Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Germani a Spaen.
Germani a Spaen. BERLIN, Ebrill 27.—Nid oes un sail i'r adroddiad wnaed yn y Diaro Espanol nad oedd Llywodraeth Spaen wedi talu yr iawn, oblegyd y mae wedi ei dderbyn gau Lywodraeth Germani. Nid oes un cadara- had wedi ei dderbyn i'r newydd gyhoedd- wyd fod baner Germani wedi derbyn cyd- nabyddiaeth a gwarogaeth am yr ymosod- iad Carlistaidd gerllaw Zaraus. SANTANDER, Dydd Marwth.—Mae Llyng- es Germani wedi cychwyn i Guetaria i dderbyn cyfarchiad magnelau Spaen.
Tysteb y Parch. J. Thomas,…
Tysteb y Parch. J. Thomas, Salem, Aberdar. Cynaliwyd Cyfarfod Chwarterol yr An- nibynwyr, dyddiau Llun a Mawrth wyth- nos i'r diweddaf, yn Salem, Aberdar. Ar yr achlysur hefyd, eyflwynwyd tysteb o J6140 i'r Parch. Joshua Thomas, gweinidog parchus y 11e, fel cydnabyddiaeth fechan am ei lafur yn Ngwinllan ei Arglwydd am ddeugain a dwy o flynyddoedd. Cyflwyn- wyd yr anerchiad gan y diacon hynaf yn yr eglwys, sef Mr. John Harrison, a chyd- nabyddodd Mr. Thomas ei derbyniad mewn araeth doddawl a phwrpasol. Traddodwyd anerchiadau ar yr achlysur gan y Parchn. Dr. Rees, Abertawe; W. Williams, Hri- wain Proffesswr M. Jones, Bala J. Farr, Tabernacl; W. Edwards, Ebenezer; ac E. Hughes, Penmain. Cymerwyd y gadair ar yr achlysur gaip. Thomas Williams, Ysw., Goitre. Dymuilwn hir oes i'r hen frawd i fwynhau y dysteb, ac i fod yn ddefnyddiol eto dros y gwirionedd.—GOHEBYDD.
Ymfudiaeth 153 o Aberdar a'r…
Ymfudiaeth 153 o Aberdar a'r Cylch- oedd i Queensland, Awstralia. Nid rhyfedd fod, gweithwyr Cymru yn blino aros yn swn rhyfel y strike a'r lock out, ac yn penderfynu hwylio eu cerddediad yn ddigon pell o'u cyrhaedd. Y mae yn ddigon i yru chwant ar bob dyn sydd yn dyoddef oddi wrth effeithiau yr ymrafael hon, i godi ei bac a ffwrdd ag ef Yr wyth- nos hon ymadawodd 153 o Aberdar a'r cylchoedd, am Queensland, Awstralia, ac yr oeddynt yn hwylio yr wythnes bon o Lundain, ar fwrdd yr Ophelia. Y goruch- wylwyr, fel y gwelir oddi wrth hysbysiad mewn colofn arall, ydynt y Meistri James, Crown Hotel, Aberdar; a Press well, Merthyr. Diau yr a llawer allan eto yn fuan o ddadwrdd byddarol y strike a'r lock out. Bendith arnynt, a llwyddiant fyddo iddynt meddwn ni.
Cyfarfod y Glowyr yn Merthyr.
Cyfarfod y Glowyr yn Merthyr. Ymgyfarfu y glowyr yn Merthyr dydd Mawrth diweddaf, er ystyried cynygiad y meistri. Cafwyd adroddiad gan y dirprwy- wyr a nodasid i ymweled a pherchenogion gweithiauDowlais, Cyfarthfa, aPhlymouth, o'r atebion a gawsant. Ateb Mr. Menelaus ydoedd, nas gallai y gweithfeydd gael eu cario yn mlaen heb y gostyngiad ychwanegol o bump y cant; nad oedd hyny yn cael ei gynyg oddiar un teimlad dialgar yn y meistri, a'i fod ef yn bersonol yn ffafr Bwrdd Cymodlawn. Yr oedd Mr. Craw- shay o'r farn na fabwysiadid byth o'r lock out mwyach. Nis gallai efe agor ei weith- iau heb bymtheg y cant o ostyngiad, a mynai rhai o'r meistri dydd Gwener diw- eddaf gael ugain y cant. Yr oedd perchen- ogion gweithiau Plymouth yn analluog i roi un atebiad terfynol, oblegyd rheolau TIndeb y Meistri; ond tybient fod y gos- tyngiad yn angenrheidiol, er nad oedd ganddynt un gwrthwynebiad i apwyntiad Bwrdd Cymodlawn. Yn y prydnawn, cyfarfu rhyw 1,500 o lowyr yn nghapel Seion, pryd y pasiwyd penderfyniad yn dy- muno ar wyr dyffrynoeddRhondda ac Aberdar ddyfod i ryw ddealltwriaeth pa gwrs i'w fabwysiadu. Y mae glowyr Powell lJyftryn, wedi penderfynu apelio at Syr George Elliott am ei gynorthwy i ddwyn y cweryl hwn i derfyniad. Gwelir hanes y cyfarfod dydd Llun, ar tudalen 3ydd, pumed colofn.
PONTFAEN.
PONTFAEN. DYDD MAWRTH. Yd -Had haidd goreu, 63. i 6s. 60. y bwBtl; sumplau erelll, 5s. 6c. i 5s. 9c.; gwenith gwyn goreu, 4s. 9o. 1 5a. 4c.; coch goreu tto, 48 6a. i 5s ceirch at besgt, 3a. 80. 1 3a, 10c haaau C,d, ch, 4B. 3a. 14c. 9s. Anijeiliaid — Marchnad fechan, ond daeth Hawer o *igj.ddion yn nghyd. Anifeiliaid tewlon (^or*.u), 9c. y pwya; all oreu, 8|« 2 Nid oedd aim aulfelliaid at ystorlo yn be- gan fod y ffafr yr wythnos neeaf. Defaid tewion (blwyddiaid), 10|e. i He. y pwys yn y gwian mamogiaid trymion a dwy-flwydd, 10y pwyB mamog- d ag wyr, 2p. 10s. i 3p.; wyn, 25s. i 30s. J* un perchyli, deufia oed oddlwrth yr hwch, 14S. I 18s. yr un hychod (heb fagu), 2p. 10a. 3p.; porkers, lis. i lis 6c. yr ugaln pwye. Ymborth.—Ymenyn ffres, Is. 5c. i Is. 7c. y PWys; caws (goreu), 10c. y pwys; caws y Pwys j wyaii, 9c. y dwsln j to*l*, 4s. i 5a. J cwpwl.
Yr Ymrafael yn Ngogledd Cymru.
Yr Ymrafael yn Ngogledd Cymru. Ymddengys fod y bwrdd cyflafareddol a benodwyd i benderfynu y ddadl rhwng meistri a gweithwyr y glo yn Ngogledd Cymru yn methu cyduno gyda golwg ar swm y gostyngiad. Y maent felly wedi ethol Mr. Horatio Lloyd, Q,.C., yn gaDolwr, Decbreua y boneddwr dysgedig i eistedd i y Z5 wrando yr achos heddyw (dydd Gwener)
lawn Trwm yn erbyn y Great…
lawn Trwm yn erbyn y Great Western Railway eto. Y mae y cwmni hwn wedi cael ergydion trymion yn ddiweddar, ac at y lleill, dyma un arall eto yr wythnos hon mewn canlyn- iad i'r ddamwain yn Merthyr mis Mai diweddaf. Yr erlynwyr oeddynt John ac Elizabeth Beard, gwr a gwraig o Bont- ypridd. Y wraig niweidwyd yn y ddam- wain hono. Hawlient oddiwrth y cwmni 3000p. Derbyniodd hi niweidiau trymion, a rhoddodd mewn canlyniad i hyny enedig- aeth anamserol i faban. Wedi clywed y tystiolaethau, penderfynodd y rheithwyr, y rhai a gyfarfyddasant yn Llys y Sirydd, Pontypool, fod y cwmni i dalu 700p. o iawn.
"Andrew Johnson.
Andrew Johnson. Bydd i'n darllenwyr gofio i'r gwr uchod gael ei wneyd yn Arlywydd y Talaethau Unedig, drwy ergyd angeuol o law lofrudd- iog Wilkes Booth, yr hwn a gymerodd ym- aith fywyd y dyn da a rhinweddol hwnw, Abraham Lincoln; ac er i drychineb mor erchyll ei ddyrehafu i'r swydd uchaf yn y wlad, nid hir y bu cyn cam-ddefnyddio y gallu a ddaeth yn ddamweiniol i'w fedd- iant. Cafodd ei ethol yn is-Arlywydd gan y blaid Werinol, yr hon oedd yn credu ei fod yn egwyddorol yn ei wrthwynebiad i gaethwasiaeth a thrais, ac wedi gwneyd ebyrth personol er mwyn annibyniaeth, cyfiawnder, arhyddid. Yr oedd yn natur- iol ar y pryd iddi gredu felly am dano, er fod llawer yn ameu mai poblogrwydd, ac elw personol oedd yr achos i Johnson adael y Democratiaid; canys yr oedd y blaid Werinol yn boblogaidd a dylanwadol ar y pryd, ac yr oedd yntau yn hoffi bod gyda'r mwyafrit poblogaidd. Yn fuan ar ol i'r llofrudd Booth wneyd Johnson yn Arlyw- ydd, a bod cyfleusdra campus o'i flaen i ddal ei afael yn y gallu oedd yn ei fedd- iant; ac mewn canlyniad trodd drachefn yn Ddemocrat penb. eth a dialgar. Cred- odd fod y Talaethaft Deheuol a Democrat- iaid y Gogledd yn sicr o ymuno yn blaid gref, fyddai yn alluog i ysgubo pob peth o'i blaen ac mewn canlyniad dechreuodd ddadwneyd gweithrediadau Gwerinol Ab- raham Lincoln. Yr oedd Lincoln wedi dangos doethineb a gofal mawr wrth benodi swyddogion gwladol, er lies cyffredinol y eyhoedd; ond penderfvnodd Johnson eu diswyddo, a sefydlu Democratiaid yn eu lie; ac aeth yn mlaen i greu chwyldroad ac annhrefn drwy holl adranau y llywod- raeth, ac i drawsfeddianu galluoedd nad oedd, y Cyfansoddikd yti eu gwarantu iddo a hyny gyda'r fath feiddgarwch nes y dygodd y Gydgyngorfa gyhuddgwyn yn ei erbyn a chafodd ei wysio fel troseddwr i sefyll ei brawf. Profwyd ef yn deg, ac yr oedd ei euogrwydd mor amlwg a haul ar haner dydd; ond drwy lwfrdra, os nad llwgr wobrwyaeth, achubwyd ef rhag barn condemniad gan un bleidlais. Gellir iawn farnu oddiwrth ytalfyriad yna o hanes ei fywyd cyhoeddus, faint o ymddiried a deilynga fel gwladwriaethwr. Etholwyd ef i Senedd y Talaethau Uned- ig gan Ddemocratiaid Tennessee; ae ar yr 22ain cynfisol, cymerodd y llawr i draddodi araith ar helyntion y wladwriaeth, mewn cysylltiad a'r penderfyniad i gefnogi gwein- yddiaeth yr Arlywydd, yn ei chysylltiad a'r terfysgoedd Deheuol. Dechreuodd drwy ddweyd ei fod yn teimlo dan lawer o anfanteision i siarad, er ei fod yn arfer gwneyd hyny o flaen y cyhoedd yn gystal ag mewn cynulliadau dadleugar. Nid oedd ond byr amser er pan ddaeth i'r Senedd, a phenderfynodd beidio eymeryd rhan yn y dadleuon; ond yn awr yr oedd ganddo res- ymau dros newid ei enw. Nid hir y bu yn siarad cyn dechreu ymosod yn haerllug ar yr Arlywydd a'i swyddogion, ac yn enwedig y Cad. Sheridan, tuagat yr hwn y teimla yn elyniaethus ryfeddol. Dywedodd fod yr Undeb mewn perygl oddiwrth draws- lywodraeth a Ilygredigaetb, ae ni wel efe y drygau hyny yn un man ond yn ngwein- yddiaeth yr Arlywydd, yn y blaid Werinol, ac yn y Gogledd bid siwr. Mae yn amlwg y rhaid i bob un a ddarlleno yr araith ddy- fod i'r penderfyniad nad ydyw ond rhigma- rol afler, anmhehderfvnol, a chwmpasog. Cyfeiria mewn modd hunanol at ddau gyf- nod yn ei weinyddiaeth ei hun, pan oedd yn Arlywydd, i ddangos pa fodd y gweith- redodd y llywodraeth mewn achosion eyffelyb i'r rhai a gymerasant le dan weinyddiad Grant, a hyny i'r dyben o annghymeradwyo yr Arlywydd presenol. Awgryma hefyd idjflo ef symud y Cad. Sheridan o Louisiana yn 1867, oherwydd fod ei ymddygiadau yn dramgwyddus i'r bobl, nes oeddynt yn barhaus mewn dwfr poeth ac mae yn syndod iddo fod yr Ar- lywydd Grant wedi anfon yr un person yno eto. Ni raid i bobl Louisiana na phobl un- rhyw le arall gwyno oherwydd presenoldeb swyddog perthynol i'r llywodraeth os ym- ddyg'ant yn weddaidd, gan barchu ac ufuddhau y deddfau; ond os terfysgwyr a throseddwyr fyddant, diau y bydd i bresen- oldeb milwr ffyddlon. fel Cad. Sheridan, eu cadw mewn dwfr poeth yn barhaus. Mae Mr. Johnson yn cwyno yn rhyfeddol oherwydd na fuaSai tadau y wlad wedi gosod amod yn y Cyfansoddiad i wahardd yr Arlywydd i dderbyn anrhegion oddi- wrth ei edmygwyr; a barna fod yr anrheg- ion gafodd yr Arlywydd Grant, megys cerbyd a phar o geffylau, wedi gwneyd niwed mawr i'r wlad! Diau fod yn an- ? mhosibl i'r un diewin ddyfalu pa gysylltiad oedd rhwng yr anrhegion a roed i'r Arlyw- ydd Grant a'r terfysg yn Louisiana, yr aflywodraeth cyffredinol yn y De a chad- wraeth y Cyfansoddiad. Mae yn amlwg oddiwrth araith gyntaf Mr. Johnson yn ei sefyllfa newydd, nad oes llawer i'w ddys- gwyl oddiwrtho, heblaw ymosodiadau haerllug ar y weinyddiaeth ac egwyddorion y blaid Werinol. Yr oedd yr araith yn fethiant amlwg yn mhob peth —Drych.
Advertising
SPRING FASHIONS, 1875. HENRY LEWIS WILL RE-OPEN HIS SHOWROOMS On Tuesday Next, May 4th, With the Latest Novelties in Millinery, Costumes, Skirts, Mantles, Dresses, Silks, &c. 11, COMMERCIAL PLACE, ABERDARE. ,'Y Gwir yn erbyn, Byd. Yn enw Duw a ph b daioni.' EISTEDDFOD QAi ABJSJB TAWE. CYNELIR yr Eisteddfod uohod yn y Music HAIL, DYDD LLUN SUIGWYN, 1875. Llywydd, DR. KENEALY, Q 0., Llundaia. Arweinydd:—Gwilym Davies, Ysw., Byllfa House, Abercrave. Beirniaid y Ganiadaeth :—Eos Morris, a'r Mri. David Jenkins, Trecastell, a D. Bowen, Dowlais. Beirniad y Rhyddiaeth a'r Farddoniaeth:- Mr. D. W.Jones (Dafydd Morganwg) PRIF DESTYNAU Barddoniaeth. — Am y Bryddest oreu i'r "Pagan." Gwobr, £10, a chadair hardd. Caniadaeth.—1. I'r Cor, heb fod dan 100 o rif, a gano yn oreu Y Dauchwa" ( Uaw Ddu), i'w chael gan I. Jones, Treherbert. Gwobr, £ 40, a darlan (oil painting) i'r arweinydd. 2. I'r Cor o'r un gynulieidfa, heb fod dan 5C o rif, a gano yn oreu Fy ngwlad," rhif 54 a 55 o'r Cerddor Cymreig. Gwobr, £ 15. 3. I'r parti o ugain a gano yn oreu, Com- rades in arms." Gwobr f3. 4 I'r Brass Band a chwareuo yn oreu Gloria (12th Mass), yn ol trefnlact R. D. Lacy, 10, Milbrook, Buxton-rd., London. £ 10. Y mae y programme, yn cynwys rhestr gyf- lawn o'r testynau, ynghyd aphob many lion, yn awr yn barod, ac i'w gael am y pris arferol gan yr Ysgrifenydd, MORGAN THOMAS, Penrhos, 868 YstradgynlalB, Swansea. Gm:" u arf a rfaif I wr fo yw arf d. sg. CHWECHFiD EISTEDDFOD FLYN- YDDOL CARMEL, TREHERBERT. pYNELIR yr EISTEDDFOD uchod yn y NElJADD GYHUEDDUS, Djdd. Sadwm, (Nsdolig) E.hagfyr 25 ]875, pryd y gwoorwyir yr ymgeisw;r fendtipgoi mewn rhyddiaethj barddoniaeth, a chaniadoeth. LZywydd-Parch, D. Thomas, Tonypandy.4 Beirniad y Rhyddiaeth a'r Farddoniaeth — Parch. R Williams (Hwfa Mots), 10, Claylands Road, South Lambeth, London. Beirniady Ganiadaeth, &c.—D. Rosser, Ysw., Aberdar Rh-str o'r Testynau:- 1 Am y Traethawd goreu ar Ddylanwad y naill ddargai fyddiad celfvddydol ar y Hall, a dylanwad yr oil ar wareiddiad." Gwobr, lOp. 2 Am y traethawd goreu ar Y gwenithyn, o'r eginyn i'r doith." Gwobr, 3p. 3s. 3 Am y Bryddest oreu (heb fod, dros 500 llinell) ar Yr efengyl" Gwobr, 5p. 5s. 4 Am y Cywydd goreu (heb fod dros 150 o linellau) ar Abraham yn offrymu Isaac." Gwobr, 3p. 3s 5 Am yr englyn goreu (yn cynwys y pedwar enw) i'r Hen Fryni&u canlynol: Pen Bwlch Careg, Pen Bwlph Gwion, Pen Bilwgan, a Phen Pjch. Gwobr, gan Mr Thomas Jenkins, 10s. Ymddengya y lleill o'r testynau yn y dyfcdol. D S.—Y eyfeneoddisdau i fod yn llaw y Beirniad cyn Tach. laf, 1875, gyda ilngenwau yn unig. 991 BEES T. WILLIAMS, Ysg. TWENTY-EIGHT DAYS' SALE, AT No. 3, WHITCOMBB PLACE, Aberdar e. • EDWARD BUBKLE, PAWN-BKOKEB, OUTFITTER, ETC., WILL tffar for Sale, at a GREAT REDUC- TIN in Price, a large and well-selected Stock of BBADT-MADE CLOTHING, Consisting of Mtn, Yotstbs, tlni Boys' Suits. Shif ts, Hats Caps, Scatves, Ties, Hosiery, Umbrellas, Q n;tf>, Blwkets, and a large Stock of BOOTS & S HOKS. E. B. has aL*o »a LAR^e quantity of UN- REDEEMED PLEDGES, which will be sold at HALF PRICE Through the distress caused by the strike, the P ed^lna business has In. creased so rapidly, that the above must be cleared out tJ mske room for fresh goods. Sale to commence April 3rd, 1875. Note the Address-3, WHITCOMBE PLACE, opposite the Queen's Hotel, Aberdare. 927 Newydd ei gyhoeddi, pris tair ceiniog, Sobrwydd a'r Good Templars, Gan JOHN DAYIES, Soar, Aberdar. I'W GAEL gan y Llyfrwerthwyr yn Merth- yr ac Aberdar. Anfonlr unrhyw nifer ar dderbyciaO^ eu gwerth mewn stampiau dimai. Pob orde-s i'w gyru i'r Cyhceddwr, Mr. JOSEPH WILLIAMS, Swyddfa'r Tyst a'r Dydd, Meithyt. Rhoddir yr elw arferol i Lyfrwerthwtr. 981 5,000 o Weithwyr yn Eisieu!! YMFUDIAETH B.&D I QUEENSLAND. YN ElSI EU, 5000 o Lowjr, Mwnwyr Chwarelwyr, Orefftwyr, Amaethwyr, Bugeiliaid. Garddwyr, Peiritnwyr, Seiri Coed, Seiri Meini. Seiri Llongau, Wheelwrights, &c, i ymfudo i Queensland, Awstralia, ar Delerau RHAD a Chynorthwyol Gellir cael pob manylion o barthed i'r cludiad, manteis- ion y wiad, c flogau, &c, gan Mr. W. J. Presswell a Mr Jolu James, Crown Hotel, Aberdar. Mae Goruchwylwyr 11001 he£vd wedi eu penodi yr mhob ardal yn Nghwm Rhondda a Phontypridd, y rhti a weithredant ar ran Mri. James a Press well. 978 ELIM, MYNYDD CYNFFIG. CYNELIR EISTEDDFOD yn y lie uchod yn mis Gorpheuaf n<-saf, pryd y gwobr- wyir y baddngwyr ar y testy?iau canlynol 1 I'r Cor, heb fod o dan 80, a gano yn oreu "Worthy is the Lamb," o'r Messiah. Gwobr, 20p. 2 I'r Cor, heb fod o dan 40, a gano yn oren "0, Gymra anwjlaf," o'r Cerddor. Gwobr, 5p. BEIRNIAID. Bydd dan Feirniad. Rees Price (Ap Mawrth) fydd nn; hyebysir eto pwy fydd y llall, yn nghyd a'r dydd y cynelir yr Eietedd- fod.—Dros y Pwjllgor, RXES RBES, ) Tsgrifen- 1007 'WM. MORGAN, yddlon. (Gohiriad.) TEMPERANCE HALL. TREDEGak Dan uawrid C. A. BEOWNE, Taw., I H. JONES, TSW., O. HUNTER, YSW., I G. A. HBOWI-E YSW. piYNEiiR EISTEDDFOD yn v h- uchod, DYDD LLUN, ATTST 9fe->, 1875 PRYD y gwobrwwir y buidug-sryr mewn Traethodan, Barddoniaeth, a Cherddoiiaeth. Beirniad y Rhyddiaeth a'r Fard lotaaeth,— y Parch. R. ELLIS (Cyndde'w), Ca carton. Y Gerddoriaeth, Mr. SILAS EV„ ( ynon), Abertawe. PRIF DDARNAU CORAWL,— 1 "Ardon o fiaea gwyntoedd," gwob-r jfil5, a metronome h.a-dvi i'r ui".vei .j'cld, gwettb. :£2. 2 I'r Cor, heb fod dsn 4) mev i lhif. a gaso oren "Lead on lead on," o'r r ud, s (Hahdel), Novello's Edition, gwobr .1]5, Mae Programme, yn cynwys yr holl fsnylion, i'w gaelaiu geicio^ a dimai g-an yr ysgrifenydd, DAVID WILLIAMS, 316 Row 24ih, 1022 Sirhowy, Tredegar. BAR jAINS! BARGAINS!! BARGAINS I!r The Stock Taking SALE OF DRAPERY GOODS A T HENRY LEWIS, 11, C rcmerclal Place, Aberaare. will continue for another TEN DAYS. 959 TBBOBOI. "Tra Mor tra Brython "Mor o Gan yw Cymru Ghjd." T> YDDED hysbt s i holl Gyrnrn benbaladr y cynelir Ail EISTEDDFOD FLYN- YDDOL Y BRYTHONIAIO yn Ntxreorol, ar y Dydd Linn < yntaf yn wst, 1875, er cadw mewn cof Faddugollasth y Cor Cymreig yn J.Jundain yn 1873. Yr elw as gael Public Hall a Turkish h&th yn Nhreorci. CERDDORIABTH. 1 I'r Cor o'r un vtynuileidfa. heb fod dan, 60 mewn rhif, a gano yn oreu yr ail chorus o'r Creation, ''Achieved is the glorious w^rk;" i'w ohanu ar y geiriau Cymraeg, "Ar ben mae'r gogoneddua w&ith." Gwobr, 25p. 2 I'r Cor o'r un Gynulleidfa, heb fod dan 50 mewn rhif, a gano y i oreu Llawenyohwr:, garfoleddwi)," o Cantata Gwilym Gwent. Gwobr, 12p. 12a. 3 I'r 21 mfcwn rhif a ganont yn oreu "Can Caradog," gsu Alaw DJu. I'w chael gaa Isaac Joiiee, ar^rafiydd, Treherbert. Gwobr, 5p 5s. Ymddengys rhai o'r prif ddamau mewn rhifynau dyiodol, yn ighyd ag etwiu y beirn- iaid. Bydd y Programme yn barod yn fuan, yn oynwyø yr hell destynaa. TESTYNAU YORWANBIOL. Am yr Awdl oreu ar Wanwyn Elnioe8,'r heb fod dal 300 Iline l, na, thros 400. Gwobr, õp., a ch>dair gwerth 3). 3s. Am y Gâ.l os eu i'r Urwydryn," heb fod dan 60 llinell, na thros 80. Gwobr, lp. I s. Am y Gan a Chydgaa oreu, gwel y Pro- gramme. (iwobr, lp. is. Beirniaid y canu, EOS MORLAI3 a LLEW TAWE. Beirniad y Farddoniaeth, y Traethawd, a'r Adroddiadau, ao arweinydd yr Eisteddfod, fydd MYNYDDOG Bydd y p.rogram71£e8, yn cynwys yr holl f&n ylion, yn ba, od erbyn y cyntaf o E brill i'w gael drwy y Post ar dderbyniad daii stamp ceintog.-DroB y Pwyllgos, J DEFYN JONES, LIywydd. R. MAN 1-ELL THOMAS, ) Trysor- G R JONES (Carad, g), yddioru W. WILLIAMS, Canfion Honss, ) v D. SKYM (Dewi Araul), ) 1008 M6r o gan yw Cymru i gyd." AIL EISTEDDFOD FLYNTDDOL GELLIONEN, GER PON TA RDAWE. CYNELIR yr Eisteidfod uchod, DniD LLUN SULGWYN, 1875, prvd y T wobrwyir yr ymgeiswyr buddugol ar y testynau canlynol. Am y Traethawd goreu a.r y Camddealldwr- iaeth rhwng y Meistri a'r Gweithwyr," gwobr lp. Is. Am y Bryddestoreaar "YBedd," gwobr lp. Is. Prif ddarn Coratvl. I'r C6r, heb fod dan 40 mewn rhif, a gano oreu "Y Blodeuyn ohf," rhif 10, Cerddor Cymreig gwobr ICp, a Chadair hardd i'r arweinydd. Beirniad y cyfat soddiadiu, Arweinydd. &c. Y Parch. D. ONLLWYN BRACE, Pantycrwys. Beirniad y Ganiadaeth,—Mr. SILAS EVANS, (CyaoD.) Programmes yn barod, ac i'w cael am lie., gan yr Ysgrifenydd, LEWIS HOPKINS. Onthelid Farm, 964 Nr. Ciydach, Swansea. MONEY TO BE LENT, in Town or Cuurtry, to c-ntU 6-a, FalmersJ Tradesmen, or orhc re, fr ici FIFTY POUNDS and upwards apon personal ceccrity Interest, five per osnt. p, r annum, f, om one to seven years. No commission or charges mt-do Also, sums of ONE THOUSAND POUNDS on mortgages., at three and a half par cpnt. on freehold or leasehold property, alid fo: any tetill not cxcteding twenty-one years —Apply TO MR HTSNRY HOWARD, Civ;I Eig ae rand Survay r (late Glrdlestoce & Berkley; 11, EUSTON SQUABE. LONDON. 1020 Gohiriad EISTEDDFOD IFORAIDD ABERDAR, MEWN Pwyllgor 0, ffredhwl a g,, nallwyd, i»J- yn Calvaria Hall, yr 31aiu cynfisol, penderfynwyd GOHIRIO dydd cynaliad yr Eis- teddfod uchod. Bydd i'r pwyllgor benodi yr adeg, yn nghyd a thestynau ychwanegol, mor faan ag y terfynir yr annghydwdediad presenoL Hyderir na thramgwyddir neb o herwydd yr angenrheidrwydd hwa. Ar ran y pwyllgor, D. R. LBIWIS, Ysg, Ebiill laf, 1875. 1018