Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
23 articles on this Page
'ALLTWEN.
'ALLTWEN. Cymerodd trigolion y lIe hwn eu rhan i ddathlu Jiwbili y Frenhines, fel manau ereill. a threuliwyd y diwrnod yn hapus rhwng pob peth. Codwyd twr mawr o goed ar ben Craig yr Alltwen, o dan arolygiaeth amryw o berson- au. Cludwyd tyneMi lawer o goed, yn nghyda Coal Tar, Petroleum, a Cylinder Oil tuag ato, a chafwyd digon o ddwylaw parod i'w adeil- ado. Penododd y pwyllgor yr hen foneddiges barchus Mrs Mary Gape, Butcher's Arm?!. 86 oed, i'w osod ar dan, yr hyn a wnaeth yn dde- heuig dewiswyd hi am mai hi yw yr henaf yn y lie. Cyn gyntad ag y gosodwyd tan ynddo, aeth yn wenfflam drwyddo mewn ychydig fun- ydau. Parhaodd i losgi yn fywiog a chlir, gan daflu allan oleuni a gwtes mawr am oddeutu tairawroamser. Yroedd, meddif, yn un o'r coelcerthi goreu yn Nehendir Cymru, gan ei od ynliosgi mor dda, ac mewn man mor fan- teisiol i'w weled am filldiroedd lawer, o bob eyfieiriad. Yr oedd Fireworks hefyd mewa cyaylltiad ag ef. Hefyd cymdeithas Gydweithredol Alltwen a Phontardawe ei Jiwbili ar ben un mlynedd ar hugain o safydliad y Gymdeithas, ar yr uu di- wrnod, Dewlsodd yr aelodau ddathlu y Jiw- bili perthynol iddynt hwy yn y ffurf o roddi gwledd o de a theisen yn rhad i'r aelodau, a'u gwragedd, a'u plant. Mwynhaodd oddeutu dwy fil o bersonau o'r danteithiou rhagorol oedd wedi eu parotoi ar eu cyfer, a chaamolir pawb a phobpeth oedd a Haw mewn trefnu a gwasanaethu.
PRIODAS
PRIODAS Y Parch Frederick Thomas, Aberdar, a Miss Lizzie Jones, Penuwch. (Gofynwyd y cwestiwn imi pwy ddydd—"Beth oedd y sheswm fod Hen Lancvddiaeth mor ,-w gryf yn mhlith gweinidogion Dosbarth Aberdar?" Atebaisinau—"Tebygybyddai yn gyffro yn y gwersyli tua adeg y Jiwbili). A mi yr ochr hon—yn ngwlad y mel a'r llaeth," O'r ochr draw—at lan y dwr-hen gyfaill i mi ddaeth; 'Roedd arno beunydd chwant rhoi 11am ar draws y Hi',— Ond oedi wnai-mewn penbleth blin-yn ofni'i mentro hi! Tyr'd drosodd, Feed," 'be Job yn lion,— Rho naid fuddugol dros y don: M-ie llawnder a hedd a bywyd digreithiau Ya aijir bendigedig yr "Unol Dalaethau." Tn ol i fy nghyfaill, o fewn ergyd careg "— Un llariaidd fel Moses a welwn yn rhedeg Rhyw drydar wna yntau am fywyd heb faich- A thybiais i'm' weled Sephorah'n ei fraich Yr unwedd a Fred, syn-syllai y gwr I Ganaan priodas tu arall i'r dwr." Tu ollddo yntau mi welwn wr glan— Un bach o gorffiolaeth, a'i wallt fel y fran 'Roedd yntau'n llygadu wrth wel'd y cyfeillion Yn tynu yn gyflym at ochr yr afon A daeth ataf awel dros 44 ardd o rosynan Gan sibrwd yn ddistaw ei helynt yntau Coeliweh ti, Job," meddajjr awel, yn wir,- 44 Daw Powell drosodd cyn bo hdr." Tu ol iddynt oil, mi welwn wr aiall Yn 44 canlyn o hirbell,a golwg hygall, Gan dynu ei law dros ei far? mewn atiael-h- Edrychai fel corff o dduwinyddiaeth; Fel llywydd cymanfa,—ei wedd oeddbarchedig, Ond hwnt at yr afon yspiai'n grynedig Gan belled y ffordd oddiwrthi, yn wir, Fe wisgai ei wydrau-i weled yn glir; A hyn oedd epistol Iago'n dweyd- 44 'Rwyf finau yn penderfynu gwneud— dan's ebai'rduwinydd llygad lym— "Ffydd heb weithredoedd—'dyw hi werth dim-" 44 Yn awr." meddwn i wrth Fred yn lion— Rho naid fuddugol dros y don Ac ond i ti wnend-fe ddaw'r cyieillion- Yn caeleuha-rwain megysdeillion Gan engylesan-" er gwell ac er gwaeth- I'r wlad sy'n llifeirio o fel a llaeth Mae weitoian yn flwyddyn y Jiwoili- Mentra hi, Fred I-paid ofniy lli' Arhyn, dyma Fred yn gioneud, fel dyn, Dan ganu 14 gwell yw dau nag un;" A daew'r angyles yn ei fraich, Yn rhoi iddo'i chalon—yn symud ei faich Maent weithian yn wr a gwraig fach Ion— A thangnef priodas dan eu bron Maeut wedi annghofioyr afon yn lan, A'u bywyd bellach yn troi yn gan Dacw Fred yn chwifio ei 4' gadach gwyn Ar ei gyfeiliion "—o'r ochr hyn Gan waeddi-" croeswoh dros y Ili'- Mae 'leni yn flwyddyn y Jiwbili I" 'Synwn i fawr na ddaw y tri Drosodd cyn diwedd y Jiwbili! Mehefin 25ain, 1897. JOHN T. JOB.
* TRSCYNON.
TRSCYNON. Cyfar fod Chwarterol yr Odyddion.-Dydd Llun diweddaf, yn y Plymouth Arms, Trecyn on, cynaliwyd cyfarfod chwarteyol Odyddion Dosbarth Aberdar, pryd y cynrychiolwyd 40 o gyfrinfaoedd. Y cadeirydd oedd Mr George Willrino. Ia gadsirydd oedd Mr J F Moms, Bwllfa. Cymerodd dadl faith le yn ystod yr eisteddiad ar y cynllan newydd i gynorthwyo cyfrinfaoedd gweiniaid, a ehariwydy cynllun gan 25 yn erbyn 12 ond yn herwydd fod y lleiafrif yn cynwys rhai o'r cyfrinfaoedd mwy af yn y dosbarth, penderfynwyd ar awgrym yr Ysgrifenydd i adael yr achos. Derbyniwyd ad- roddiad y pwyllgor ar y rheolau newyddion. Parotowyd ciniaw ragorol gan y westywraig —Mrs Williams, yr hon a fwynhawyd gan y cynrychiolwyr yn gyffredinol.
NODION O'R WAUN A CWMGORS.
NODION O'R WAUN A CWMGORS. Preyethu. Dydd Sul, y IBeg cyfisol, bu Mrs Davies R ahel o Fon), yn pregethu drwy y (tydd yn Carmel, capel yr Annibynwyr, gyda nerth a dylanwad mawr. Dymunwn iddi hir oes i wasanaethu ei Duw. Ddallwn hefyd fod yr eglwys uchod wedi rhoddi
Galwad
Galwad unfrydol i'r Parch B D Davies, Merthyr Vale, i ddyfod i'w bugeilio, a chan fod yr eglwys wedi dyfod i'r un penderfyniad, gobeithio y bydd iddo yntau eu hateb yn gadarnhaol, ac y bydd i'r Arglwydd lwyddo ei lafur, oblegyd y mae yma le i weithio.
Salvation Army.
Salvation Army. Da genym ddeall fod y fyddin hon wedi dechreu talI ymweliad a'r lie. Gobeithio na fydd iddynt roddi fyny hyd nes enill llawer o'r pechaduriaid sydd i'w can fod ar hyd y prif ifyrdd a'r caeau at y Ceidwad.
GADLYS, ABERDAR.
GADLYS, ABERDAR. MR. GOL.,—U-welwoh yn dda ganiatau ych- ydig o'ch gofod er galw sylw lluaws cyfeillion Mr Nicholas Morgan, 4;), Gadlys street, yr hwn sydd yn analluog i weithio er's amser maith o herwydd afiechyd, ac wedi myned yn isel ei amgylchi-adau-at Bwyllgor a gynelir yn Festri y Gadlys heno (nos Favvrth), Mehefin 29ain, am 7.30 yr hwyr, er mwyn ceisio trefnu rhyw gyn- llun i'w gynorthwye yn ei gyfyngder. 4 A friend in need is a friend indeed.' Cofiwch am 1 y a dewch yno yn llu yw gwir ddym- uniad CYFAILL. 1
YSGOLION BLAENRHONDDA A DUN…
YSGOLION BLAENRHONDDA A DUN RAVEN. Ar ddydd y Jiwbili, darparwyd gwledd ar gyfer plant yr ysgolion uchod gan y Mri Geo. Watkinson a'i Feibion, perchenogion glofeydd Fern hill a Blaenrhondda. Gwnawd y trefniad- au gan Mr D R Jones, arolygwr medrus y glo- feydd uchod, yr hwn sydd yn aelod ffyddlawn a gweithgar o Fwrdd Ysgol Ystradyfodwg. Yn y prydnawn, ffurfiwyd yn orymdaith i ym- deithio drwy y gwahanol ystrydoedd, y rhai oedd wedi eu harwisgo yn addurniadol ac yn briodol iawn i'r amgylchiad. Ni welwyd y fath olygfa erioed yn y rhanbarth hwn, sef gweled tua mil o blant yu eu gwisgoedd amryliw a'u banerau yn eu dwylaw, yn cerdded dan ganu yn swynol. Ar ol dychwelyd, rhoddwyd te a theisen o'r fath oreu iddynt. a mawr fel yr oeddynt yn mwynhau y danteithion. Rhodd- wyd eurafalau a melusion 1 bob plentyn ar ol gorphen ei de, ac awd i gae cyfagos lie yr ym- ddifyrwyd mewn chwareuon o bob natur. Dymuna yr ardaloedd gyflwyno eu diolchiad- au gwreaocaf i'r boneddigion uchod am eu haelionusrwydd, ac hefyd i Mr D R Jones a'i briod hawddgar am y rhan flaenllaw a Igymer- asant yn y symudiad daionus hwn. Teg yw dweyd fod Mr a Mrs Jones yn barod bob amser i wneud yr hyn a allont er llesoli a diwyllio y dosbarth gweithiol.
GORSLAS A PHENYGROES.
GORSLAS A PHENYGROES. Ar ddydd y Jiwbili, wedi cyfranogi o de a bara brrth; unodd eglwysi Peuygroes a Gorslas mewn gorymdaith i ben bryn Llyn-Llech- Owen, lie bu pawb ar eu goreu i ddifyru y plant mewn chwareuon, a golygfa harda oedd hi. Am ddeg o'r gloch y nde, rhoddwyd yr an- rhydedd o danio y goelcerth oedd wedi ei had- eiladu ar Brynyfnwch i Yswain Jones o'r Wern, ac yr oedd baner Victoria yn ei law a bathodyn Jiwbili ar ei fron, yr hyn a wnaeth gyda chystal hwre ag a glywais erioed. Tra yr oedd y goelcerth yn fllamio, gollyngwyd Fire- works, a chanwyd gan Dr Harries Hen Wlad fy N hadau a 'God save Queen.' Dymunwn dalu y parch gwresocaf i'r Parch Mr Hughes, Ficer Gorslas, yr hwn a roddodd de a bathod- au i blant yr Eglwys ar ei draul ei hun. Hefyd, i Yswain y Wern am ei bresenoldeb a'i gynor- thwy, ac i holl drigolion yr ardal am bob cef- nogaeth a gafwyd er dathlu y Jiwbili.
NODION MIN Y FFORDD.
NODION MIN Y FFORDD. GAN Eos HAFOD. Cynalioid eglwys Seisnig Seion, perthynol i'r Bedyddwyr Seisnig, Pentre, ei chyfarfodydd chwarterol dydd Sul, Mehefin yr 20fed. Pre- gethwyd ar yr achlysur gan y Parch J 0 Hughes, Abersychan. Daeth cynulliadau llu- osog a phare bus i'r gwasanaeth.
DAMWAIN ANGEUOL.
DAMWAIN ANGEUOL. Tro truenus iawn ddigwyddodd i Michael Berry, labrwr, yn preswylio yn Mill Street, Ystrad, Rhondda, nos Sul, Mehefin yr 20fed, yn ngwaith Tylorstown. Ymddengys fod yr ym- adawedig wrth ei waith arferol pan syrthiodd careg o'r nen arno. Derbyniodd niweidiau an- adferol ar ei ben. Cariwyd y dyn truan yn dyner i'w gartref gan gydweithwyr iddo ac ereill. Cwynai yn herwydd yr arteithiau i'w ben, nes yr oedd yn druenus i'w glywed. Di- angodd o'i boenau tua deg o'r gloch boreu dranoeth. Gadawodd wraig a phump o blant i alaru eu colled ar ei ol. Daeth Berry i'r Rhondda o'r Iwerddon, ac nid oedd ond 32 bed. Achosodd ei farwolaeth sydyn a phoenus ofid mawr i'w gymdeithion, ei berthynasauac ereill.
CYNQHERDDAU CYSEGREDIG.
CYNQHERDDAU CYSEGREDIG. Cwynir y dyddiau hyn am fod cyngherddau cysegredig yn cael cymaint o sylw ar y Sab- bath. Creda y craffus v daw niwed o hyn i ddylanwad gofynol crefydd ar y do sydd yn codi. Y mae y symudiad hwn yn cael ei an- nghymeradwyo, gan fod cyfleusderau ereill i'w cael WBa ateb gwell dybenion i bobl ieuainc na chymeryd rhan mewn cyngherddau o'r fath a nodwyd. Bellach, y mae y mater pwysig hwn yn cael sylw arbenig, a cheir gweled cyn hir a ydyw i lwyddo neu fel arall. Tebyg mai amser wna brofi hyn oreu fel pob peth arall.
IHARDD BRIODAS.
I HARDD BRIODAS. Y dydd o'r blaen, unwyd Mr Lewis Davies, a Mies Mary Hughes mewn glan briodas. Priod- wyd hwynt yn nghapel Annibynol Sardis. Pontypridd, gan y gweinidog, sef y Parch W I Morris. Mab ydyw y priodfab i Mr a Mrs Davies, Talwendda Farm, Llansamlet, ac y mae y briodferch yn ferch i Mr a Mrs Thomas Hughes, Gelli Terrace, Ystrad. Dymunir I'r par ieuanc hawddfyd a-c hir einioes.
CYFARFOD AGORED.
CYFARFOD AGORED. Y mae y Christadelpbians yn cynal cyfarfod- ydd agored ar hyn o bryd yn Ystrad Road, Ys- trad. Teimlir dyddordeb yn eu gwasanaeth. Anerchir cynulliadau lluosog gan aelodau per- thynol iddynt, a gwna ereill, syddo argyhoedd- lad gwahanol eu, gwrthwynebu yn awr ac eil- waith mewn ysbryd gwresog.
.GWLEDD Y PLANT.
GWLEDD Y PLANT. Cafodd plant ysgol ddyddiol Llwynpia, yn nghyd ag amryw ereill, wledd flasus. Wedi mwynhau eu hunain o'r wledd oedd ar eu eyfer yn yr ysgoldy awd i ben y mynydd Ile y cafwyd awel bur y dydd yn ei man mwyaf lachus. Treuliwyd rhai oriau dymunol yma, gan i'r plant dderbyn pob peth angenrheidiol i w gwneud yn hapus. Yr oedd Mr Tom John ac athrawon ereill yn bresenol.
GORTHRYMDER CYFAILL.
GORTHRYMDER CYFAILL. Digwyddodd damwain flin iawn yrTddiwedd- ar yn ardal Ystrad Rhondda. Gwrthddrych ein llinellau yw Acting-Sergeant Moses Reed, yr hwn sydd tua 53 mlwydd oed. Dydd Llun ffair Treorci, yr oedd ganddo achlysur i fod yn llys heddgeidwaid Ystrad. hyd y prydnawn. Ar ol gorphen ei waith yno, aeth tua chyfeiriad ei gartref er parotoi ei hun ar gyfer ei ddyled- swydd yn y ffair. I fod yn eglur, ger Haw ei breswylfod y mae Siding perthynol i lofa y Gelli, a chyn dyfod at glwyd yr ardd y mae tro yn yr heol y gwna yr agerbeiriant rhedeg drosti. Ar y dydd hwn, fel ar ddyddiau ereill, yr oedd y peiriant yn gweithiowageni Uawmon igyfeiriady borleri gio. Rywfodd aeth troed Mr Reed o dan yr olwynion, a drylliwyd hi yn fawr. Yr oedd y pryd hyn yn ei ddillad swyddogol, ac ac ei ffordd i wasanaethu yn ol gorchymyn yr awdurdodau yn Nhreorci. Pan ddeallwyd am yr hyn a ddigwyddodd iddo, parodd y newydd druenus ofid mawr i'w ber- tbynaeau a'i gyfeiliion mynwesol a llnosog. Yr un prydnawn gorfuwyd tori yr aelod anafus ymaith, ac ychwanegodd hyn y gofid yn fwy. Y mae yn gwella cystal ag y gellir disgwyl, o dan ofal medrus Dr W E Thomas, Ystrad, a'i gynorthwywyr.
El FYWYD.
El FYWYD. Mae ein hen gyfaill yn enedigol o'r Wig, ger Penybont-a'r-Ogwy. Adnabyddid ei dad fel Bili Reed o'r Wig. Pan ymwelais a'r lie hwnw yr haf diweddaf, clywais mai dyn tawel a pharchus oedd. Treuliodd ei fab-Moses Reed-rhan fawr o'i fywyd boreuol yn nhref Pontypridd. Perthynai y pryd hwnw i eglwys Sardis. Glowr ydoedd y pryd hyn, ac wedi hyny bu yn ngwasanueth cledrffordd y Taf, a bu Mr Williams (Meton), yn gydswyddog ag ef am rai blynyddau. Mae Mr Williams wedi cael ei ddyrehafu erbyn hyn i'r cylch cyfrifel a pharchus o Inspector. Perthyna y swyddog Reed yn bresenol i eglwys Gynulleidfaol Gym- reig y Gelli, ac y mae yn un o athrawon yr Ysgol Sul. Tua tha'r blynedd yn ol, cafodd mab iddo, yr hwn oedd yn 24 mlwydd oed, ei ddiwe id yn nglofa y Gelli, ac yn mhen tua blwyddyn ar ol hyn, bu mab arallyn 19 oed, ar ol misoedd o gystudd caled farw. Heblaw hyn, y mae aelodau ereill o'r teulu wedi bod yn wael eu hiechyd. Y mae y gofid hwn eto wedi peru prudd-der arall yn hanes y teulu parchus. Y mae Mr Reed yn llenor gwych, ac nid oes fifyddlonach darilenwr o'r DARIAN. Y maeyndadi Inspector Reed, Ferndale, a bu ein cyfaill anffodus yn heddgeidwad yn Resol- fen am flynyddoeda. Bwriedir gwneud tysteb iddo fel arwydd o barch tuag ato fel swyddog da a chymydog caredig.
Y JIWBILI.
Y JIWBILI. -:0:- GYDA'R CYMRY I WELED Y NAVAL REVIEW. TODDIWRTH OHEBYDD NEILLDUOL]. Dydd Sadwrn diweddaf, cefais y fraint a'r pleser mawr o fod yn bresenol yn y Naval Review yn Spithead. Gadewais Aberdar nos Wener, yn nghwmni y Meistri J Morris, clerc y Bvvrdd Ysgol, a'i fab Arthur Morris James Hek, D Tudor Wil- liams, J Daniel Wilkins, J Absolom, R R Price, P Halewood, Gwilym Griffiths, S J Williams, Brynawel, a'i fab. Hefyd yr oedd yr henwr pedwar ugain a dwy oed, Mr R David, a'i tab a'i ferch yn nghyfraith, Mr a Mrs M R David, Abergwawr a'i fab yn nghyfraith, Mr Lewis N Williams, ac ereiU weii myned gyda'r train cyn hyny. Ar ol cyrhaedd Caerdydd, aeth rhai o'r cyf eillian gyda'r Excursion o orsaf y Great Western am haner nos i Portsmouth, tra yr oedd y rhan fwyaf o honom yn aros i fyned gydag un o Steamers y Meistri Campell, yn groes i Bournemouth. Am bump o'r gloch bore dydd Sadwrn, aethom ar fwrdd y Ravenswood, a chyfarfuasom, yn mhlithereill, st'r Cymry twymgalon y Meistri R C Jenkins a J Randel, Llanelli (brawd yr aelod dros Gower), Hauzard, Abertawe W Morgan, Auctioneer, Ponty- pridd Charles Price, Troedyrhiw; J Vaughan, eyfreithiwr, Merthyr E Jenkins, R Richards, a C A Davies, Mountain Ash y Cyngorwr T Morris, Thorne Hotel, Aber cynon; W Games, Cilfynydd; Hopkin Knill, gynt Tonypandy Alban Richards, YstJ ad T Peek a Charles Reed, Aberdar T P Y.H., Maesycwmmwr; D Rees, The Hays Market, Caerdydd James Jubb, Arthur Daniel, Troedyrhiw David Harris, Grocer, a T Dayies, Temple of Fashion, Merthyr; Henadur Evans, Abertawe; Thomas Evans, Mountain Ash; E Cule, Treherbert; Pugh, cyfreathiwr, Pontypridd; Pulman, Merthyr; J Watkins, Surveyor, Llanelli Seaton, adeiladydd, Pontypridd Joilson, Abertawe, a llawer ereill nas gallwn eu cofio, Yr oedd ar y Bwrid bron wyth gant o honom, ac heblaw hyny yr oedd mwy na dwy fil wedi myned yn groes gyda'r Great Western tra yr oedd tua pum' cant wedi myned gyda'r Britannia, perthynol i'r Meistri Campell, oddeutu Penrhyn Lloegr (Land's End), i fod yn barod yno. Gwelsom rai o honynt, yn mhlith pa rai oedd Mri J. Davies, argraff ydd, Llanelli; F. W. Mander, Aberdar D. Jones Dowlais. Pna gyrhaeddasom Burn- ham, lie y dygwyddodd anhap i'r bad, ond nid cyn i ni fyned i'r lan, cawsom Special Trains yn barod i'n cymeryd yn groee i Bournemouth. Nid oes amser genym i adrodd holl helyntion y daith. Pasiasom drwy ganol gwlad yr haf, a Swydd Dorset, i Hampshire, lie yr oedd peth o'r ddaear yn fras iawn, a gwelsom ychydig o wair wedi ei dori. Yr oeddym hefyd yn pasio dros ryw gymaint o dir a'n hadgofiai am fynyddoedd ein gwlad, a llain fawr o fawn- dir cyn cyrhaedd Glastonbury, He yr oedd canoedd o dasau o fawn, neu dyweirch, fel y dywed gwyr Sir Aberteifi, wedi eu cyn- hauafu. Ar ol pasio drwy Glastonbury, Pylle — dirywiad o'r hen air Cymreig Pyllau,' onide?—Evercreech Jot, Wins- canton, Shillingstone, dajthom i Bland- ford, tref o 40,000 o boblogaeth, a fu yn dra. enwog ganrifoedd yn ol. Yma gwelsom amryw wageni o eiddo y Navigation Coal Co., yn llwythog o lo Cymru. Ar ol aroe am fyr amser yma, cyrhaeddasom Poole, lie y mae Arglwydd Wimborne yn byw— adnabyddir ef yn well yn Merthyr, a thrwy Sir Forganwg, fel Ivor Bertie Guest, I mab y diweddar Syr Josiah John Guest, un o'r meibion y cyflwynodd Lady Char- lotte Sluest y Mabinogion iddynt-yn Faer. Y mae ei sedd, Camford Manor, hefyd yn yn ymyl, ac nis gallem lai na theimlo yn rhyfedd fod Maer Poole yn deisebu yn erbyn i'w dref enedigol gael ei chorffoli. Am naw o'r gloch, cyrhaeddasom Bourne- month, un o'r ymdrochleoedd prydferthaf yn y Deyrnas ond nid oedd genym amser i ymdroi, ac aethom ar ein hynt i'r pier' ysblenydd, ac ar fwrdd y Westward Ho,' yr hon yn fuan oedd yn myned allan yn llajvn ager tua Spithead. Ar y daith o Bournemouth tua'r Solent, nis gallem lai na meddwl ein bod ar dir, neu ya hytraoh ar for cysegredig i ryddid a Phrotestan- jaeth Lloegr, canys onid oeddym ar gulfor Lloegr, rhwng Portland a'r Isle of Wight, lie bu llynges fach Lloegr yn amddiffyn ein gwlad a'n crefydd hefyd rhag anrhaith Llynges Yspaen-The Spanish Armada— dri chan' mlynedd yn ol; llynges oedd wedi ei bendithio gan y Pab i ddinystrio y rhyddid gwladol a chrefiyddol oeddym yn ei fwynau dan ein gwyryf Frenhines Elisa- beth. Yn fuan yr oeddym yn y culfor rhwng yr Isle of Wight a Lloegr ac ar ol hwylio am ddwy awr daethom i olwg y llynges Brydeinig. Gorweddai y llynges yn bedair rhes, gyda rhes fer arall o Tor- pedos rhwng y rhes nesaf i Portsmouth a'r tir. Rhydd y llinellau canlynol ddrych- feddwl i'n darllenwyr o'r modd y ffurfiwyd yr orymdaith >. G. F. D. c. B. E. A. A-Llongau Masnachol. B-Llongau Rhyfel. D-Llongau Rhyfel. D—3rd Class Cruisers. E-Llongau Rhyfel Tramor. F-Destroyers and Gunboats. G—Torpedos. Yr oedd yr oil o'n llongau rhyfel ni yn rhifo 200, tra yr oedd ar linell E tua again o longau rhyfel tramor, yn mhlith y rhai y gwelsom longau o China, Japan, Ffrainc, Rwsia, Yr Almaen, Unol Dalaethau Amer ica, Ysbaen, Denmark, Yr Eidal, Portugal, Awstria, Sweden, a Theyrnas Siam. Hwyliasom i fewn am ugain mynyd i un rhwng llinellau C a D, y Minitaure ar ein llaw aswy, a'* Bonaventure ar ein de. Ar 01 pasio trwy yr oil o'r llin3ll, yr hon a ymestynai dros bum miildir o byd, daeth om yn ol rhwng y llmellau A ac E, a thafiasom ein hangor i lawr yn nes i'r ynys, ac ya agos i ddiwedd y llinell E. Cymerodd hwywo yn ol ac yn mlaen yn agos i ddwy awr. Yn mhen ychydig fynydau daeth Tywysog Cymru—' ein Tywysog ni,' fel y clywem ugeiniau o weithiau yn ystod y dydd, allan o'r porth- ladd yn Portsmouth, yn y Victoria a'r Albert. Yr oedd un a longau Brodyr y Drindod (Trinity Brethren) o'i flaen, ac ar ol y Victoria a'r Albert yr oedd y Carthage a'r Tywysogion Indiaidd a nifer o longau ereill; yn eu plith yr oedd y Campania, yn yr hon yr oedd yr Aelodau Seneddol; yn mhlith yr aelodau Seneddol a'u gwra- gedd a welsom drwy yr ysbienddrychau oedd ar y bwrdd, yr oedd Meistri T. E. Ellis, D. Lloyd George. Alfred Thomas, D. Bryn Roberts a Mrs Roberts, D. McKenna, D. Brynmor Jones a Mrs Jones, a Mrs D. A. Thomas, gwraig yr aelod anrhydeddus dros Ferthyr. Nid cynt y daethant allan nag y taniodd y llynges Royal Salute bron ddigon i fyddaru pawb oddlamgylch, ond uwch y cwbl clywid banllefau y miloedd o wyddfodol- I ion ar y mor a'r tir, a gellwch fod yn sicr, Mr Gol., i'r Cymry floeddio mor uchel a neb, Pasiodd y Tywysog yn ol ac yn mlaen rhwng y gwahanol longau, a chaw- som gyfle. iawn i'w weled yn croesi llinell B, rhwng y Sirius a'r Hermione, a gwaedd- asom ein hunain yn grug 4 Duw fendithio el Dywysog Cymru.' Ar ol y Review aethom i fewn i borth- ladd Ryde, ac aethom allan i gael golwg ar y dref. tra yr aeth y Britannia a llawer o honom eilwaith drwy y llynges. Rhwng 7 ac 8 o'r gloch aethom unwaith eto ar y bwrdd, a chymerasom ein safle bron yr un man ag o'r blaen. Yn ystod y nos gwelsom olygfa na welwyd el chyffelyb erioed o'r blaen. Yr oedd pob Hong wedi ei gor- chuddio a lampau trydanol; yr oedd pob ysmotyn ar y llongau—eu rhaffau, simnei- au, mastydd, a banerau wecli eu cuddio gan lampau, fel yr oedd yr oil o'r llongau i'w gweled yn un crynswth o oleuni. Tan- wydd miloedd o Rockets yn ystod y nos, ond nid oeddynt i'w gweled ond yn gymharol fychain yn mhlith goleuni an- ferth y trydan. Daeth y Tywysog allan i weled yr olygfa, a chanasom ni, y Cymry, nes yn grug,- 44 Ar Dywysog Gwlad y Bryniau 44 Duw cadw ar bob awr, Frenhines Prydain Fawr a 4 Hen Wla4 fy Niiadau." Dros y don longau ereill clywem adsain yr ben iaith. Yr oedd o leiafi 5,000 o Gymry yn bresenol i weled golygfa n* bn ei bath o'r blaen. Tra yr oeddym ar yr ynys, disgynodd cawod o wlaw a tharanau nas gwelsom ei bath nemawr erioed, fel pe i ddangos nad oedd gallu dyn er y cwbt ond meidrol, ond yn yr hwyr cawsom dywydd braf. Am un o'r gloch boreu Sabboth yr oeddem yn y tren, a chyrhaeddasom Gaerdydd yn ddiogel am 5 o'r gloch, yn dra lluddedig, ond yn teimlo ein bod wedi cael golygfa na welwn byth eto o'i bath.
NODION 0 RHYMNI.
NODION 0 RHYMNI. Yr wythnos ddiweddaf, ymwelwyd a ninan gan dwymyn y Jubili, a dyna fu uchaf ar eta nymenyddiau am ran helaeth o'r wythnos. \n bur fuan, gwelid y baneri yn chwifio yn yr awelon, a'r cymylau yn diflanu yn y nen i'r haul mawr gael mantais i dafla ei belydrau i'w orearo. Yna cawsom yr olygfa orymdeithiol ardderchocat fu ar ein heolydd erioed, pryd yr oedd rhyw dair mil o blant yr ysgohon dyddiol ar eu taith orwy y prif heolydd, yn dref nus a thrwsiadus. Blaenorid hwy gan aelodau Cyng- or y Dosbarth. gweinidogion, Oanoniaid, a chwradiaid y dref, a bechgyn capiau pres y Fire Brigade, a gellir dweyd am danynt yn ngeiriau y bardd Seisnig- The Fire Brigade is a mighty hose, Ever ready, ever steady, pumping away.' Wrth gwrs, te a bara brith oedd diwedd y ilitil hwn. Nid oedd gyda ni yr un yn y lie a'i galon a'i logell yn ddigon eang i ddiwallu y rhai hyn, ond trwy danysgrifiadau llwyddwyd i gael pryd yn iawn i'r plant, ac yr oeddynt hwythau wedi yn iawn i'r plant, ac yr oeddynt hwythau wedi cerdded ei werth y llith nesaf oeddynt y camp- au Olympaidd ar gae y chwareuwyi,ac fe eniil- wyd yno lawer gwobr drwy nerth coesau a thalentau y traed. Gwnaed ymgais gwan i ar. ddangos Tanwaith. ond fe drodd y coelcerthi allan yn llwyddianus, ac fe losgodd yn Jiwbili- aidd o ddeg o'r gloch tan dri. Fe ddywedir fod yr olygfa oddiar fynydd Brynoer, rhyngom a Thredegar, yn talu am ddringo yno i'w chael. Gwelid oddiyno buag ugain o goelcerthi, a phob un o honynt fel yn ymgystadlu mewn brwd- frydedd i ddatdlu y triugain mlynedd, a'r hon sydd eto, medd Alfred Austin- But doubt not that I still Am nuptialled to my people, and have wed Their deathless will.' JLQ yn llywodraeibn ar Half the world and all the wave." Yr wythnos ddiweddaf, cyrhaeddodd un o Gymry Patagonia yma i'w enedigol fro, wedi bod ar lan y Camwy am 22 o fiynyddau. Mae llu o ddarllenwyr y DARlAN y tuallan i Rbymni yn cofio David Jones, mab Stephen Jones, Tai'rcapel; a brawd i David oedd Stephen, aeth allan o Ton, Rhondda, bump neu ohwe! bLyn- edd yn ol. Y mae Stephen yn iach a chysurus, ac mewn swydd o ymddiriedaeth yn y Co-oper- ative Stores. Gwnaeth y Bonwr David Jones ei ymddangoeiad yn ein plith, a'i anwyl Fonwr- es, a'i ddau fab. Bydd genym gyfarfod Jiwbili iddo yr wythnos nesaf, a chaiff yntau gyfleus- tra i roddi i ni hanes y Wladfa, a dwy flynedd ar hngain o'i brofiad dan gysgod yr Andes: a chaifli darllenwyr y DARIAN gipdrem ar sefyllfa pethau ar lan y Gamwy. Mae pawb sydd yn adwaen y Bonwr David Jones yn gwybod y cant 4 y gwir i gyd, a dim ond y gwir ganddo. Mae hefyd yn gwybod y oyfan sydd eisieu ei wybod am y Wladfa. Nid fel dosbarth mewn Ysgol Sul flynyddan yn ol, pan ddaeth Pata- gonia yn air teuluaidd yn y wlad: Gofynodd yu athraw o ba le yr oedd un o Epistolau Paul wedi cael eu hysgrifenu, pryd yr atebodd un mai o Macedonia; ac wedi anfon y gofyniad o gwmpas, oafodd ar ddeall fod yr oil a'r un tarn a'r cyntaf, ao yn llechu dan gysgod atebiad hwnw. Er mwjn dal y gweilch, gofynodd i'r olaf yr enw a atebodd y cyntaf, ac atebodd mai Patagonia. Gwelwn fod cynyrchion y bardd newydd yn parhau i amlhau. Pan oedd fy ughymydog y Parch G. Griffiths yn nghyfarfodydd sefydlu y Parch W. S. Jones yn Nghaerfyrddin, pwy ddydd, daeth i gyffyrddiad a bardd oedd newydd gyhoeddi cyfrol o'i eiddo a than ddy- lanwad areithyddiaeth y bardd, rhaid oedd f>rynu y llyfr. "X Bellen Feraith yw enw y lylr. Tebyg y cawn adolygiad arno, ac eng- reiffriau o hono gan y Golvgydd Barddol o'i Gadair Wellt. Hyd hyny, dyddorol fyddai ychydig linellau drwy ddrws y cefn, fel hyn :— Englyn i Bont Wifr y Felin Wen Wele bont wire ar Dywi, Rhwng bryn a dyffryn wedi'i dodi; Mae yn gyfleus iawn i wyr yr ochr draw groesi, I ofyn i Mr Thomas y Felin pryd ca nhw falu.' Eto i'r Ffoa Gollen :— 4 Dyma ffon giwren 0 bren derwen Yn yr ardd y tyfws, Harris a'i tynws.' Boiler Newydd Mr Morton, Caerfyrddin Dyma Foilerda i r'feddu, Yn Llanelli cas ei doddi; Gyda'r train y daeth i lawr Mewn awr. Ceffylau Mr Bland a'i tynodd fyny, A cbeffylau Mr Harris gyda hyny Mae e'n awr yn ei le Yn towli steam drosy dre.' Dyna ddigon yn awr i brofi ei werth OWAIN GLYNDWR.
Marwolaeth.
Marwolaeth. Boreu dydd Sul. yr 20fed cytisol, bu farw unig fachgen Mr James W Thomas, yn bum' mlwydd oed, a hyny yn sydyn iawn. Y dydd Mercher canlynol, daeth torf luosog yn nghyd i dalu y gymwynas olaf iddo. Claddwyd ef yn mynwent Eglwys Cwmaman. Gwasanaethwyd gan y Parch B Thomas, B.A., Llanfair, Cwm gors, He mae y teulu yn aelodau ffyddlawn. Gobeithio y bydd yr Arglwydd yn eu nerthu dan yr amgylchiad chwerw, ac y bydd iddynt sugno eu cysuron fod yr nn bychan wedi mynd i fyd miliwn gwell i faga plant na'r byd hwn, a gellir ysgrifenu ar ei feddfaen- 44 Trallodau beiau bywyd-ni welais Na wylwch o'm plegyd Iach wyf o bob afiechyd Yn fy medd gwyn fy myd."
Dydd, y Dathlisid.
Dydd, y Dathlisid. Treuliwyd y dydd neillduol hwn genym yn hapus a dymunol iawn. Cafwyd gorymdaith ardderchog gan wahanol gangenau yr Yegol Sul o bob en wad. Yr oeddent yn cael eu blaen- ori gan y G C Curwen Brass Band. Ar hyd y ffordd canwyd amryw donttu gan v plant yn cael eu harwain gan Mr D B Evans. Teitbiwyd mor belled a phreswylfod Dr H Rees, Cyngor- yddSirol, yr hwn a'u derbyniodd yn llawell a chai edig, a chyfranodd yn helaeth at rodd- ion y plant, ac oddiyma dychwelwyd yn ol i gyfranogi o'r wledd ddarparedig. Yr oedd y merched a'r gwragedd wedi gosod y byrddau yn hynod ddestlus, ac yn haeddu canmoliaeth uehel. Wedi cyfranogi yn helaeth awd i'r Comin gyda'r Bandi fwynhau einhunain.
Y Fire Works.
Y Fire Works. Casglwyd yn agos i ugain punt at gael cyfieuwacl da o honynt. Treuliwyd dwy awr hyfryd i edrych arnynt. Y mae'n ddyledus arnom i roddi canmol- iaeth i'r heddgeidwad Morgans am ei ddiwyd- rwydd fel Trysorydd, ac am ei waith yn cario allan y trefniadau yn rheolaidd a dymunol.
Advertising
Yfwch De Harriwalla Dim ond Is. 6c. y pwys. Poham y pwrcesir ein Te ? Am ein bod wedi astudio angenrheidiau y dos- barth ac wedi dysgu angen em cwsmeriaid. Hefyd, yr ydym yn gwybod yn gywir pa fodd i gymysgu y Te yr ydych chwi a'ch cymydogion yn ei earu oreu. Os prynweh eich Te gan fasnachwyr sydd yn preswylio oddiyma, ac In danfon gwasanaethwyr y Counter i gario i ffwrdd eich harian i'w gwario mewn lleoedd ereill, yr ydych yn anuniongyrchol yn gwneud ein dosbarth yn dlotach. Pan y prymr genym ni yr ydym yn gwario yr arian yma drachefn, ac yn gwneud lies i n cymydogion, a budd i chwithau. Nid yw bywiolaeth y iiasnachlyr dyeithr ynymddibynu ar eich pleser chwi; eto yr ydym ni. Felly y mae genjeh y y fi^hrharilnr6U 7 D1' dch cwsmeriaeth> y gverth goreu am cLmae,P°vhySbysiiad gan fasnachwyr yn cyhoeddi eu bod yn codi y Te eu hunain vn rarn- T maent yn Pwrcasu y Te yn Llundain, fel yr ydym ni. Nid oes ^envm hvfb^- ladau drudfawr, neu enwau safn-dorol i'n cwsmeriaid, i dalu am danynt Fan v nrvnir Te gwych pe^zweh talu am hysbysu. Am arian parod yr ydym yn rhoddi ewell Te T chwfna Ja ellir ei brynu genych mewn unrhyw le arall. A roddweh cbwi ni?r p?a#7? Y mae e^nTevn am ei grykler a 1 beraroffl Paham na phrynweh chwarter pwys fel esiampl heddyw ? Unig Werthwyr,-OWEN HARRIS & SON,-16, Mill Street, Trecynon, and Merthyr Boad, Llwydcoed. Old Patent Fuel Buildings, I CWMBACH. 1\/TR. JOHN HOWELL (Howell & Hughes) has 1,1 received instructions from JOHS JENKINS, ESQ of Ynyscynon House, to Sell by Public Auction at I the above place (for the convenience of purchasers), on THURSDAY, 8TH DAY OF JULY, 1897, at 2 o'clock p.m., the following I LIVE STOCK, CROP, AND HOUSEHOLD FURNITURE, &c,, &c.: Two Cows with Calves at foot; Two Cows in full profit Two Fat Cows One Chesnut Mare, about 15 hands high, fast trotter, and quiet to ride and dnve the Crop of Hay of about 8 acres (heavy), part of Patent Fuel Field; One Trap, equal to new; Set of Trap Harness; Two Chaff-cutters (one new las'; year, and one double power), good Two Oak Bins; Two Ladders One Cheese Press Two Churus One 18-Gallon Milk Can One Ray Knife One Weighing Machine Rakes and Pikes, and other useful articles too numerous to mention; also part of HOUSEHOLD FURNITURE. Three months' credit to purchasers to the amount of £10 and upwards upon approved security, or discount allowed for cash of 3d. in the k. ——————————- Hfin-dy-Cwrdd. CYNELIR Cyfarfodydd Blynyddol Cymdeithas Undodaidd Cymru Yn y capel uchod Nos FERCHER A DYDD IAU, GOR. 7 A 8. Rhoddir gwahoddiad cynes i bawb i'r Hen-dy-Cwrdd, Aberdar. The General^eeident Assurance Corporation, [UMILEDJ] Principal Offices.- 42 to 44, TAY STREET, PERTH. CARDIFF OFFICE,—QUAY STREET CHAM- BERS, ST. MARY STREET. F. S. HARBRIDGE, Presirl ent Secretary. BRISTOL OFFICE,-2, SMALL STREET. F. NORIE MILLER, Manager and Secretary. CAPITAL moo, ooo. Policies are issued under liberal conditions, and at moderate premiums, foi the following branches of Insurance Personal Accidents of all kinds-including Rail- way and Mariaes. ALL ACCIDENTS and allowance for Disable- ment by SMALL POX, TYPHOID, TYPHUS, SCARLET FEVER,iDIPTHEMA, or MEASLES fro W £ 1 per annum. Fidelity Guarantees for all positions of trust, at rates from 5s. per cent. The Bonds of the Corpor- ation are accepted by her Majesty's Government. Employer's Liability Assurance at Low Non- Tariff Rates, from le. to £100 on yearly wages. Idemnisy Assurance for damage caused by Hors»s or Vedicles in Streets to the persons or property of third parties, from 15s. upwards. Burglary Assurance.— All Householders should cover this risk. Loss and Loss only. damage. Country Honses 8s per £ 1000 ) 8s 9d Town & Suburban Residence 5s ) 5s 9d All less is covered up to the amount of the Insur- ance, without reference to the value of the con- tents of the house. If full contents are insured, the Policy will be issuad at a premium of Is 6d per cent. Policies issued covering both Burglar and Fire for a bremium of 3s 6d per cent. On the total vaiue of the contents of premises insured with a minimum premium of 7s. Local Agents appointed. Liberal remuneration. Apply for prospectuses, &c., to above offices. v BORWSGK'S GOrbydVjn y DUNVANT. THE Fifth Annual Eisteddfod SATURDAY, AUGUST 21st, 1897. Chief Choral Competition Molianaf Di,' Stephens, Skewen, prize £12 and an Arm Chair. Male Voice Party Competition "The Crusaders," Protlieroe, prize £10 and handsome Gold Medal. Children's Choir Competition: "The Sleighing Glee, Dr. Parry, prized 3s. and a Silver-mounted Baton. Solos— £ 1 Is. each. Duet—;El Is. and Two Silver Medals. Adjudicators of Music,—Mr Taliesin Hopkins, Perth, successful conductor of Male Voice Party at Llandudno National Eisteddfod and Mr T. Conwil Evans, Carmarthen. Adjudicator of Liter- ature & Conductor for the day, Dr Gurnos Jones, Ll.D. All Compositions to be in Secretary's hands by August Tth, 1807. Programmes now ready, and may be obtained, with full uarticulars (post free lid.) of the Hon. Sees.—Gladstone Davies, Walter road, Dunvant, R.S.O. Thos. Richards, Dunvant, R.S.O.. Household Furniture SAMUEL HALL AND SONS, ESTABLISHED 1860, Practical Cabinet Makers and UPHOLSTERERS, 11, £ )<?ar\ Street, iAberc)are. Old Work Repaired and Re-stuffed. New Show-Room 39, High Street. Factory Top of Gloucester Street DYWEDWCH WRTH EICH CYFEILLION YN ABERDAR. DYWEDWCH WRTH EICH CYFEILLION YN ABERTAWE. DYWEDWCH: WRTH EICH CYFEILLION YN NGHASNEWYDD. DYWEDWCH WRTH EICH CYFEILLION YN LLANELLI. DYWEDWCH WRTH EICH CYFEILLION YN PONTYPRIDD. DYWEDWCH WRTH EICH CYFEILLION OLL FOD BOOTS, CASH CHEMISTS, Y FFERYLLWYR MANWERTHOL MWYAF YN Y BYD, Wedi agor cangenau yn ABERDAR, ABERTAWE, CASNEWYDD, PONTYPRIDD. RHYBUDD PWYSIG. Y mae rhai siopiau i'w cael lie y gwerthir Cyffeiriau rhad, ond He y mae ansawdd y nwyddau yn waelach mewn cyfatebiaeth i'wrhadlonrwydd; mewn gwirionedd, y maent yn rhad ac annymunol eu bias. Yr ydym ni, modd bynag, yn sefydlu SIOPIAUO'R RADD FLAENAF, 0 dan ofal GORUCHWYLWYR CYMHWYS I werthu y Cyffeiriau mwyaf newydd a'r goreu i'r bobl am brisoedd rhesymol. Yr ydym yn cymhell y ffeithiau canlyuol i'ch sylw: PEIDIWCH PRYNU CYFFEIRIAU WEDI SEFYLL YN HIR. Yr ydym ni yn gwerthu yn rhy gyflym i gadw y fath, gan fod genym y fath nifer o agorfeydd mewn gwahanol drefydd fel y mae symiau mawrion yn diflanu fel eira, ac yr ydym yn barhaus yn derbyn adgyfnerthion newyddion. Gallwn guro prisoedd unrhyw Fferyllydd arall yn y deyrnas am y pump rheswm canlynol 1. Y mae genym y fath fuanes enfawr mewn tref- ydd ereilJ, yr hyn sydd yn ysgafnhau y treuliaa yn yr oil. 2. Yr ydym yn prynu cyflawnder mawr ar y tro gyflenwi ein siopau i gyd. 3. Y mae yn rhaid i ni fyned yn mlaen a gwerthu, ac felly, yn marcio y prisoedd i lawr i'r pwynt iselaf. 4. Yr ydym yn rhoddi i'r cyhoedd y fantais o'n discounts. 5. Yr ydym yn prynu yu uniongyrchol oddiwrth y gwneuthurwyr, ac felly yn achub elw dynion canol. GWARENTIR POB NWYDDAU YN NEWYDD AC O'R SAFON UCHELAF. Gall cwsmeriaidfgael holl manteision cydweith- rediad heb unrhyw drafferth, wrth brynu gyda BOOTS, y CASH PRICE DISPENSING CHEM- ISTS, y rhai sydd yn parotoi cyfarwyddiadau meddygol a chyngorion teuluol gyda Chyffeirian Pur am IfANER Y PRISOEDD ARFEROL, neu yn cyfateb i elw uniongyrchol o 50 y cant i'r prynwr. Y mae pob oangen o de n reolaeth Fferyllydd trwyddedig cymhwys. BOOTS, trafnidwyr mewn Peraroglau, Meddyg iniaethau Trwyddedig, Cyffeiriau Pur, a Toilet Articles. BOOTS SYDD YN GWNEUD Y FASNACH FWYAF yn uniongyrchol a'r cyhoedd yn Lloegr, a gallant felly werthu ar y telerau rhataf, ac hefyd sicrhau dilwgriad perffaith ya eu stoc, yr hyn sydd yn ystyriaeth bwysig lie y defnyddir Cyffeiriau. 4c> CASH CHEMISTS, Cangenau Lleol: 12, CCMMERCIAL STREET, ABERDARE 2, OXFORD STREET. SWANSEA 83, TAFF STREET, PONTYPRIDD; Ü6, STEPNEY STREET, LLANELLY 42, COMMERCIAL STREET, NEWPORT. Boots, Cash Chemists (Western) Limited, Proprietors, HEAD OFFICE: NOTTINGHAM. JESSE BOOT, Managing Director. MISS GWEiN EVaNS, M.C.W., C-V. Is now prepared to give Lessons in the Art of Violin Playing. Terms-moderate. Apply to 20, Bdlmont Street. Aberaman. YN BAROD, "0 Capernaum i Bethabara:" Bras-linelliad o Hanes Iesu Grist, o Farwo)eeth p loan Fedyddiwr dros Wyl y Cysegriad, gan y PARCH. R. THOMAS, GLANDWR ABERTAWE. Pris Swllt. Parotowyd ar gais Pwyllgor Undeb Ysgolion Annibynwyr Morganwg. Rhoddir 14 y dwsin, a thelir cludiad dwsin ac uchod. Yr archebio hanfon at yr awdwr. BYDD Wm. Price, BONE SETTER, High Street, Pendarreil) Merthyr, Yn ym weled a'r GLOBE INN, ABERDAR, bob pythefnos ar ddydd Mawrlh, lie y gellir ymgyoghori ag ef. Welcome Restaurant, Merthyr. DYMUNA MRHOPKIN (GYNT O ABERDAR), Hysbysu ei fod wedi ymgymeryd a'r He hwn, pan y bydd yn barod i gyftenwi angenrheidiau mewn bwydydd o'r fath oreu a rhataf yn y dref. Ciniaw dwymn yn ddyddiol! Gwirodydd Anfeddwol! Gwelyau Da Cofiwch y cyfeiriad WELCOME RESTAURANT, HIGH STREET, MERTHYR. RELIEF FROM COUGH IN TEN MINUTB& HAYMAN'S BAliSABI OF OREHOUND Best Remedy for Coughs and Colds. Invaluable in the Nursery. It has a Pleasant Taste. Prepared only by A. HAYMAN & CO. (late of Neath), BAliSABI OF OREHOUND Best Remedy for Coughs and Colds. Invaluable in the Nursery. It has a Pleasant Taste* Prepared only by A. HAYMAN & CO. (late of Neath), 15, Albemarle St., St. John's Square, London, E.C. Sold by all Chemists and Mediciiie Vendors, in Bottl&U 1/U. 2/0. */6.