael ei wneud yn tiywydd Patagonia, ac felly cael llywyddu darn o'r un wlad a chyfaill o'r un enw, sef Abraham Lincoln, dartlenodd yr anerchiad banlynol:— Barch ae anwyl Syr,—Yn gymaint a bod y berthynas a fuoch yn ei ddal a'r eglwys a'r gynulleidfa ynIforeb, felougail a gwcinidog, am y tymor o chwr-eh mlynedd ar gael ei ddirwyn i deriyn, drwy e ch bod wedi penderfynu ymfudo i Fatagauia, er ffuriio Gwladl- yclita Gymreig mewn eysylitiad ac ereill o'n cydwladwyr, yntyriwa yn ddyledswydd ac yn anr'iydedd i gael uno mewu cytiwyno j cbwi anerchiad byr a thysteb fechan, fel arwydd o'n serch tuag atock fel dyn diledryw, Cristion didwyll, a gweinidog ffyddlon y Testa- ment Newydd. Dros dymor eich gweinidogaeth yn ein plith bu amryw ychwan- egiadau i'r eglwys, y rhai y credwn i'ch pregethau difri'fol a gonest fod yn foddion i'w dwyn at Waredwr. Mae rhai o'r cyfryw eisoeg wedi dianc, fel y credwn, o wlad y profedigaethau i wlad o wynjY4 a Uawejiydd tragywyddol, ac ereill yn aros hyd y dydd hWn. ya aelodau dichlynaidd a defnyadiol yn ein mysg. Ystyriwn ein bod o dan rwyman i gydnabod y gras Duw a roddwyd i chwi ilch cynorthwyo i fod yn weithiwr difefl yn ngwin- llan eich Harglwydd, yn gystal ag i fyw a bucheddu y gwirionedd oeddych yn ei bregethu i ereill. Darfu i chwi ddal yn lew air y ffydd, a phregethu Cristerncshoeliedigyn unig obaith a bywyd byd euog tra buoch yn ein pMth ac y mae yn gysur nid byehan i ni, fel pobl eich gofal, ein bod yn alluog i ddwyn tystiolaeth i burdet eich bywyd, a ffyddlondcb eich pregethau. Dariu i chwi fod yn barod bob amser i gydymdrech yn holl sy- mudiadau achos y Gwaredwr yn ein plith, yn gystal a ehymeryii rlian yn symudiadau yr enwad y pertliynwn iddo, a buoch y,A ffyddlon ar bob adeg mewn cynorthwyo yn achos addysg planty gweithwyr, a phethau teilwng ereill yn yr ardal. Nis gallwn derfynu yr anerchiad hwn heb ddatgan ein cydym- deimlad diffuant a'r hon a ddewisiasoch i fod yn gydymaith eich bywyd. Caiffein gweddiau eu hanfon drosoch i'r nef at ein Tad ni a'ch Tad chwithau, a'n dymuniad goreu eich dilvn i ba le bynag yr eloch. Derbyniwch hyn o anerchiad byr yn yr ysbryd carcdig- y mae yn cael ei gydwyno i chwi, yn nghyd a phwrs yn cynwy. SWT. bychan o arian, tel arwydd o barch diffuant yr eglwys a'r ychvdig gyfeillion a gyfrana ant i wneud y Dysteb i fyny. Bydd- ed i Duuw pob gras eich cyfatwyddo yn eich holl ffyrdd, ac estyn ei nodded a'i amddiffyn drosoch yn mhob man. Gsdwodd. y llywydd yn nesaf ar Mr R. Morris, diacon, i ddatgan ei syniadau fel cynrychiolydd yr eglwys, ar briod- oldfb yrauerchiad Gwnaeth Mr Morris lawer o sylwad. au ar >1r Mathews fel pregethwr i bugail. Tystiai fod y cydgordiad perffeilhiaf wedi bod rhwng yr eglwys a Mr Mathews am y blynyddau y bu yno yn weinidoij; ei fod wedi cydweithredu yn ettniol a'r eglwys yn mhob symud. iad, a'i fod wedi eydymddwyn a hi yn ei holl lesoedd, a'i thylodi. Am ei athrawiaeth a'i bregethau, eu bod yn bob peth ag a allesid eu dymuno, ac y gallesid tystio nad oedd ditn mewn golwg yn yr oil ond lies pechaduriaid a gogon- iant IIUW. Galwyd wedi hyny ar Mr Job Howells, diacon arall, ac hefyd ar Mr D. Williams, Farm, gwrandawr cyson a pharchus yn y capel, y rhai a gyd-dystiolaethent yn un- ity dol am gymeriad uchel Mr Mathews fel gweinidog teilwng y Testament Newydd. Wedi hyn, cyflwynwyd iddo yr anerchiad. Yn nesaf, galwodd y llywydd ar Mrs Williams, i gyf- lwyno i Mr Mathews anrheg fechan yr eglwys, fel arwydd o'i pharch tuag ato, er yn ei goili yn dra disymwth ac an- nysgwyliadwy. Yr oedd yr anrheg hon yn gynwysedig o bwrs ae oddeutu deg gini. Galwyd hefyd ar Mrs Edwards i gyflwyno i Mr Mathews rbodd fechan ychydig o gyfeill- ion y tu allan i'r eglwys, yr hon hefyd a gvnwysai ychydig dros ddeg gini. Dywedai Mrs Edwards fod yn dda ganddi gael yr aiirhydedd o gyflwyno y rhodd iddo; mai hi a gafodd y fraint o roddi iddo y llety cyntaf ar ei ddyfodfa i'r lie; ei bod yn meddwl hefyd gael y fraint o roddi y llety olaf iddo et a'i deulu bychan ar eu hymadawiad pre- senol; a gobeithiai hefyd, os dychwelai efe i'r wlad hon wedi bod yn llywydd Patagonia, y celai y fraint o'i letya y pryd hwnw hefyd. Anerchw>d y cyfarfod yn fyr wedi hyny gan y Parcbed- igion P. Howells, Merthyr; D. Thomas, Abercanaid, a LI. Hughes, Dowlais Yn awr galwyd ar Mr Mathews ei hun. Dywedai nad allai siarad ond ychydig. ond ei fod yn dymuno cyflwyno ei ddiolchgarwch gwresocaf j bawb oedd a llaw yn yr ar- ddangosiad oedd wedi ei wneud o barch iddn. Nad oedd wedi gwneud dim ond yr hyn a deimlai oedd ei ddyled- swydd, ac nad oedd erioed wedi dychymygu y buasid yn cyflwyno iddo nac anerchiad na thysteb, yn enwedig trwy ei fod yn eu gadael mor ddirybudd. Gwyddai fod siarad mawr yn eu plith am dano, a llawer o ddychymygu beth oedd yn ei ieddwl wrth ymfudo yn bresenol Clywai fod rhai yn dychymygu mai ei fydolrwydd oedd yn ei dueddu i ymgymeryd a'r anturiaeth bwysig bresenol; ond credai ei fod wedi byw digon o hyd yn eu plith i brofi yn amgen- ach. Yn air, yr oedd yn teimlo yn ddiolchgar ei fod wedi cael aros yn eu plith ddigon o hyd i adnabod eu gilydd. Yr oedd y cysylltiad oedd wedi bod rhyngddynt yn un o berffaith cydgordiad a dedwyddweh, a gallai dystio nad oedd wedi cael awr o flinder oddiwrthyr eglwys yn hyd y ¡ chwe blynedd y bu yn perthyn iddi, er nad allai ddywedyd
YR ATHRODWR.
holl ystryd. Nid yw yr athrodwr, ond ysgubwr sim- neiau, yn ymgymeryd a chadw ein tai a'n simneiau ni yn leinion, ar y draul o orfod yfed, bwyta, a byw arhuddugl holl ddyddiau ei einioes. Ond fy nghy- feillion anwyl, y llwybr mwyaf effeithiol i ddistewi tafod enllib, yw i chwi sod yn ddistaw eich hun nid oes dim yn archolli balchder yr athrodwr, yn fwy nag ansylwgarwch o'r hyn mae yn geisio ddywedyd. Y mae hyn yn dwyn i'm cof y chwedl hono am dra- faeliwr Brocalini, yr hwn a fawr flinid ar ei daith gan ddwndwr y ceiliogod rhedyn, yn gymaint felly, fel y disgynodd oddiar ei farch mewn Ilid mawr ar feddwl eu dyfetba oil ond druan o hono,-ofer fuasai ei Waith yn y ffordd hono eithr pe buasai efe yn myned ffhagddo ar ei daith heb wneuthur yr un sylw o hon- ynt, buasai y creaduriaid bach poenus, yn tewi, a tnarw ohonynteu hunain yn mhen ychydig wyth- nosau, ac yntau gael myned i'w ffordd mewn hedd- wch. Paham y mae yn rhaid i'r dyn deimlo odd-wrth golyn athrawd, ac yntau yn ddieuog o'r cyhnddiad? Paham y rhaid iddo ef ddarostwng ei hun i unthyw benyd pa bynag, ac yntau yn ymwybodol nad yw erioed wedi cyffawni y trosedd ? Y mae hyn yn ddarn o wroldeb moesol, dyledus arnom j'n diniweid- rwydd ein hun, ac heb fod yn feddianol ar y cyfryw, y mae yn annichonadwy i un dyn o deilyngdod a gwerth i fyw mewn heddwch ag ef ei hun mewn gwlad ag sydd mor Ilawn o rhagfarn, enllib, a drwg- deimlad, ag yw Cymru lenyddol y dyddiau hyn. Ni ddyleai sori, eithr yn hytrach dylem deimlo rhyw foddhad ddirgelaidd yn amlder y cyhuddiadau a ddygir yn ein herbyn, a hwy yn ddisail, gan gymeryd pleser mewn gwneuthur pentwr, neu gotgotofn, o'r mangeryg hyny y darfu i genfigen eu taflu atom, heb wneuthur i ni y niwaid lleiaf wrth hyny. Y mae yn sicr nad oes un cofgolofn mor ogoneddus a'r un hono ag a gyfodir gan ddwylaw cenfigen. Conderwniad, nieddai un awdwr, yw y dreth y mae dyn yn orfod ei tbalu i'r cyhoedd am fod yn enwog. Fod i'r neb sydd fawr ac anrhydeddus, i ddvsgwyl dianc yn ddi sarhad, a dietillib, sydd ynfydrwydd, a'u bod yn teimlo yr un chwithdod oddiwrth hyny sydd wendid. Y mae holl ddynior. mawr ac anrhydeddus y CYIJ- oesau, ac yn wir, pob oes hefyd, wedi dyoddef oddi- wrth erlidigaethau tanllyd cenfigen mewn gair, nid oes yr un person, pa bynag, yn troi mewn cylch an- rhydeddus, neu sefvllfa enwog, yn cael edrych arno gyda llygad annyddorol: ystyrir ef yn wastad naill ai yn elyn neu yn oy, ill ac oblegyd y rhesymau hyn, nid yw cymerLadsu personau o enwogrwydd, a sefyll- faoedd anrhydeddus, yu cael eu darmnio yn gywir, hyd nes el heibio llawer o flynyddoedd wedi eu mar- wolaeth rhaid iddynt hwy fod wedi marw, a'r cy- feillgarwcli ar y naill law, a'r elyniaeth ar y lIaw arall lwyr ddarfod, cyn y bydd i'w beiau, neu eu rhinweddau cael cyfiawnder. Pryd y mae lleiaf y cyfleusder gan ysgrifenwyr i wybcd y gwirionedd, y maent yn yr agwedd, a'r yspryd goraf i'w ddy- wedyd; o ganlyniad, braint fawr oloesoliaeth ydyw unioni ac iawndrefnu cymeriadau personau anrhy- deddus a buont feirw, a gosod materion ar yr iawn rhwng yr amrywiol wrthwynebwyr hyny, pa rai drwy eu cydymgais am fawredd, a ranasant oes gyfan yn wrthbleidiau cildynus. <iallwn yn awr ganiatau i Ccesar fod yn ddyn mawr, heb achcs ofni y bydd Pompey o herwydd hyny yn ddim llai a gallwn hefyd dderchafu rhinweddau Cato, heb ddaro&twng dim ar eiddo Ccesar. Y mae pob dyn, mewn blyn- yddoedd ar ol iddo farw, yn sicr o gael gan bawb eu cyfran briodol o glod ac anrhydedd, yn yr hyn, fe allai, pan oeddent byw, yr ymddygai eu gelynion yn rhy brin, a'u cyfeillion yn rhy ehelaeth tuag atynt. Y ffordd fwyaf llwyddianus i feddyginiaethu ein hymdeimladrwydd, o herwydd cerydd neu anfri an- baeddianol, yr hyn sydd wendid cyffredinol ac yn perthyn i'r dynion mwyaf rhinweddol, ydyw sefydlu ein hymsyniaeth ar yr hyn sydd, yn unig yn wirion- edd, bydded hyny yn dwyn cysylltiad a'n manteision toeu ein hanfanteision. Oblegid os ydym yn cael ein boddhau gan ganmoliaeth nad ydym yn ei haeddu, byddwn befyd, o herwydd yr unrhvw dymher, yn cael ein blino gan uoarthrudd nad ydym yn ei haeddu. Eithr hwnw, ag a fedr edrych ar ganmoliaeth anwir gyda yr nnrhyw ddirmyg ag ar ddifriaeth anwir, sydd wedi ei gymhwyso at bob anturiaeth, a'i gyf- addasu i gyfarfod a phob amgylchiad o'r fath. Ni eillclod anhaeddianol foddhau neb, ond y sawl sydd yn amddifad o deilyngdod; na cberydd anhaeddianol ofidio neb ond y sawl sydd ddiff'ygiol mewn cywiredd. Yr ydych fy nghyfeillion anwyl, yn ytnflino cryn dtpyoyn berwydd rhyw Quack Germanaidd,' a Thitlmania yr oes-Doctoriaid-Bachelors a Masters °f Art, &c. I beth, dywedweh gyfeillion Os oes fhyw gorach yn tybied ei fod yn fwy o swmp a maintiolaeth, wrth rodio yn motasau Saul, gadewch iddo fwynhau yr hudoliaeth nid yw o. bwys yn y byd. A oes arnoch chwi ofn i fawredd newydd-greu- edig y rhai hyn i ymchwyddo ac ymddyrchafu i lichder Colofn Pompey, Pigdwr Ghizeh, neu goryn estyuedig y Gbauts, a syrthio i lawr ar eich penau a'ch llethu ? Gadewch iddynt wneuthur y goreu o'r 8Canty means ag sydd ganddynt yr oeddech chwi yn Pallu yn deg ag edrych ar eu rhagoriaethau, ac eto anfoddlawn i Germany, ac iddynt hwy eu hunain, i wneuthur hyny. Yn wir, y mae yn gywilydd i'ch llygaid pylion, fod Germany o eithafoedd y Cyfandir, ar draws mor a mynydd, yn gweled mwy o bryd- ferthwch a mawredd ein Doctoriaid, nag ydych chwi yn y man yma ar eu pwys! Ac wedi cael y gardod fechan hon o Germany, dyma chwi eto am ei hys- peilio oddiar ysgwyddy cardotyn da chwi, peidiwch bod mor ddideimiad ag yspeilio cardotyn-anrheithio tlodi, a diosg amddifadrwydd o'r tipyn eysur ag sydd ganddo. Maentyn dywedyd fod Lewis Edwards, o'r Bala, a Spurgeon, o'r Tabernacle, Llundain, wedi gwrthod y titl hackneyed o Doctor ac fe'i gwrthyd rhagor ef eto y mae y peth hwn wedi myned yn an- rhydedd, net) yn hytrach yn ddianrhydedd hawdd i'w gael: yh beth cyfFreuin, ac yn beth ag a fydd allan o fasiwn cyn hir. Cyn gvnted ag y gwelodd y Ladies, fod morwynion a merched gwledig yn myned i wisgo veils, darfu iddynt hwy ei diarddelwi yn union. Felly am y titles hefyd, aiff teilyngdod y ffordd hon —baerUugrwydd a rhyfyg tfordd arall. LLENOR.