Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

43 articles on this Page

--... NODION MIN Y FF JRDD.

ACHOS DREYFUS. —O—

BODDIADAU.

CAERDYBD.

BODDIAD YN YR OGWY.

MARWOLAETH AMERICAN- I AIDD.…

LLOFION.

Advertising

Marwolaeth Mr. R. H. Rhys,…

Colli ei Olygon.

Ei Wasanaeth Cyhoeddus.

News
Cite
Share

Ei Wasanaeth Cyhoeddus. Yn Ebrill, 1846, pan nad oedd ond tri yn cynrychioli Aberdar ar Fwrdd y Gwarch- eidwaid, cafodd ei ethol yn aelod, a'r ddau arall oeddynt Mri Griffith Davies, Ynys- lwyd (tad Mr D P Davies, Y.H), a Morgan Williams, Saddler. Daeth yn gadeirydd y cyfryw fwrdd yu 1880, yr hon swydd a ddaliodd hyd 1887. Bu am lawer o flynyddau yn gadeirydd yr Assessment Committee, ac yr oedd ei wybodaeth o wecth eiddo yn y plwyfi a gyfansoddent Undeb Merthyr tuhwnt i'r cyffredin. Bu Mr Rhys hefyd ac ereill, er gwaethaf gwrthwynebiad cryf, yn llwydd- ianus mewn sicrhau adeiladau gwychion yr Industrial Schools, sydd wedi profi. mor fanteisiol i blant y tlodion. Bu Mr Rhys yn gadeirydd pwyllgor yr ysgolion hyn o 1877 i 1887, a chafodd ganmoliaeth uchel gan arolygwyr ei Mawrhydi. Yn 1881, fel arwydd o barch ac edmygedd o'i wasanaeth hir a ffyddlon, rhoddodd Bwrdd y Gwarch- eidwaid archeb i Mr T Brock, R.A., i wneud cerflun o Mr Rhys, yr hwn sydd yn awr yn add tuno ystafell y bwrdd. Etholwyd Mr Rhys yn aelod o Fwrdd Iechyd cyntaf Aberdar, yn 1854, o'r hwn fwrdd nid oes yn goroesi yn awr ond un aelod, sef Mr Richard Fothergill, cyn-aelod seneddol dros Ferthyr ac Aberdar. Yn ystod ei aelodaeth ar y bwrdd hwnw, Mr Rhys fu yr offeryn penaf i sicrhau oddiwrth y Charity Commissioners y darn tir eang sydd yn awr yn ffurfio Pare Cyhoeddus ysblenydd Aberdar, ac hefyd y tir claddu cyhoeddus, ac y mae yr oil o'r arian a fen- thyciwyd i'r dyben o osod y eyfryw allan wedi eu had-dalu. Cyfrifir hefyd mai Mr Rhys yn benaf fu yn offeryn, drwy Syr W T Lewis, Barwnig, i gael gan Ardalydd Bute i ganiatau darn 'aeth o dir yn ngorllewiubarth y plwyf • pare cyboeddus, a'r hwn a agorwyd ar r 22-tin o Fehefin, 1897, ac a adnabyddir f 1 Dumfries Park. Mor ddiweddar a de- cureu y flwyddyn bresenol, rhoddodd Mr Rhys brawf arall o'i awydd i wasanaethu'r eyhoedd drwy sicrhau oddiwrth Ardalydd Bute ddarn arall o dir, er galluogi yr aw- durdodau i helaethu heol Abernant rhwng y dref a'r orsaf, a'r hyn sydd wedi profi yn fendith i'r miloedd a'i tramwyant. Yn ystod ei aelodaeth ar Fwrdd lechyd, bu Mr Rhys yn gefnogydd selog i'r cynllun dros brynu Gweithiau Dwfr Aberdar, y rhai, wedi eu pwrcasiad, a gawsant eu diwygio a'u helaethu, ac ychwanegwyd y llyn a adnabyddwyd wrth yrenw Nanthir a chyda'r ychwanegiad sydd yn awr ar waith, bydd Aberdar yn meddu ystorfa yn fuan na fydd yn ail i un yn y deyrnas. Bu Mr Rhys yn flaenllaw drachefn yn nygiad oddiamgylch Sewerage Scheme helaeth ac addas i'r dref. yr hon a gostiodd 9,36,000, ac efe a Mr Wm. Jones. Y.H. (v pryd hwnw yn gadeirydd Bwrdd Iechyd Merthyr) gawsant eu penodi yn gyflafar- eddwyr i drefnu a phrynu y Jo;nt Sewage Farm. Bu hefyd yn aelod a chadeirydd y Bwrdd Claddu. Yn 1874, etbolwyd Mr Rhys yn aelod o'r Bwrdd Ysgol, ac yn gadeirydd ar ei ail etholiad yn 1877, ar ymddiswyddiad Mr James Lewis. Y.H., Plasdraw, yr hon swydd a ddaliodd yn ddidor hyd Mawrth 1898, pryd yr ymddiswyddodd er mawr anfoddlonrwydd i gorff y trethdalwyr. Yn 1867, codwyd ef i'r fainc ynadol dros Forganwg, ac efe oedd yr ynad hynaf yn ei ddosbarth, a gwasanaethodd yn ffyddlon ar y fainc. Yn 1860, penodwyd Mr RhvR yn Gom. missioner yr Income Tax, a bu yn gadeir- ydd i'r Commissioners hyd ei farwolaeth. Vn 1883, etholwyd ef yn llywodraethwr Prifysgol Cymru a Sir Fynwy. Bu yn aelod o Gyngor Sirol Morganwg oddiar ei ffurfiad, a phrofodd ei bun o wasanaeth aomhrisiadwy ar bwyllgorau yr heolydd, pontydd, a'r trethi sirol. &o.. ac ar y eyd- bwvllgor i reoJi yr heddgeidwaid. Yr opdd Mr Rbys yn Rhvddfrydwr cymedrol mewn gwleidyddiaetb, ond ni chymerodd ran flaenllaw erioed yn nad- leuon y pleidiau, gan deimlo mwy o ddyddordeb mewn gwasanaethu i achosion lleol yn hytrach na rhai cenedlaethol. Undodwr ydoedd Mr Rhys o ran ei gredo giefyddol, ond ni fynychodd un lie o addoliad am rai blvDyddau. Yr oedd yn un o svlfaenwyr Cvfrinfa St. David o'r Rhydd Faswniaid (679). ond nid ydoedd wedi presenoli ei bun yno er's rhai blyn- yddau. Mewn gair, gellir dweyd na fu un boneddwr mwy gwasanaetbgar i am- rywiol achosion lleol Aberdar, a rhanau eleill o Forganwg, yn bod yn vstod y ganrif, ac y mae ei golled yn anadferadwy.

ICyflwyniad Tysteb.

Yr Angladd.

Newyddion.

DREYFUS. I --I

ADFERIAD IECHYD.

GWAUNCAEGURWlflN.

. NODION TRAMOR.

PONTYBEREM.

RHYBUDD.

YSTAIYFERA.

NODION 0 RHYMNI.

. CWMDAR.

BETHEL, CAPEL Y BEDYDDWYR…

Cae o Haidd,

Cyrchm Gwenith.

Hen Gymro.

Yr Ardal.

Crefyddol.

Aberddawen.

Ei Neillduolrwydd.

Aberthaw.

Pobl Grefyddol.

Gweithgarwch.

Hen Frodorion.

Dychwelyd yn fy ol.

Ysgol Sabbothol..

Cawod o wlaw.

Galwad i De.

Wrth y Bwrdd.

AweJ y Nawn.

Cerddoriaeth.

Boneddigion Adnabyddus.