Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
[No title]
News
Cite
Share
II l?uSh ar ei ymweliad a ni. Gohebiaethau.—Derbyniwyd ythyr_ oddiwrth Mi". Herbert Roberts, A.S., yu cydnabod Wbyniad pendertyniad y C.M. ynglyn a Dirwest. Pasiwyd tj Clatg_an cydymdeimlad a pherthynasau y diweddar Mri. q' Lewis,. Tonyrefail, Thos. Owen, Bedlinog, Thos. Howard, -x'aK011' a'r Parch. P. Francis ar farwolaeth ci chvvaer, ac ? Abraham Rees.Treorchy, yn ngwyneb marwolaeth ei am. Llythyr Cyflwyniad.—Darllenwyd llythyr cyflwyniad y arch. W. Davies, Penarth, ac estynwya iauo groesaw a»onog. Y Cyfarfod Diolchgarwch.—Penderfymvyd ei gynal 1 H| lau olaf yn Medi, ac awdurdodwyd yr Ysgrifenydd .ddanfon allan y Cylclilythyr arferol. ¥• Gynhadiedd Seis- Pasiwyd i ddatgan ein llawcnydd ar ddyfodiad_ y Gyn- ^u.edd o fewn ein cylch—i Bontypridd, ac i ddymuno yn te'-lonog fendith y nefoedd ar ei lioll weithrediadau. Y enadwri o'r Gymdeitbasfa ynglyn a Hermon, Tonypandy.— j cdi ychydig o ymddiddaa ar y naiii ochr a'r lia!.)., pas- 'yc drwy fwyafrif o 6i y pcndcrfyniad a ganlyn :—" Fod JJ .Cyfarfod Misol yn dynmno yn barclms hysbysu v Gym- ejthasfa ein bod dan orfodaeth i lynu wrth ein pendertyn- ^dau blaenorol.' Dirwest.—Galwyd sylw at y Sabbath Dir- e^t0\ ynghyda'r Holwyddoregau Dirwestol, ac ymddjried- >ct i'v Pwyllgor Dirv.'estol i awgrymu y ffordcl oreu i i ar S'yfer cael Cymanfaoedd Dirwestol, &c. Adrodd- a-clau Pwyllgorau.—Pwyllgor Cynhaliaeth y Weinidogaeth: CYfhvynwyd nifer a awgrymiadau gan y Pwyllgor hwn, ond er mWyn rhoddi amser i bawb i'w hystvried, penderfynwyd .Vhargraffu a'u danfon i'r gwahanol eglwysi, ac i gael ym- v^'ddan arnynt yn y C.M. nesaf. Pwyllgor Addysg y Wenudogaeth Datganwyd llawenydd yn ngwyneb yr- ad- °ddiad ffafriol dderbyniwyd am ein hefrydwyr yn Ngnaer- Oydcl, Aberystwyth,, a Threfecca, a phasiwyd i. Ein bod yn fs £ rifenu at Mr. Howatt ynglyn a Mr, Lemue] Jones, Ynys- 0eth. 2. Ein bod yn galw ar efrydydd eiieiliduol sycld yn yn Nghaerdydd i ymddangos gerbron y Pwyllgor Add,sg bore clydd y C.M. nesaf. 3. Ein bod yn llongyfarch hefrydwj'r gydag tin eithriad ar eu llwyddiant. 4. Ein .°d hefyd yn llongyfarch Mri. J. Felix, J. Evans, I). S. jlf-vies, S. Jones, D. W. Stephens, a D. M. Thomas, ar eu Uvyddiant yn yr Arboliad Talaethol. Pwyllgor yr Ysgol SuI: Nodwyd y gwahanol gynorthwyon a ganlyn ar gyfer y S^ahanol Feusydd Llafur. Dosbarth Hynaf: Llawlyfr y •arch. W. J. Williams a Thestainent yr Ysgol Sabbothol; Saesneg eiddo y Parch. A. Carr, M.A. yn y Cambridge ??rics- Cylchgronau—y D'rysorfa,' y Deonglwr,' a'r jLladincrydd.' Dosbarth dan 21 Esboniad y Parch. J. j*°rgan Jones ar yr Actau. Dosbarth dan 16: Gwerslyfr y .arch. John Owen, Rock Ferry; yn Saesneg, llyfr y Prof. Wciisay—'Clark Series.' Dosbarth dan 13 a 10: Un o'r «ai a ganlvn Llawlyfr y Parch. W. Lewis, Pontypridd, J. ^Wen, Cadoxton, Cunllo Davies, Machynlleth, T. Davies, Tre- „lci. Emlyn Jones, Porth. Pasiwyd i ohirio ystyriaeth o'r afonau livd y C.M. nesaf, a'r Parch. Richard Morgan i 2Lgor vmddiddan arno. Hvsbyswyd fod Mr. W. Williams *c°j. boddloni parhau i weithredu fel Trysorydd, ac v dis- Swylid i Ddos. Uchaf Rhondda ddewis cynrychiolydd. pwyllgor Libanus, Aberaman.—Cyfiwynwyd yr adroddiad a ?arjyn, yr hwn a fabwysiadwyd Ein bod ar ol rhoddi ystyr- Ak^ ''r aPe' dderbyniwyd oddiwrth nifer o bersonau yn ftbsraman, o'r farn y dylid glynu wrth ein penderfyniadau .aenorol. Hefyd ein bod yn parhau i gredu rnai anfantais r achos vw arhosiad Mr. Jones yno." Yn ganlynol, mewn ^anlyniad i apel gryf a thyner gan y Parch. J. M. Jones, yn cael ci ategu gan eraill. datganodd Mr. Jones, er llawen- Ydd calon i bawb, ei barodrwydd i gydymffurfio a phcnder- fyniadau y C.M. Pwyllgor y Fugeiliaeth.—Ymddiriedwyd 1 Mr. Thos. Williams a chvfeillion eraill Llanbradacli i ^neyd yn ol eu cloethineb eu hunain gyda golwg ar gael ugail i fugeilio'r eghvys. Cymeradwywyd yr enw awgrym- p'd gan eghvys Noddfa, Mountain Ash, ar y ddealltwriaeth lod y person nodid yn symudol. Cymdeithasfa Hydref.— ^Peliwyd am gydyindeimlad a chymorth yr egl.v/ysi "i gynai Gymdeithasfa gan y Parch. Jenkin Jones a Howell Dav- • es, B.Sc., ac hysbyswyd fod rhagolygon am Gymanfa hvydcl- anus. Penodiadau.—I gymeryd llais eglwys Dinas Powys, •>;n ei dewisiad o fugail, Mr. Morgan Rowlands, a'r gweini- r°A ddigwydd fod yn v daith ar y Sul. I gynrychioli y ^-■AX. yn nghyfarfod sefydlu y Parch. James Morris yn j^anstephan, y Parchn. M. H. Ellis a W. Lewis, Cwmparc. fjysbyswyd y byddis yn penodi goruchwyliwr i'r Cyhoedd- adau yn y C.M. nesaf. Materion ynglyn ag Adeiladau, ?■—Pasiwyd i awdurdodi Cwmbach i fyned yn y blaen ar ^dgyweiriadau os y bvddai y Pwyllgor Adeiladu ar ol yra- |veled a'r lie yn cyrneradwyo. Awdurdodwyd Merthyr Vale fyned yn y blaen ag adeiladu ty'r capel mewn cyclym- pynghonad a'r Pwyllgor Adciladu. Caniatawyd i'r cyfeill- !On yn Penydarren i gario ymlaen ohebiaeth a'r Council, ac 1 ddwyn adroddiad pellacli. Archwyd i Gilfach Goch ym- synghori a'r Pwyllgor Adeiladu. Hysbyswyd fod y PwylJ- gOr Adeiladu yn y Dosbarth yn cymeradwyo plans" yr ad- feyweu-iadau yn Bethlehem, Mountain Ash. Penodwyd Mr. S. Crriffiths, &c., i wylio buddianau'r Cyfunclcb ynglyn 1 .benygraig, a chaniatawyd i gael gweithredoedd Peuy- ij, a'K a Channel, Aberdar, allan o'r gist,—y naill i ofal Mr. Paries, a'r llall i ofal v Parch. H. T. Stephens. Rhodd- IIP! y cynygid yn y C.M. nesaf ymddir'iedolwyr c^yddion ar yr eiddo yn Cwmbach.. Materion Arianol.- Arian—Cwmbach £ 2,000, Pentre £ 80. Caniatawyd i iter o eglwj'si ncwid nodau. a stampiwyd nodau fel y anlyn Mcrthvr_ Vale, ,^650; Pentre, £ 480; Cwmdar, £ 300; wanus, Dowlais, £ 100 ■, Clwydfagwyr, ^100; Cwmparc, 5IO°; St. Athan,1650. Penodwyd y Parchn. W. Lewis, pWmparc, a Rhys Davies' i arwvddo yr olaf. Talu Dyled anton, ^200; St.^ Athan, £ yo; Nazareth, Aberdar, ^50. erbyn Blaenoriaid a Phregethwyr.— Derbyniwyd Mri. ^Wxlyjn Hughes Canton, a Morgan Rowlands, Spotlands, yn *e'odau o'r C.M. Holwyd hwy gan y Parch. T. O. Thomas, a cjynghorwyd hwy gan' Mr. D. J. Jones, Trealaw. Hefyd a'r- Del. Rees, Vvattstown, a Mr. Owen John Davies, Tre- p'aw. fel pregethwyr icaainc, a chyngliorwyd hwy gan y arch. W. Lewis Cwmparc, a Dr. Aaron Davies. Cyhoedd- ^'y.rt i bregethu, y Parch. T. E. Davies, W. Lewis," Ponty- V"1 c Eilis, W. Lewis, Cwmparc, Daniel Davies, H. 1- Stephens, D. Jones, M.A., a Wm. Davies, Penarth.
RI-IEWL FAWR, MOSTYN.
News
Cite
Share
RI-IEWL FAWR, MOSTYN. t'ynhaliwyd y cyfarfod pregethu blynydclol yn. rgnapel y Methodistiaid Cal6naidd! 'Gwynfa,' nos •pUn a dydd Mawrth, yr 2H a'r 3ydd cyfisol. Y ^archn. Joseph Jenkins^ Dolgellau, ac H. Morgan ugh, Carmei, oedcl wedi eu cyhoeddi i bregethu end boreu dydd LIun y cyfarfod derbyniwyd 'tele- gram' oddiv/rth Mr. Jenkins yn dweyd fod yn ddrwg banddo, bod amgylchiadau yn ei rwystro i adael Ca,,tref a'i fod yn anfon llythyr i egluro ei absenol- Qeb. Bu y swyddogion yn ffodus i sicrhau gwas- ,naeth y Parch. Francis Jones, Abergele, i lanw y "wlch. Cafwj'd pregethau godidog gan y ddau iawd, a gwrandawiad astud gan gynulleidfaoedd lawr iawn, yn enwedig nos Fawrth, pan oedd v capel yn orlawn.
llanCderFel;' I
News
Cite
Share
llanCderFel; Tj-Steti i'r GwSinidog. Noa Fawrth diweddaf, cynhäliwyd cyfarfod yn nghapel Methodistiaid i ddathlu "priodas arian" y gweinidbg a'r eglwys yn y lie hwu. Bum' mlyn- edd ar hugain yn ol, fe sefydlwyd y Parch. Isaac Jones Williams yn weinidog a.r eglwysi Llanclderfel a Chefnddwysarn, ac nid oedd cyfeillion y ddwy ofalaeth yn foddlon i'r adeg arbenig hon fyned heibio heb gydnabod yn sylweddol werthfawrogiad o lafur a ffyddlondeb Mr. Williams yn ystod y cyfnod maith hwn. Fe aeth o'r Coleg i'r ofalaeth hon gweithiodd yn egniol a chydw-ybodol ynddi, ac ar dertyn chwarter canrif, y mae perthynas yr eglwysi a'u bugail mor foddhaol ag erioed. Yr oedd y Pwyllgor wedi trefnu nad oedd llawer o anerchiadau i'w traddodi, a threfnwyd yn hapus i gael pregeth gan y Parch. John Williams, Bryn- aiencyn, ar yr achlysur. Fe ddaeth cynulliad rhag- orol ynghyd; yr oedd y canu yn fywiog; a phregeth- odd y gwr parchedig am awr gvda djdanwad ac eneiniad mawr. Yr oedd yn wledd yn ystyr uchaf y gair. Wedi y bregeth, fe awgrymodd Mr. Hugh Ellis fod un gorchwyl dyddorol i'w gyflawni cyn iddynt ymwahanu, a diyna" ydoedd hwnw, tori y blwch enaint ar ben eu gweinidog, wedi pum' mlyn- edd ar hugain o wasanaeth yn eu plith. Wedi canu emyn, darllenodd Mr. R. N. Jones, Brynmelyn, yr anerchiad a gyflwynidi iddo. Cyflwynedig i'r PARCH. ISAAC JONES WILLIAMS, Islwyn, Llanddterfel. Anwyl a Pharchedig Frawd,—- Ar derfyn pum' mlynedd ar hugain o'ch llafur gweinidogaethol a'ch gofal bugeiliol drosom, y mae eglwys a chynulleidfa capel Saron yn dymuno cyf- lwyno i chwi yr anerchiad hon., ynghyda phwrs o aur. Cymhellwyd y frawdoliaeth i hynyna gan dieimlaclau da a serch tuag atoch yn bersonol, a syn- iad uchel o fawr werth eich llafur diflino i lesoli, dyrchafu, hyfforddi, ac adeiladu pobl eich gofal, a'u plant, gydag amcan gonest "i ffurfio Crist ynddynt," ac i'w harwain, drwy eich cymeriad, eich hesiampl, eich addysg, a'ch pregeth, i sicrhau meddiant o fywyd tragwyddol, ac i fod; yn ddefnyddiol yn eu hoes. Nid oes unrhyw ran o orchwyl "Gwr Duw" yn ein gwinllan a'n cymydogaeth nad ydych chwi, am yr oil o'r tymor hwn, wedi bod yn effro ac yn ddiwyd, mewn amser ac allan o amser, i'w gyflawni. Ein gweddi ydyw ar i amddiffyn ac arweiniad yr Arglwydd barhau drosoch chwi a Mrs. Williams a'ch teulu, a'i fendith fwy-fwy ar eich llafur, hyd nes y gelwir chwi i dderbyn eich gwobr. Ydym ar ran yr eglwys a'r gynulledifa, Yr eiddoch yn serchog, Swyddogion yr eglwys:- Charles Jones, E. F. Evans, John Davies, Charles Owen, John Hughes, Hugh Ellis (Llywydd y Pwyllgor), J. Llewelyn Jones (Trysorydd), R. N. Jones (Ysgrifenydd). Aelodau o'r Pwyllgor —John Ellis, Charles Jones, Willie Jones, John Williams, Thomas H. Jones. Cyfiwynwyd yr anerchiad hardd i Mr. Williams gan y Llywydd:, a sylwai fod ymdeimlad o barch dwfn yn mynwes yr ardal ato drwy y chwarter canrif y bu yn trigo yn eu plith. Byddai yr anerchiad yn rhyw- beth i'w blant, ac i blant ei blant, edrych i fyny ato. Hyd'erai y byddai iddo gael hir oes; i barhau yn ei ffyddlondeb i'w Fesitr. Wrth gyflwyno pwrs o aur, tystiai Mr. J. Llewelyn Jones, Ysgol y Cyngor, fod yn dda ganddo weled cymaint o blant yn bresenol. Fe gofient yr amgylch- lad dyddorol hwn. Derbyniodd lawer o sirioldeb wrth gasglu at y dysteb, a bu hen blant y capel sydd mewn aafleoedd pwysig a.r hyd a lied y wlad yn ffyddion yn eu cyfraniadau. Yr oedd bwlch bron ymhob teulu er yr adeg y daeth Mr. Williams gyntaf atynt; ond y ma'e ei ddyIanwad ef yn parhau or y cyfnewidiadau i gyd. Cydinabyddwyd yr anrhegion gan y Parch. 1. J. Williams mewn ychydig o eiriau teimladwy. Yr oedd ganddo destyn i fod yn ddiolchgar i ddechreu i'r nefoedd am yr iechyd rhagorol fwynhawyd gan- ddo. Un Sabboth y methodd, bregethu yn ystod y cyfnod maith hwn. Derbyniodd hefydi lawer o garedigrwydd oddiar law pawb yn gyffredinol. Nid oedd mor ffol a meddwl ei fod, i fyny a chynwys yr anerchiad, ond bydldai iddo geisio ymgyrhaedd at y cymeriad osodid allan ynddi. Y peth pwysicaf all gweinidog ei gael ydyw rhan yn ngwedcliau pobl ei ofal. Dymunai fod eto yn fwy o ogoniant i Dduw ac o les i'w gyd-ddynion. Galwyd ar Mr. Thomas Ellis, Cynlas gynt, i d'dweycl gair. Fe glywodcl ganoedd! o breg'ethau erioed; cofiai Dafvdd Cadwaladr, Richard "Jones c'r Wern, ac Evan. Foulkes yn pr.egethu; ond o dan fugeiliaeth srr. Williams yn unig y bu, a hyny am ugain mlynedd yn Nghefnddwysprn. Dafydd; Davies y Bermo a'i sefydlodd. Gallai dystio i ffyddlondeb diflino Mr. Williams, a chynhwysai y gair hwnw gyda chydwybod dawel ato, "Byddwch ddilynwyr i mi, megis yr wyf fi i Grist." J Y Parch. John Williams, Brynsiencyn, a ddywedai iddo wneyd ymdrech arbenig i fod yn bresenol, oherwydd dau reswm, sef o barch 'at Mr. Williams, ac oddiar deimlad o edmygedd at waith yr eglwys vn cyflwyno y dysteb hon iddo. ° Yr oedd y dysteb hon dipyn yn eithriadol yn y Cyfundeb. Bydd llawer yn derbyn anrheg wrth ym- adael ag eglwysi, ond ychydig yw nifer y rhai lr/ny a gydnabyddir yn sylweddol fel hyn tra yn parhau yn weinidog ar yr eglwysi, Tuedd y dyddiau hyn ydyw i weinidog edrych cJjqs y gwrych am le aral). wedi bod am nifer mwy neu lai o flynyddoedd mewri gofalaeth. Ond dyrna Mr. Williams wedi aros bHwarter canrif yn yr un ofalaeth, nid am ria chaf- odd gyfleusdra i symud, ond am y credai mai dyma y rnaes y mynai Rhagluniaeth iddo weithio ynddo. Trysor penaf ardal ydyw cael 'Gwt Duw' ynddi, ac fe fydd dylanwad; ei arhosiad maith mewn ardal yn fawr ac yn barhaol. Fe dystiai y gallai pob gwein- idog ardystio yr anerchiad a gyflwynid i Mr. Wil- liams. Dymunai am i nodded y net fod drosto ef a'i deulu. Diweddwyd1 y cyfarfod. dymunol hwn trwy ganu emyn. Priodol yw ychwanegu fod cyfeillion ei ofalaeth yn Nghefnddwysarn wedi dathlu yr amgylchiad1 hwn yn hanesi eu gweinidog trwy gyflwyno iddo 'cheque' am swm sylweddol ar derfyn y cyfarfod eglwysig nos I an. Traddodwyd anerchiad'au ar yr achlysur gan holl swyddogion yr eglwys.
Advertising
Advertising
Cite
Share
P' O"ffe I Towe r A. id. packet niakes a delicious milk pudding in teu minutes, Try it. Y QIJ will be delighted*
--..----.---------------.-----"--RHOSLLANERCHRUGOG.
News
Cite
Share
RHOSLLANERCHRUGOG. Y Sabbath, Medi 8, cynhaliwyd cyfarfod ysgolion Dosbarth Rhos a Gwrecsam, yn Capel Mawr. Yr oedd yn bresenol y cynrychiolwyr canlynol,-Seion, Gwrecsam, Mr. Benjamin Hughes; Rhosrobin, Mr. John Ward; Siloh, Johnstown, Mr. Edw. Jenkins; Bethel, Ponciau, Mr. Thos. Matthews; Moriah, Mr. Daniel Edwards. Methodd cynrychiolwyr Rhosddu a Victoria Hall, Gwrecsam, a bod; yn bresenol. Dechreuwyd cyfarfod y boreu gan Mr. Thomas Mat- thews, Ponciau. Yna holwyd y rhai mewn oed yn y 4edd benod o'r Hyfforddwr. Pwnc y benod ydoedd Person Crist,' ac yr oedd yr holi a'r ateb yn fuddiol ac adeiladol iawn. Ar derfyn cyfarfod y boreu cafwyd cyfarfod athrawon, i gael hanes yr ysgol yn y lie am y flwyddyn ddiweddaf. Yr oedd yr adrodd- iad, yr hwn a roddwyd gan yr arolygwyr, Mr. Robt. Jones, School St., Mr. David Roberts, Square, a Mr. Joseph Rogers, yn un calonogol iawn. Terfynwyd drwy weddi gan Mr. Daniel Edwards, Moriah. Yn y prydnawn holwyd y plant yn y scd benod o'r Rhodd Mam. Yr oedd plant Yo-Gol Gobaith (Pentre. felin), yn ymuno a phlant yr ysgoldy, a gwnaethant eu rhan yn ganmoladwy iawn. Y mae golwg addaw- ol iawn am y dyfodol yn y ddwy ysgol yma, a chasglu oddiwrth yr olygfa gafwyd ar y dorf plant oedd yn cael eu holi y Sabbath. Llywydd y boreu a'r prydnawn ydoedd Mr. William Jones, Greenfield, Rhcsddu, a gwnaeth ei waith yn ddeheuig iawn. Yr holwr am y dydd ydoedd y Parch. Robert Jones. Yn yr hwyr pregethodd Mr. Jones i gynulleidfa fawr yn rymus ac effeithiol, gymaint felly, fel y torodd un hen frawd1 i orfoleddu ar ganol y bregeth. Ei destyn oedd Matthew i. 21. Nos Fercher cynhaliwyd cyngerdd rhagorol yn y neuadd gyhoeddus, o dan nawdd Noddfa (B.), Johns- town. Y llywydd ydoedd Mr. R. Price, Rhiwabon; a gwasanaethwyd gan Miss. Edith Davies, Gwrecsam, Mr. David Ellis, Cefnmawr, Mr. Powell Edwards, Rhos, ynghyda chor plant Jerusalem, o dan arwein- iad Mr. J. Hartley Davies. Adroddwyd hefyd gan Mr. Wm. Edwards, Acrefair, a gwnaeth yr oil eu rhan yn ganmoladwy. Mae Pwyllgor Eisteddfod Gadeiriol v Rhos, 1908, wedi pasio i ychwanegu £20 at gyfanswm y gwobr- wyon. Y swm y llynedd ydoedd £100. Hysbyswyd fod £ 55 wedi eu derbyn ar aml-en y gwarantwyr yn barod, a'u bod yn parhau i ddod i mewn. Pasiwyd i ofyn i Mr. A. E. Evans, Bronwvlfa, Dr. J. C. Dav- ies, U.H., l'las-yn-rhos, a Mr. Howell J. Williams, C.S., Llundain, i fod yn Llywyddion dydd yr Eis- teddfod. Mae Pwyllgor y Ford Gron yn brysur y nosweith- iau hyn yn parotoi rhaglen ar gyfer y tymor nesaf, fydd yn dechreu yn gynar yn mis Hydref.
BEDLINOG.
News
Cite
Share
BEDLINOG. Marwolaeth Mrs. Owen. —Prydnawn dydd: Iau, Awst 29, yn dra sydyn, bu farw y wraig dda hon. Hi a'i phriod, Mr. Thos. Owen, oeddent gychwynwyr yr eglwys Fethodistiaid yn Bedlinog 32 o flynyddoedd yn ol, a bu ar hyd y blynyddoedd yn ffyddion ryfeddol ymhob ystyr ynglyn a chynal yr achos. Cadwodd dv agored i weinidogion yr efengyl o'r cychwyn, ac yr oedd iddi glod am y gras o letygar- wch. Yr oedd ganddi galon mor dda fel yr oedd yn agored ei Haw beunydd i gyfeiriad yr anghe,nus- ni chai neb fod mewn eisieu yn yr ardal os gwyddai hi am dano. Yr oedd yn wraig lawn yn y capel— yn medru canu yn dda erioed, a'r blynyddoedd di- wcddaf wedi profi grym y cTylanwadau ysbrydol yn medru symud cynulleidfa a'i gwecldiau a'i phrofiad. Gwnaeth ei hadroddiad o benodi o Malachi yn y seiat olaf y bu ynddi argraff neillduol ar y rhai oedd yn bresenol. Magwydi hi dan gysgod Miss Rees (Cranogwen), yn Llangranog. Merch i 'Sian Pen- ffynon,' ydoedd, ac yr oedd y llinynau tyneraf yn ei dal wrth ei hen athrawes. hyd y diwedd. Yr oedd y capel yn Bedlinog yn orlawn yn y gwasanaeth ang- laddol gynhaliwyd nos Sul, Medi iaf, dan arwein- iad y Parch. T. C. Thomas, a chymerwyd rhan ynddo gan Mr. Richard Lloyd a Mr. T. E. Evans, blaenoriaid, y Parch. E. O. Evans (A.), Bedlinog, a'r Parch. E. W. Llewelyn, Cilynnedd. Yn fore dran- oeth awd a'i chorff i Penmorfa, Sir Aberteifi, a gos- odwyd ei gwecldillion marwol yn unol a'i chais yn nghlacTdfa ei phobl ynghanol amlygiadau o hiraeth dwys a dwfn barch tyrfa lu oedd wedi clyfod yn nghyd. Gweinyddodd y Parch. Daniel I-ewis, y gweinidog, ar yr ao-hlysur- Nos Sul, Medi 8, tra- ddododd y Parch. T. C. Thomas bregeth angladdol yn Gosen, Bedlinog, i gynulleidfa fawr. Mae cvlch eang iawn yn cydymdeimlo a'r priocl, y meit)-,on- Mri. Evan T .Owen a David James Owen, a chwaer yr ymadawedig—Mrs. Cad. Davies, Penffynon, Llan- granog, yn eu galar. Nodded Duw fyddo drostynt i'w ddyddanu oil,