Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Advertising
-2 PAHAM Y DYODDEFWCH B°Ddanodd ? Y mae ein gvielliantau diweddaraf yn ein gosod yn yfath safle fel ag i P'VUI ^_r A •wraTEPP, yn Ddlboen. Paham y cymerwch Nwy (gas) pan y mae ein cyfundrefn ni yn well ac ECXiB BEB. GS-Xa I Gwneir Adgyweiriadau mewn dwy awr. YE U NIG GYFEIKTAD "dam, Tudor Williams, Medical HaH, Aberdar.
Cwn Dunraven Place, Ogmore…
Cwn Dunraven Place, Ogmore Vale, Mr Gol.Credwn fod mwy o gwn yn y He uchod nag sydd yn un rhan o'r byd a chyfrif ei faintioli, a chredwch chwi ddim faint o ofid wyf yn gael i dreio cysgu'r nos yo eu seiniau aflafar, ac un noswaith, tra ar fy nghefn yn y gwely, gwnes yr englyn canlynol:— Rhyw fand o gwn a'u swn sydd—yn gan Cwsg noswaith i'm beunydd R'no'ent eu mawl i'r d— y dydd A huno'r nos yn llonydd. GWENTFRYN JONES. Ogmore Vale.
Advertising
NELSON tst Annual Eisteddfod Whit-Tuesday, May 21st, 1907. Male Voice, Roman Soldiers' (Dan Prothero, Mus. Doc.) Prize X12 Silver Cup to Conductor, and 10/6 to each unsuccessful Conductor. For further particulars apply to E Morgan, Springfield Terrace, N elson. Cardiff. Programmes will soon be ready, DINAS POWIS EISTEDDFOD EASTER MONDAY, APRIL zst_ igof Mixed Choirs £5 5s. Ladies Choirs R2 IDs.. Male Choirs P, I IOs. Solo and Duetts. Programmes, lid each by post.—John Howells, Station Road, Secretary. 'ó. AT Swyddogion ift Bit CYFRINFAOEDD GLOFEYDD. Rhoddwch eich Archebion am GARDIAD Arm vqm Cyfraniadan anA. y Prisoel Itelaf i. a lr IMIIIUI Gellir eu cael yn mha liw bynag ddewisir yn ddioed. -:01:- HEFYD -v CARDIAU 2-,u CLYBIAU Cymdeithasau Dyngarol.
BEIRNIADAETHAU1
BEIRNIADAETHAU 1 Ar Gyfansoddiadau Llenyddol a Barddon- ol Eisteddfod Bodringallt, Nadolig, Rhagfyr 25ain, 1906. Gan DYFNALLT. (Parhad). Y Rhaglen Eisteddfodol. Un o'r Llwybr.—Gwallau mynych mewn iaith a sillebu. Rhaid i raglen fod yn 1 gywir i ddechreu. Gobeltbiol—Rhaglen drefnus a diwas- traff, ond heb son un gair am amodau felly, yn anorphenoL Eisteddfodwr Cymreig.—Amryw o wall- au mewn iaith. Dengys wendid mawr wrth roi dau o'r testynau barddonol yn englynion. Nid yw yn sylwi ar swyddog- ion, &c. Brutus.—Llawer o newydd-de^ mewQ testynau; ond y mae ei r^g!en yn an, nghyflawn, am nad oes ynddi wyneb- ddalen nac »mo^u< ^Gwilv^ ^_Amryw o'r testynau heb fod eu hysgrifenu yn gywir. Rhaglea Vyffredin fyddai hon, ac yn arbenig am nad oes yma un awgrym am feirniaid nac amodau. Cymro Ieuanc.-Rhaglen un heb gael llawer o brofiad Eisteddfodol. Ychydig o drefn 8 destlusrwydd sydd yma, ac yn sicr, nid oes awgrym ynddi mai ar gyfer Eisteddfod y mae. Sylwed Cymro leu- anc fwy ar ragleni. Dewi — Gwvneb-ddalen y rhaglen yn eisieu, a'r amodau yn anorphenol iawn. Buasai digon o gyfle i golledigion godi twrw yn yr Eisteddfod, a llawer o bethau cyffelyb. Hen Eisteddfodwr.-(Wedi ysgrifenu ar ddail' copy-book.') Rhaglen wedi ei rhanu a'i threfnu yn dda, ac yn dangos chwaeth ragorol yn y dewisiad o destynau. Ond beth am amodau ? Nid oes yma air o son am danynt. Gresyn hyny, gan fod y rhaglen yn un wir dda. Hen Eisteddfodwr (2).-Nid ydym yn hoffi o gwbl ei ddull o lunio ei wyneb- ddalen. Credwn pe gwelai hi mewn 'print,' y buas-d yn ei hystyried yn wrthun. Nid oes chwaeth mewn desgrif- io'r beirniaid, &c., ar raglen. Gyda golwg ar ei chynwys, dilyn y rhai cyffredin y mae. Hen Eisteddfodwr (3) -Gellid meddwl fod Eisteddfoiwyr yn byw yn hen iawn! Y mae'r llinellau hyn ar ei wyneb- ddalen:— Ca hyfrydwch cyfrodedd, Dwy ochr y wlad, dewch i'r wledd.' Mae gan hwn raglen gyflawn, fanwl iawn, ac wedi ei llanw yn gymhesur iawn. Gallasai fod yn fwy newydd ei destynau. Dewi Will.-Rhaglen ddestlus. gyflawn, eto, a mwy newydd yn ei chynwys nag un arall. Llithrodd gwall neu ddau i fewn. Yn rhif 5 (cyfarfod yr hwyr), gwell fuasai dewis darn wedi ei ysgrifenu i'r berdoneg fel test-piece.' Eto, rhaglen ragorol yw hon. Rhaner y wobr rhwng Hen Eisteddfod- wr (3) a Dewi Will. Englynion—4 Yr Anundebwr.' Cyfres o englynion i law. Dosbarth 3ydd.-Perthyn i'r dosbarth yma Un o wyr Maesteg, Gwilym bach, Llwyd y to, Penrhywfab, ac Undebwr cadarn. Y' pedwar cyntaf yn wallus eu cynghaneddiad, o'r olaf wedi canu englyn- ion toddaid.
Dosbarth yr 2il.
Dosbarth yr 2il. Fflangellwr. — Y llinell gyntaf yn ei eHglynion yn anffodus, heblaw eu bod yn euog o fod yn rhy debyg.' Hen Golier.-Aml un o'i linellau yn an- ystwyth, er yn ymgais dda at ddeffinio'i C2 destyn. Gwyliedydd.- Cymysglyd yn fynych, felllinell olaf yr ail englyn, Anhawdd dod o hyd i synwyr y llinell hono ac ereill tebyg. Dyna'r gwir—Englyn yn amddiffyn yr anundebwr, a'r unig un yn y gystadleu- aeth. Gwyr yr awdwr sut i englynu yn dda. Peredur y Cwt.—Dyma englynwr cryf iawn eto. Yr unig gwyn yn ei erbyn yw ei fod yn diweddu yn ddichwaeth. Show Cards — Englyn lIed dda yw'r cyntaf. Yr ail yn gymysglyd. 'Does dim ystyr i'r ymadrodd a'r holl dybiau,' fel y mae ar y copi. Llinell briodol iawn yw'r olaf i gyd. Miners' Agent.—Cymysglyd yn ei eir- iau a'i linellau. Pa beth yw nwyd wibion ? Gwel yr awdwr, ond sylwi, fod llineli olaf yr englyn cyntaf yn anor- phenol. Barac.-Diarebu gormod, a rhy fach 0 ddesgrifiad ffyddlawn. Mae hon yn gwyn gyffredin genym yn erbyn amryw o'r englynion, Llinell ragorol yw yr olaf yn yr ail englyn. Undebw .—Yr ail englyn yn tynu oddi- wrth yr englynion hyn. Ansier a gwas- gdrog yw'r awdwr yn ei arddull. Sylwed Bior anmhenodol yw rhediad y 3edd llin- ell yn yr ail englyn. T.D.-Y ddwy linell olaf yn yr englyn cyntaf yn annghysylltiol hollol. Yr ail englyn yn well. Eto, cyfiredin yw arddull a chynwys yr englynion. (l'w barhau.)
Rhodd yr A weftI
Rhodd yr A weft I Yn nghyfarfod Ymadawol J. E. Jones, Ysw., Hendrefadog House, Tylorstown, Ysbryd canu, ysbryd cwyno, Darn o ddydd a darn o nos, Dyna ydyw'r hanes heno Yn nghwrdd ffarwel' J E Jones Dangos parch gan ei gydnabod Yw swydd cariad pur yn awr, Pwyso mae ei wir deilyngdod Yn y glorian hyd y llawr. Ofer fyddai ceisio lliwio Gruddiau y persawrus ros, Ofer felly fyddai paectio Glan gymeriad J E Jones; Rhodiodd ef yn llwybrau'i Geidwad, 1 Gwneud daioni drwy ei oes, Cofio hyn wna'r ymadawiad Heno ini'n chwerw loes. Cofiaf ef yn fachgen prydferth, Newydd ddod o'r wlad mor ddel, Y pryd hwnw'r oedd yn addurn Vno i werin dorf Ferndale Boreu'i oes a dreuliai'n loew, Yn Trerhondda mawr ei barch, 0 mor brydferth y pryd hwnw 'i Ysgwydd ieuanc dan yr arch. Ffyddlon iawn yn Ebenezer, Ar ei oreu' bu bob awr, Yma gwylio wnaeth y gorlan Fach yn dod yn eorlan fawr; Gyda'r bugail Haelfryn dyner, Ar y bryniau mynai fod, 0 na fedrai'r nefoedd heno Wneud i Haelfryn ganu'i glod. Yn ei zel dros lwyddiant addysg Dringai fryniau, croesa'i li', O'i chyfrinion pwy'n fwy hyddysg- Ei briodterch wen oedd hi Ar ei hallor lan yn bridwerth, Rhoes ei hunan i ni'n rhad, Ar y Bwrdd fe fu ei gynghor A'i wybodaeth yn leshad. Colled fawr i Ebenezer, A chorlanau'r Rhondda Pach, Colli Jones, un oedd bob amser O'r delfrydau gloewaf, iach Mae preswylwyr glanau'r Teifi Am ei gael yn moli'r Nef, I Ian afon well ni all'sai'r Ysbryd byth si arwain ef. Clod y Nile ddatgana'r Aifftwr, Can y Rwssiad giod y Don, Cana'r Ianci glod St Lawrence. Mississippi, Amazon; Cenais inau er yn faban Glod y Teifi loew, dlos, A chydganu gyda minau 'Nawr mae'r prydydd J E Jones. Ymneillduo i ddistawrwydd Pur y wlad a'i gwynfyd llwyr, Eto'n ngwinllan deg eu Harglwydd, Gweithia'r teulu hyd yr hwyr Draw yn yr encilion tyner, Bydded iddynt einioes hir, Lie mae'r awel fyth yn dyner, Lie mae'r wybren fyth yn glir,' Hapus deulu, Ar lan Teifi yn y wlad. MYFYR DYFED.
Fy Nghyfaill paid Plygu dy…
Fy Nghyfaill paid Plygu dy Ben. Py Hghyfaill, paid plygu dy ben, A gwyro dan bob awel groes, Fe ail daw du gymyl i'th nen Er byred yw llinyn dy óég; Na phrisia am air o sarhad, Mae hwnw'r peth rhataf i'w gael, Chwerthina'i ddifodiant bob brad, Na ostwng i undyn dy ael. Rho foreu gyfeinad i'th draed I ddilyn yn dyn at y gwir, Bydd wrol byd gollt dv waed I gadw'th gymeriad yn bur; Tra gronyn o nerth yn dy fraichj, Na hidia'th uwcbaSaid a'u brir Na chyfrif eu gwg yn un baich, Mae'th fara yn sicr i ti. Na laeser dy galon, fy mrawd, Os methi roi'th draed ar y bryn, Os methi roi'th law yn Haw ffawd Fe fethodd gwroniaid yn hyn Paid wylo'n ormodol fy ffrynd, Tra byddi uwch d'ysgwydd a dyn, Gad weniaith a ffalster i fyn'd, Na wrida wrth ddangos dy hun. Wyt gyfaill, can goched dy waed A'r brenin ar orsedd ei wlad, Na oddef dy fathru dan draed, Ni'th grewyd i dderbyn sarhad; 'Run nodau gei di yn nhlos gan Y fwyalch, a'r bonwr mewn bri, 'Run gwenau ga ef gan y tan, Yw'r gwenau' ry'r tan arnat ti. Bydd wrol yn ngwyneb pob tan, A'i lawer esmwytbach drwy'r byd, Ymchwydded aiddgarwch dy fron, Na th'w'Ued un cwmwl dy fryd Na fydd yn llwfrddyn dinod Yn plygu i gysgod dy hun, Na hidia am olud a chlod Os meddu'r cymeriad o ddyn. G JONES, Ogmore Yale.
Llanilltyd Fardref. -
Llanilltyd Fardref. LLITIl CXXII. MR. GOL.Galwaf eto yn yr hen blwyf. a da genyf ddeall fod yna lawer o ddarllen ar y llithiau, a rhai yn prynu amryw gopiau o'r Darian i'w hanfon i gyfeillion a pher- thynasau yma a thraw. Cwrddais a bon- eddwr y dydd o'r blaen, yr hwn a deimlai gryn ddyddordeb yn y llithiau o'r dechreu, ac yn cofio yn dda am lawer o'r hen gym- eriadau. Diolchai am danynt, a d.iolchais inau iddo yntau am eu darllen, ac am ei eiriau caredig a chefnogol. Yr wyf yn aros eto yn Nhrefforest am ychydig, i sylwi ar rai symudiadau. Mae yn ymddangos Ld y brodyr Methodistaidd wedi bod yn cadw Ysgol Sul, a. chyfarfod- ydd hefyd, mewn ystafell yn ymyl y Bush- Yr cedd yna raniad a ffordd oddiar y brif heol i fyned i fewn i'r ystafcll oedd yn y cefn. Mae yn debyg i ddwy ystafell gael eu gwnerd yn un, ac felly yr oedd yn le cyfleus iawn i gynal ysgol a chyfarfodydd, ac y mae yma rai yn fyw a fu yno yn yr Ysgol Sul a'r cyrddau hefyd. Bu William Jones, Druid row, yno lawer gwaith, a Shincyn Morgan, Cyrchygwas, oedd ei athraw. Yr oedd y gwr parchus o Gyrchygwas yn Fethodist seiog, ac yn llafurus a diwyd gyda phob rhan o'r gwaith da. Yr oedd yr hen bobl yn flyddlon fel athrawon yn yr ysgol fel yn mhob cylch aran. Felly, Shincyn Morgan oedd athraw cyntaf William Jones o'r Druid row, yn yr Ysgol Sul fu yn cael ei chynal ger y Bush, a hyny yn agos, os nid dros dri ugain a deg o flynyddau yn ol. Yr oedd Shincyn Morgan yn hoff o bysgota, a daliodd lawer yn ei amser yn yr afon Taf a manau ereill. Wei, yr oedd rhai o'r apostolion yn bysgotwyr hefyd, ac os oeddynt hwy yn gyfarwydd a Mor Gali- lea, yr oedd Shincyn Morgan yn gyfarwydd a'r afon ac a'r nentydd; felly, daliodd lawer o deulu y dw'r. Yr oedd Wm Jones hefyd yn gryn bys- gotwr, a phan y byddal diwrnod o stop yn y gwaith, byddai yn sicr o ddal brithyllod braf yn yr afon, a thebyg yw fod yna gyf- lawnder o honynt y pryd hwnw. Dywedir fod Shincyn Morgan wedi dal salmons yma rai troion. Yr oedd Shincyn yn ddall cyn diwedd ei oes, ond dywedir y medrai fyned o gwmpas y lie, a throi i'r ty a fynai yn y lie heb arweinydd, ac adnabod pawb bron ar yr heol wrth y llais. Nid wyf yn gwybod gyda sicrwydd am yr holl hen bobl oeddent yn athrawon yn yr Ysgol Sul ger y Bush ond tebyg fod Lewis o'r Machine yno, yn herwydd yr oedd ef yn un o'r hen lafurwyr ffyddlon, a chredaf fod ysgol wedi bod yn cael ei chynal rai pryd- iau yn y Machine. Hefyd D Roberts, Gwernygelwrn, yr hwn a fu yn fFermu y ffarm yma yr adeg uchod. Fe wyr y cyfarwydd fod Gwernygelwrn wedi bod yn fferm fawr, ond mae y cemet- ery, y gwaith nwy, y gwaith trydanel, ar, rheilffordd wedi gwneud cyfnewidiadau mawrion yn y lie, fel y mae yn anhawdd dychymygu yn bresenol ei brydferthwch gorphenol. Yma yr oedd Mr D Roberts a r teulu yn byw, ac yr oedd Mr Roberts yn athraw ffyddlon yn yr Ysgol Sul. Y Roberts yma oedd tad James Roberts, Ysw., Y.H., Taff Vale House, oc y mae yntau wedi bod yn weithiwr ffyddlon drwy ei fywyd gyda'r Methodistiaid, a pharod mewn pob daioni. Tebyg iawn fod Dafydd Morgan, sef Dafydd y Crydd, a Morgan ei frawd, wedi bod yn myned i'r ysgol uchod, yn herwydi meibion Shincyn oeddent, ac yr oedd yna ferched befyd, sef Shan a Jemima, ac mae plant i Shan yma yn bresenol, a merch a meibion i Morgan. Pel yma gwelwn fod yr achos Methodist- aidd wedi cychwyn yma er's blynyddau lawer, a'r cyfryw yn hen, os nid yr henaf yn y lie. Nid oedd manteision addysg y pryd hwnw fel y maent yn awr, oblegid yr wyf yn credu nad oedd un ysgol ddyddiol wedi bod yn y lie. Cawn fod Samuel, mab ,T;] ham a Ci- celia Jones, yn cyrchu i Nantgixiw i'r ysgol. Yr oedd yno ysgol ddyddiol, ond nid wyf wedi dod o hyd i enw yr ysgolfeistr neu yr ysgolfeistres oedd yno. Ond byddai Sam- uel yn cerdded o Drefforest i IN antgarw i'r ysgol—rhyw bum' milldir o ffordd; pump i fyned, a phump i ddod, dyna ddeg Mae hyn yn un enghraiffr o lawer o'r ymdrech a wnaed gan y tadau i gael ychydig wybod- aeth. Nid rhyfedd, Mr Gol., fy mod yn galw lluoedd o'r hen dadau yn hen lafur- wyr.' Mae yn debyg i'r Wesleyaid godi capel ar dop y gwaith bach. Mae y lie yn cael ei ddefnyddio yn bresenol gan Mr Thomas Brown, grocer, Trefforest. Yn y capel hwn y chwynwyd achos gan y Wesleyaid Cym- reig. Yn fuan wedi codi y capel, agorwyd ysgol ddyddiol yma gan un Mr Maciarland, a chredwn fod hon yr ysgol gyntaf yn y lie. Wedi agoriad yr ysgol yma gan y boneddwr uchod, cafodd y plant yn go debyg fyned yno, a Samuel Jones. Yn lie cerdded i Nantgarw, wele ysgol yn yr ymyl, ac fe ddywedir fod y Macfarland yma yn ysgol- haig gwych. Tebyg fod James Roberts, Ysw., Y.H., yn cofio yn dda am yr ysgol, ac feallai wedi bod yn cael ei addysgu yno. Cynyddodd y He, a daeth manteision gwell i'r trigolion. Daeth y Bwrdd Ysgol dra- chefn, ac erbyn heddyw y mae canoedd lawer o blant yn cael eu dysgu yn ddyddiol gan athrawon ac athrawesau medrus. wedi eu cymhwyso ar gyfer y gwaith. Dyna olwg fer ar yr Ysgol Sul fu ger y Bush, yn nghyd a'r ysgol ddyddiol, capel y Wesleyaid, &c. Mae yn debyg mai un o' r enw Fletcher gododd y Bush. Yr oedd e f yn gofalu am y felin bron ar gyfer y Castle Bridge, ond nid oes dim o'r felin i'w chael yn bresenol-dim ond rhestr o dai newydd- Ion yn ei lie. CYFAILL JOHN.
BEIRNIADAETH
BEIRNIADAETH Cyfansoddiadau Eisteddfod Gadeiriol Tre- cynon, Chwefror 2il, 1907. Gan GRUFFYDD DYFED. Wyth Penill wyth llinell o Goffadwriaeth iV iiweddar foneddwr, Mr Owen Harris, Ti-c non, Gwobr 10s 6c. Ni ddaeth ond un cyfansoddiad i law ar y teatyn hwn, ond y mae yn bleser genym ddweyd ei fod yn un da iawn. Tyna ddarlun byw o'n cyfaill ymadawedig, heb ddefnyddio gormodiaith, yr hyn a wneir yn rhy ami mewn penillion coffadwriaeth- ol. Y mae y farddoniaeth yn dlws a nat- uriol, ac yn tueddu y darllenydd i gredu fod barddoni i'r awdwr hwn mor naturiol ag anadlu. Murmur Aled ywy ffugenw, ac yr ydym ar air a chydwybod, yn ei farnu yn llawn deilwng o'r wobr.
Traethawd ar 1 Christian Science.'
Traethawd ar 1 Christian Science.' Daeth dau draethawd Seisnig i law yn dwyn y ffugenwau 1A fair bid,' ac Ap Liwyd.' Hawdd yw gweled mai ieuanc yw y ddau fel traethodwyr, canys nid ydynt ,wedi deall gwerth cynllun a threfn. Y mae yn llawn mor angenrheidiol i lenor i I I eistedd i lawr a bwrwV draul,' ag ydyw i wr wrth adeiladu ty a pba fwyaf o fanyl.. » der a arfer yn y cynllunio, prydferthaf i gyd fydd yr adeiladwaith. Y mae digon o ddefnyddiau yn y ddau draethawd hyn i wneuthur o honynt ysgrifau gwir dda, pe defnyddid gwell trefn a chynllun. I A fair bid.'—Ysgrif yn cynwys llawer iawn o ffeijhiau cryfion, ac yn dangos fod yr awdwr wedi darllen cryn dipyn ar gym- deithasiaeth. Ond y mae yn myned ar grwydr yn ami oddiwrth el destyn. Y mae ei gystrawiaeth a'i ramadeg hefyd yn wallus iawn, Ond er hyn oil, y mae yn gynyg teilwng o eiddo Cymro, a chyng- horwn ef i fyned rhag ei flaen, a gorchfygu y ffaeleddau a nodasom. 1 Ap Llwyd.'—Y mae y mae traethawd hwn wedi ei ysgrifenu yn dda ac yn eglur, ond fel y Hall, a'r gystrawen yn lied ddiffygiol. Y mae yr awr hefyd yn defnyddio brawddegau rhy ddyfnion i'w ddeall a'i allu. Buasai y ffeithiau a'r rhesymau a ddyga. yn mlaen yn anhrethol fwy dylanwadol mewn iaith syml. Gydag ychydig ail-drefniad, geilid gwneuthur ysgrif Bed dda o hon Rhagora ar eiddo A fair bid' yn mhob agwedd lenyddol. Dyfarnwn Ap Lwyd' felly yn deilwng o'r wobr.
Mrs Whitting a Phen= .deryn.
Mrs Whitting a Phen= deryn. Amlwg oedd gweled wrth drigolion yr ardal hon, yn blant ac yn ddynion mewn oed, fod rhyw berson tra urddasol wedi ymweled a'r lie, Chwefror 6ed. Tyrai y plant at eu gilydd ar yr heol gan ymofyn, I a welsoch chwi Mrs Whitting yn pasio yn y cerbyd ?' Mae wedi myn'd o gwm- pas y tai i wahodd y dynion i'r swper sydd i fod yn yr ysgoldy heno, a mwy na thebyg y daw heibio i ninau i roi losin i ni fel arfer, a chyda'r gair, wele hi yn dod yn ei cherbyd ac yn sefyll o flaen y Post Office, He y disgynodd. Wedi prynu codaid u'r melusion a'u rhanu rhwng yr holl blant, aeth rhagddi i'r ysgoldy, hi a'i morwynion er parotoi y swper. Am 6.30, amser penodedig i'r swper fod yn barod, daeth liuaws yn nghyds a pharasant i ddod hyd 8 30, a chyfranogodd tua 140, yn blant, bechgyn. a merched, yn wyr a gwragedd 0 bob oedran. Wrth yr un bNrdd a'r foneddiges urddasol Mrs Whitting, gwelsom Mrs Newton o Lundain; Miss Jenkins, Rectory, Penderyn, a Miss Jones, Glan- ffrwd House, Hirwaun. Wedi swpera cawd cyngherdd ardderchog, a'r fonedd- iges yn llyvrydd u. Wele y Rhaglen :—Ucawd ar y ber- doneg, gan Mr Tom Richards, Hirwaun (efe oedd c Ffeilydd y gynge'dd); can, Spirit of the deep,' Mr J Rees Jones 'Fair Flora Decks,' gan barti Dewi Cynon can, Queen of the earth,' Miss M G Williams; duett, Jesus is our Shepherd,' Miss Myfanwy Davies, a Annie Price, Penderyn Y gornant,' gan barti o ferched; Irish song, Mr John Jenkins; duett, gan Miss Hopkins, a Mrs Boyns; 'The Holy City,' Miss Esther Jones; 'Excelsior,' Mri J Jenkins a J Rees Jones; can Tit for tat,' Miss t Hopkins; can, Farewell ye dew,' Mr J Jenkins pedwarawd, God is a Spirit,' Miss Hopkins, Mrs Boynes, a'r Mri J Jenkirs, a J R Jones. Pan welodd y foneddiges fod y program wedi dod i ben, cododd i fyny mewn boddhad, ac archodd ar un o'r cantorion, sef Miss Maggie Gwen Williams, o Hir- waun, i roi un gan arall, yr hyn a wnaeth yn hynod o dda. Gwnaeth yr oil o'r cantorion eu gwaith yn deilwng o honynt eu hunain. a chawsant uchel ganmoliaeth gan y dorf a chan y foneddiges ddysg- edig, yr hon ioddodd iddynt wahoddiad cynhes i ddyfod drosodd i'w phalas gorwych, Westcombe House, yn Somer- set. Wedi talu y diolchiadau arferol, diweddwyd trwy i Mr Jenkins ganu Hen Wlad fy Nhadau,' a God save the King,' a'r dorf yn uno yn y cydgan. DEWI CYNON.