Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Hide Articles List
8 articles on this Page
'~LLUNDAIN.
News
Cite
Share
LLUNDAIN. LLWYDDIANT ARHOLIADOI.—Yn mhlith yr ymgeiswyr llwyddianus yn y First Law Exam- ination, yr oedd yn dda neillduol genym weled enw Master Frank Evans, mab ein cydwladwr adnabyddus Mr D. H. Evans, Oxford Street, ac wyr y Parch W. Harris, Heolyfelin. Nid yw y boneddwr ieuanc ond un-ar-bymtheg oed, ac felly aeth trwy ei arholiad yn llwyddianus y cyfle cyntaf o ran oed y caniateid iddo ymgeisio. Mae hyn yn argoel dda am ddyfodol disglaer iddo os ca fywyd ac ieohyd i ddilyn ei efrydiaeth. Llongyfarchwn ef yn galonog ar ei lwyddiant. Yn hen ysgol enwog Harrow y mae yn bresenol yn efrydu. H. M. r TYLAGWYN. CWMGARW. SEFYDLU GWEINIDOG. Sul a'r Llun, Mawrth 2il a'r 3ydd, cynnaliwyd cyfarfodydd neillduol er sefydlu y Parch T. B. Phillips (gynt o Waelodygarth) yn weinidog i'r eglwys uchod. Manteisiwyd hefyd ar yr un adeg i neillduo4 o frodyr dewisedig i'r swydd ddiacon- aidd. Gwasanaethwyd ar y Sabboth gan Parchn 0. Rees, Tongwynlais, a W. Morgans, Blaengarw. Boreu Llun gwasanaethwyd gan y Parchn J Jenkins, Pentyrch, a G. James, Penybont, yr olaf yn traddodi siars i'r diaconiaid newydd. Offrym wyd yr urdd weddi gan y Parch T. Davies, Pontycymmer. Yn y prydnawn cymmerodd y sefydlu le. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch T. Davies, Pontycymmer. Wedi egluro natur y cyfarfod. galwodd ar yr hen patriarch o Moelgila (Morgan Griffiths) i fynegu, fel genau yr eglwys a'r gynnull- eidfa, eu bod wedi rhoddi galwad gwresog ac unfrydol i Mr Phillips, a gwnaeth hyny mewn modd neillduol iawn, yn llawn o'r tan crefyddol Oymreig, nes gwefreiddiodd y gynnulleidfa; ac wedi hyny, amlygodd Mr Phillips ei dderbyniad o'r alwad mewn modd tyner a thoddedig iawn. Gweddiodd y Parch G. James, Penybont, am fendith y Goruchaf ar yr undeb hapus. Oymmer- wyd than yn y cyfarfod gan y Parchn J. Jenkins, Pentyrch; C. Rees, Tongwynlais; James, Peny- boot; Morgans, BlaeDgarw Evans, Bryncetbin Johns, Tondu; Williams, Maesteg Harris, Penyfai; Humphreys, Cwmogwy Jones, student, Caerdydd, a'r brodyr D. Cule, Penybont, D. Llewellyn a Jnu. Thomas (M.). Nichaniatagofod i ni osod allan yr holl bethau rhagorol ddywedwyd am Mr Pkillips gan y brodyr. Pregeshwyd yn yr hwyr gan y Parchn J. Jenkins, Pentyrch, a 0..Rees, Tongwynlais. Cawsom gyfarfodydd anwyl iawn o'r decbreu i'r diwedd. Er fod yr bin dipyn yn anffafriol cawsom gynnull- iadau rhagorol; a choron ar y cyfan i gyd, arosodd tair chwaer ieuanc ar ol yn y gyfeillach nos Lun. Dyma ni bellach wedi ein huno mewn gwiriocedd. Bydded i Dduw roddi ei sel ar yr undeb drwy achub ein gwrandawyr a dychwel ein gwrtbgilwyr. --0--
MARWOLAETH Y PAROH. W. OWEN,…
News
Cite
Share
MARWOLAETH Y PAROH. W. OWEN, HWLFFORDD Bu farw y brawd enwog ac adnabyddus ucbod ar y 19eg o'r mis yn yr oedran teg o bedwar ugain mlwydd. Llafuriodd am oes faith, gyda graddau helaeth o lwyddiant, yn ngwas- anaeth ei Arglwydd, yn Nghaerdydd, Narbertb, a Solvach, Penfro. Bu yn ddiwyd gyda'r wasg yn rhan flaenaf ei fywyd, a gwnaeth wasanaeth gwerthfawr yn yr ystyr hono i grefydd a llenydd- iaeth ei wlad. Yr oedd wedi ymneillduo o'r wein- idogaeth sefydlog er ys amryw flynyddoedd a symud i fyw i Hwlffordd, lie y terfynodd ei yrfa fel y nodwyd yn barod. Diau yr ysgrifenir hanes ei angladd a chofiant iddo i'r SEREN gan ryw frawd adnabyddus o hono. NODIAT).-Dylasai yr uchod fod wedi ymddangos yo y SEREN yr wythnos ddiweddaf,—GOL. --0--
CYMDEITHAS Y8WIROL BEDYDDWYR…
News
Cite
Share
CYMDEITHAS Y8WIROL BEDYDDWYR CYMRU. SILOAM, GELLI. OWM RHONDDA. Yn ddiweddar, cymmerodd damwain le yn ngbapel Siloam drwy ffrwydriad y nwy, a niweid- iwyd y capel i beth graddau. Yn ffortunus, yr oedd wedi ei yswiro yn Nghymdeithas Yswirol Bedydd- wyr Cymru, ac ar ol ymchwilio i'r mater, talodd y Gymdeithas yr holl gost pertoyDol i'r ddamwaio. Derbyniodd yr ysgrifenydd y llytbyr canlynol oddiwrth y Parch S. G. Bowen, gweinidog Siloam, Gelli, Mawrtrh oed, 1895. Anwyl frawd,—Daeth y cheque i law yn ddiogel yn cynnwys y costiau yn nglyn a ffrwydriad y nwy (gas explosion) gymmerodd le yn ein capel. Diolch i chwi am daliad mor llawn, buan, a didrafferth. Yr oeddwn wedi ofni y cawswn fyned drwy lawer o seremoni cyn cael yr uchod, ond wele per return y swm i law yn gwneyd i fyny yr holl dreuliau. Yn sicr dylai holl gapelau yr enwad gael eu diogelu rhag anffodion cyffelyb, drwy eu hyswirio yn y Gymdeithas hon. Yr eiddoch yn gywir, S. G. BOWEN, gweinidog." Dymunwn hysbysu fod y Gymdeithas yn yswiro ar yr un telerau a Chymdeithasau eraill, ac uid oes unrhyw gost mewn perthynas a tbrosglwyddiad o Gymdeithasau eraill. Am bob manylion anfoner at yr ysgrifenydd ISAAC PHILLIPS, Ysgrifenydd. Brynteg, Burry Port, R.S.O., Carmarthenshire, --0--
NODDFA, YNYSYBWL.
News
Cite
Share
NODDFA, YNYSYBWL. CLFARFOD YMADAWOL. Nos Iau, Chwefror 21ain, dan lywyddiaeth y Cynghorwr John Williams, cynnaliwyd cyfarfod er cyflwynO pyrsaH o aur i'r Parch W. B. Jones ar ei ymadawiad a'r lie uchod am Penycae, Gogledd Cymru. Siaradwyd ar yr achlysur gan y Parcbn W. Saunders, Rhymni; Cynghorwr J. F. Williams, Navigation Jones, Penrhiwceibr; Morris, Henllys; Samson Jonep, Trefforest; W. Pairy, Pontypridd; T. T. Davies (Terionydd); Mr David Roberts, a Dr Morgan, Ynysybwl. Cafwyd anerchiad bardd- onol gwych a phwrpasol gan Mr Henry James (Trefinfab), Ynysybwl.- Datganwyd unawdau swynol gan rai o brif gantorion a chantoresau y lie Cjflwynwyd y pyrsaid aur i Mr Jones gan Mr Edward Howard un o ddiaconiaid yr eglwys. Diolchodd Mr Jones yn gynhes, a therfynwyd y cyfarfod yn swn dymuniadau da pawb oeddynt yn bresenol am Iwyddiant a hapusrwydd dyfodol Mr Jones a'i deulu. --0--
UNDEB Y BRYTHONIAID, BIRMINGHAM.
News
Cite
Share
UNDEB Y BRYTHONIAID, BIRMINGHAM. Ar ddydd Dewi Sant, cynnaliodd yr Undeb ucbod ei nawfed wyl flynyddol. Daeth tyrfa fawr yn nghyd o Gymry Birmingham i'r wyl eleni, yr hon a gymmerodd le yn y "Great Western Hotel, yr ystafell fwyaf urddasol y ddinas. Am 5.30, cynnaliwyd y giniaw yn nglyn a'r Gymdeithas, ac fel y dengys y canlynol, fe ddaeth y pendefigion o Gymry Birmingham i dalu anrby- dedd i Dewi Sant, ac i Gymru, gwlad y gan. Y llywydd yn absenoldeb Proffeswr Roberts, M.A., Aberystwyth, odd yr enwog Dr Lloyd Owen, a'r is-lywyddion oeddynt, Parch T. C. Evans, B.A., Mri E. Howells, M A., J. H. Jones ysgrifenydd, R. M. John y telynor oedd Mr D. French Davies, a thra yr oedd ef yn chwareu'r delyn, fe ganodd y dorf y pennill canlynol:— "'Nawr gyda'n gilydd canwn gerdd, A phennill gyda'r tant; A gwisgwn fyth geninen werdd Ar ddydd Gwyl Dewi Sant." Siaradodd y Parch J. R. Evans ar "Goffadwriaeth Dewi Sant;" "Cymru," gan y Parch A. Seys Howell, a'r Cynghorwr Wm, Jones; Yr Undeb," gan Mr J. Kenward (Elfynydd), F.S.A., C.E., a Dr Lloyd Owen Y gwahanol Undebau Cym- deithasol," gan y Parch T. C. Evans, B.A., a Dr Martin Young; Y Dieithriad," gan y Parchn J. Jeekyn Brown, a J. M. G. Owen, gynt o South- ampton Y Wasg," gan J. M. Morgan, a Lloyd Evaris, Hedd-ynad dros Warwick; Y Boneddig- esau," Aneurin Davies, B.A., a Mrs Sylvanus. Ar ol y ciniaw, cynnaliwyd cynghetdd, pan y gwasanaethodd Miss Nellie Prichard, Mri J. D. Davies. E. England, W. Morris, D. French Davies, ac ereill. Gellir gyda phriodoldeb gymhwyso y geiriau canlynol i'r Undeb yn y ddinas hon, "Wele wawr ein dydd newydd a'i hadenydd ar DAEN>" IETJAN AB IETJAN.
I o ! BRITHDIR.
News
Cite
Share
o BRITHDIR. £ s c Mewn Haw o'r blaen 51 19 2 Pengam •• ? n Carmel, Troedyrhyw « Ail-gasgliad Tabernacl, Caerdydd 5 0 0 Alfred Thomas, Ysw., A.S. 10 0 0 Bethel. Cwmnark • • • • & 0 0 Chwi welwch oddiwith yr uchod fod rhai eglwysi yn gwneyd yn dda, ond yr oeddwn yn meddwl oddiwrth y brwdfrydedd a ddangoswyd yn nghynnadledd Ynysybwl, y buasai llawer mwy wedi dyfod i mewn. Taer ddymunir ar i'r oil o'r eglwysi sydd heb gyfranu i wneyd yn ddioedi, fel y gellir cael gwared o'r achos blin hwn sydd wedi poeni cymmaint ar yr enwad. Deri, via Cardiff. E. LEWIS.
___--------'||amsx0n fefgttwl.
News
Cite
Share
||amsx0n fefgttwl. ArNoN, TONYREFAIL.—Nos Iau, Chwef. 21ain, traddodwyd darlith yn y lie ucbod ar Elfenau LlwyddiRont," gan Mr D P George, brawd ieuanc, aelod o'r eglwys hon. Dyma'r tro cyntaf iddo ymddangos fel darlithiwr, ac aeth trwy ei waith yn llwyddianus. Byddai yn weVth i ieuenctyd ein cynnulleidfaoedd glywed y ddarlith hon, byddai yn sicr o fod yn symbyliad iddynt i fyned tuag i fyny. YNYSLWYD, ABEIRDAR.-Prydnawn Sul, Chwef 24ain, cynnaliodd yr ysgol uchod ei chyfarfod chwarterol o dan lywyddiaeth y gweinidog, y Parch R E Williama (Twrfab). Adroddwyd gan William Williams, Tommy Morgans, Mary H Jenkins, Richard Thomas, Meredith Williams, David Evans, Nellie Samuel, Thomas Williams. Aneurin Davies, Catherine M Lloyd, Lizzie M Evans, Gwilym Williams, Ruth J Davies, David Davies', Catherine Mary Davies, Lizzie Mathews, William Harries, Polly Hopkins, John Williams. Cafwyd anerchiad gan David Williams (Bryn- heulog), a solo gan Rees George. Holwyd y plant allan o'r Holwyddoreg gan y gweinidog. Canodd cor y plant amryw o donau o dan arwein- iad Mi D. Scourfield, a'r parti o dan arweiniad Mr Gwilym Richards. Dygodd hyn y cyfarfod da i ben.
I LLYTHYR JOHN SOCRATES JONES.
News
Cite
Share
aelod yno ar y pryd. Dywedodd hen ddiacon arall wrth roddi degwm cil-dwrn o hanner coron yn llaw pregethwr ieuanc an nos Sul, Dyna to, dos i brynu rhaw a'r banner coron yna, a gad lonydd i bregethu." Beth yw'r hanes I sydd yn canlyn. Y mae y llanc hwnw heddyw yn fardd-bregethwr hyawdl a pharchus sydd yn dal un o gynnulleidfaoedd mwyaf Cymru wrth ei ewyllys. Y cyfnod oraclaidd sydd yn canlyn hwn. Daw yr arwr yn wrthddrych o edmygedd. Cron- iclir ei eiriau. Y mae ei gydgystadleuwyr wedi prinhau etto, ac felly a yntau gam yn uwch. Bu farw Disraeli, ac felly dysglaeria Gladstone yn fwy llachar. Bellach, cydsynia pawb fod pob dywediad dibwys o eiddo yr arwr yn berl. Ie, ond efallai fod yr un peth wedi ei ddweyd lawer gwaith o'r blaen ? Dim pwys. Doethineb yw holl eiriau yd oeth hwn (?). Y cyfnod nesaf, cyfnod y gorphwys yw. Y fiwydr drosodd a'r cleddyf yn rhydu yn y wain Ymborthi y mae bellach ar drychiolaethau y brwydrau celyd gynt. Daw yr ieuanc ato i glywed am a fu, ac i dynu ysprydiaeth oddi- wrtho yn ei wendid. Tybia ami i henwr fod ei waith drosodd, ac mai doeth fydd iddo dynu ei draed i'w wely a marw, ond ni fu erioed gamsyn- ied mwy. Y mae dynion da yn gyfoeth i'r ddaear, ac yn sicr cyfoeth nid bychan i ardal i'w ei thadau penwynion profiadol. Os palla eu cyrff erys eu profiad, a hyd y nod yn eudystaw rwydd ceir y ddysgeidiaeth werthfawrocaf. 0 dadau byddwch fyw byth Y ris nesaf yn yr esgyneb yw annghofrwydd. Ysgrifenir cofiannau, cyfodir cofadeiliau, dyr- chefir pyramidiau, naddir enwau enwogion ar dalcenau y creigiau, ond! ond! Pa beth ddaw o honynt. Adgyfodir y mwmi o'i fedd yn yr Aifft, a thynir ei garpiau oddiam dano, ac ed- rychir i'w wyneb, ond pa faint callach yw y mwmi, neu yn wir, y sawl sydd yn ei chwilio ? Pa werth arosol sydd mewn enwogrwydd. Pan gyrhaedda y gris olaf hwn chwelir ef fel mwlwg. Niwl ydyw o flaen gwyntoedd cryfion. Deil ambell i enw yn fwy na'r llall. Ond pwy oedd Homer 1 Enw yn unig ydyw, medd rhai a'r yspryd y cynoesoedd Groegaidd, yr hwn a bar-1 odd i'r bobl ganu arwrgerddi ac a'i casglodd yn nghyd. Y ffaith am dani yw nas gwyr hyd yn nod y dysgedigion beth oedd Homer heblaw yr enw. Gwelai Carlyle gewri dynol yn Thor ac Odin yr hen Germaniaid gynt. I ni, nid ydynt ond enwau. Beth fydd gan y ddaear i ddweyd am enwogion teitlog goleuddysg amryddawn Cymru yn mhen deng mil o flynyddoedd etto 1 Pan welwn ambell i un yn y cyfnod oraclaidd ar ei fywyd, neu un fyddo wedi gwneyd ei hun yn oracl o'i febyd, yn rhodio o gwmpas, yn dangos ei phylacterau ddydd yr eisteddfod, neu ei ys- noden yn y gymmanfa fawr, neu ei bwysigrwydd a'i wybodaeth ddigymhar mewn cwmni o gor- achod, gofynwn yn dawel, Pa le byddi di a dy dipyn rhwysg yn mhen deng mil o flwyddi." Ha enw Ha glod Ha fawredd daear Na foed i mi gael fy swyno genych Pan oeddwn blen tyn, cofus genyf, yr arferwn hela y gloyn byw, a synu at ei dlysni a'i ddiniweidrwydd, ond pa le mae y gloyn neillduol hwnw yn awr Cofio yr wyf yn dda am y rhosynau a dyfent ar y pren yn ymyl y drws a'r briallu swil a gysgodent dan y coed wrth fin y gornant,a pha le y maent hwy? Mam oer yw'r ddaear, a thlawd fuaswn yn wir, hab fod genyf Dad yn y nefoedd a Brawd ar yr orsedd. Nid enwogrwydd ond Bywyd. Pan ddiflano cenedloedd cyfain fel niwl y boreu, o olwg y ddaear, saif eneidiau y cyfiawnion yn fodolaethau byw, didranc. Nis gall hanes, na gwyddoniaeth, nac athioniaeth esbonio hyn- neb ond lesu