Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
[No title]
LLANUWCHLYN.—Traddodwyd darlith yn y lie 11chod nos Ian, Hyd. 25ain, gan y Parch H. C. Williams (Hywel Oernyw), Corwen. Y testun oedd, "Cynddelw." ae ymddangosai y gynnull- eidfa wrth ei bodd yn gwraado. Y cadeirydd oedd Mr R. Williams, Bala. CARMEL, POKTYPRIDD.—Cynnaliodd yr eglwys hon gyfarfod pregethu er casg-lu at ddyled y capel, Sul a nos Lun, Tach. 4ydd, a'r 5fed. Pregethwvd gan y Parch. W. Parry, California, brodor o'r Boat. ac aelcd gwreiddol o Carmel, a'r Parch. J. R Jones, Llwynpia. Cawsom gyfar. fodydd llewyrchus a dymunol iawn. LIBANITS, TRBHEBBERT —Su!, Hydref 28ain, cynnaliodd yr eglwys uchod ei gwyl flynyddol, pryd y g-wasanaethwyd ar yr achlysur gan y brodyr Phillips. Groesgoch. Williams, Moun- tain Ash a Roberts, Llwynhendy. Cawsom brawf adnewyddol o allu a phoblogrwydd y brodyr uchod, yu y cyniiulleidfaoedd lluosog a gawsom, Csfwyd caagliadau da, ag ystyried amgylchiadau y lie. LlANNEFYDD.—Tea Parti a Darlith.—Trwy haelioni y cyfrillion yn y He hwn, rhoddwyd te, V, the da oedd hefyd, i blant yr ysgol Sal yn fwyaf neillduol; ond yr oedd gwahoddiad cyffredinol i bawb o aelodau yr ysgol, o aelodau yr eglwys, a'r gwrandawyr, a daeth llawer i gyfranogi o hono, SO yr oedd digon yn weddill. Yn yr hwyr, caf- wyd darlith ar "Gynddelw," gan y llafurus Hywel Cernyw. Cafodd cynnulleidfa luosog ei difyru, ei boddio, a'i hadeiladu teimlai pawb yn y lie, o'r hogiau llygadrwth hyd y rhai mwyaf deallus a beirniadol, eu bod yn cael ysglyfaeth lawer. Bysgwyliwn hefyd y gallwn wneyd rhvwbeth teilwng tuag at Ysgoloriaeth Cynddelw. TABERNACL, MERTHYR.—Nos Iau, Tach. laf, cynnaliodd yr eglwys uchod gyfarfod cyhoeddus er ordeinio pedwar o bersonau i'r swydd ddiaoon- aidd. Enwau y swyddogion newydd yw William Williams, James Bowen, Morgan Prothroe, a William Abraham. Cawsom gyfarfod dymunol a bendithlawn. Darllenwyd a gweddiwyd yn ddylanwadol gan y Parch. D. Davies (Dewi Dyfan), Capel Seion, Merthyr; yna cafwyd pregeth, neu anerchiad, gwir bwrpasol ar yr amgylchiad gan y Parch. John Lloyd, Ebenezer. Sylwodd Mr Lloyd yn fanwl a difrifol ar bwysig. twydd y swydd ddiaconaidd, a'r cymhwysderau angenrheidiol i'w chyflawnu yn briodel. Gweddi. wyd ar ran y swyddogion newydd yn hynod o afaelgar a dylanwadol gan y Parch. John Vaughan, Ainon, Merthyr. Bhoddwyd yr emynau allan gan Mr Richard Lewis, diacon. Yr ydym yn teimlo yn ddiolchgar i'n brodyr a'n chwiorydd o wahanol eglwysi y dref am roddi eu presenoldeb yn ein cyfarfod. Mae yn dda g-enym feddwl fod gweinidog o gymmeriad a galluoedd Dewi Dyfan wedi ymsefydlu yn Merthyr Tydfil, Yr lor a'i bendithio k llwyddiant mawr yn ei ardal newydd. Oesi yn hir is y nen,—by w'n iachus Bo'n uchel ffurfafen,- Yn ei eglwys lwys heb len, A'i oleu fel yr hanlwen. Duw Ddofydd, dal Dewi Ddyfan,-ein brawd, Mewn bri yn dy gorlan A dal ei gifts dealu gltln Yn nghynhes hyd yn Nghanaan. DM Vaughan a'i deulu fyny,-yn Ainon, Mae'n anwyl,—ca'i barchu; Dalier Lloyd, a'i deulu'r lan, Hyd Canaan, gwlad y canu. Merthyr. ABRAM VARDD. BETHANIA, MABSTEG.—Nos JSul, Tach. 4ydd. cynnaliwyd cyfarfod hynod yma. Dechreuwyd •cyfarfod trwy ganu emyn; yna adroddwyd y 40fed bennod o Esainh gan, Mr D. Joseph, a'r 3edd Salm wedi'r cant (ran Mr Wm. Llewellyn, a'r 3edd bennod o Mathew gan Miss S. A. Davies. Wedi hyry cafwyd ychydig sylwadau ar yr hyn &mae y Bedyddwyr yn ei gredn gan y Parch. R. ughes, yn neillduol darawiadol. Yr oedd torf laosog wedi ymgynnnll. Yr oedd y capol ya orlawn cyn chweoh o'r gloch, wedi dyfod i'r dyben o weled 31 yn marw i bechod, ac yu adgy. fodi I fyw buchedd newydd, trwy ufyddhau i'r ordinbad o fedydd. Aeth Mr Hughes trwy ei Wraith fel cawr. Teimlai ei hun yn fryf yn nerth el Ddnw. ABBBCWMBOYE.—Cafwyd cyfarfod tra dyddorol yu nghapel y Bedydawyr yn y Ile hwa yn ddt. weddar. Traddododd y Paroh. David Daviet, y gweifiidop. ddarlith ar Dyn a Daear.' Nid oedd eiaieu gwell testun, a cbafwyd darlith hefyd teil- wng o'r testun. Yr oeddym yn adnabyddus ft Mr Davies o'r blaen fel pregethwr, nad oedd y lleiaf yn raysg ei frodyr ond dyma y tro eyntaf i ni ei wrando yn darlithio. Y mae yn eystal darlithiwr %ft ydyw o bregethwr. Cawsom ddarlith wir dda, adeiladol, a dyddorol. Yr oedd ynddi lafur dir- fawr, iaith yn hytrach rhy goothedig, tt'r trfddod iad yn naturiol ac effeithiol, Byddai yn dda pe traddodid hi trwy Q-ymru. Ceir ynddi wybodaeth faddiol 80 adeiladol ar bethau angenrheidiol i'w gwybod. Dymunwn lwyddiant i Mr Davies yn ei gylch darlithyddol. Yr oedd y capel yn dda iawn o lawn, a'r gynnulleidfa yn ymddangoe wrth eu bodd. BITHESDA, ABPON.-Nos Sul, Hydref 21ain, ymgasglodd torf fawr i gapel y Tabernaol, i weled yr ordinhad o fedydd yn cael ei gweinyddu. Yn lie pregeth ar fedydd, fel y byddwn yn arfer gaol, dar- Uenedd ein gweinidog, y Parch. T. P. Davies, ranau o'r ysgrythyruu yn dal cyssylltiad fi r ordiobad i ac yna eglurodd, mewn dull amlwg 80 eofn, egwydd- orion y Testament Newydd gyda golwg ar ddull a deiliaid bedydd. Yna cawsom bregeth ragorol ar Actau i. 9. Cymmeradwyir y dull gan bawb a'i clywsant, gan ei fod, nid yn unig yn dangos i'r dyeithriaid oedd wedi dyfod yn nghyd ein heg- wyddorion gwahaniaethol, ond ar yr un pryd yn rhoddi cjfleusdra iddynt i'w glywed yn dweyd am yr Hwn a esgycodd oddiar yr Olewydd i eiriol drosom gerbron y Tad. Y mae yr eglwys wed i cynnyddu tri ar hugain mewn rhif er pan y mae Mr Davies wedi ymsefydlu yn ein plith-naw trwy fedydd, cbwech o dir gwrtbgiliad, so wyth trwy lythyrau; ac nid yn unig y mae yn cynnjddu mewn rhif, ond y mae felly mewn gweithgarwch o dan ofal ein gweinidog, am yr hwn y eiaradir yn uchel gan bawb yn ein hardal yn mhlith pob enwad, a thalentau yr hwn a edm/gir gan yr eglwys a'r gwrandawyr yn gytfredinol. SEION, W AUNARLWYDD.-NOfJ SuI, Tach. 4ydd, cynnaliodd yr yegol Sabbothel yn y Ile uchod ei ohyfarfod chwarterol, pryd yr adroddwyd tua 18 o wahanol ddarnau mewn barddoniaeth a rhydd- iaith, i glywedigaeth un o'r cynnulleidfaoedd mwyaf lluosog a welwyd yma er ys tro. Yr oedd pob un o'r adroddwyr ar eu huehelfanau. Nid wyf yn cotio am well cwrdd er ys llawer dydd. Yr oedd y corau bach a mawr yn ein gwasanaethu, ac yr oeddynt yn deilwng o'u harweinydd galluog, Mr R. Howells (Alaw Cynon). Cadeiriwyd yn fedrus gan y Parch. W. Davies. REHOBOTH, BRITON FEBBY.—Prydnawn Sul, Hydref 28ain, cynnaliodd ysgol Sabbothol yr eglwys hon ei chyfarfod trimisol. Cawsom ad- roddiadau cywir o ddarnau barddonol a rhydd- ieithol gan ddeiliaid yr ysjjol. Cynnaliwyd cyfar- fod cyffelyb am chwech o'r gloch drachefn. Yn y cyfarfod hwn, anrhegwyd un brawd a Beibl ar ei ymadawiad o'r He i Landwr, per Abertawe, eef Evan Thomas. Yr oedd y brawd hwn yn hynod o ffyddlon gyda'r plant yn y vestri. I ddiweddu, cawsom gan Mrs Lewis yr 'Ardd Fiodau" yn gampus. Cafwyd cyfarfodydd wrth fodd calon y gwrandawwyr. HAELECH.—Oyrinaliwyd cyfarfod blynyddol yn y lie uchod ar dyddiau Mawrth a Mercher, Hydref 30ain a'r Slain. Pregethwyd gan y brodyr E. Parry, Ffestiniog J. G, Jones, Porfchmidoc a J. S. James, Llandudno. Cafwyd cyfarfod lluososr, a phregethau gwir fuddiol, adeiladol, a hynod o gymhwysiadol i'r gwrandawwyr. Yr oedd yr athrawiaeth yn iachus, a phob peth a gafodd ei draethu & gair Duw yr sylfaen iddo. Profwyd yr atbrawiaeth o gyfiawnhad trwy ffydd, diogelwch y saint yn Nghrist, a bod y fath undeb rhwng y saint a Christ, fel nad oes yr un gallu a all eu gwahanu. Profwyd befyd nad oes dim a wneir gan neb, nac ar neb, yn ateb yr un dyben daionus, os na bydd Duw trwy ei Ysbryd yn ymwneyd a'r gwaith, a bod yn rhaid i bob person yn unigol ar ei ben ei hun deimlo argyhoeddiad yn ei gydwybod ei fod yn bechadur, so mewn angen am Geidwad, a thrwy ddylanwad yr argyhoeddiad i gydymffurfio yn ber- sonol ei hunan &'r pethau perthynol i ddeiliaid yr eglwye Gristionogol. CARMEL, PONTBHYPPENDIGAID. — Nos Lun, Hydref 29ain, traddodwyd darlith yn y capel uchod gan y Parch. A. J. Parry, Cloughfold, ar y testun gwir ddyddorol hwnw,' Budaioldeb Addysg i'r Gweithiwr.' Ofer yw eeisio dyrchafu Mr Parry fel darlithydd; y mae hysbysu ei enw yn ddigon. Er fod y tywydd yn anffafriol, etto daeth cynnulleidfa fawr yn nghyd. Cadeiriwyd yn rhag- orol gan Dr Rowlands, F.R.C.S., o'r lie hwn. Y mae y boneddwr hwn yn teilyngu clod, a pha ryfedd, o berwydd efe oedd yn llanw y gadair yn y Bont pan y bu Dr Davies (y gwr dall) yma yn darlithio er's tOll. phum mlyuedd ar hugain yn ol. Hono oedd y ddarlith gyntaf yn y Bont, ac y mae Dr Rowlands yn parhau yn ei berSe thrwydd fel cadeirydd hjd y dydd hwn. Cafwyd darlith rag- orol, fel yr oedd pawb yn hiraethu am gael ei chyffelyb etto. Yr elw at ddyled y capel. Y mae yr eglwys yn Carmel yn tneddwl gweithio yn egniol er cael gweled yr hatling olaf o'r ddyled wedi ei thalu. FFYNNONHBNRY, CWMDUAD, A RHYDABGABAU. —Cynnaliwyd rhes o gyfarfodydd yn y lleoedd nchod ar ddyddiau Mawrth a Mercher, yr 16eg a'r 17eg o Hydref, er sefydlu y Parch. W. H. Price, diweddar o Builth, i fod yn weinidog arnynt. Pryduawn y dydd cyntaf, yn Rhydargaeau, dech- reuwyd y gwasanaeth gan y Parch. S. Thomas. Aberduar a phregethodd y Parchn. J. Thomas, Caerfyrddin a J. R. Morgan, Llanelli. Y n yr hwyr, pregethodd y Parchn. J. Thomas, Caer. fyrddin, a S. Thomas, Aberduar. Ar yr un noeon, yn Ffynnonhenry, anerchwyd gorsedd gras gan Mr J. Ll. Morris (Llew Llawer). Athrofa Hwlffordd a phregethodd y Parchn. J. Davies, LlandysBul, a J, R. Morgan, Llanelli. Am 10 o'r gloch, boreu dydd Mawrth, yn Ffynnonhenry, dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch. E. Lewis, Llandyssul; a phregethodd y Parchn. G. H. Griffiths, Cat tell newydd-Emlyn S. Thomas, Aberduar a J. R. Morgan. Am 2 o'r gloch, yn Oww-duad, dechrea. wyd trwy ddarllen a gweddio gan Mr T. Evans, Athrofa Hwlffordd j a phregethodd y Parchn. J. R. Morgan a G. H Griffiths. Yn yr hwyr, yn yr uo lie, deehreuwyd y gwasanaeth gllDY Pareh. A. Jenkins (M.O.); a phregethodd y Parchn. G. H. Griffiths, S. Thomas, a J. Davies, Liandyssul. Ac ar ol i'r gweinidog newydd roddi byr anerchiad i'r gynnulleidfa yn hynod effeithiol, dygwyd y cyfar- fodydd dyddorawl i derfyniad. Gobeithiwn y gwelir ffnr; thau yn eanlyn. Mae yma faesydd hyfryd, ao eglwysi dymunol. Caffed ein britwd anwyl lawer o gyisuryn mhlith y taint, a Uawer o wenau Duw ei dad. Llwyddiant fyddo gyda'r weinidogaeth i ddyehwelyd estroniaid lawer i dy ei Tad. BAUCJFOBFELBN^—Saif y lie hwn rhwng Ponty- berem a Llange< deyrn, ar gopa y bryn, so yn ochr y brif-ffordd eydd yn arwain o Lunon i Gaer- fyrddin. Prif hynodrwydd y lie oedd capel byehan gan y Wesley aid a tlioll-borth. Ei hyiodrwydd yn bresenol yw, ysjjol Sabbothol perthynol i'r Bedyddwyr, ac Yegol Fyrodol, yr hon sydd wedi ccttiotaagwyth cant o bunnau. Da genyf allu hysbysu fod golwg obeithiol iawn ar yr yegol Sab- bothol yn y lie hwn, yr hon a sefydlwyd tua phum mlynedd yn ol, yr hyn a barodd gryn lafur ac ym- drech i amryw frodyr a ohwiorydd perthynol i eglwys Llangyndeyrn ond yn awr y maent yn dechreu medi o ffrwyth eu llafur. Mae yma ysgol luosog o ran rhif—yn ddarllenwyr galluog, ac yn esboriwyr da. Ar ddydd Sadwrn, yr 20fed o Hydref, anrhegwyd deiliaid yr ysgol Sabbothol yn y lie a gwledd de rhagorol. Gallwn alw y wledd hon yn gariad-wledd, oblegid dangoswyd undeb a chydweithrediad yn y cyflwyniad ac yn y mw) n- had, Diolch i'r gwragedd a'r merched ieuainc fu yn gweini wrth y bwrdd. Treuliwyd y prydnawn gan yr ieuenctyd a'r plant mewn chwareu, fel y mae'r arfer cyffredin, o daflu losins, cnau, ac aflllao. i'r awyr, a'u bela gan y merched a'r bechgyn bach. Gorymdeithiwyd, a chanwjd amryw donau gan y c6r. Buwyd cyn belled ag amaethdai y Trailwm a'r Ffosfelen. Yn yr hwyr ovnnaliwyd cj f#rfod adroddiadol a chanu. Canwyd caaiadaJ melus yn ddigon i swyno un teimlad, o dan arweiniad y brawd Joseph Jones, yr hwn sydd wedi dangos ffydd- londeb ac amynedd mawr, a'r hwn sydd yn deil- wng o ganmoliaeth a pherch y mmydogaeth. Cawsom lawer o foddhad yn y cyfarfod. Llyw yddwyd y cwrdd gan y Parch. O.Jenkins, Pont- yeats, yn absenoldeb ein hanwyl weinidog, Mr Jones, yr hwn sydd wedi cyfarfod ag amgylohiad Jones, yr hwn sydd wedi cyfarfod ag amgylcbiad triat a gofidus, sef colli ei anwyl briod. Duw pob dyddanwch a gysuro ein brawd. yn ei dristweh. SEION, TRRFORIS.-Hydref 28ain, cynnaliodd yr eglwys uchod gyfarfodydd tra gwahanol i'r hyn ydynt yn arferol o wneyd ar y Sabbathau, sef eu neilduo yn hollol i weddio ar Dduw am Iwyddiant ar yr ysgol Sabbathol. Dechreuwyd am hanner awr wedi naw. Yr oedd hwn yn hollol i'r athrawon a'r athrawesau. Yna y cyfarfod hanner awr wedi deg un cyffredinol oedd hwn. Yna y cyfarfod dau o'r gloch, pryd yr oedd yr holl ysgolheigion ar y llawr, a'r gwrandawyr yn unig ar yr oriel. Canwyd amryw ddarnan gan yr ysgolheigion yn ddifyrus iawn, a chafwyd areithiau grymus o blaid yr ysgol Sul gan amryw frodyr. Yr oedd y cyfarfod ehwech o'r gloch hefyd yn gymysglyd o weddio, canu, ac areithio. Llywydd yr holl gyfarfodydd ydoedd John Bowen, Ysw., yr hwn sydd yn ymdrechgar iawn o blaid yr ysgol yn y He. Yr areithwyr oeddynt y Parch. R. Roberts. A. Grey, Yaw., T. Francis, J. Havard, E. John, P. Jones, a J, Francis. Cofir y cyfarfodydd hyn yn hir gan yr eglwys. JERUSALEM, LLWYNPIA.—Er pm pmddangoso ld gair o'r lie hwn ar wyneb llachar SEREN CYMRU, mae amryw bethau o bwys wedi dygwydd un ydyw agoriad capel bach cyfleus yn Cwmclydach. Cyrmwysa eisteddleoedd i a;¿os tri chant o wran- dawwyr. Gan fod y Cwm hwn yn debyg o ddod yn lie poblog, teimlem fel eglwys a gweinidog mai ein dyledswydd oedd rhoi CHill i'r cjfeiriad hwn, ac erbyn hyn mae y syniad wedi ei sylweddoli, a'r capel wedi ei agor. Pregethwyd yn effeithiol i gynnulliadau lluosog ar yr agoriad gan ein parehus weinidog J. R. Jones; I. Jones, Tre William a W. Haddock, Cwmbwrla, Abertawe. Cawsom garedigrwydd mawr gan amryw gyfeiliion ar adeg yr agoriad. Mae y persoaau a gMihn yn deilwng o'n diolchgarwch mwyaf cyhoeddus :-Dt J. S. Jones am roddi awrlais; Mrs John am y bwrdd; Mrs Bowen am y gadair Mrs Wigley am Feibl a llyfr hymnau; Mrs Davies a Thomas am gAdair; Mrs Neil am oilcloth Mrs Williams am y carpet; a theulu Ffynnondwym am eu caredigrwydd mawr a'i rhodd o £ 3 ar yr agorind. Hefyd, tynodd Mr Thomas, Manager, gynllun y capel, a rhoddodd ei lafur yn rhad yr oedd hyn gystal a rhodd o jB5 i ni; diJch yn fawr iddo. Cawsom garedigrwydd mawr yn y cnsgliadau hefyd. Yr oedd ein hysgol y Sul diweddaf yn rhifo pedwar ugain a deudde*, a'r gynnulleidfa nos Sul yn sicr o fod dros ddau cant. Gwelwch ein bod wedi cael dechreu anwyl yn Cwmclydach; p'arhaed Duw i wenu yw ein gweddi. Cyn rhoi y pin o'mliaw, oaniatewch i mi ddweyd etto fod unai-ddeg wedi cael eu bedyd»ilio gan em gweinidog, Mr J. R. Jones, er pan ym- ddangosodd hanes bedydd yn y SEUEN o'r blaeti. Hefyd. bydd yn bedyddio etto y Sul neeaf. Cewch y rhif yn y SEREN nesaf. Nos Lun, Hydref 8fed. bu y Parch A. J. Parry, Cloughfold, yn traddodi darlith alluog a dyddorol yma ar Elfenau Llwydd- iant.' Yr oedd Mr Parry yn ei fan mwyaf hapus i'n tyb ni. Llanwyd y gadair gan W. Williams, YBW., Grovefield, Penygraig. Cafodd y plant eleni fel arfer wyl de. Bu y fam ysgol, a'r ferch ysgol o Cwmclydach, yn cyd-deithio trwy y gymmydog aeth, a rhifai yr orymdaith gannoedd. Dvwedai rhai pum cant. ereill fwy, ac ereill lai. Cawsom gyfarfod dyddorol iawn ar ol te, dan lywyddiaeth Mr Jones.
Bedyddiadau, &o.
Bedyddiadau, &o. Bethania, Llanelli.—Hydref 14, un Tach. 11, tri; yr oil gan y gweinidog. Derbyniwyd un brawd a tair chwaer trwy lythyron, a dau oddiar dir gwrthgiliad. Maesyberllan.—Tach. 11, un chwaer ieuane, gan G. H. Llewellyn, y gweinidog. Siloam, Brynaman.—Medi 9. tri, dau o ba rai ddaethant yn mlaen ar y pryd. Hydref 28, tair chwaer oil gan Mr Roberts, y gweinidog. Felinfoel.-Taoh. 11, un ar bnmtheg. gan y Parch J. Jones, yn afon Lliedi. Derbyniwyd an hefyd trwy lythyr. Moriah, Llanelli.—Tach. 11, pump chwaer ieuane, gan Mr Rowlands. Ynhwanegwyd pump hefyd drwy lythyrau. Llanfachreth.—Taoh. 4, ddeuddag, gan y Parch. J. Edwards. Y mae eraill etto yn aros am yr un, fraint.
CWUDD CHWARTEE DOSPARTH UCHAF…
CWUDD CHWARTEE DOSPARTH UCHAF iIR GAERFYBDDIN. Cynnaliwyd y cwrdd diweddaf yn Horeb ar y 6fed a'r 7fed o'r misbwn. Penderfynwjrd 181 y gynnadledd 1 Fod pendertymaaau y cwrdd diweddaf yn caei eu derbyn a'u cadaruhau. 2. Fod y cwrdd nesat i Cody. Moriah, ya mis Chwefror. 3. Ein bod, ar ol gwraLdo ar y brodyr ieuainc Jones, Crops Inn, a John, Moriah, yn pregtthu, yn eu cymmeradwyo ya wresog i sylw pwvllgorau ein hathrofeydd. 4. rod y gynnsdledd yn taer gymheil yr eglwysi i gasglu at y Geuadaeth Gartrefol o hyn i r Nadolig. 5. Ein bod yn galw sylw yr eglwysi at gymhelliad Mr Booth i gyfranu yn helaethach tuag at yr Undeb SeisneR. 6. Fod diolchgarwch gwresog y cwrdd yn cael ei gyflwyno i eglwys Horeb a'i gweinidog, am eu mawr garedigrwydd tuag at y gweini dogion, 7. Ein bod yn cymhell eglwysi y cylch hwn i gyfranu tuag at yr Undeb Cymreig. T MODDION CYHOEDDUS. Dechreuwyd y cwrdd y noson gyntaf gan Jones, Cross Inn a pregethwyd gan Jo: es a Rogers, Pwll. Am 10, dranoeth, arweiniwyd y cwrdd gan Williams, Pwll; a phregethwyd gan John, Moriah; Williams, Cross Inn; a Morgan, Seion. Am 2, anerchwyd gorsedd gras gan PrICe, Llanon; a phregethwyd gan Rowlands, Moriah, a Hughes, Bethel. Am 7, gweddiwyd gan Thomas, Seion; a phregeth- wyd gan George, Bethania; Phillips. Maes- canner; a JOLes, Felinfoel. Yr oedd y cjfarfodydd oil yn rhai hynod o wesog a dylanwadol, a hyderwn y gadawant effeithiau daioaus a pharhaus ar eglwys Horeb a'r gymmvdogaeth. P. PHILLIPS, Ysg.
TRECYNNON, ABERDAR.j
TRECYNNON, ABERDAR. j Y mae yn wybyddus i amryw fod yn mwriad j Parch W. Harris ymadael o'r lie hwn i fyned sir Benfro; ac yr oedd yn mwriad eglwys y Bed- yddwyr yma i'w anrhegu as anerchiad ar yr ach" lysur, a darfu i amryw gyfeillion danysgrifio yr achos. Yn awr, gan ein bod wedi llwyddo I gael gan Mr Harris i aros, bwriedir rhoddi tysteb- iddo oddeutu Nadolig nesaf. Pob un sydd heb gael cyfle i roddi ar y llyfrau sydd all-an, ac ft j ewyllysio roddi rhyw faint i chwyddo y dystebt teimlir yn ddiolchgar iddo am ddaufon ei gyfraO i Mr Owen Harris, grocer, Trecynuoa, yr hWO sydd wedi ei bennodi yn drysorydd. W. DAVIES, Ysg. s
TAIBACH, MORGANWG. !
TAIBACH, MORGANWG. Darlith.—" Ryfeddodau'r Nen."—Traddodwyd darlith ar y testun uchod gan y Parch D. Grif- fiths, Dowlas, nos Ian, Tachwedd laf, yn y Workmen's Hall, Taibach. Bin cadeirydd oedd í Mr David Sinadeton, Taibach, blaenor parchuS gyda'r Methodist: aid Calfmaid i, yr hwn a wnaetb ei waith yn deilwng o'r cheers triphlyg-. lEg. lurid y. ddarlith gan Mr Griffiths trwy gyfrwng y magifJ lantern. Gwnawd y gorchwyl gyda't magic lantern yn y modd mwyaf medrus 800 ar- dderchog, nea rhoddi boddlonrwydd cyflawn i < lygaid yr edrychwyr, a thraddododd Mr Griffiths r ei ddarlith yn eglur, nerthol, a galluo?. Di- olchwn oil i Mr Griffiths am ei ddarlith ragorol* Cymmerwn y cyfleusdra hwn, cyn myraed yn mhellach, i ddweyd wcth ddarllenwyr SERBN CYMKU O berthynas i garedigrwydd ac haelion* gwahanol enwadau yn y Taibach at eglwyff Smyrna, ao o barthed i nodiad diangenrhaid a ymddangosodd yn y SEREN ychydig amser yn ol gan rhyw un a broffesai anfon hanes bedydd It gymmerodd le yma. Beth ai cenfigenu yr oedd ein bod gymmaint o ffryndiau a'u gilydd yma? Paham na fuasai yn rhoddi banes. bedydd yn syml, a thewi wed'yn ? Teimlwn yma ya ofidus o i herwydd, ao y mae yn drwg liwio y teimlad da ag sydd yn boddli rhyngom a'n gtiydd fel en- wadau orefyddol. Dan^osodd cyfeillioa o bob enwad yma deimlad gwir deilwng tuag atom ya einoyfyngder presenol gyda'r capel, trwy gym- meryd tocynau i'w gwecthu, a rhoddodd y per- sonau; parchusaf o honynt eu presenoldeb yn y ddarlith, a ohawsom fenthyg y Workmen's Hall i'w chynnal ar delerau rhesymol dros ben. Peth nesaf y capel.-Gwyr y rhan fwyaf #■ ddarllenwyr y Seren am y golled fawr a gawsom yma yehydig amser yn ol, trwy i do y caper gael ei ddryllio a'i dadu i ffwrdd yn hollol gan y gwynt mawr Hydref Heg. Gwnawd appeliad trwy y Baptist a'r SEItEN am ychydig o gyn- northwy eglwysi a phersocau unigol i ni yn ngwyneb yr anflfawd, ao ni fu ein appeliad yn ofer. Cydnabyddwn yn ddiolchgar i vi dderbyn cheque am £ 1 Is yr wythnos ddiweddaf oddiwrth Mr D. Davies, Glebeland, Merthyr, a symiats ereill o Loegr. y rhai a gydnabyddwn yn y Bap- tist. Yr ydym yn erfyn ar i egiwysi a chyfeillion gofio am danotn yn ein cyfyngder. Yr oedd y ddyled yn drom o'r biaen ar eglwys wan ac y mae yr hyn a ddygwyddodd bron yn ddigon i's llethu. Yr ydym wedi ein gwahodd gan gyfeill- ion o bob enwad yn y Taibach i fyned atynt i bob- ty trwy y lie, i gasglu at yr amgylchiad, ac y maent oil yn bwriadu gwneyd eu goreu o'n plaid.. Y mae genym hyder oryf hefyd, wedi gwneyd appeliad trwy y SBUBN, y cymwier y cyhoedd f peth i ystyriaeth, so y gwneir casgliadau gan ein heglwysi o'n hen wad ein hunain beth bynag. Mae y oapel wedi ei orphen yn awr, oud nid heb* fil hirllaes yn uglyn ag ef. Mae yr eglwys, er y owbl, mewn sefyllfa lewyrchus ao adfy w ol. Nid ydym ar ori ein calon etto. tra byddo Bedydd* wyr yh Nghymru. Mae teimlad da gau bawb yma tuag atom, ao yn mhlith eglwysi y Bedydd-- wyr yn y oylch. Hyderwn y gwna y rhai hyn aC ereiii eu rhan dro-som. Derbynir pob rhodd gan y gweinidog,-Rev. W. T. PRICE, Baptist KiD- ister, Taibach, S.W.
[No title]
HH!B POD Aa J.AW.—Khybyddir y cyhoedd rhag' pryuu Peiriant Gwnio rhad, o wueuthuriad gwael,* gynaygir yn ami gan werthwyr. Gwoll pryuu Waauttiuriad da, a gallwn gynnnenvlwyn Taylor'* Pateat" fel ua rhagorol o dda. Anfoner a.<i J)ro~ tpeetta at Taylor's Machine Coinpauy, 97. Cheap- Miie, Loadon FLOHIUKH t-Foa THB THBTH AND BBBA.THJ-«-A. few drops of the liquid "Floriline" sprinkled on a wet tooth-brush produces a pleasant lather, whiebr, thoroughly cleanses the teeth from all parasites ec iaapurites, hardens the gums, prevents tartar, stop# decay, gives to the teeth a peculiar pearly-whitevesip, and a delightful fragrance to the- brea.th, It removes* all unpleasant odour arising from decayed teeth or tobacco smoke. The Fragrant ljloriline," bei IM composed in part of Honey aDd sweet herbs, is deli- cious to the taste, and the greatest toilet discovery of the age. Priee 2a 6d, of all Chemists and PerfmneM. Prepared by Henry C. GAIXUP 493 Oxford street, Londtttu FOR TJlB COKPLAXION HAGAN'* MAOHOUA Am gives a puro blooming complexion, sad lestorpa youthfnl beauty. Its effects are radQG4 natural and perfect. It removes redness, blotches^ pimples, tan, sunburn. »nd freckles, and niakas a? lady of thirty appear hut twenty. The ,YJ agnoll# Balm makfs the skin smooth, and imparts a fraah appearance to the countenance. In use in America- tor the last twenty-five year*. Sold by all Chemists and Perfumers, in I ottlea at three shilling*- European Depot, 266, Hisrh Holborn, London. Aovies Ti) MOTHBHS!—Are you Droken ia yomr rest by a sick chil i sutferiug with the pain of cutting teeth r Go at once te a chemist and get a bottle of MRS. Wrosiow's SOOTHING SYUUP. It will relieve- the poor sufferer immediately. It is perfectly harm- less and pleasant to taste, it produces natural, quiet sleep, by relieving the child from pain, and the little cherub awakes as "bright as a button." It soothes the child, it softens the gums, allays all pain, relieves wind, regulates the bowels, and is the best kaown rem dy for dysentery and diarrhoea, whether arising from teething or other causes. Mrs. Winslow's Soothing >yrup is sold by Medicine dealers everywhere at Is lid per bottle. Manufactured in New York, and at 493, Oxford-street. London. THROAT AFFECTIONS AND HOAKSENBSS. — All- suffering from irritation of the throat and hoarseness will be agreeably surpiised at the most immediate relief afforded by the use of "Brown s Bronphla1 Troches." These famous "lozenges" are HOW sold by most respectable chemists in this countiy at Is per box. People troubled with a hacking cough, a slight cold," or bronchial affections, cannot try them too soon, as similar troubles, if allowed to progress, result in serious Pulmonary and Asthmatic affections^ See that the words Brown's bronchial Trotchea are on the Government Stamp around each box.- I Manufactured bv JOHN 1. BROWN t SONS, Boston*. United States, "Depot 495 Oxford-street, London.