Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL Y…
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL Y RHYL. ARHOLIADAU GORSEDD Y BEIRDDv A ganlyn ceir enwau vr ymgeiswyr Uwyddiaus yn y gwahanol arhotliadau.:— Urdd Bardd.- Y Parch. H. Evans (Cynfor), Brymbo; Miss Martha Griffith (Mona), 38, Hatherley Street, Lerpwl; Evan Morris Hughes (leuan Orwig), Y Gareg Wen, Dinonvig; Henry Parry (Dyfrydog), Penygraigwen, Amlwch; Arthur E. Williams (Arthur ap leuan), Nebo, Llanllyfni; Owen Jones (Owain Hefin, Y Waenfawr; T. Jones (Lilanor- fab), Ystradfel'lte Gruffvdd Pari (Gwyr- fai), y Waenfawr. Urdd Ofydd.—Owen Davies (Dolen- og), 151, Forest-road, Walthamstow, Llundain, E. Urddau Cerddorol.-Pencerdd: M. L. Eardley (Per.,cerddes Arf'on), 56, Dean- street, Bangor; William R. Williams (Pencerdd loilen), Plas-y-Rhiw, Cwmy- glo; Evan. Griffith Williams (leuan rfon), Hyfrydle, Bethel, Caernarfon.— Cerddor: R. W. Jones (Api Garmon), 79, Northbrook-street, Princes Avenue, Lerpwl; William G. Pritchard (Ed- ffwd), Glandwr-terrace, Clwtybont; Owen J. Griffith (Eilydd Ailltwen), Din- orwic Cottage, Y Fachwen, Cwmyglo; William Williams, A.C. (Perorydd Menai), 19, Tabernacle-street, Bangor; Hywel Ellis (Hywel Alaw), Bethel, Caer- narfon; Rees Richards (Cerddor Saron), 7, Dinefwr-terrace, Penybanc, Amman- ford Tom Richardls (Alaw- Blaenau), Gwyn Villa, Saron, Llandebie; John Bevan (Alaw Myrddin), Brynmair, Saron, Llandebie; Robert John Widliamis (Alaw Cilgwyn), 24, Shaftes- bury-street, Eccles, Manceinion; Ed. Jones (Glyn Alaw), Glynceiriog Kate Williams (Meirionwen Deudraeth), Blaenyddol, Penrhyndeudraeth. — Cerdd Ofydd: David Thomas (Alaw Gwili, Manorafon, Cross Hands; Henry R. Jones (Alawydd Eiiir), 1, Warden- street, Llanberis; R. W. Jones (Ap Harmon), 79, Northbrook-street, Ler- pwll; Richard Jones (Aber Alaw), Glan Aber, Cwmyglo Robert John Williams (Alaw Cilgwyn), 24, Shaftesbury-street, Eccles, Manceinion; John G. Williams (Perdonydd Arfon), Bryn Hafod, Llan- rug- John Mainwaring (Alaw Hefin), Glangwil'y Villa, Cross Hands Richard) D. Jones (Alawydd Eryri), Cae Poeth, Llanrug; Ritchie Hughes (leuan Alaw), 1 y Coch, Llanrug; Maggie Owen (A"r- \-onia), Talgwynedd, John-street, Rhyl; John Evan Jones (Alaw Cynfi), Tai'r Capel, Ebenezer, Sir Gaernarfon; Tohn Evans Jones (Alaw Deiniol), 2, View- terrace, Ebenezer, Sir Gaernarfon; Jairrett Roberts (Alawydd If or), Ty'n-y- Fron, Llanrug. Eifionydd, (Cofiadur yr Orsedd).
LLANGRANOG. '-
LLANGRANOG. MARWOLAETH. Y mae angau yn gwneud difrod ofn- adwy ar ein cymydogaeth y flwyddyn hon ac mae yr hen ddiareb yn cael ei gwireddu yn ami iawn y dyddiau hyn, sef, "Gauaf glas mynwent lawn." Y mae genym i gofnodi am farwolaeth arall yr wythnos hon eto, sef marwol- aeth Mrs. Mary Davies, Castellenyn, yr hyn a gymerodd le boreu dydd Mawrth yr ail cyfisol, ar ol byr gystudd, ond caled. Yr oedd y chwaer hon yn hoff gan bawb yn yr ardal, a theimlir siomedigaeth a hiraeth mawr ar ei hoi. Yr oedd yn aelod ffyddlon a gwasan- aethgar yn eglwys y Wig, lie y teimlir y bwlch yn fawr ar ei hoi. Pan fyddai cyfarfod neillduol yn yr eglwys, byddai hi bob amser yn llawn sirioldeb yn gweini i'r dieithriaid yn y Festri, a chwith yw meddwl na welir ei gwyneb hi yno byth mwy. Dydd Gwener canlynol, hebryngwyd ei gweddillion i orphwys i fynwent Capel y Wig, pryd y gwasanaethwyd yn doddedig iawn gan ei hanwyl wein- idog, y Parch. L. Evans, B.A. Gaclawa briod ag un mab i alaru ar ei hol. Y mab yn mhell oddi cartref, ar y mor, pan cymerodd ei marwolaeth Ie, nerth a gaffo i dderbyn y newydd trist am farwolaeth ei anwyl fam, yr hyn fydd yn ergyd drwm iddo, gan ei bod yn mwynhau ei chynefinol iechyd pan y gadawodd ef ei gartref; y mae yna hefyd frawd a chwaer yn galaru am eu colled o golli chwaer oedd yn anwyl iawn ganddynt. Bydded iddynt i gyd i gael nerth yn y brofedigaeth i droi i'r lie iawn am gysur. Orwig.
|■ --GALWAD I J. D. J.
■ GALWAD I J. D. J. Mae Llangennech wedi rhoddi galwad i'r Parch. J. D .Jones, Abercanaid, i ddod i'w bugeilio. Nid ydym yn synu at yr alwad o gwbl, oblegyd y mae Mr. Jones yn llawn mewn gweithgarwch a brwdfrydedd pregethu a myned yn mlaen. Mae iddo ei le amlwg yn Abercanaid a'r cylch, ac os tueddir ef i ymadael, gedy wagle mawr ar ei ol. Hoffai y cyfundeb a'r lie iddo i aros ond yn sicr, mae ei asbri cyhoeddus a'i ddawn llenorol, a'i ymhyfrydiad mewn gwaith a phregethu, yn hawlio iddo le o eangder a dadblygiad.
IETIFEDD I'R CZAR.
ETIFEDD I'R CZAR. Diwedd yr wythnos ddiweddaf anghofiodd Rwsia, holl gyffro dychryn- llyc1 y rhyfel. Hyd yn hyn, ymddang- osai olynydd y Czar yn dywyll. Cawsai i'r byd ferch, ar ol merch, bedair o honynt yn canlyn eu gilydd ac yr oedd Rwssia, bellach wedi myned i ddigaloni, nad oedd mab i fod i'r Czar ond yn niwedd yr wythnos ddiweddaf wele eu holl bryderon yn cael eu chwalu fel niwl y bore ac ele fab i'r byd. Deffrodd y newydd o fab i'r Czar Rwsia i gyd ac wrth y trefydd yn fanerau ac yn floeddiadau ac yn haner gwallgof—mewn llawenydd. Darfu y siarad am Port Arthur, a chadd y milvvyr ar faes y gwaed foad i ganu yn eu dychryn a'u clywfau.
*f'i1-------CYFUNDEB DEHEUOL…
*f'i1- CYFUNDEB DEHEUOL MOR- GAN WG. Cynelir cyfarfod chwarterol nesaf y Cyfundeb uchod yn Carmel, Bryntroed- gam, ar <y dyddiau Llun a Mawrth, ,y Medi 5ed a'r 6ed. Pregethir nos Lun ami 7. Boreu Mawrth, am 10.30, bydd y Gynadledd, oi clan lywyddiaeth. y cad- eirydd, Mr. Taliesin Jonese a danll,nir papyr ynddi ga,n Mr. Curtis, Gibeon, ar y "Weddi Deuluaidd." Disgwylir hefyd yn ystod y cyfarfodydd i'r Parch. J. Evans B.A., Aberafon, i bregethu ar "Swper yr Arglwydd" y Parch. E. Davies, Seven Sisters, ar "Ddirwest"; a'r Parch. D. Morris, Llangynwyd, ar y pwnc ymarferol. Rhydd yr eglwys walhoddiad calonog i'r holl' frawdbliaeth. R. O. Evans, Ysg.
........ - ROWNI) Y BYD MEWN…
ROWNI) Y BYD MEWN CWCH. Pont Dedgado, Awst lleg.—Y mae y uTilikum," cwch o Canada, yn cario dwy dunell a haner, newydd adael y lie yma am Lundain. Gwnaed y cwch gan yr Indiaid o fonyn un goedyn yn 1843, cychwynodd o Vancouer yn mis Mai, 1902. Dim ond clau ddyn—Cad- ben Voss a chyfaill o'r enw Harrison- sydd yn y cwch. Gwynebant am Ewrob gan fyned heibion Ynysoedd y Pacific, Cape Colony, St. Helena, a Pernam- buco, pellder o ddeugam mil o filldir- oedd. Pan gyrhaeddir Llundain, bwr- iada y perclienog ddangos y cwch yn y Palas Grisial.
Advertising
0 0 Opinions of the Family. No. a. «ipy What Mother says: "My dear old mother advised me to try FERRU-COCOA. ml She said she and father never cared about Cocoa before, but I now they drink it for breakfast and supper, and have never felt so well in their lives. It is the only Cocoa containing Iron, and I have been giving it to my daughter Mary for she seems so /jiweak and ill; anaemic, the doctor called it. I am thankful to say she is improving rapidly, and I KNOW IT IS THE COCOA HAS DONE IT." IM VERY IRON.—The Iron contained in FERRU-COCOA is scientifically I SI IMPORTANT extracted from FOOD PRODUCTS IN THE FORM THAT IT IS CONTAINED 11j 1N THEM' and then added to FERRU-COCOA under the instructions I LL VVVVVW of MEDICAL MEN. It is IRON AS IT EXISTS IN FOOD, and is thus taken in the form nature I j| \\vvvv\ intended it to be taken. In othsr words, it is Iron taken in the form of a FOOD. H Mlml these are The immense majority of tonics prescribed by Medical Men contain Iron i FACTS. m some form or other. Why not take it as a food in the form of a 8 y n f delicious invigorating beverage in such a way as nature intends this life- 11 Sf sustaining ingredient to be taken ? Sold in 6d., 9d., & 1/6 Tins by all Chemists, Grocers, and Stores. FREE SAMPLE sent direct on application to the I tj u FERRU-COCOA FERRU-COCOA Manfg. Co., Ltd., 329 GOSWELL ROAD., LONDON, E.C. ENRICHES THE: BLOOD. ELECTRO SILVER PLATED COCOA JUG given away FREE 8 as an advertisement. See Coupons inside Tin*.
Llyfrau ar werth yn Swyddfa…
Llyfrau ar werth yn Swyddfa "Llais Llafur" a'r "Ceit Newydd." LLYFRAU SWLLT YR UN- Drwyy post, 1/1. Yr EIw Arferol i Lvfrwerihwyr. BOREU BYWYD, gan y Parch. Ben Davies, Pantteg. PIGION—Rhanau 1, 2, a 3.Cyn- wysa y pedwar liyfr uchod farddoniaeth ddetholedig ar gyfer adroddwyr mewn Ysgolion Sabbothol, Cyfarfodydd Llen- yddol, a Gobeithluoedd. .,1 ■; CANEUON SERCH.-Casgliad o'r goreuon--hell a diweddar; rhagoroL PERLAU CERDDOROL—Casgliad o Unawdau, Deuawdau, a Chydganau, yn y Solffa. LLWYBR LLWYDDIANT, neu O'R BWTHYN I'R PALAS.— Nofel ragorol, yn llawn o wersi buddiol. Dyma ddywed un o'r prif feirniaid:- "Darllena yn naturiol; mewn gair hon yw yr oreu i'r cyfeiriad yma, a ddarllenais erioed. Mae y gwahanol olygfeydd yn gyffrous a true to nature." Yr hyn sydd yn rhagorol ynddi, y mae y cyfan o duedd ddyrchafol, a thalai yn dda i bob mab a merch ieuanc ei darllen a chofio ei gwersi." GWENHWYFAR, nofel arall, rag- orol, gan y nofelydd bydenwog, Isaac Craigfryn Hughes. MYFYRDODAU HEN LANC, gan Ik Marvel (awdwr Americanaidd), cyf- ieithiad. Mae yr awdwr yn un o'r prif ysgrifenwyr, ac yn trafod ei destyn yn hamddenol a dyddorol. YMWELIAD A GWLAD CANAAN, gan H. Powell (ychydig ar law).
LLYFRAU CHWE'CHEINIOG-Drwy…
LLYFRAU CHWE'CHEINIOG- Drwy y post, 7c. Y DDAFAD DDU, neu BRAWF ANUNDEBWR, drama newydd, i'w pherfformio mewn cymeriad. Nid yn unig mae yn enwog fel drama, ond dar- llena yn ddifyrus dros ben. TWM SHON CATTI, MEWN FFURF 0 DDRAMA.-Mae yn hynod ddyddorus, ac yn werth ei phrynu a'\ darllen.
LLYFRAU YR YSGOL SUL.
LLYFRAU YR YSGOL SUL. (Ceiniog yr un.) Y GWERSI CYNTAF, sef yr A.B.C., sillebu a darllen yr iaith Gymraeg. Dwsin ac uchod drwy y Llythyrdy yn yn ddi-draul. Eto, Holwyddoreg i Blant Bychain yr Y sgol SuI ar HANES JOSEPH," ar gan:- Gofyniad Mab i bwy oedd Joseph? Atebiad: Mab Jacob ydoedd Joseph, 0 Rachel deg, ddinam 'Roedd deg o'i flaen gan Jacob, Ond fe oedd hema'i fam."
Advertising
Os methir cael yr uchod gan ddos- barthwyr neu lyfrwerthwyr lleol, gyrer at y Cyhoeddwyr, E. REES A'I FEIBION, YSTALYFERA, a cheir sylw uniongyrchol.