Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

Advertising

Advertising

YR WYTHNOS.'.

Cynadledd y Glowyr yn Nghaerdydd.-

BWLLFA, ABERDAR,

LLANELLI.

YR ARGYFWNG YN Y FASNACH LO.

[No title]

EISTEDDFOD TONYPANDY.

DYDD MAWRTH.

[No title]

ABERCYNON.

, Etholiad Cynghor Sirol Penrhiwceibr,…

News
Cite
Share

Etholiad Cynghor Sirol Penrhiwceibr, Abercynon, ac Ynysybwl. Yn nyrchafiad Dr Jones yn henadur, y mae sedd wag yn y hwn. Y mae yn wybyddus nad y Ynysybwl wedi cael cynrychiolaeth er y diweddar Gwilym Jones, Pwllhelyg, o barcbus goffadwriaeth -purach gwr a goleuach gwleidyddwr ni ddymunem in cydrychioli. Yr ydym ni yn Ynysybwl wedi gwneud. ymgais, ac y mae y llifefriant tafarnj^dol wedi bnd yn rhy gryf i ni. Ond effeyn^ olddyw, y ydym gryn lawer yn iachach yn y cyfeT'nd hwna. Yr ydym wedi llwyr ddymchwelyd y gallu dinystriol yn etholiadyu y cynghor dosbarth a bwrdd y gwarcheidwaid. Yr ydym wedi dewis y tro hwn yn ym- geisydd Mr S Shipton, clerc Bwrdd Ysgol Llanwyno, gan nad oedd genynl ni fieb yn barod i sefyll. Gwyddeni fod Mr Shipton yn Rhyddfrydwr goleuedig a cfaidarn, ac wedi gweithio bob amser o blaicf Radical- iaeth yn Mountain Ash a'r cylchoedd, ac ysfyrir ef yn un o golofnau yr achos. Y mae yn siaradwr dylanwadol, ac yn hawlio gwrandawiad, yr hyn sydd o werth an." I nhraethol mewn cynrychiolydd. Pa ddyben i ni gael gwr na fyddai yn amgen na chyff gwawd yn^ y cynghor, neu rhyw ddafad wlanog i hwn a'r llall i'w chneifio ? Mae y peth yn wrthun. Gydweithwyr, melldith rhanbarthau glo- faol yw tafarnyddiaeth a gafFeryddiaeth. Y mae y naill a'r Ilall yn ymgeisydd ar y maes yn yr etholiad presenol. Cynrychiolir y blaenaf gan Mr Thos Morris, diweddar Thorne Hotel, a gwr fu yn llanw y swydd o gadeirydd y Licensed Victuallers' Asso- ciation. Penderfyniad y gymdeithas hon yw meddianu pob ffyftonell o awdurdod drwy y wlad, a drwy ei dylanwad dy- chwelwyd y Weinyddiaeth Doriaidd bres- enol. Nid yw ddyben i Mr Morris osod lie amlwg ar ei anerchiad i drethiad Royalties a Ground Rents. Nid yw amgen na Catch, fel y dywedodd tafarnwr mwy Green na'r gweddill ohonynt, gyda wine awgrymiadol, wrthyf y dydd o'r blaen. Ac fel addefir gan ei bleidwyr fyddlonaf, na wyr on 1 y nesaf peth i ddim am bynciau rhyddfrydol y dydd, yn ueillduol pwnc addysg, ac yn y cylch olaf gall Mr Shipton fod o lawer o wasanaeth i ni-mwy o lawer na feddyliech i ar yr olwg gyntaf. Dymunir ar rieni plant y rhanbarth gymeryd hyn i ystyr- iaeth. Cynrychiolir ^afferyddiaeth gan un o brif swyddogion Cwmni Penrhiwceiber— Mr W. N. Mathews. Mae Mr Mathews yn fachgen caredig, medd llawer, ac yn Dori rhonc gyda Haw. Efe, y mae yn debyg, oedd un o brif gefnogwyr yr Ymgeisydd Toriaidd, Mr Bertie Lewis, yn yr etholiad diweddaf. Hysbysir hefyd fod yr Agent Toriaidd o Bontypridd yn talu dyddordeb neillduol yn yr etholiad, ac eto myn Mr Mathews ei fod allan ar wahan i blaid a chredo boliticaidd. Dyna ddadl yr Independent Candidate, yr hwn erbyn hyn sydd wedi darfod bron yn llwyr o'r tir. Oud Cath mewn Cwd oedd y boneddvvr hwnw, ac fel rheol nid dim ond y gath,' ond yr oedd y cwd yn Doriaidd. Dyna yw Mr Mathews-mae hyd y cyf- ryngau a'r cysylltiadau ddefnyddia yn profi ei gydymdeimlad yn Doriaidd. A chi nabyddweh ddyn wrth ei dylwth, ond newch chi. Gydetholwyr, gadewch i ni fod yn onest i'n buddianau goreu. Addefir gan bawb yn ddiwahaniaeth fod Mr Shipton yn wr I galluog-efe yw yr unig Rhyddfrydwr trwyadl. Na huder chwi ddydd yr etholiact gan siarad gwagsaw. Na ewch yn ysglyf- aeth i benchwibandod ac i folheulo ar fras diroedd un dydd. Y mae gafferyddiaeth yn gryf Mae tafarnyddiaeth yn rymus. Gadewch i ni fod yn ddynion gonest, a chydwybodau glan tranoeth i'r etholiad, a hyny wrth roddi croes gyferbyn ag enw j

IRHIGOS.

Advertising