Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

CWRDD MISOL DYFFRYN ABERDAR.

News
Cite
Share

CWRDD MISOL DYFFRYN ABERDAR. Cynnaliwyd y ewrdd uchod yn Llwydcoed, Gorph. 22ain. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan H. Davies, Calfaria. Ynabsenoldeb y cadeirydd, y Parch. E. Evans, Hirwain, ethol- wyd y brawd hoff ac hunanymwadol, D. Jones, gweinidog y lie, i'r gadair. Wedi galw enwau yr eghvysi, PENDEEFYNWYD :— 1. Fed y cyfarfod, yn herwydd amgylchiadau anorfod, yn cael ei ohirio hyd fis Hydref, ac i fod yr ystrrifenydd i nodi ei amser yn ei rybydd o hono i'r eglwysi. 2. Fod y pwnc oedd i fod yn Llwydcoed, sef Gyfiawnhad," i bregethu amo, i aros hyd y tro nesaf. yn nghyd a'r un pregethwr, sef Dr. Price. 3. Fod y Parch. W. Harries, Heolyfelin, i bre- gethu gyda Dr. Price. 4. Fod "ADnóg yr eglwysi i gadw eu eyd- gynnulliad" i fod yn bwnc y gyfeillach nesaf. 5. Fod y brodyr Mri. Henry Henry, Llwyd- coed; Owen Harris, Heolyfelin; a D. James, Gadlys, i siarad ar y pwnc. Wedi canu emyn, agorwyd y gyfeillach ar y Bwnc, sef Dylanwad gweddi," yn fedrus gan Mr Watkins, Cwmdar. Methodd y brodyr ap- pwyntiedig ereill fod yn bresenol. Siaradwyd hefyd-ary pwnc gan. Mri. Epynt Jones, Hirwain, ^bhn^Bevan, D. Evans, Thomas Morgan, Cal- faria, a'r Parch. B. Evans, Gadlys. CafWyd cyfeHlach dda. Terfynwyd trwy weddi gan y Parch. W. Williams, Mountain Ash. Am banner awr wedi chwech, decbreuwyd y cwrdd cyhoeddus gan Mr. Elias Evans, myfyriwr o Bontypwl; a phregethwyd gan yr ysgrifenydd n'r Parch. T. Humphreys, Cwmaman. Yr oedd y Llwydcoediaid a'u gweinidog parchus yn garedig a siriol. Derbyniasant a chynnaliasant y cwrdd yn anrhydeddus. Diolch iddynt. Duw a'u bendithio. I TELYNFAB, Ysg. pro tem. 0

[No title]

YMWELIAD A'R FELINGANOL.

MOUNTAIN ASH A WESTON-SUPER-MARE.

CYFARFOD UNDEB YSGOLION SABBOTHOL…

[No title]

'— CYPRUS YN MEDDIANT LLOEGR