Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

AT EIN GOHEBWYR, &c.

TALIADAU.

SYL W E H, !

ARIANDY CYNNILO Y LLYTHYRFA…

Family Notices

[No title]

News
Cite
Share

YSGOL FRYTANAIDD MEIDRIM.-Ar y lOfed o'r mis hwn, dartu i gyfeillion yr ysgol uchod anrhegu y plant ac ereill a the a theisen hyfryd yn yr ysgoldy newydd. Y mlfurfiodd tua hanner cant o blant, ac amrywiol ereill, yn orymdaith, er myned drwy y pentref i awchlymu tipyn ar yr archwaeth, yn cael eu blacnori gan y Parchedigion Jenkins, Cana, a Williams, Salem, yn nghyd a Charles Mansfield, Ysw., ieu., Abertawe. Wedi myned trwy y pentref, dychwelasom yn ol i'r ysgoldy, er cyfranogi o'r te da a'r deisen flasus ag oedd wedi eu parotoi i ni gan y gwragedd medrus. Wedi i bawb gael eu digoni gan. y danteithion uchod, ac i'r byrddau gael eu clirio, cymmerwyd y gadair gan Mr. Mansfield, yr hwn a alwodd ar y plant i ar- ddangos eu dawn canu, yr hyn a wnaethnat trwy ganu amryw douau yn swynol dros ben, nes oedd ein calonau yn llawen. Wedi darfod a'r canu, cynnygiodd ein cadeirydd iechyd hir a dedwyddwch paihaus i Dywysog Cymru a'i briod hawddgar, yr hyn y cydunwyd gan y plant drwy guro eu dwylaw. Cynnyg- iwyd ac eiliwyd diolchgarwch i brif noddwyr yr ysgol, ac hefyd i'r gwragedd caredig ag oedd yn gweinyddu ar y plant. Cyn- nygiwyd diolchgarwch i Mr Mansfield am ei fedrusrwydd yn y gadair. Penderfynwyd hefyd fod llythyr o gydymdeinjlad i gael ei anfon oddiwrth y pwyllgor hwn at Mrs. Williams, gweddw y diweddar D. Williams, Ysw., (Alaw Goch), yn ei gofid a'i thrallod presenol, 9 herwydd colli mor sydyn ei phriod hawddgar a charedig, yr hwn a roddodd y tir am ddim ar ba un y mae yr ysgoldy yn y He hwn yn sefyll, yn nghyd ag d620 tuag at ei adeiladu. Terfynodd y cyfarfod, a phawb wedi eu boddloni. Da genyf allu hysbysu y cyhoedd fod yr ysgol uchod yn dod yn mlaen yn rhagorol, ond gellir gydag ychydig o ffyddlondeb a chydweithrediad wneyd yn well.— D. W. PBNYGARN, GIR LLANFYNYDD.—Ar y lOfed o'r mis hwn, cafwyd gwledd ragorol yn y lie uchod odea bara brith, er cof am briodas Tywysog Cymru. Cafodd 35 o blant yr ys^ol ddyddiol, yn nghyd a 25 o hen bobl eu diwallu yn gysurus. Dymunein hir oes a llwyddiant i Mrs. Evans, Penygarn; Mrs. Davies, Penybank; Mrs. Thomas, Trebwl; Mis. Tho- mas, Finant; Mrs. Price, Carpenter, a Mrs. Davies, Panty- garn, am eu caredigrwydd a'u serchogrwydd y dydd hwnw, A trwy iddynt ddyfod & digonedd o de, siwgr, a bara, yn nghyd a gweinyddu ar y pryd. Dymuniad pawb yma yw, priodas dda i'r Tywysog a'i gymhares.-G. CEFNMAWR.—Y diwrnod byth gofiadwy hwnw, Mawrth lOfed, darfu i weithwyr Mr. Jonathan Jones, Stone Merchant, Cefnmawr, gyflwyno i Mr. Wm. Ryland Jones, y mab, Feibl Teuluaidd mawr ac ysblenydd, yn dysteb o barch iddo am ei ymddygiadau caredig tuag atynt fel gweithwyr bob amser, gyda dymuniad ar iddo fod yn feddiant teuluol o dad i fab, o fab i *yr, o wyr i or-wyr. &c. &c., hyd nes y byddo ei ddail yn dadfeilio gan amser, a bod iddo ef, ei briod, a'i blant oil feddiannu y trysor anmhrisiadwy sydd yn gynuwysedig yn 1 Beibl.—UN. :V.