Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

Advertising

Yr Wythnos.

Y Fasnach Lo.

Troad Allan Gloioyr Dosbarth…

Cyfarfod y Gloioyr yn Maesycicmmer.

Sh eic Fygyt.hiol

Canton.

-I I Cyfarfod Sefydlu yn Horeb…

Caerdydd. -

Advertising

Advertising

Y Parch William James, Bethania.…

News
Cite
Share

Y Parch William James, Bethania. Y mae wedi dyfod i'n rhan yr wythnos hon i gofnodi marwolaeth y Gweinidog enwog hwn yn mhlith Methodistiaid Calfin- aidd y Dywysogaeth. Er mai bugail eglwys Bethania, Aberdar, oedd Mr James, eto yr oeud yn adnabyddus ac yn enw(g yn ei enwad trwy Gymru. Bu farw dydd lau, Gorphenal 23, wedi rhai blynyddoedd o gystudd blin. Cawn mai enwauei rieni oedd- ynt Thomas ac Ann James, y rhai a bres- wylient mewn tyddyndy o'r enw Trede!, yr hwn oedd ar dir ac yn perthyn i amaethdy mawr Carnach-enwen, preswylwyr bonedd- igaidd yr hwn yr adeg hono oedd Mr a Mrs Davies. Gweithiwr amaethyddol oedd tad Mr James, a chan ei fod yn wr priod, ac yn was cyfiogedig y teula parchus a chrefyddol uchod, preswyliai mewn anedd- dy cyfagos ar y tir. Yma y gwelodd Mr James ofe't dydd cyntaf, ac yr oedd yn un o naw o blant a anwyd i deulu Tredel. Y mae adeilad yr hen gartref wedi myned yn gakredd ddadfeiliedig er's blynyddoedd, fel milcedd ereill o gartrefi gweryn amaeth- yddol Cymru Pu, ac erbyn hyn nid oes yn aros ond dwy chwaer, Mpir a Martha, o'r teulu lluosog. Perthynai teulu crefyddol Carnach-enwen i eglwys y Methodistiaid yn Trefin, plwyf Llanrhian, ond credwn fod amaethdy y Garnach a tyddyndy Tredel yn mblwyf Mathry, Sir Benfro. Trwy fod cppei Trefin yn dair milldir faith o'r pres- wylfeydd hyn ac ereill, cedwid cangen o Y sgol Sabbothol yn Carnach-enwen, yn nghyda moddion ereill yn achlysurol; ac yma, yn llanc tawel, gydag ereiil o'r teulu, y cechreuodd Mr James dderbyn ei addysg a'i ddylanwadau crefyddol. Nid hir y bu nes myned yn ffafryn teulu y Garnach a'r ysgol, a hyny o herwydd ei ddawn i ddysgu ac aurodd rbanau o'r Ysgrythyrau a phen- illion y cysegr; a phan y daeth yn ddigon hen i gerdded gyda'r plant ereiil i gapel Trefin, ami y galwai teulu y Garnach ar y bachgen William i'r cerbyd atynt hwy, gan adael y lleill ar ol. Derbynjwyd ef vn aelod cyflawn cyn ei fod yn ddeuddeg oed; a phan y byddai pregethwr dyeitbr yn dyfod i'r lie, byddai Mrs Davies yn sicr o anfon am William Tredel i ddyfod yno, er cael barn y gwr dyeithr arno wedi ei glywed yn adrodd darnau o'r Ysgrythyrau, &c. Ami y cyfeiriiii yntau, yn ystod ei fywyd, at y foneddiges bon, a'r dytanwad er lies a gafodd efe trwyddi. Y DIWEDDAR BARCH WILLIAM JAMES. Gan nad cedd William ond hogyn gwan- aidd o ran ccrff, bwriad ei rieni cedd ceisio ei roddi yn un o fasnachdai Abergwaun, er ei ddwyn i fyny yn siepwr, ond cyngorwyd ei ddwyn i fyny yn sicpwr, ond cyngorwyd '01 hvvynt gan feddyg y gymydogaeth i beidio ei rotidi mewn mascachdy, end yn hytrach rhoddi crefft iddo a chan ei fod eisoes wedi dangcs cryn ddeheurwydd gydag arfau saerniol, penderfynwyd ei anfon at Dafydd Williams, yr hwn oedd saer mawr ac enwog Abergwaun ar y pryd, yn yr hwn le y bu am rhyw bedair blynedd, a gwelwyd yn fuan y gwnelai y bachgen, nid yn unig sser gw)ad da, end y gwnelai efe bensaer celfydd, ac anogwyd ef i fyned ar ei union i Grerdydd, He y bu yn gweithio am rai misoedd cyn dyfod i Aberdar. Pan y daeth yma. ymaelcdodd yn eg!wys newydd 3eth aniy, bugail cyntaf yr hon eglwys oedd y diweddar Dr Saunders; a bu am rai blynyddoedd yn ddisgybl dystaw a thawel 0 dan wemidogaeth y pregethwr mawr a j hyawdl a'r dysgawdwr goleuedig hwn, a hyny yn gyhoeddus a neillduul. Wedi derbyn cymhellion ami a thaerion j 1 fyned i mewn am y weinidogaeth gan I swyddogion yr eglwys ac ereill, dechreuodd bref.;ethu yn 1863, ac er parctoi ei hun am Goleg Trefecca (yr hon oedd yn gauedig ar y pryd), aeth am flwyddyn neu ddwy i Ysgol Rsmadegol a Rhagbarotoawl Tydfi!, Merthyr, yr hon a gedwid gan y Parch Evan Williams, M.A., ac yn 1865, ran yr ail-agorwyd Trefecca, yr oedd efe yn mhlith y deuddci! efrydwyr cyntaf a dderbyniwyd. Bu yn Trefecca am dros bedair b ynedd a haner, yn efrydwr diwyd a llwyddianus mewn amryw gangenau o wybodaeth. Yn nechreu y flwyddyn 1870, ymgymerodd a bugeiliaeth eglwys Bethania, yr hon yr adeg hono oedd yn eglwys enwog ar amryw gyfrifcn. Yn Nghymdeithasfa Aberyst. wyth, yn 1871, yr ordeiniwyd ef, yn mhlith lluaws ereiil, i gyflawn waith y weinidog- aeth. ° Am ei Iwyddiant fel gweinidog, nid oes angen ond dweyd na fu ac nad oes yn per- thyn i'r enwad unrhyw swydd o anrhydedd na chafodd efe ei anrhydeddu a hi, ac fe ellir yn ddibetrus ddweyd hefyd ei fod yntau wedi anrhydeddu bob swydd yr anrhydcddwyd ef a hi. Ni chlywsom erioed ei fod yn un a chwenychai swydd a chadair, fel y maear.er rhai, and wedi enill yr oil yn anrhydeddus a boneddigaidd, fel y dylai pob gweinidog wneud. Yr anrhyd- edd olaf a osoiwyd arno oedd cyfansoddi a thraddodi y Davies' Lecture am y flwyddyn 1902, acy mae yn ofnus fod y gorchvvyl j hwnw, trwy ei fod i'w gyflawni mewn cyf- nod penodedig, wedi effeithio ar ei iechyd, canys ni bu yn alluog i wneud ond ychydig, yn gorfforol na meddyliol, wedi hyny. I Yn fuan wedi methu o ran ei iechyd, penderfynodd Cyfarfod Misol Dwyrain Morganwg, o'r hwn yr oedd yn aelod gweithgar a ffydd!on, ei anrhegu a thysteb, yr hwn a gymerodd y ffurf o Anerdllad Addurnedig, yn ngbyda swm anrhydeddus i o aur. Y mae pob Methodist hefyd yn gwybod yn dda am ei lafur yn ngiyn a llenyddiaeth ei enwad, yn enwedig fel goly»?ydd Llawlyfr yr Efengylau, Ccfiant a Phregethau Mr Saunders, &c., fel arholydd yr Ysgoiion { Sabbothol, Ymgeiswyr Trefecca, a'i lafur mawr yn nglyn a Llyfrau Hymnau a Thonau presenol y Cyfundeb, &c. Bu hefyd yn dra defnyddiol yn nglyn ag addysg ei wlad a'i genedl; bu yn aelod o Pwrdd Ysgol Aberdar am dros ugain mlyn- edd, yn un o lywyddion Ysgol Sirol Aber- dar er ei hagoriad, ac yn aelod o Gyngor Prif Ysgol Caerdydd, &c. Ond y mae y terfyn wedi dyfod, ac yntau ar gael ei ddwyn, fel ei dadau, i dy ei hir gartref, wedi oes brysur o 72 o flynyddoedd. Bu ei gystudd am y tri mis olaf yn drwm, oud gallodd ddweyd yn niwedd yr oil, ei fed yn marw yn iach. Cymer ei angladd le heddyw (dydd Mawrth), Gorphenaf yr 28ain, pryd y llywyddir gan ei hen gyfaill a'i gydefrydydd, y Parch John Morgan Jones, Caerdydd. Bydd genym nodicn ychwanegol yr wythnos nesaf. I J. MILLS. I