Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

LIBANUS, ABERAMAN.

News
Cite
Share

LIBANUS, ABERAMAN. Cyfarfod Scfydhi.—Cynbaliwyd cyfarfocl yn y lie uchod ddydd Lltw; Mai 25, er sefydlu y Parch. J. Harries-Jones, gynt o'r Llest, Cwmgarw, ynVein- idcg ar yr eghvysi uchod. Gymerwyd y ga.dair gan y rarch. W. James, Aberdar, presenoldeb yr hwn a barai hnvenydd i bawb. Dechreuwyd trwy ddar- 11 en a gw,eddi gan y Parch. J. Morgan, Brynseion. Gyfeiriwyd gan y Ltlywydd at. gynwys llythyrau a, dderbyniwyd oddiwrth Mr. Richard Powell, un o flaenoriaid yr eglwys yn Ystradfellte, yn yr hon eglwys y magvyd Mr. Jones, ac oddiwrth Mr. T. Lougher, Porth, ond a, fu yn flaenor yn eglwys y Llest, yr hon eglwys a arferai fod o dian ofal Mr. Jones. Dygwyd tystiolaeth uchel yn y llythyrau hyn i'w gymeriad, ei deimladau crefyddol, va'i allu- oedd moddyliol, a hyny ar gyfrif en hadnabydd- iaeth o hono—y naill wedi ei gydfagu ag ef, a'r Hall wedi bod yn gydswyddog ag ef. Rhoddwyd ha,nes yr alwad mewn modd teimladwy gan y blaen- or parchus ac adnabyddus Mr. Morgan Edwards, yr hwn bellach sydd wedi cyraedd gwth o oedran, wedi bod yn wasanethgar i'w eglwys a'i Gyfundeb am flynyddoedd meithion. Parha, hyd y dydd heddyw yn ffyddlawn i hall gyfarfodydd yr eglwys, er yn yniyl ei bedwar ugain ac wyth. 0 irenin, bydd fyw byth! Siaradwyd ar ran eglwys Hermon, Sciwen (yr eghvys ymha, un y deehreuodd Mr. Jones bregethu), gan Mri. J. Rosser (loan Dylais), Wm. Morgan, a David Jones (tad y bugadl). Ar ran eg- lwys y Llest, gan Mr. John Thomas, hen bererin duwicxl, siaradodd yn uchel ant weithgarwch Mr. Jones yn ystod y ddwy flynedd y bu yn weinidog ereglwys y Llest. Ar ran O.M. Grorllewin Mor- gamvg, gan y Parch. D. Mardy Davies, Ponty- cymer. Dywedai iddo fod yn gymydog i Mr. Jones am rai blynyddoedd, a dywedai yn uchel am ei ym- drechion gyda'r achosI crefyddol tra yn Nghwm- garw*. Dywedai i'w xmadawiad fod yn golled i'r eghvys a'r lie, hefyd dywedai fod eglwys Blaen- garw yn teimlo colled ar ol Mrs. Jones. Dywedai yn uchel am ei ffyddlondeb, fell athrawes yn yr Ys- gol Sul, ynghyda'i gwasana,eth gyda symudiadau da eram. Rhoddwyd gwahoddiad cynes i'r gweini- dog newydd ar ran Dosbarth Aberdatr gan y Pai'ch. John Lewis, Hebron; ae ar ran O.M. Dwyrain Mor- ganwg gan y Parch. D. M. Phillips, M.A., Ph.D., Tylorstown, yr hwn a feddai adgofion boreuol am yr hwn a gai ei sefydlu y dydd hwnw. Clofiai am dano yn blentyn yn adrodd darnau bychain yn hen gapel Ystradf elite. C'ymerwyd rhan yn mhellach gan y Parchn. H. T. Stephens, Carmel, J. Morgan, Brynseion, R. Williams, Nazareth, H. P. Jenkins (A.), Saron; hefyd y Parch. James Harries (ewythr Mr. Jones) o Sir Benfro. Yn ystod ei araeth rhoddodd eglurhad ar enw y gweinidog newydd,— John Hiarries-Jones. Dywedai y deuai yr Harries i fewn i'w enw ar ol ei hen deidia.u, o du ei fam, o Sir Benfro,—John Harries, Treamlod, hen gyng- horwr, y ceir ei hanes yn Nghyffes Ffydd y Meth- odistiaid Calfinaidd, a'i fab Evan Harries, a, ordein- iwyd yn yr ordeiniad cyntaf yn 1811. Bendith Duw ar yr uniad hwn. C'redwn fod yr uniad hwn i barhau. Y mae Mr. Jones bellach yn ein plith er's rhai misoedd, ac fel y dywedai Mr. Edwards, y mae ef a'i briod wedi ymdaflu i'w gwaith. Hoffid hwy pan ddaethant yma, ond y mae yr hoffder o honynt yn parhau i gvnyddu. Dygwyd y cyfarfod dyddorol lnvn i ben drwy weddi gan y Parch. Rd. Roberts, Owmbach. Yn yr hwyr am 7, dechreuwyd gan y Parch. J. Harries, a phregethwyd gan y Parchn. D. Mardy Davies, a D. M. Phillipi, M.A., Ph.D. Cafwyd dwy bi-egeth r mi s, a dyl^nw^do'l 'Y .1, iawn.

------------.\ ^AMBSIAN RAILWAYS.

Advertising