Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Y CYMRY YN NGOGLEDD LLOEGR.…

[No title]

News
Cite
Share

MOKIAH, LLWYDCOED.—Vyjkoymad Anrheg. -Cafodd yr eglwys uchod ei hanrhegu a dau gwpan arian at wasanaeth y Cymundeb gan y boneddwr parchus Richard Edwards, Ysw., Fedwhir. Llawer o garedigrwydd y mae yr eglwys hon wedi ei dderbyn o bryd i bryd oddiar law y boneddwr hwn, ac welf un an- rheg werthfawr yli"yclfwaneg wedi ei 'chael, a theilwng iawn o efelychiad gan holl foneddig- ion ein gwlad, oblegyd gan fod neillduolrwydd a chysegredigrwydd yn perthyn i Swper yr Ar- glwydd, credwn y dylai y Uestri goreu gael eu defnyddio at y gwasanaeth goreu; y mae gan y byd ei lestri aur ac arian, ai tybed na ddylai yr eglwys gael y cyfryw? d gwell os byddai eu gwell i'w cael; ond y mae yr eglwys mewn llawer man yn gorfod byw hebddynt am fod y cyfoeth yn pallu; ond cafoijld yr eglwys hon yr anrhydedd o dderbyn rfeada mor fawr a hon gan y boneddwr ucjiq(j. Cynaliwyd cyf- arfod j.'r.pprwyl yn y Fedwiijr, nos 25ain misctfweddaf, a thraddodotld y ParchtE. Edmunds btegeth ar yr achlysur, a deimydd- iwyd y cwpawwi am y waith gyntaf, yn mlire- senoldeb y. boneddwr a'i-fain. Y rheswm i'r cyfarfod gael ei gvnal yno, ac nid yn y capel, oedd ei fod am i'w fam fod yn bresenol am y fro cyntaf yn eu defhyddiad, a ar y pryd yn an'alluog i d&'od ft &pel. Wedi i'r gwasanaeth fyned drosodd, siaradodd Mr. Ed- munds ar yr achlysur trwy ddatgan ei deim- lad tuag atynt fel teulu yn yr olwg ar y rodd werthfawr. Ar ei ol, cododd y boneddwr ei hun, a dywedodd na welodd eisieudimarodd- odd erioed, a bod y rodd ddiweddaf wedi d'od o'r galon fel y rhai o'r blaen. Ar ei ol cododd Mr. W. Charles, masnachydd, i ddatgan ei deimlad yntau yn yr olwg ar y rodd. Cod- odd Mr. Thomas Evans yntau i arwyddo ei ddiolchgarwch, a'r hen dad duwiol Edward Pugh, yr hwn a ddywedai ei fod yn adnabydd- us iawn o deulu y Fedwhir er's amryw flyn- yddau, ac na welodd ein heglwvsond y tirion- deb a'r caredigrwydd mwyaf oddiar law y teulu hwn o'r adeg hyny hyd yn awr, a'i fod yn credu fod y rhodd wedi dyfod o'r galon, a'n bod ninau fel eglwys yn dymuno gyda phob parch lwydd y boneddwr a'r teulu oil, ac y buasai yn caru cael y fraint o weled y boneddwr ei hun yn cyfranogi o'r Swper Sanctaidd. Ymadawodd pawb ar hyn a'u calonan yn llawenhau yn yr olwg ar y rhodd werthfawr ac anrhydeddus. ELIM, CWMDAR.—Cynaliwyd cyfarfod ail agoriad y capel uchod, ar y Sul a'r Llun, Awst 4ydd a'r 5ed. Pregethodd ar yr achlysur y Parchn. J. Thomas (Ieuan Morganwg), Caer- fyrddin; J. Davies, Taihirion; D. Price, Siloa, Aberdar J. Davies, Soar, Aberdar W. Tho- mas, Fochrhiw; D. Thomas, Abercanaid. Cafwyd pregethau grymus a dylanwadol, cv- nulliadau lluosog, A. chasgliadau da rhagorol. Er nad yw eglwys Elim ond bychan ac ieuanc, llwyddodd i gasglu erbyn yr agoriad dros £ 200. Mae hyn yn gasgliad gwych, pan y cofiom fod yr oil o'r eglwys yn weithwyr. Y mae golwg lewyrchus a gobeithiol ar yr achos yn y lie. Y mae eglwys Ebenezer yn deilwng' o ganmoliaeth neillduol am y nawdd y mae hi yn ei roddi i'r eglwys fechan hon. Hyderir y bydd nawdd y Goruchaf ar y fam a'r ferch. Hefyd, trosglwyddir diolchgarwch gwresog i'r holl eglwys fu yn estyn cynorthwy at y casgl- iadau.—CYFAILL. LLANYBRi.—CwMc! Iforaidd.-Dydd Sad- wm, Awst 3ydd, cynaliodd Cyfrinfa Caradog, o Urdd y Gwir Iforiaid, Undeb Dewi Sant, ei chwechfed gwyl flynyddol yn arwydd y Fuwch Goch, yn y He hwn. Cyfarfu yr aelodau am 11 o'r gloch yn ystafell y gyfrinfa, er trefnu eu hunain yn orymdaith rheolaidd, yn cael eu blaenori gan seindorf pres Gwirfoddolwyr Lladsawel, y rhai a chwareuent nes oedd dyff- ryn tawel Llanybri a glanau y Marlais yn ad- seinio. Aethom yn y modd hwn i gapel y Trefhyddion Calfinaidd, -lie cafwyd pregeth rhagorol ac i'r pwipas gan ein hanwyl frawd Ifyddlon, y Parch. David Morris, oddiar Mat. xxv. o'r 21 hyd yr 28. Wedi gorymdeithio trwy heolydd y pentref, dychwelwyd eilwaith 1 ystafell y gyfrinfa, er cyfranogi o'r giniaw rhagorol a barotoasid gan Mr. a Mrs. Walters, y gwestywyr. Wedi i bawb gael eu digoni, symudwyd y llieiniau, ac etholw'd y Parch. D. Morris yn. gadeirydd, yr h'.vn, yn ol ei fFraethineb arferol, a lanwodd ei swydd yn anrhydeddus. Yr oedd y canu, yr adrodd, a'r areithiau oil yn hynod o ddestlus, a threul- iasom ddwy awr o amser mor ddifyr, llawen, ac adionol a dreuliasom nemawr erioed. Ym- adawyd hefyd yn brydlon, wedi ein llwyr foddloni yn ngwaith y dydd. Iawn yw dy- wedyd fod y gyfrinfa hon yn argoeli yn dda yn y dyfodol, ac amryw o ieuenctyd yr ardal vn ymuno a hi yn barhaus.—RHYDDERCH, TILANYBRI. CWMOGWY, GER PENYBONT.—Am haner awr wedi 10 o'r gloch boreu dydd Sadwrn, 27ain o'r mis diweddaf, dygwyddodd damwain alarus yn y cwm hwn wrth weithfa a elwir Tynew- ydd, perthynol i Mri. Bragden & Co. Rhyw- fodd dygwyddodd i ddramlawn yn ddamwein- iol rhedeg o ben yr incline yn wyllt, fel y dy- wedir a chan fod yr incline yn fyr, ni chaf- wyd ondy peth nesaf i ddim o rhybudd; felly pan gyrhaeddwyd yn y gwaelod yn ei gor- wyllter, tarawodd ddyn oedd yn gweithio ar y screen, enw yr hwn oedd Richard Landers, tua deg Hath dros yr ysgaffaldau i'r ochr arall i'r rheilffordd. Gadawyd y rhan farwol gan yr anfarwol yn mhen tua phum mynyd wedi y iddo ddisgyn. Brodor o Bristol ydoedd.' Yr oedd yn 40 mlwydd oed. Gadawodd wraig ac un plentyn i blaru ar ei ol. Dywedir-imi mai hwn oedd y cyntaf a gyfarfyddodd a'i ddiwedd yn y cyfryw fodd yn y cylchoedd, er fod yma yn awr ganoedd o ddynion yn enill eu lluniaeth drwy eu llafur caled.—AB DAF- YDD. GROESWEN. Ysgol Frytanaidd.—Cynal- iwyd eyfarfod tra dyddorol mewn cysylltiad a'r ysgol hon dydd Mawrth, y 6ed o'r mis hwn. Bu Mr. Williams, Llanelli, yma ynar- holi yr ysgolheigion, ac y mae yn hyfrydwcli mawr genym allu hysbysu i'r boneddwr gael graddau helaeth o foddlonrwydd yn atebion yr ysgolheigion. Ty stiai ele fod yr ysgol hon yn un o'r rhai mwyaf bledeuog a gobeithiol, ag ystyried yr amgylchiadau yn Nghymru. Dygodd ganmoliaeth uchel i alluoedd Mr. Jones, yr athraw. Dywedai fod yn hawdd gwybod fod yr ysgolheigion a'r athraw yn hoffi ac yn mawrygu eu gilydd. Dymunwn ninau i Mr. Jones hir ddyddiau o iechyd a hawddfyd iddo yn yr ardal brydferth a dydd- orol hon. Wedi rrarholiadfyned drosodd, eisteddodd 300 rhwng teulu'r vsgol a'rcymyd- ogion, i fwynhau gwledd ardderchog o de a bttra brith; ac y mae "gwragedd anrhydeddus y Grfreswen" yn deilwng o glod mawr am eu medrugrwydd. a'u parodrwyda i weini ar bawb a ddeuent ger eu bron. Yn yr hwyr traddod- odd Mr. Williams, Llanelli, ddarlith addysg- iadol'iawn ar :wAddye^.w Catfodd gynulliad rhagorol,' a gwrandawiad astud. Lianwyd y gac^it ly\<y»ftlol gan CaladfryiJ. JfflM^rygir ( aledftyn dros gettedfoethau am ei lafur yn sefjdto a chynal ion.—BBYTHON. ABERTA wE.-Cyngherdd Fawreddog.-N os Lun, y 5ed cyfisol, bu y cerddorion mawrion yna o Lundain svdd ar eu taith drwy Gymry ynawr, yn rhoddi cyngherdd yn y Neuadd Geiddorol, Abertawe. Yr oedd y programme wedi ei ddethol gyda chwaeth dda, yr hwn a weithiwyd allan yn ardderchog, yn neillduol gan Mrs. Henry Davies. Dywedai cantorion da oedd yn bresenol na welsant well celfyddyd ar y berdoneg erioed. Diivygiad maivr yn Nhreforis.—Dydd Sadwrn diweddaf, y lOfed eyfisol, oedd y diwrnod i weithwyr haiarn ac alean gweithiau Glandwr, Perchenogion, B. Hughes, a'i Gyf., i fyned i'w gwibdaith flyn- yddol. Y lie a ddewiswyd eleni oedd. Cas- gwent, a chyn i'r haul wneud ei ymddangosiad yn y Dwyrain, yr oedd mwg yn dyrchafu agos o holl simneiau Treforis, y merched a'r gwr- agedd i'w gweled yn gwibio o'r naill fan i'r llall, yn prysur barotoi eu hunain i fyned. Yr ydym yn meddwl na welsom gynifer wedi codi mor foreu yn Nhreforis erioed o'r blaen, ac onid oedd hynyna yn ddiwygiad mawr ? -Cranogwen yn Llangyfelach.—Nos Sad- WIn, Awst y lOfed, yn Bethel, (T.C.) Llangy- felach, traddododd Cranogwen ddarlith ar Elfenau Dedwyddwch." Llywyddid gan y Parch. W. Prydderch, Caerfyrddin. Nid oes eisiau canmol darlith Cranogwen, y mae ei henw yn ddigon o sicwydd am hyny. Elid i mewn drwy docynau, yr elw at ddileu dyled y capel prydferth sydd yn y fan hono. Y mae'r brodyr yno wedi adeiladu ysgoldy hardd a gwasanaethgar iawn. Bwriedir cynal ysgol ddyddiol ynddo ar y cynllun Brytanaidd, a thy byw cyfleus iawn. Dau Ysgoldy Ne- wydd,—Un gan y Trefnyddion Calfinaidd, a berthyn i Philadelphia, Treforis, a'r llall gan yr Annibynwyr, yn unol a Libanus, Treforis, a Siloh, Glandwr. Enw y lie yw Plas Marl, man canolog rhwng Treforis a Glandwr. Bydd genym ragor i'w ddyweyd am danynt eto. Hwyrach mai gwell fyddai terfynu yn awr.- GOHEBYDD. LAMB & FLAG, ABERAMAN.—Cynaliwyd cyfarfod cystadleuol yn y gwesty uchod pryd- nawn dydd Sadwrn diweddaf, Awst y lOfed, o dan nawdd Cvfrinfa Garibaldi, o Wir Ifor- iaid. Llywydd y cyfarfod, Mr Thomas Rich- ards. Beimiaid y canu, T. Howells, (Hywel Cynon); y farddoniaeth a'r adroddiadau, y Parch R. Rowlands, Aberaman. Ar ol araeth fer a phwrpasol gan y llywydd, aethpwyd yn mlaen a gwaith y cyfarfod. Y peth laf oedd canu Can Foesol. 5 yn cystadlu, a rhanwyd y wobr rhwng Phillip Phillips, a W. Phillips. Adrodd Mae Garibaldi hron a gwella." Dau Si cystadlu goreu, John Thomasi Cwmbach. eirniadaeth y Ddau benill i Z. Phillips, Ysgrifenydd y Gyfrinfa." 5 yn cystadlu; goreu, Dewi Iago, Trecynon. Canu "Lie Genedigol y Bardd." 2 yn cystadlu; goreu, Ann Phillips, Aberaman. Adrodd Ymddy- ddanion y Felin." 6 parti yn cyfetadlu, a rhan- wyd y wobr rhwng Daniel Jones a John Tho- mas, Cwmbach, a dau ereill o Drecynon. Beirniadaeth y gan i Gyfrinfa Garibaldi. 3 yn cystadlu goreu, Dewi Iago. Canu can o glod i Iforiaeth. 5 yn cystadlu goreu, Phil- lip Phillips, Aberaman. Beirniadaeth y ddau benill i Mr a Mrs Howells, Lamb & Flag. 4 yn cystadlu; gorexi, Dewi Iago. Canu Mae Brenhiniaeth." Un party yn cys- tadlu, a chawsant y wobr. Cyfansoddi Englyn Byrfyfyr. Goreu, Gwawrfryn. Canu Alaw Gymreig, gan rai dros 40 oed. Goreu, Wil- liam Phillips, Aberaman. Beimiadaeth y penill ar .barweidd-dra Masnacu, a i nettaith ar Gymdeithas." 4 yn cystadlu goreu, Gwawrfryn, Cwmaman. Canu "The Old House at home." Un party yn cystadlu, a chawsant y wobr. Yn nesaf, cafwyd araeth wresoggan W. Jones, (Glyn Tawy,) ar "Fudd- ioldeb y Cyfarfodydd Llenyddol." Beirniad- aeth y traethawd ar Fuddioldeb Cymdeithas Ddyngarol." 3 yn cystadlu, ond rhanwyd y wobr rhwng M. Evans, a Dewi Iago. Adrodd Daran," o Awdl Ress Goch i'r Llwynog. 2 yn cystadlu goreu, Daniel Jones, Cwmbach. Areithio difyfyr- y testyn oedd, "Parhaed Brawdgarwch." 5 yn cystadlu goreu, Gwawr- fryn, Cwmaman. Ar ol talu diolchgarwch i'r cadeirydd, ac i bawb fu o ryw wasanaeth yn y cyfarfod, ymadawyd mewn awydd am gwrdd o'r fath eto,-G. URDD YR HEN FRYTANIAID 0 ADRAN ABER- DAR.—CynaHodd y brodyr hyn eu cwrdd chwarter dydd Sadwrn, Awst y lufed. Am 3 o'r gloch y prydnawn, ymgynullodd y cenadon i ystafell Cyfrinfa Hu Gadarn, Plastrer's Arms, Wind-street, Aberdar. Wedi i swydd- ogion y dosbarth gymeryd eu cadeiriau, cod- odd y llywydd ar ei draed, ac anerchodd y cyfarfod yn wresog dros ben, ac awd yn mlaen a gwaith y dydd. Wedi gorphen a chyfrifon yr ari^n^ a chael fod pob peth yn gysurus yn ein plitlyyna cododd y llywydd, a galwodd ar KParch. -Str. Jones i siarad. Yna cododd yr hen bererin at ei draed i anerch y cyfarfod, ac eisteddodd i lawr yn nghanol uchel gymerad- wyaeth. Y nesaf oedd Mr. William Morgan, ysgrifenydd Cyfrinfa Dyffryn Powell, Mount- ain Ash, ar yr iaith Gymraeg..(Taranau o gymeradwyaeth.) Yn nesaf, Mr. William John, o Gyfrinfa Hen Gymro (Sais); araeth fach, fer, yn yr iaith Saesoneg. Yn nesaf, y brawd Daniel Vaughan ar undeb a brawdgar- wch. Yr oedd hon yn araeth dlws iawn. Ad- rodd penillion i swyddogion y dosbarth. Can y Meunydd gan Mr. William Williams. Yr oedd Mr. Riees Davies ar ddyledswydd brodor i ymweled a chyfiinfaoedd gweinion. Yna Mr. John Barkley, G.L.Å., a Mr. William John, Hirwaun. GalwQdd y llywydd ar Mr. William Moi-gan, MQuntain Aeh, i ddweyd yc^ydig yn yr iaith Seiaaeg.. Cododd yr, h,en bererin i r lan, ac- yr oed^ |;wen siriol ar ei wyueVi yn llawn bywyd 0 wadnau ei draed MdJit ei gorvn, a dyweaodd ychydig ar ddy- MdJit ei gorvn, a dyweaodd ychydig ar ddy- 1Mswydd y Seision x ddysgu eu plant yn yr iaikfc Gymraeg, yr hon oedd yn rhagorol o ddaL Can gan Mr. John Yaughan. Yna Mr. Jonee yn dda dros ben. Terfynwyd gwaith y cyfai' fod trwy rhoddi tair gwaith tair, Mr. Barkley yn blaenori, i swyddogion y dosbarttt a gwr a gwraig y ty.

[No title]