Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

r C CALFARIA, ABERCYNON.

News
Cite
Share

r C CALFARIA, ABERCYNON. CYFARFODYDD SEFYDLU. Dyddiau Sul a'r Llun, Taehwedd 12fed a'r 13eg, cynnaliwyd cyfarfodydd neillduol yn nglyn a sefydliad y Parch B. Howells, GeUiwen, yn "Wfeinidog ar yr eglwys uchod. Gwasanaethwyd ar yr achlysur boreu Sol gan y Parch W. R. Jones (Gwenith Uwyn), Penrhiwceibr prydnawn a'r hwyr gan y Parch E. T. Jones, Llanelli; boreu Llun, Parch Iorwerth Jones, Maesteg; prydnawn, cymmerwyd llywyddiaeth y cyfarfod gan y Parch E. T. Jones. Wedi darllen a gweddio gan y Parch J. Griffiths, Aberdar, galwyd ar y brawd James Howells, diacon hynaf yr eglwys, i roddi yr alwad yn ffurfiol ar ran yr eglwys, ac atebwyd mewn modd croyw ar ych- ydig eiriau gan Mr Howells. Yna dygwyd tyst- iolaeth i gymmeriad y brawd gan y brodyr D. Davies, Brynteg, GeHiwen, yr hwn a ddywedai na fu gwell teimladau yn bodoli rhwng gweinidog ac eglwys erioed na rhycgddynt hwy a Mr Howells, ao yn ddiolcbgar am gael ei gad w ey hyd, a dymuno ar ran yr eglwys bob llwyddiant iddo yn ei faes newydd. Yr oedd brawd arall yno o Gelliwen yn dweyd Amen gyda'r dystiolaeth. Oafwyd cymmeradwyaeth uchel iddo hefyd gan y trawd W. Thomas, Swansea Road, Llanelli, Ysgrifenydd eglwys barchus Seion, Llanelli, oartrefle naturiol ac ysbrydol y gweinidog new- ydd. Yn dilyn hyny cafwyd pregeth dyner ao eneiniedig gan y Parch Charles Davies, Caer- dydd. Yn yr hwyr pregethwyd yn nerthol iawn gan y brodyr Iorwerth Jones ac E. T. Jont;s. Yr oedd yn bresenol y gweinidogion canlynol, heblaw y rhai a enwyd y Parchn T. E, Williams, Berthlwyd D P. Evans, Merthyr Vale; Jones, Troedyrhiw; D. R. Phillips, Cilfynydd J. Edwards, B.A., Ynysybwl; Davies, Newbridge; D. Howells, Maesteg; J. Pugh, Abercynon (Saesnsjy); J. R. Davies, S. Thomas, M.O.; Jones A.), Thomas (A.), Abercvi on, yn nghyd & Lleyfjwyr o bwys. Derbyniwyd llythran oddiwrth y Parchn R. R. Thomas, G; pel Rhon- dda D. Griffiths, E. K. Jones, Cymmer, Glyn corrwef, yn dadgan eu gofid am eu halallu i fod yn bresenol. Mae yn llaweriydd mawr genym gael ar ddeall fod y brawd Mr Howells yn cych wyn ei weinidogaeth yn ei faes newydd o dan amgylchiadau hynod o ffafriol. Un wedd ddym- unol ydyw, fod yr eglwys wedi sicrhau ty rhagorol i'r gweinidog, yr hyn yn ddiambeu fyddai yn fanteisiol i'r eglwysi ya gyffredinol yn ogystal a'r gweinidogion. Rhifa yr eglwys yn bresenol 250, yn eglwys weithgar a da. Prof a y cyfarfodydd wythnosol yn amlwg iawn fod y frawdoliaeth yn meddwl mwy na chael rhif mawr ar lyfr yr eglwys Mae ffyddlondeb yr eglwys i'r cwrdd gweddi a'r gyfeillach yn dangos yn eglur mai yr amcan penaf ydyw cael cymmeriad- au da a duwioi i'r eglwys. Mawr obeithiwn y bydd oes ein brawd yn un hir, lwyddianns, a hapus yn Abercynon, ac y bydd pobl ei ofal yn bobl ei gysur. UN OEDD YNO.

[No title]

Advertising