Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

BWRDD YSGOL CILYPEBYLL.

Advertising

CYMERADWYAETH I TEMPERANCE…

Advertising

[No title]

News
Cite
Share

MAESTEG.-Nos Fercher, yr 16eg cyfisol, cyflwynwyd tysteb i Mr William Treharne, o'r He hwn, gan aelodau cyfrinfa "Silurian," Undeb Manceinion, am el ffyddlondeb a'i ofal dros y gyfrinfa, am lawer o flynyddoedd. Gwyr pawb ag sydd yn adnabyddus a W. Treharne, am ei dalent a'i ffraethineb mewn cymdeithas, mae ynddo gymhwysder nodedig fel siaradwr, ac anaml y cyfarfyddir a'r fath arabedd. Fel cydnabyddiaeth, telmlodd ei gydaelodau y dylasent gydnabod ei lafur, a phenderfynwyd el anrhegu ag oriawr dda, a chadwyn aur, ac ar y noswaith uchod ym- gyfarfyddodd amryw o frcdyr i gyflwyno'r anrheg. Cymerodd Mr J. Williams, Iron- monger, y gadalr, a Mr W. Allsop yr is-gadair. Areithiodd amryw o'r brodyr ar deilyngdod y brawd i gael cydnabyddiaeth am ei ffyddlon- deb a'i ddiwydrwydd i gyflawni unrhyw was- anaeth a allai er lies y gyfrinfa. Darllenodd Mr N. Dyer, yr anerchlad, a chyflwynodd yr oriawr a'r gadwyn i'r brawd mewn araeth fer a chynwysfawr. Traddodwyd amryw benillion ar yr achlysur gan Llyfnwy ag eraill. Wedl derbyn yr anrheg, amcanodd y brawd W. Treharne, gyflwyno ei ddiolcbgarwch i'w gyfeillion am eu hewyllys da, ond er cymaint ei ddawn slarad, methodd gan deimladau a serch at ei frodyr, a phrlodol yw dywedyd, "Parhaed y brawdgarwch."—ODYDD. HIRWAUN.—Digon difywyd ydyw y lie hwn er's blynyddau, ond y mae arwyddion yr amseroedd yn darogan dyfodol addawol eto. Tra gwahanol ydyw yr olwg a geir ar weith- faoedd haiarn ylle hwn yn awr i'r hyn oeddynt pan oeddwn yn llanc. Y pryd hwnw yr oedd bywyd yn ymwiago yn holl olwynion masnach y lie, ond heddyw nid oes ond marweldd-dra yn delweddu yn arwynebedd y ffwrnesau a'r cyfan oil; ond hyderwn fod gwawr yn yr ymyl, pryd y ceir gweled olwynion masnach yn chwyrnellu yn eu rhwysgfawredd eto, fel yn y dyddiau gynt yn amser yr hen F. Crawshay. Eto erfod marweidd-dra fel hyn wedi meddianu yr hen Ie, y mao bywyd yn chwareu el adenydd ar barwydydd y gym- deithas lenyddol, a becbgyn dewr yn cael eu magu ar ei haelwydydd, a phob arwyddion yn ymddangos y byddant yn binaclau cedyrn yn y cerbyd llenorol. Y mae temlau iechyd i'w cael mor bur ar Hirwaun heddyw ag erloed. Un o'r cyfryw a geir yn mherson y Cymro tryloyw, y cyfaill cywir, ffyddlon, a disyfl, Mr. T. E. George, fferyllydd, awdwr y pelenau anmhrisiadwy hyny at y piles a'r gravel. Dyma un o'r bendithion mwyaf i ni fel dos- barth gweithiol, a phob dyn sydd yn dyoddef o dan arteithiau dirdynus y dolur hwn.- ERYB. MORGANWG. PONTYPRIDD.-TESTYN SIARAD.- Yn arosfa Rheilffordd Dyffryn Taf, dydd Sadwrn diweddaf, y gair neu y gelriau oedd ar dafod pob un oedd, "A ydyw y glowyr wedi settlo 1" Gyda'r gerbydres haner awr wedi pedwar, daeth y newydd gogoneddus bod y glowyr yn myned i weithio boreu dydd Llun; ond fel y mae yn alarus i'r teimlad, ac yn ofid i'r newynog, daeth newydd mwy trwm a thor- calonus gyda'r train haner awr wedi salth, a gallesld meddwl bod y fath newydd yn newid Uawer gwedd oedd cyn hyny yn dyner a siriol ei golwg.—DIRGELWCH.—Dydd Gwener di- weddaf, cymerodd yr Arolygwr Matthews i'r ddalfa un Sarah Rees, merch ieuanc o'r dref hon, am guddio genedigaeth ei phlentyn. Y mae hi yn gwadu y cyhuddiad, er fod y ddau feddyg galluog, Morgan a Leckie, yn profi ei bod wedi esgor ar blentyn yn ddiweddar lawn. Dydd Mercher nesaf, daw y cyhuddiad o flaen yr ynadon, pan y gailaf roddi hysbysrwydd ychwanegol i'r darllenwyr.—I. G. Cothi. TABERNACL, FOXHOLE.- Dyddlau Sadwrn, Sul, a'r Llun, 12, 13, a'r 14 o Awst, 1871, oedd dyddlau o lawenydd a mwynhad hir-ddysgwyliedig gan Fedyddwyr y lie uchod. Dyma adeg ddedwydd i gyhoeddi ein Jubili, sef llwyr ddilead dyled ein Tabernacl pryd- ferth. Nos Sadwrn, dechreuodd a phregethodd y Parch D. Hughes, Pensarn, Swydd Fon. Boreu Sabboth, dechreuwyd gan y Parch D. Thomas, Llanelli; a phregethodd y Parchn D. Thomas, R. A. Jones, Abertawe, a L. Thomas, D.D., Castellnedd. Am 2, dechreuwyd gan y Parchn D. Thomas, Abertawe; a phregethodd Hughes, Pensarn, a Jones, Abertawe. Am 6, yn yr hwyr, dechreuodd y Parch T. Francis, Treforis; a phregethodd Hughes, Pensarn, a Dr Thomas, Castellnedd; nos Lun, dechreu- wyd gan Mr Williams, o Athrofa Hwlffordd, a phregethodd y Parchn Gwerfyl James, Treforis, ac Edwards, Pontardawe. Yr oedd pregethau y brodyr anwyl yn afaelgar ac effeithiol, y cynulliadau yn lluosog, &c. Oyf- arfodydd o'r fath oreu a gawsom ar yr achlysur dyddorol. Yr oedd dylanwad y weinidogaeth yn gyfryw nad anghofir yn fuan gan y rhai oedd yn gwrandaw y Gair. yn cael ei bregethu gyda'r fath rwyddineb a nerth. Diau fod Duw yn y lie, fel y gallwn ddweyd "Yr Arglwydd a wnaeth I ni bethau mawrion, ac am hyny yr ydym yn llawen."—GOHEBYDD. TREFORIS.—CYFLWYNIAD TYSTEB.-N os Lun, Awst y 12fed, cyfarfu Oyfrinfa Cywir Frython" yn yr Union Inn, Treforis, ilr dyben o gyflwyno tysteb i'r brawd John Harris, sef brenin yr Alffrediaid, a brawd y Parch. Isaac Harris, Mynyddbach gynt, a spectol aur, a'i lun wedi el dynu yn hardd mewn oil painting, ac anerchlad wedi el fframlo, yr hon a gyfan- soddwyd gan y brawd Thomas Francis, Tre- foris, a hyny am ei ffyddlondeb a'i ymdrech mawr gyda'r Alffrediaid. Y mae Mr. Harris wedi ymdrechu i agor tua 18 o gyfrinfaoedd trwy ddyffryn Tawe a'r cyichoedd, ac wedi gwario llawer o arian o'i logell ei hun wrth ymdrechu eu hagor, ac fe welodd Alffredlaid dyffryn Tawe mai buddlol oedd dangos parch i'r hen frenin am ei ymdrech difllno yn ei hen ddyddiau o blaid Alffrediaid, ac nas gallent rhoddi dim yn well na spectol iddo, er ei gy- northwyo tra yma yn yr anial. Y mae y brawd hwn wedi llafurio llawer, ac er fod ganddo luaws o elynion, eto y mae yr hen arwr fel craig gallestr, yn dal i weithio yn ddewr. Dywed ef el hun y bydd iddo weithio fwy yn awr nag erioed, os y cai iechyd ae einioes. Hir oes iddo.—IEUAN GLAN TAWE. CWMLLYNFELL.—Dydd Iau, y lOfed cyfisol, cynaliwyd cyngherdd fawreddog mewn pabell, ar le henafiaethol a elwir Tomen Owen, yn agos i'r lie uchod. Cyfod- wyd y babell, yr hon oedd yn ardderchog yn ei ffurf a'i hadeiladaeth, ac mewn maintioll a chadernid yn tra rhagori ar ddlm a welwyd erioed yn y cymydogaethau hyn o'r blaen, ar lechwedd cyfleus, fel y gallal y naill o'r gwrandawyr fod ddigon uwchlaw y llall, a phawb mewn cyfleustra rhagorol I weled a chlywed y cwbl. Y cadelrydd yn y ddau gyfarfod oedd G. B. Brock, Ysw., o Abertawe. Ar yr esgynlawr, yr oedd lluaws mawr o foneddigion cyfoethog, a masnachwyr o fri, o Abertawe, Ystalyfera, Brynaman, &c., Prif wroniaid y gyngherdd oeddynt Mynyddog, Eos Morlals, Asaph Glan Dyfi, yn nghyda'r Wern (Ystalyfera) Glee Party, o. dan arwelnlad Mr. M. Morgans, Glantawe. Y mae enwau y gwroniaid yna yn ddigon o warantiad fod y gyngherdd o radd uchel. Anerchwyd y cyfarfod ar droion gan y cadeirydd enwog, yr hwn sydd yn teilyngu clod dau ddyblyg am ei ffyddlon- deb parhaus i wella sefyllfa wladol ac addysg- iadol yr ardal hon. Y mae clod mawr hefyd yn deilwng i'r personau a ffarfient y pwyllgor, am y llafur a'r trafferth mawr yr aethant iddo 1 gael heol o Gwmtwich i Gwmllynfell at yr hwn achos yr oedd elw deilliedig y gyngherdd yn cael ei drosglwyddo. Cyn terfynu, cynyg- iwyd diolchgarwch y cyfarfodydd i'r cadeirydd gan y Parch. T. Walters, D.D., Rector, Ystrad- gynlais, yr hyn a roddwyd gyda brwdfrydedd o'r mwyaf. Trodd y gyngherdd allan yn llwyddianus lawn, a phaham lai, gan fod yr amcan mor deilwng. Cafodd peirianau chwerthyn y gynulleldfa hwyl o'r fath oreu with wrandaw y gwr a'r balch drain.-CYLLIN. PONTARDAWE.—Awst y 13eg a'r 14eg, cynaliodd y Methodistlaid Calfinaidd eu cyf- arfodydd blynyddol yn y lie uchod, pryd y gweinyddodd y Parchn. M. Morgans, Aber- dar; E. Edmunds, Abertawe; a D. Howells, Abertawe. Gobelthio y bydd i'r had da a hauwyd gynyrchu ffrwyth yn y winllan.- DAMWAIN.-Ar yr lleg cyfisol, cyfarfyddodd plentyn byehan a'i ddiwedd trwy syrthio i'r gamlas a boddi. Mab ydoedd I W. a Fanny Dood, o'r lie hwn. Claddwyd ef y Llun can- lynol yn Eglwys St. Peter.—Y STRIKE.—Yn gymaint a bod y GWLADGARWR yn dyfod o'r paithau hyny lle y mae y strike yn bresenol, ac yn profi ei hun yn amddiffynydd trwyadl I'r gweithwyr, yr wyf yn sicr y dylai pob glowr roddi parch i'w berchenog; ac y mae yn dda genyf weled y Cymro Gwyllt yn profi ei hun, yn "ngwyneb haul a llygad goleuni," ei fod am i'r glowr gael el lawnderau, a buan y delo hyny; neu os bydd yn rhaid i Samson roddi ei ffast ar yr ystyfnigwyr eto, fel y gwnaeth yr wythnos ddiweddaf, yr wyf yn sicr y daw ef a'r cyfryw i adnabod eu hunain, mai dynion y maent yn drafod ac nid ani- felliaid.—Tawenfryn. CHWECH HEOL.—DIANGFA GYFYNG — Prydnawn dydd Sabboth diweddaf, yr oedd tri o bersonau mewn cae cyfagos i'r lie uchod yn dilyn hen arferiad llygredig, sef yfedfetch. ing, fel y maent yn el galw. Pan yr oeddent yn prysur yfed, a phob un yn llawen lawn, dechreuodd yr awyrgylch dduo, y mellt i wibio, y taranau i ruo, a'r gwlaw i blstillo. Dychrynwyd hwynt i'r fath raddau nes iddynt weled eu sefyllfa yn rhy beryglus i aros yn hwy yn y fan hono; ac er gwneuthur eu hunain yn ddyogel rhag yr ystorm, ym- wthiasant i mewn o dan bont fechan oedd gerllaw, yr hon ar y pryd oedd yn berffalth sych. Yn ddiarwybod iddynt eu hunain, syrthiasant i afael cwsg; ac er holl danbeid- rwydd y mellt, a chroch ruadau y taranau, cysgasant, a chan fod y bont mor fechan, yr oeddynt yn ei llanw. Ond nid hir y buont yno cyn cael eu haflonyddu gan y dyfroedd, y rhai oedd wedi croni o'r tu uchaf iddynt, ac a lanwodd y bont ar unwaith; a chan eu bod hwythau a'u penau I fyny at y dwfr, a'r lie mor gyfyng, yr oedd yn anmhosibl iddynt drol yn eu holau, ac yr oedd y dwfr yn rhy gryf iddynt fyned yn mlaen. Pan yn y sefyllfa gyfyng hono, yn ffodus dygwyddodd fod per. thynas agos i un o honynt wedi dyfod i'r lie i edrych am dano, a thrwy lawer o ymdrech, llwyddwyd I'w cael allan.—Lime o'r Lk. HOREB, LLWYDCOED. — Cynallwyd cyfarfodydd urddiad Mr W. S. Davies, o Goleg y Bala, yn y lie uchod, ar ddyddiau Llun a Mawrth, y 7fed a'r 8fed cyfisol. Pregethwyd y noson gyntaf gan y Parchn B. Davies, Glandwr, a Proff. J. Peter, Bala. Borou dydd Mercher, pan oedd yr urddiad yn cymeryd lie, pregethwyd i ddechreu ar natur Eglwys gan y Parch D. Thomas, Gwernllwyn, Dowlais. Holwyd y gofyniadau i'r gweinidog ieuanc gan y Parch W. Edwards, Aberdar. Cyflwyn- wyd yr nrdd-weddi yn effelthiol iawn gan y Parch J. Thomas, Salem, Aberdar. Pregeth- wyd slars I'r gwelnldog gan ei ddiweddar Athraw, y Proff. J. Peter, ac i'r Eglwys yn darawiadol lawn gan y Parch E. Evans, Sklwen. Pregethwyd am ddau gan y Parchn J. Evans, Bethania, Dowlais, ag R. Rowland, Llansamlet. Am 6, gan y Parch Edwards, Aberdar, a'r Proff. J. Peter. Dechreuwyd y gwahanol oedfaon gan y Parchn E. M. Evans, Penderyn; D. Davies, Coly; a Mr R. L. Thomas, myfyriwr yn ngholeg Aberhonddu. Cafwyd tywydd hyfryd a dymunol, cynulleid- faoedd lluosog, pregethau grymus ac effeithiol, ac arwyddlon amlwg iawn fod yr Arglwydd yn roddi sel ei gymeradwyaeth gyda gwaith y dydd. Bydded bendith Duw ar yr aehos.- GOHEBYDD. CWMAFON.—Y mae yn llawenydd nid bychan genym weled y teimlad da sydd yn cael ei ddangos tuag at y cerddor a'r lienor, William Richards, (Afonwyson), yn y GWLAD- GARWR, mewn perthynas i'r gyngherdd ar- dderchog sydd i gael el chynal yn y lie uchod tuag at ei gynorthwyo i faithrin talent el blentyn ae nid yn unig yn y GWLADGARWR y dangosir y teimlad a'r parodiwydd i feithrln a chefnogi ein hanwyl gyfaill, ond y mae wedi meddianu trigolion y lie yn gyffredinoL Y mae hyn yn siarad llawer wrthym, gyfeillion, y gwobrwyir rhinwedd. Y mae W. R. wedi bod yn un o gefnogwyr ffyddlawn ein heis. teddfodau, ac wedi cynal llawer o gyngherddau er cynorthwyo llenorlon a cherddorion yn y cymydogaethau yma yn eu trallod. Gan hyny, na fydded i nl fod yn absenol o'r gyng- herdd ar nos Lun, Awst yr 28ain, neu ynta byddwn yn sicr o fod yn golledwyr; canys y mae presenoldeb y cerddor a'r llenor campus, Eos Llechyd, Silas Evans, yr Arfon United Choir, &c., yn dweyd wrthym y bydd yn un o'r cyngherddau goreu a gynaliwyd yn y lie uchod erioed. Dymunwn hysbysu y sawl a fwriadant fod yn bresenol am Iddynt I ofalu bod yn brydlawn, canys y mae y cardiau yn gwerthu fel y tan. Agorir y drysau am saith o'r gloch gan hyny, wyr Cwmafon, gofalwch am brydlondeb, neu ynte byddwch ar ol, o herwydd y mae Llyfnwy a llu o wyr y Maes- tec; yn dyfod draw I gefnogi cyngherdd y Welth Taffy.—NID HEN GARDI.

[No title]

AT GLEIFION ABERDAE, MERTHYR,…