Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
27 articles on this Page
YR WYTHNOS.
YR WYTHNOS. Y MAH Mr. S. T. Evans. A.S., i arwain cymanfa ganu yn Nghaerfyrddin yn Awst nesaf. YN ystod yr hanercanrif diweddaf, coll- wyd triarddeg o fywydau ar y Wyddfa, ac yr oedd tri o honynt yn arweinwyr. Y MAE cynulliad Prif Athrofa Rhydych- ain, trwy fwafrif o 215 yn erbyn 140, wedi penderfynu peidio caniatau i'r rhyw deg i gymeryd y B. A., yno. Y MAE llinell y Barry, o Pontypridd i lawr, i'w hagor i deithwyr ar yr 16eg o'r mis pre- senol. Gorsafoedd y llinell yn bresenol ydynt Porth, Hafod, Pontypridd, Efail Isaf, Creigiau, Wenvoe, a Cadixton. Y MAE gweithwyr gwaith alcan Gwen- draeth, Cidweli, wedi cytuno i ail weithio ar y telerau eu bod yn cymeryd 12% y cant o ostyngiad yn eu cyflogau, a dwy sheet yn ybox. Y MAE pobl Manchster mewn sefyllfa druenus wedi cael eu canal yn agored. Dy- wedir fed angenpumgwaith cymaint o fas- nach ag sydd ar y canal er gwneud iddo dalu y treuliau, a bod y cwmni yn awr yn colli rhyw £5,000 yn yr wythnos Y MAE dau achos arall o frech wen wedi tori allan mewn liety cyffredin yn Coed- duon, yn gwneud y nifer yn bump. Y mae yno gymaint a phymtheg o gardotwyr wedi eu cadw rhag myned allan o'r llety er's pum wythnos, a hyny rhag i'r afiechyd gael ei daenu ganddynt. CYMERODD cwymp trwm le yn nglofa No. 8, Tylorstown, prydnawn dydd Mawrth yr wythnos ddiweddaf, pryd y cyfarfy ddodd coedwr cynorthwyol, o'r enw Price Lewis, a'i ddiwedd. Yr oedd y trancedig yn 35 oed, ac yn lletya yn 111, Llewellyn street, Pont- ygwaith. YR ydym yn cael fod cwmni glofaol y Glynea, Llanelli, yn ddiweddar wedi cymer- yd at lofa y Killie, yn yr un lie, a bod y ewmui yn parotoi at weitbio yr oil, ac hefyd agor gwythien arall. Bydd y cwmni hwn felly yn alluog yn fuan i gymeryd i mewn lawer mwy o weithwyr. Yn Sesiwn Shropshire, a gynaliwyd yn yr Amwythig ddydd Mawrth yr wythnos ddi- weddaf, cafwyd offeiriad o'r enw y Parch. Morgan Jones, yn euog o dyngu anudon yn erbyn dau amaethwr yn Bishop's Castle, y rhai a gafwyd yn euog ar ei dystiolaeth, o saethu at pheasants, &c. Dedfrydwyd ef 1 r»V»rtrn rtiu,-rnr\f'l n ,U"YQ 'Lt.LY".&.A.&J'" 1:)-& CAWR yn mhlith crythwyr ydyw Philip Lewis, Cymro yn Llundain, yr hwn sydd newydd enill ysgoloriaeth rydd yn y Royal College of Music. Er nad yw y bachgeu ond ychyclig dros 15 oed, y mae yn dros 6 troedfedd ac un fodfedd o daldra. Y mae yn chwareuwrrhagorol hefyd, ac yn debyg o fod yn enwog fel crythwr. DYWEDIR fod yr hedd^eidwaid yn awr wedi dyfod o hyd i'r personau a roddodd y sleepers ar draws llinell y Cambrian, rhwng Machynlleth a'r Cemmaes, Etc nad ydynt amgen dwy ferch fechan yn myned i> ysgoj ar hyd y linell, ac wedi rhoddi y coed ar draws y hnell er cael seesaw, ac ynddi- feddwl eu gadael ar y liuell. Mis yn ol yr oedd Mrs. Maria Jones, Cy- clone, Ohio. chwaer i'r diweddar Ceinog, yn 80 oed, ac ymwelwyd a hi ar yr achlyeur gan bedwar o blant, 16 o wyrion, ac 11 o orwyrion. Y mae yr hen foneddiges yn iach a heinyf. Ni welodd hi erioed o'i brawd Ceiriog, gan iddi ymfudo yn 1831, cyn ei fod ef wedi ei eni. CYRHAEDDODD yr agerlong ASricanaidd Cabenda, i Liverpool dydd Mawrth diwedd- af, ac ar ei bwrdd nifer mawr o foneddigion, yn meddiant y rhai yr oedd ami i gywrein- beth Ashantiaidd. Un o'r pethau hynotaf oedd cawg gwaed brenin Ashanti, yn yr hwn y golchai efe ei ddwylaw bob bore mewn gwaed dynol. Y mae y eawg hwn yn perthyn i Mr. Boyle, boneddwr masnachol o nod. Nis gallwn lai na gwneud cofnod o ym- ddygiad teilwng Mr. J. R. Jacob, Newport. Amseryn ol, er ei fawr ofid, fe fethodd y boneddwr hwn gario ei fasnach yn mlaen, ac yr oedd arno rhwng £ 7,000 ac £8,000 i'w ofynwyr. Yn ddiweddar, modd bynag, trwy farwolaetb perthynas, daeth i feddiant o gryn swm o arian, ac un o'i weithredoedd cyntaf oedd penderfynu talu yr oil oedd arno i'r rhai hyn. Y mae ei holl ofynwyr i gael eu gwahodd i wledd, a chael pob un ei cheque am y ddyled yr un adeg. Y MAE Dr. John Rhys, Prif Athraw coleg yr lesu, Jtihydychain, wedi gwneud dargan- fyddiad dyddorol yn yr Isle of Man. Yn igLanol maes, rhyw ddwy filldir o Ramsey, daeth o hyd i gareg, ac yn gerfiedig ami U Crux Curiat," mewn llythyrenau henafol. Y mae y Prifathraw yn tueddu i edrych ar y ddau air yma fel prawf o'r hyn y ceir awgrymiadau yn ei gylch gan hen hanes- wyr Cymru, sef fod Gwriat, tywysog Cym- raeg, perthynol i Ogledd Cymru, yn y 9fed ganrif, wedi concweri Ynys Manaw yn ei ddydd. DYDD Mawrth diweddaf deuwyd o hyd I ddyn o'r enw Evan Jones, 9, Wind-street, Hirwaun, yn farw yn agos i'r Black Horse, Penywaun. Yr oedd y trancedig wedi bod yn yfed yn Aberdar, ac yn ei feddwdod wedi colli ei ffordd, ac wedi syrthio dros screen glofa Rhydywaun, ae ilr reilffordd is1, aw, ac yno wedi marw. Ai tybed na ddylid dyfod o hyd i'r tafarnwyr a roddodd ddiod i ddyn nes myned i'r cyflwr hwn? Rhyw ddwy flynedd yn ol bu faxw gwraig y trancedig yn ngorsaf reilffordd Castellnedd, a hyny mewn canlyniad iddi brysuro i'r orsaf, a rhoddi gormod ar wendid ei chalon. Y MAE y Ddirprwyr eth Frenhinol ar yr YsgrifauHauesyddol Henafol, yn ei pedwer- ydd adroddiad ar ddeg, yr hwn sydd newydd gael ei gyhoeddi, yn hysbysu fod casgliad Arglwydd Kenyon, yn Gredington Hall, Sir Fflint, yn dal eysylltiad, y rhan fwyaf, a Lancashire, yn yr hon sir yr oedd teulu y Kenyon wedi yaj-:eiydlu er yn fore. Eu bod yn cynwys het'yd ddiolchgar^vch oddiwrth Lady Eleanor Butler, a Miss Sarah Ponson- "by, dwy hen 'Foneddiges Llangollen," am ymgais Arglwydd Kenyon, (a fu farw yn 1802) i gael pensiwn oddiwrth y Llywodr- aeth iddynt. Dywed y Dirprwywyr hefyd, eu bod, ar gais y Trysorlys. wedi ymgymer- yd ac arolygu parotoad a chyhoeddiad y gyfres Ysgrifau Henafiaethol Cymraeg, y rhai syddi'w cael mewn gwahanol lyfrgellau personol a sefydliadau, gan ychwanegu, "y mae Mr. J. Wenogfryn Evans wedi bod am rai misoedd wrth y gwaith yn nghasgliad ehelaeth Arglwydd Mostyn, Mr. Wynne, Peniarth, ac ereill; ond nid yw ei waith ef hyd yn hyn, wedi dyfod i sefyllfa ag y gall roddi unrhyw fanylion yn eu cylch. YN Cilfynydd bore dydd Sadwrn diweddaf aeth hitchwr o'r enw John Thomas, 63 oed, i'w wely, wedi bod wrth ei waith trwy y nos, a phan aethpwyd i'w ddeffro tua phump o'r gloch yn y prydnawn, cafwyd ei fod wedi marw. YN ngwallgofdy Lancashire, dydd Mawrth diweddaf, darfu i un o'r gwallgofiaid. o'r enw David Baxter, 26 oed, trwy redeg i fyny astell, neidio oddiar ben clawdd uchel, i'r afon a red yn ymyl. Neidiodd Dr. Cemmel ar ei ol, gan nofio a chymeryd galael ynddo, a llwyddodd i'w ddwyn i'r lan. Bu farw Baxter, modd bynag, wedi hyny. Y MAE y Guardian perthynol i Undeb Rhithyn, a roddodd ei swydd i fyny am nad yw yn deall yr iaith y cerir busnes y Bwrdd yn mlaen ynddi, wedi ei hysbysu gan aw- durdodau Llundain, nad allant dderbyn ei ymddiswyddiad ar y tir hwnw. Y mae y cyfryw yn awr wedi penderfynu apsenoli ei hun. Gallasai wneud hyny yn hollol ddi- stwr, ond credai y buasai yn gallu newid iaith y bwrdd ond iddo ef gyfarth yn uchol yn yr iaith fain. ODDIWRTH adroddiad seneddol sydd wedi ei wneud, yr ydym yn cael fod 72,240 o bleidleiswyr anllythyrenog wedi pleidleisio yn yr etholiad cyffredinol diweddaf, allan o'r 3,858,923 a bleidleisiasant. YnNghymru a Lloegr yr oedd 28,521 o rai anllythyrenog, allan o gyfanrif o 3,190,826 a bleidleisiasant; yn Scotland, 4,062, allan b 447,591; ac yn yr Iwerddon, 40,357, allan o 220,506 a bleidleis- iasant. Y mae hyn yn un yn mhob 110 yn Scotland, un yn mhob 111 yn Nghymru a Lloegr, ac un yn mhob pump o bleidleiswyr yn yr Iwerddon. DYWED Mr. D. A. Thomas, A. S., fod y Discharge Note a ddefnyddir yn awr gan y meistri yn beth tra gwrthwynebus, ac yn rhoddi gallu yn Haw swyddogion glofaol i gospi dynion os dewisant; fod y gweithwyr yn bresenol yn cael ei trafod yn ddigon drwg gyda rheolau y meistri undebol. Fod cyfundrefn y note yn greulon yn achos Plymouth yn bresenol, lie mae rhyw 3,000 allan, er nad yw yr annealldwriaeth ond yn perthyn i ychydig ganoedd. Yn ol iaith y note, y mae pawb yn cael ei gau allan o waith.
DAMWAIN ANGEUOL AR REILFFORDD-CERBYD…
DAMWAIN ANGEUOL AR REILFFORDD-CERBYD DROS BONT! Nos Sadwrn diweddaf, ar reilffordd y Great Northern, rhwng Grantham a Peter- borough, cymerodd damwain ddychrynllyd Ie, trvvy yr hon y lladdwyd dau berson, ac y niweidiwyd rhyw chwech ereill. Cerbyd- res fuan o Leeds i Lundain ydoedd, ac aeth pob peth yn mlaen fel arfer nes cyrhaedd rhyw chwarter milldir i Little Bytham, pryd y neidiodd rhai o'r cerbydau olaf, ac yr aeth yr olaf oil dros y bont oedd yn croesi y ffordd fawr. Darniwyd y cerbyd nesaf i'r olaf yn fawr, er iddo lynu wrth y ^Oi uydrys;, EriJyn gwrt-cvul yra^iivriliad i sefyllfa y teithwyr, cafwyd fod boneddiges o'r enw Mrs. Bligh, Pudsey, York, a Mr. Michael Walter, Portsdown road, Maida Vale, Llundain, wedi eu lladd, a chwech ereiil wedi ei niweidio.
-0-.-DAMWAIN LOFAOL ANEUOL.
-0- DAMWAIN LOFAOL ANEUOL. YN nglofa Agecroft, perthynol i Mri. Andrew Knowls a'i feibion, Pendlebury, ger Manchester, dydd Gwener diweddaf, cyfarfyddodd dau frawd o'r enwau James a Thomas Seddon, yddauynbriod atheulu- oedd ganddynt, ac yn byw yn Swinton, a'u diwedd trwy i gwymp syrthio arnynt. Yr oedd y ddau frawd trancedig, yn nghyda brawd arall, a dyn o'r enw Skittington, yn gweithio yn y rhan gorllewinol o'r gwaith, pryd y daeth cwymp mawr i lawr. Diang- odd y trydydd brawd, yr hwn a gyflymodd i hysbysu yr anffawd wrth weithwyr mewn rhan arall o'r gwrith. Cafwyd Skittington allan yn fyw, ond yr oedd y ddaur fiftwd yn hollol farw.
--0-ANNEALLDWRIAETH Y MARDY.
--0- ANNEALLDWRIAETH Y MARDY. Mewn cysylltiad a'r annealldwriaeth sydd yn awr yn y Mardy,. dywedir fod y geiniog y fodfedd am ripo y top, a roddwyd yn y dyfarciad diweddaf, yn perthyn i'r glowyr ac nid i'r ripwyr a'r repairwyr fod y pris- iau yn cael eu cario allan yn eu holl fanyl- ion mor belled ag y mae a fyno y glowyr, ond fod y meistri am gael i mewn delerau nad oeddynt yn llechres y prisiau. Eu bod hwy am i'r repairwyr a'r ripwyr wneud y gwaith o ripo am geiniog y fodfedd, yr hyn a omeddant ei wneud. Mai y meistri sydd yn tori y dyfarniad a roddwyd, ac nid y gweithwyr, a hyny trwy geisio gorfodi dos- barth i wneud y gwaith na fwriadwyd gan y dyfarnwr. Y mae y ripwyr a'r repairvvyy wedi bod yn segur am oddeutu mis. Cynal- iodd y gweithwyr gyfarfod nos Wener di- weddaf er ystyried y peth goreu i'w wneud yn ngwyneb yr annealldwriaeth.
DINYSTR MEWN GLOFA GERMANAIDD.
DINYSTR MEWN GLOFA GERMANAIDD. Yr wythnos ddiweddaf torodd tan allan yn nglofa Kattowetz, Silecia Uchaf, trwy yr hwn y collodd yn agos i gant eu bywydau. Yr oedd 71 o gyrff wedi eu cael allan dydd Iau diweddaf, ac yn eu plith bedwar o weithwyr a aethant i lawr er ceisio achub y rhai oedd yn y weithfa, ac a gyfarfyddasant a'u diwedd. Y mae yr Amerawdwr a'r Amerodres wedi anfon negeseuon o gydym- deimlad, ac yn ymholi am nifer y gweddwon a'r amddifaid.
MASNACH GLO Y RHONDDA.
MASNACH GLO Y RHONDDA. Y mae y fasnach yn y cwm hwn am yr \vythnos ddiweddaf wedi bod yn lied fyw- iog. Yr unig beth yr achwynir o'i herwydd yw, fod y glofeydd yn rhy lawn, ac mai ychydig trams y mae pob glowr yn ei gael, a'r enillion yn afresymol isellle y mae teulu i'w gadw. Y mae rhyw son fod glofa y Dinas yn myned i gael ei gwerthu, a thrwy hyny rhyw obaith y caiff ei hail gychwyn. Y mae amgylchiadau y glowyr yn mhen uchaf y cwm yn parhau yn isel, lie y mae ped war o lofeydd mawrion yn segur er's blynyddoedd.
GWYNETH VAUGHAN.
GWYNETH VAUGHAN. Bydd cyfte i glywed y foneddiges hon yr wythnos hon, set nos Fercher, yn Bryn Seion, dae nawdd adran Trecynon o Gymdeithas Ddirwestol y Gwragedd Prydain (British Women's Temperance Society), pryd y llyw- yddk gan y Parch H T Jacob, Bethel, a nos Ian, yn Saron Hall, Aberaman, dan nawdd chwiorydd Rhyddfrydol Aberdar. Dymnnir ar yr holl aelodau i wneud aberth i fod yn bre- senol yn y cyfarfodydd. Hefyd, apeliwn at bawb sydd ya cydymdeimlo ar mudiad i roddi eu presenoldeb, a gallwn gierhau y bydd gan Gwyneth Vaughan rywbetb i ddweyd wrth- ynt. Cesglir yn y ddau gyfarfod tuag at y Nawdd-dy y Lady Henry Somerset wedi ei sefydlu i wragedd sydd wedi dyrysu eu syn- wyrau drwy y diodydd meddwoL Felly, y maeyr amcan yn wir deilwng o'n sylw a'n oof- noaaetb "O\U""¡" VJl <—vno bob UK.
Advertising
[HYSBYSIAD] CYMDEITHAS GYFEILLGAR YR AR- DYSTWYR (PROTESTANT FRIENDLY SOCIETY) A gynelir yn y Farmers Arms Inn, Hi 'h Street Aberdar, RHYBUDD-Hyn sydd i hysbysu y cynelir Cyfarfod Cyffredinol yn y Farmers Arms Inn. Aberdar, prydnawn Sadwrn, Mawrth 14eg, 1896, am 6 o'r gloch yn gywir, i'r dyben o benderfynu lie cynaliad y gym- deithas yn y dyfodol. a dysgwyiir i holl aelodau y gymdeithas fod yn presenol. Dros y gymdeithas, JOHN WALTERS, Ysgrifenydd. TJEN DY-CWRDD, ABERDAR DARLITHIAU bob yn ail nos Fawrth am 7.30 o'r gloch Mawrth ITeg—' Crist Croeshoeliedig yr olwg Un- I dodaidd arno,' gan y Parch Ivor Davies. Mawrth 31ain—'Yr Efengylan sut y cawsant eu ) ffurfio ?' gan y Parch W. Griffiths, B.D.,Ph.D. D.S.-Rhoddir gwahoddiad gwresog i bawb, ac yn j neillduol i rai nad ydynt yn arfer mynyehu I un lie o addoliad. fig^Mynediad i mewn yn rhad—dim casgliad. 0 Bwys Mawr. Y maeyn hollol wir fod cauoedd o fywydau wedi cael eu cadw drwy gymeryd HUGHES'S DROPSY PILLS A mae y clefyd hwn, yn ei wahanol ac am rywiol ganghenau, yn achosi poenau ac as hwylderau peryglus, ac y mae o'r PWYL mwyaf i bob gwr a gwraig, mab a merch, pa feddyginiaeth i'w chymeryd er eu hiachaa pan yn cael eu blino gan Dropsy, Diffyg Dwfr, Gwynt, Chwj dd y Traed, Coesau, a'r Bol, Crauap, Curiad y Galon, Poen Pen, Gordewdra Afiach, Diffyg Anadl, Gorffrwymedd, GrafeL Llais y Bobl. Mwy Gwerthfaivr nac Aur. Syr,— Y mae eich Hughes'a POBN Dropsy Pills wedi cael effaith ABBNAU. braidd yn wyrthiol arnaf. Yr wyf wedi bod yn dyoddef am fiynyddoedd gan boenau dir- CBAMP. dynol yn yr Arenau, Grafel, a phoenau gresynol yn y Pen, mi a gefais esmwythad gan y GRAF EL. dose gyntaf, ac ar ol cymeryd y blychaid yr oeddwn ya teimlo yn well nac erioed. ASTHMA Pob moddion arall wedi methu gwneud dim lies, Maent yn haoddu pob clod, ac y n fwy POBN PBN gwerthfawr nac aur. ARTHUR BROWN, Ship Hotel, Bristol. Hughes's Dropsy Pills. Dim Meddyginiaeth Tebyg ar y ddaear OLBFYD Syr,-Yr wyf yn dymuno 13ENYWAIDD. tystiolnetbu i'r daioni mawr a dderbyniais drwy gymeryd eich Hughes's Dropsy Pills. Dynea GOBDBWDRA. ieuanc ydwyf, 18 oed, wedi bod yu dyoddef y n enfawr oddi- wrth glofydau tueddol i'r rhyw NSCHDQD. fenyv«udd, wedi cymeryd braida pob meddyginiaetb Qallaf >~a ddibetrue ddwoyd CHWYDDIANT nad eeE eu tebyg ar v ddaear i'r rbyw tenywakUl. Wedi bod yn ayecuief uawer gan INyeti ISEL YBBBYB. dod, Iselder Ysbrycl, a Diffyg Treuli&d. Wedi cymeryd eicb PiHs, yr wyf wedi fy adfywhau, DIPPTO ac mor iach ag erioed. Tbeuiiiad. ROSINA MICHAEL 20, New Quay, Bath, Yn ddiodi danfoner am danynt, eich gwellh w aa 1 • fydd yB sicp- re aayiai pob dynes eu cymeryd yn ac lysurol Hughes's Dropsy Pil Is. v m Pur angenrheidiol i'r Rhyw Fenyw- aidd tuag sicrhau iechyd. # RHYBUDD. Er lHwya sicrhau pawb rbag twyll gofaler cael y Trade M*rk hwn (sef ilnn Diamoad) a'r geir- ian 'Dropsy Pills' oddi fewn ar bob blwch, a b'jw Jacob Hugbes' at Stamp y Llywodraeth Heb hya twy" vdyw. Ar werth trwy yr hoU deyrnas "am lIlt. 2/9, a 4/6 trwy y post, 1/3, 2/11, a 4/6 oddiwrth y Perahenog,- Jacob Hughes, Manufacturing Chemist, PEN ARTH, CARDIFF Y MOR MAWR Yn rhoddi i fyny ei drysor goreu er iachau dyn. Wrth chwilio gq- If European Medical So ciety, daetbac nyd i Wymod o F6r Nor- way, yr hwn a gynwysa feddyglyn effeithiol, a'r hwn, mewn undeb ag Extracte o lysiau nodedig o lanau Mor Pacific a wna i fyny Y feddyginiaeth mwyaf nerthol ac effeithiol a welodd y byd erioed at glefydau y gi y frest, a'r yqgyfaint. Fe ddylai pob dynes du cym< yn achlysurol. Sea Weed Lung Lif Fe a wellha yn unioagyrchol beswcb wyd, Bronchitis ae asthma, cirygni, in ;< croup, a dolur gwddf, ac yn ora offt I rhagflaenu y Darfodedigae' rleUy gofyner ar unwaith am br Ja 1 Weed Lung Life gan y Chemip jv 1 Patent Medicine Dealer. F1" y f 9/9 a 1/1^. Mynwch gael yr enw yu lla^T x bab botel, ac na pherswadier chv t ■ t J dim arall. Os bydd trafferth i«?i4 ? Stamps (3/- neu 1/3) • SEA V LUNG MJ I JACOB HUHGES. I Sea Weed Lung Life Depot, PENAPTH, CARDIFF, yr hwn i,» j danfona gyda throad post
Advertising
WILLIAMS I 2g,Castle Street, Swansea. Largest Stock in Wales. AACT.R^ OLD WEDDING RINGS VJT 18CT, GOLD KEEPERS ENGLISH PATENT LEVE R WATCHES. BRAZILIAN QRYSTAL SPECTACLES
Advertising
WILLIAMS WATCHMAKER AND JEWELL 29, Castle Street, Swansea Qymry hoff! de'wch at y Cymro Oa am heirdd fodrwyau aur; Uriadnron ac awrleisiau, Geman a chadwyuau claer: gelfydd, hio-fyoegydd, (iwres fesurydd, cwmpawd roor. Geir gan Williams, Heol y-Castell, lrowch i mewn i wel'd ei stor.
GLOFEYDD YR ABERARD-MERTHYR.I
GLOFEYDD YR ABERARD-MERTHYR. Y mae lie cryf i obeithio bellach y bydd i lofeydd cwmni yr Aberdare-Merthyr, sef Nantmelyn a Hirwaun, gaelei hail gychwyn mor gynted ag y gwneir y parotoadau gof- ynol, gan fod yr holl dirfeddianwyr wedi cytuno ar amodau'neillduol, a'r rhai hyny yn amodau mwy manteisiol i gario yn mlaen y cwmni. Perthynairhyw 1,000 o weithwyr i'r glofeydd hyn, y rhai sydd yn awr ar wasgar yn mhob cyfeiriad. C 0 BwYLLgORY SCALE.
32 o HALIERS Y RHONDDA WEDI…
32 o HALIERS Y RHONDDA WEDI EU DIRWYO £1 YR UN, A'R COSTAU. Dydd Iau diweddaf, yn llys yr heddgeid- waid, Porth. gwysiwyd Johah Evans, a 31 o halier ereill, perthynol i wythien y pedair, glofa glo ager y Cymer, am apsenoli eu hunain o'r gwaith ddydd Mawrth y 25ain cynfisol, a hyny heb rybydd. Oddiwrth dystiolaethau swyddogion a gweithwyr henaf y lofa, cafwyd allan fod yn y lofa ar- feriad, er pan agorwyd y gwaith, fod yr haliers i lanw y coed ar y partm dwbl, a'u cymeryd yn y trams i'r gwahanol leoedd lie y byddai eu hangen ar y glowyr. Dydd Sadwrn, yr 22ain cynfisol, gwrthod- odd Jonah Evans lanw y coed, a gorfu ar y tanwr a'r bratticewyr eu llanwyn ei Ie. Dy- wedodd Evans fod yr haliers wedi pender- fynu peidio llwytho y coed rhagllaw. Y dydd Mawrth canlynol gomeddasa at fyned at waith o gwbl, a'r canlyniad fu nad oedd gwaith i neb o'r glDwyr yn y rhan hono o'r lofa. Yr ail ddydd, modd bynag, dychwel- asant at eu gwaith fel arfer, gan gyflawni y gorchwyl hwn fel cynt. Dywedodd Mr. Griffiths, goruohwyliwr, fod ataliad y wyth- ien am y diwrnod, wedi bod yn golled o Y,40 o leiaf i'r cwmni. Dirwywyd bob un i 20s. a'r costau.
CLYDACH, RHONDDA.
CLYDACH, RHONDDA. Dydd Llun Mabon diweddaf. cynaliodd gweithwyr y He uchod gyfarfod cyffredinol yn nenadd y dref, Tonypandy, dan lywyddiaeth Mr David Williams, glowr yn nglofa No. 1, pan oedd Thomas James, gyrwr, giofa Uo. 2, yn yr is-gadair. Yr oedd ar y llwyfan hefyd v Mri J. Evans. Castellnedd; John Williams, Checkweigher; G. Rees, ysgrifenydd; a'r go- hebydd hwn. Y peth cyntafi a wnawd oedd ethol cyfrifwyr* set Mri David Dyer, E. Williams, William Morgan, W. Jones, W. Everett, D. Jones, O. Parry, a James John. Y peth cyntaf as drefn y dydd oedd oael gwybod pwy a gy far wy ddodd y swyddogion i ymyraeth a'n hiawnderau. Bu llawer o siarad ar hyn, ond i ddim pwrpas; ond pasiwyd pleidlais o anghymerudwyaeth 1 r cyfryw, pwy bynag oeddynt. Yr all beth oedd penderfynu yn derfynol anghydfod y meddygon a threuliwyd y diwr- nod ar y pwnc hwn, fel y mae gwaethaf y modd, i ymgecraeth a ffraeo a'u gilydd, a ther- fynwyd y ewestiwn drwy benderfyniad fel hyn Fod pawb sycd am dalu tuag at Dr. Jones, i fyned a'i enw i'r 3wyddfa {office), ac i'w drosglwyddo i'r pwyllgor meddygol; yna, 06 na fydd i'r pwyllgor meddygol drosgiwyddo eu rhan i Dr Jones, fod y pwyllgor gweithiol i gymeryd cwrs arall, sef eu codi mewy llys cyf- reithiol;'a chariwyd y penderfyniad drwy 464 yn erbyn ol—gyda mwyafrif o 433; felly, fe wel y darlienydd rod digon o fwyafrif dros gadw arian Dr Jones yn yr OflSoe ac y mae yn drueni mawr fod y inwyafrif yn gorfod eael eu llywodraethu gan y lleiafrif, yr hyn sydd yn hollol ffiroes i reol pob cymdeithas. Pan gy- merwyd y tngel i weled pa an a oedd Dr Jones i ddyfod yn rheolaidd, ai nad oedd, cariwyd gyda dros 1,300 0 fwyafrif beth arall y mae y dynion yH rliwystt 1 w gael. Y mae yn llawn bryd bellach i derfynu yr anghydfod poenus a dialw am dano hwn. Gohiriwyd achos trysorfa leol gweithwyr Tylorstown hyd y eyfarfod nesaf; yna cawsom hanes y ddirprwyaeth fu gyda Mr Haman yn nghylch yr anneaIltwnaE th oedd yn nglofa No. 2, gan Mr J. Evans, yr hwu oedd yn weddol fodhaol; yna, pasiwyd pleidlaia o gymer- adwyseth i'r pwyllg°r yn dmfon am J. Evans, ac iddtiyntau am ei wasanaeth ond cododd y gohebydd hwa ar ei draed i gefnogt y pender- fyniad, ar yr amod fod y cadeirydd yn tynu ei eiriau yn 01, set yr hyn a ddywedodd wrtiiyf fi -hyny yw, fod Mabon wedi gwrthod dyfod d'od i gyaorthwyo yn yr annealltwriaeth oedd yn bod.oU yn ein mysg. Aeth y llywydd yn mlaen ddech>»eu gwadu ond y mae yr un man iddo ddwayd na chododd yr haul, a dweyd na ddywedodd a dyma lythyr Mabon i chwi ar y pwnc; cyhoeddwch ef fel ag y mae, fel oa wn&f gam ng et:— To whomsoever this may concern. This is to certify that no workman from ClYdach Vale has been with me, asking me to take up any question of dispute between himself and the employers, since the Clydaoh Vale Collieries have left the Cambrian Asso- ciation. Whomsoever says so, and that I refused tc take it in hand, says • falsehood. Nothing v" greater pleasure Wvi*!g T }: caa> awat I am, yours JVt>
CYFARFODYDD M\VYGIADOL.
CYFARFODYDD M\VYGIADOL. Yn ystod yr wythnos ddiweddaf, cynaliwyd cyfarfod cyfres o gjafarfodydd diwygladol yn Sion, eapel y Wesleyaid Cymreig, yn Y dref hon. Pregethwyd gan y Parch John Evans a Mrs Evans. Hefyd, gan amryw weinidogio* ereill perthynol i'r enwad parch us, a chan y I gweillldog gweithgar, y Parch Thomas Jones. Yr oedd yn dda genym weled fod amryw yn aros yn ol o'r newydd yn ystod y cyfarfodydd, a'n dymuniad ydyw v bydd i ddylanwa £ y pregethau yn aros ar y cynulleidfaoedd.
EISTEDDFOD GWYNFE.
EISTEDDFOD GWYNFE. Yn Eisteddfod Gwynfe, a gynaliwyd Mawrth yr ail, da genym ddeall mai y baehgen ieuanc awenyddol William Richards, Ctydaoh, Cwm- tawe, dan tywyddiaeth y Parch Velander Jones, enulodd y goron arian ysblenydd am y Bryddest ar Orsedd Gras. Tywalltwyd ffrwd. o anerchiadan gan blant yr awen am ben y bardd coronog. Y mae ein brawd ieoanc yn fyfynwr gobeithiol. yn ysgol y G wynfryn, Amaaford, ac yn fab i Perllanog, Clydach. Hir oes iddo I ymddyrehafu i frynian can a chrefydd. AMANFAB.
-----------YNYSYBWL IRIZE…
YNYSYBWL IRIZE DRAWING. WINNINO NUMBERS 1514, 2871, 1819, 1556, 256, 876, 848, 326, 2900, 1276, 3532. Enoch Jones, Ysg., Robert Street, Ynys- bwl.
"4 OL.
"4 OL. -arfod iari la 2yn i: i) Lewis Edmunds. • irtl nad oedd mwy yn bresenol. Dtben y cyfarfod oeddd ethol dau i sefyll dros yr adranau hyn yn yr etholiad nesaf, yr hwn a gymer le dydd Llua, y 30fed, o'r inis hwn. Cafwyd ychydig o eiriau gan Mr Owen Har- ries, a Mr G George, Y.H., y ddau hen gyn- rychiolwyr, y rhai aamlygasanteuparodrwydd i sefyll, os byddai y Gymdeithas yn gofyp iddynt. Os y byddai y Gymdeithas yn dewlS rhywrai ereill, gwnaent eu goreu drostynt. Gofynwyd amryw gweetiynau i'r cynrych- iolwyr gan Mr W Thomas, Mr W Walker, Mr John Thomas, ac ereill. Mewn atebiad i ba rai esboniodd Mr George i'r Cyngor apwyntiad Saeson i gymeryd gofal o'r Infectious Disease Hospital o herwydd nad oedd dim Cymry wedi eu haddysgr 'trained) yn bnodol wydi cynyg. Dywedodd hefyd nad oedd ef yn gwybod dim am appwyntiad Surveyor i edrvch ar ol y Gwaith Dwfr Newydd. Yr oedd hyny wedi ei wneud cyn iddo ef ddyfod yn aelod o'r Cyngor. Adlawodd y ddau aelod wnend a allent dros sicrhau Llyfrgell Kydd yn Aberdar, ac hefyd dros estyn mantais cyfroith y Tir- ddaliadau (Allotments) i'r gweithwyr. Os etholid amryw gynrychiolwyr llafur byddent hwy yn barod i bleidleisio dros newid anaser cyfarfodydd y bwrdd i bump neu chwech o'r gloch. Atebasant hefyd ofyniadau yu nghylch agor y Pare i areithio ynddo, ac yn nghylch cauad llwybr traed dan y Gladdfa Gyhoeddus. Cynygiodd Mr D L Thomas fod y ddau hen aelod 1 gael eu hail enwi, ond cynygiodd Mr W Thomas. Pembroke Street, fel gwelliant fod y cyfarfod i gael ei ohirio am wythnos a char- iwyd y gwelliant gyda mwyafrif e ddau.
Y PRIZE DRAWING I HENRY MILLS,
Y PRIZE DRAWING I HENRY MILLS, 6, GRAIG STREET, ABERDAR. Cymerodd yr uchod le dydd Llun, Mawrth 2nd, yn ystafell festri Capel Bethel, Aberdar, ac yr oedd y ffigyrau llwyddianus fel y canlyn —Y brif wobr, 2112 yr 2il, 572 y trydydd, 1843; y pedwerydd, 950; y pumed, 952; y chweched, 5837; y seithfed, 4625; yr wythfed, 1417; y nawfed, S013 y ddegfed, 3028; yr nnfed-ar-ddeg, 88. Gellir cael y gwobrwyon ond anfom at yr Ysgrifenydd.
. GIIIIIEITIIFAOI, A MASNACHOL
GIIIIIEITIIFAOI, A MASNACHOL Y FASNACH LO. CAERDYDD, Mawrth 9, 1896. Er i gryn leihad gymeryd lie yn y cynyreh iant glo yr wythnos ddiweddaf, yn herwydd yr wyl nsol, eto y mae y galw am lo ager Deheudir Cymru heb wella, tra y mae y prisiau, os dim, yn wanach. Nid oes gan rai glofeydd ond o'r braidd ddigon o archeb- ion i'w cadw yn mlaen ond am ychydig ddyddiau, tra y mae y dyfodol yn edrych yn ddigon tywyll. Gellir prynu y glo ager goreu am o 10s. i 10s. 3s., tra mae llai wedi ei gymeryd mewn rhai achosion y mae y gloion ail raddol yn awr yn cael eu gwerthu am yr iselbrys o 9s. 3c. Y mae y gofyn am y gloion sych yn para yn farwaidd, tra mai y prisoedd presenol ydynt o 8s. 3c. i 9s. 3c. Y mae gloion sir Fynwy hefyd yn parhau yn farwaidd, tra y mae y galw am lo man i raddau wedi gwella, a chymaint ag 8s. 3c. y dynell yn cael ei dalu am y goreu. Mae y Hong-log yn parhau bron yr un.
YFARFODNEILLDTJOL 0 BwYLLgORY…
Dydd Sadwrn diweddaf cynaliwyd cyfar fod neillduol o bwyllgor y Sliding Scale, yn Caerdydd. pryd yr oedd cynulliad lluosog o gynrychiolwvr y ddwy blaid yn bresenol. Galwyd y pwyHgor yn nghyd ar gais gyn- rychiolwyr y gweithwyr, er cymeryd o dan ystyriaeth cyfundrefn newydd y Discharge Note,' yn erbyn yr hwn y protestia y gweith- wyr yn v dull cryfaf. Yn apsenoldeb Syr W. T. Lewis, Barwnig, yr hwn oedd yn Scotland ar y pryd, cymer- tvyd y gadair gan Mr. W. Abraham, A. S.. a'r is-gadair gan Mr. Archibald Hood Yr oedd yn bresenol ar ran y gweithwyr Mri. W. Abraham, D. Morgan, Thos. Richards, T. Darouwy Isaac, D. Beynon, A. Onions, Evan Thomas, J. Davies, J. B. Jones, John Morgan, John Thomas, a Lewis Miles, (ys- grifenydd); ac ar ran y meistri Mr. Edward Jones, Mr. Forster Brown, Mr. Edward Martin, Mr. Wm. Thomas, Mr. Fred L. Davis, Mr. Edward Davies, Mr. Grahame Ogelvie, Mr. Charles Eden, a Mr. W. G. Dalziel, (ysgrifenydd). Siaradwrd yn gryf ac effeithiol ar y dis- charge note a'r dyoddefaint a achosai weith- wyr. Fod y drafodaeth yn un hollol un- ochrog, yn yr hon nad oedd gan y gweithiwr ddim i'w wneud ond dyoddef. Nad oedd y gweithwyr wedi cael un llais yn nygiad y notes i fod, ac nad oedd ganddynt un hawl i fyny discharge note hyd yn nod wedi gweithio eu rhybyddion yn rheolaidd, er nad ydyw, wedi ei gael, yn un sicrwydd o gael gwaith, ond mewn rhai achosion yn sicrwydd na chaiff. Dywedir fod rhai o'r meistri wedi dangos arwyddion o syndod fod pethau yn cael eu cario i'r fath eithafion, ac amheuent wirionedd tystiolaethau cyn- rychiolwyr y gweithwyr, y rhai, modd bynag, oeddynt yn alluog o brofi yr holl osodiadau. Mor belled ag y gellid casglu oddiwrth deimladau cynrychiolwyr y meistri, bernid y gwneir rhywbeth i leddfu yr aches ond gan mai cymdeithas y meistri a roddodd fod i'r discharge note, ac nid y Scale, fod yn rhaid i'r meistri ystyried y pwnc yn y goleu a roddir arno gan y gweithwyr. Hysbys- wyd fod cyfarfod blynyddol cymdeithas y meistri glofaol i'w gynal y dydd Mawrth presenol, a thrwy fod cynadledd y gweith- wyr yn cael ei gynal ddydd Llun, pender- fynwyd gohirio y pwyllgor unol y Scale hyd ddydd Sadwrn nesaf, pryd y daw y Discharge Note i fyny am ystyriaeth pellach a therfynol y mae i'w obeithio.
GLOWYR PLYMOUTH A'R STRIKE.
GLOWYR PLYMOUTH A'R STRIKE. CYNALIWYD cyfarfod cyhoeddus gan lowyr Plymouth, Merthyr, dydd Ian diwedd, yn adeilad y Theatre, pryd y bu y goruchwyl- iwr yn anerch y gweithwyr ar y sefyllfa. Pasiwyd y penderfyniad hefyd, eu bod fel gweithwyr yn parhau yn yr ymdrech am a ystyrient yn gyfiawn, ac yn parhau i roddi pob ymddiriedaeth yn eu goruchwyliwr, gan gredu ei fod wedi arfer pob moddion cyfreithlon i ddwyn yr annealldwriaeth i derfyniad. Yn mhlith y derbyniadau sydd wedi eu cael at gynorthwyo y rhai ar strike, y mae £45 oddiwrth lowyr Cyfarthfa, a iSO oddiwrth lowyr Dowlais. Y mae yn ddrwg genym ddeall fod y pleidiau ynglyn ag annealldwriath gofidus Plymouth yn parhau mor ansigledig ag erioed.
- GLOFA Y FFALDAU.
GLOFA Y FFALDAU. Y ma ? gweithwyr pwll Victoria, perthyn- ol i gwmni y Ffaldau, wedi pallu gweithio oherwydd fod ffaeledd yn y screen. Rhodd- wyd ar ddeall ir swyddogion rhai wythnos- au yn ol nad oedd y screen yn ei lie, a bod y bars yn rhy bell oddiwrth eu gilydd. Gofynwyd a roddid y cyfryw yn briodol erbyn dydd Mawrth yr wythnos ddiweddaf, 3ydd cyfisol; ond trwy na wnaed dim tuag at ddyfod a phetbau i'w 11e, pallodd y glowyr fyned yn mlaen yn mhellach nes cael y gwelliantau gofynol.
ABERDAR.
ABERDAR. ETHOLIADAU AM SEDDAU AR Y CYNQOB DOSBARTHOL. Yr ydym unwaith eto ar fin etholiad bwysig* yn y dref hon, sef ethol rhai yn lie, neu ail- ethol cynrychiolwyr am yr adranau canlynol: —(1) Mr Owen Hacfis, (2) Mr Griffith George, (3) Mr Thomas Thomas, (4) Mr John Howell, (5) Mr T Roes. Mae yn ymddoogys fcd Uym- deithas R/ddfrydol a Llafurawl No. 3 wedi penderfynu i Mr Lewis W Williams (Ap Carw Coch) fod yn ynigeisydd yn lie Mr T Thomas, yr hwn a hysbysodd y cyfarfod, nos Fawrth diweddaf, trwv lythyr nad oedd yn bwriadu ymgeisio am ail etholiad. Heno (nos Fawrth), Mawrth y 10fed, am 8 o'r gloch, cynelir cyfar- fod yn feaferi y Tabernacl gan &3rmdeithas Ryddfrydol No. 3, er gwrandaw anerchiad gan Mr Williams. Cynelir cyfarfod yn Bethel nos yfory (yr lleg cyfisol) gan Uymdeithas Rhyddfrydol a LJafur- ol Nos. 1 a 2, i benderfynu pwy y inaent yn eu cefnogi fel ymgeiswyr. Bydd yn dda I bawb fod yn bresenol, ac i ymysgwyd i barotoi yn erbyn unrhyw Geidwadwr proffesedig a ddaw allan fel ymgeisydd yn yr etholiadau dytodol, os bydd rhai. Nid ydym hyd yn hyn wedi clywed am unrhyw symudiadau i daflu Mr J Howell a ilr Rees allan o adranau 4 a 5.
MARWOLAETH MR. RAKE, TBECYNOM,…
MARWOLAETH MR. RAKE, TBECYNOM, YN Y TRANSVAAL. Boreu dydd Mawrth diweddaf, derby modd Mr Rake. Treeynon House, Trecynon, hysbys- rwydd o farwolaeth ei anwyl fab yn y lrans- vaal. Y mae yn debyg iddo fyned allan fel peirianydd, ac ychydig amser yn ol tarawyd ei feistri a'r typhoid fever. Uwasanaethodci yn ffyddlon ar ei feistr: ond cyn fod ef wedi ilwyr wella, cymerwyd ef yn glaf o'r un haint, ao y bu farw ar y 23ain o'r mis diweddaf. Cydym- deixnlir yn fawr a'r rhieni a'r perthynasau yn eu trallod.
,,-CWMBACH.
CWMBACH. (JARMEL.—Nos Fawrth diweddaf, cynaliwyd cyfarfod adioniadol yn yr ysgoldy ucnod. Llywyddwyd yn rhagorol gan Bees Pnce. Beirniadwyd y cann a'r adroddiad gan Mr Dan Owens, Cwmbach. Wedi cael can agortaaol gan Jno. Daniel, awd yn mlaen a'r rhagien. Adroddiad gan E A Williams. Can, little soldier,' gan Willie Gentle. Can, Dora, gan W J Davies. Adroddiad, My mother, f>an 1 J Davies. Ton gan Lizzie Hughes a'i P"™. t'ystadleuaeth y solo alto. Yr wyf yn ddall, lo -O^fin'r Efengyl.' Ymgeisiodd chwech; goreu. Willie Gentle. Cystadleuaeth adrodd yr ail Sal in ar byrntheg wedi'r cant. Ymgeis- iodd saith; rhanwyd y wobr rhwng Davies ae Isaac Owens. Unawd i ferched dwy yn cynyg, a rhanwyd y wobr rhyng- ddynt, sef Sarah Lewis a Maggie Daniel. Ad- roddiad, Eneinio penyr Iesu,' gan Rees Jones. Can, Let mo like a soldier fall,' gan Francis Davies. Adroddiad, Y baban ar fin y dibyn,' gan Henry Williams. Deuawd gan F Davies a Jno Daniel. Adroddiad, 4 YmweKad ydoeth- ion a Bethlehem,' gan Thos. J Morgans. Can, 0 p'am na b'ai Llewelyn,' gan Gwen Hughes. Adroddiad, 'Fred and the cherries,' gan Daniel Davies. Adroddiad gan Lizzie Davies. Can gan Charlie Gentle. Adroddiad, Hurrah for the postman,' gan George Davies. Cafwyd cyfarfod rhagorol yn mhob ystyr-pawb yn myned drwy eu gwaith yn ardderchog. Melus, moes eto, oedd dyroimiaa llawfr beblaw H. W.
TRECYNON.
TRECYNON. Cyflwyntad Tysteb i Mr E. R. arolygwr glofa Ysguboriven. No. Fawrth, Mawrth y Sydd, daeth llonaid capel oiloh o gyfeillion ac edmygwyr y bonedd- wr parchus uchod, i amlygu en mawrhttd o hono trwy gyflwyno iddo Anerchiad hardd, a chodaid o aur, fel arwydd o bareh. Cafwyd cyfarfod dyddorus mewn areithio, adrodd, a chanu, gan y personau canlynol :-J. T. Davies, Miss Sarah Thomas, J. Edwards, W. Jenkins, D. Evans, IS. Jon^s, D. L. Edmunds, J. Ed- wards, R. Leach, Miss S. Edwards. Tom Oynon, D. George, D. Edwards, yn ngfeyda'r parti gwrywaidd, dan arweiniad Mr T. Thomas, ^y £ eiliwyd gan y boneddwr ieuano ta leu tog Mr Jenkin Morris, a chadeiriwyd i berffeithrwyad gan yr Hybarch Dr Walters. Cyflwynwyd yr acrhegion gan Mri J. John a M. Williams, a daiilenwvd llinallau gan Mr B. Vaughan, Cwmdar, a Myfyr Wyn. Yr oedd y cyfarfod o r dechreu i'r diwedd yn amlygi&d pur o deimlad ardal tuag at foneddwr sydd bob amser yn gwneud ei oreu i hvrwyddo pob mudiad daionus. (Yr anerchiad yn ein nesaf.—GOL.)
EISTEDDFOD DEWI SANT.
EISTEDDFOD DEWI SANT. Mr Gol.-Am na ddaetb pethau fel ag yr oedd Pwyllgor yr Eisteddfod uchod ac ereill yn dymunoUwyddiantyr Eisteddfod uchod, y mae y boneddigion canlynol wedi bod yn haelfrydig iawn wrthym, Gwetodd Mr G M. Evans, per- cheneg y DARIAN nad oedd llawer yn bresenol yn yr Hall, a rhoddodd 10s. i ddechreu. Wedi hyny, cyfranodd arweinyrMion y tri pbarti 10s yr un. sef Mr Davies, Cwmaman Mr Phillips, Aberdar a Mr Evans, Robertstown. Hefyd, rhoddodd Cor Salem bum punt yu ol i'r pwyll- gor. JAMES.