Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
24 articles on this Page
ANGLYDD CAWMLWYDDIAD YN CWMBRAN.
ANGLYDD CAWMLWYDDIAD YN CWMBRAN. Prydnawn dydd Iau diweddaf, cymer- odd angladdMr ThomasMorgan, Cwmbran, le, yr hwn a fu farw yn agos i 107 oed. Cynaliwyd y gwasanaeth angladdol yn nghapel Annibynol Elim, gan y Parch Mr James, pryd y gweddiodd Mr John Thomas, yr hwn sydd yn 84 mlwydd oed, yn hynod o effeithiol. Ganwyd y trancedig yn Llantrisant, Morganwg ar y 4ydd o Fai, J785, tra y ganwyd ei wraig, yr hon a fu farw ryw ddwy fiynedd yn ol, yn Ngbaer- lleon-ar-Wysg, ar yr 17eg o Ionawr, 1786, ac a fu farw yn 105 oed. Y mae y teulu yn lluosog iawn, a rhai gor-or-wyrion wedi a 'n eu geni. Y mae tair o ferched y trancedig yn fyw yn awr-dwy yn America, ac un yn Cwmbran.
MABWOLAEEHH HYNOD YN FhiRNDALE.
MABWOLAEEHH HYNOD YN FhiRNDALE. Cynaliwyd trengholiad yn Ferndale y dydd o'r blaen av weddillion marwol Albert Jones, glowr, yr hwn a letyai yn yr ardal, a'r hwn a gafwyd yn farw yn ei wely gan letywr arall. Wedi ymgymeryd o swper c sausages a bara, efe a yfodd yn agos i beint o wisci, ae a aeth i'w wely. Barnai y meddyg mai rhan o'i swper oedd wedi dyfod i'w wddf a'i dagu.
PENOD 0 AMRYWION.,
PENOD 0 AMRYWION. Y mae miliynau o bersonau yn India yn byw, priodi, ac yn magu plant iachus, heb enill mwy, hyd yn nod pan y gweithia y wraig, na 2/- yn yr wythnos, yr hon gyflog a ostyngir yn fynych i 1/6. Y mae o leiaf tri o leoedd lie y mae eira gwyrdd i'w gael. Un o'r lleoedd sydd yn agos i Fynydd Hecla, Iceland; un arall 14 milldir yn ddwyreiniol i enau yr Obi; a'r trydydd yn agos i Mito, South America. =1 Yn Eastbourne, darfu i fasnachwr geisio cyflawni hunanladdiad trwy yru hoelion i'w ben. Dywedai y meddyg a roddai dystiolaeth yn yr achos, ei fod wedi tynu pedair hoelen o'i ben, tra y dywedai y carcharor ei fod yn teimlo yn well nag erioed wedi gwneud hyny. Y MAE rhyw un wedi gwneud amcan- gyfrif fod eisiau 22 erw o dir i gynal dyn a chig, tra y cynaliai cymaint a hyny o dir, wedi ei hau a gwenith 42 o bersonau; wedi ei hau a cheirch, 88 o bersonau a phytatws, Indian Corn, a rice, 175 o bersonau wedi ei blanu a choed bread- fruit, dros 600 o bersonau. Y MAE dau efaill wedi eu geni yn Vienna mewn gwahanol flynyddoedd. Ganwyd y cyntaf yn Rhagfyr 31, 1892, a'r llall yn Ionawr, 1893. Y MAE menyw wedi ei hapwyntio yn Believing Officer-y gyntaf o'r fath. Mewn Dosbarth o Warwickshire y mae yr ap- pwyntiad wedi ei wneud. Y MAE banesyn yn cael ei adrodd am gadben Hong, oedd a nifer o ddefaid ar fwrdd ei lestr, i hwrdd un diwrnod ddy- fod at y cadben pan yr oedd hwnw yn brysur wrth ei waith, gan roddi ergyd iddo a'i ben nes yr oedd ar y llawr. Yn ei nwydau daliodd y cadben y creadur gan ei daflu dros y bwrdd i'r mor. Moid bynag, inor gynted ag y gwelodd y defaid hyny neidiasant y naill ar ol y llall dros y bwrdd ar ei ol, gan adael y cadben i synu ac edifarhau. Y MAE yn Nhy y Cyffredin bedwar o aelodau dros 80 oed, sef Tad y Ty," Mr. Villiers, yr hwn sydd yn 90 oed; Mr. Isaac Holden, 85; Mr. Gladstone, 83 a Mr. C. Wright, 82. Y mae tri o'r pedwar yn Rhyddfrydwyr. Y mae Mr. Villiers yn Undebwr Rhyddfrydol. Y MAE yn cael ei hysbysu fod achos neillduol o doriad amod priodasol i ddyfod o flaen Sessiwn nesaf Caerynarfon. Y mae yr achwynyddes yn ganwraig o hynodrwydd, a'r amddiffynydd yn perthyn i dref Caerynarfon. Y MAE yn cael ei hysbysu fod gwn riewydd wedi ei gynllunio, yr hwn a weithir gan drydaniaeth, ac a ollynga 2,000 o ergydion bob mynyd.
LIBANUS, ABERAMAN.
LIBANUS, ABERAMAN. Nos Lun, Ionawr y 30ain, cynaliwyd cyfar- fod yn y capel uchod i sefydlu Mr E. M. Evans, o G ol eg Trefeca, yn fugail ar yr eglwys Daetb y frawdoliaeth yn gynlleidfa luosog yn nghyd, a llawer o ddyeitbriaid i gydlawenhau a'r eglwys a r bugail yn eu sefyllfa newydd. Cymerwyd at lywyddiaeth y cyfarfod gan y Parch W. James, Bethania, Aberdar, gan yr hwn y cafwyd ychydig eiriau fel dyferiad diliau mel, yn llawn o sylwedd ac i bwrpas. Yna galwodd ar Mr M. Edwards, y blaenor bynat yn yr eglwys, i roddi gair mewn cysyllt- iad a'r eglwys, a'i dewisiad o Mr Evans yn fugail. Rboddodd Mr Edwards ychydig o banes cychwyniad achos y Methodistiaid yn y lie dros 40 mlynedd yn ol, a sylwodd mai y ffyddloniaid gynt yn Libanus oedd wedi cycbwyn yr achos gyntaf yn Cwmbach. Mountain Ash, a Chwmaman. Dymunai wrth derfynu ar i Dduw fendithio yr eglwys, a Mr Evans, i fod megys yn un er gwneud y fechan yn fil, a'r wael yn genedl gref. Yn nesaf, oaf- wyd gair gan Mr Evans ar ei ddyfodiad i r lie. Dywedai ei fod yn teimlo yn hapus, ac hefyd ei fod yn credu fod achos Mab Duw yn cael lie dwfn ac auwyl o fewn cylch yr eglwys, a dy munai ar i Ysbryd Duw ei gymwyso i ddai enw lesu Grist yn amlwg gerbron y byd, ac ar iddo gael bod yn ffyddlon hyd angeu yn gwaith ag yr oedd wedi ymgymeryd ag ei Cafwyd anerchiadau rhagorol yn mbellacli gan y Parcbedigion H. Jones, Cwmbacb; R Morgan, Aberdar W. D. Morris, Cwmaman T. Davies (B.), Aberaman; T. J. Edwards, Penrbiwceibr R. Thomas (gynt o America); J. Pumsaint Jones, Treharris; Mr D. Davies, Canton Houes, Aberdar a Mr Morgan, Moun- tain Ash.
NEW TREDEGAR.
NEW TREDEGAR. MR. GOL. Y mae y lie hwn ar ei gynydr) mewn llawer cyfeiriad, ond y mae pethau crefyddol yn ddigon araf. Dirwest, druan, hithau yn enill fawi tir, eto y mae y ffyddlon- iaid yn dal yn wrol. Gyda y drwg, collasom un cefn da, yn enwedig i ddirwest, yn symud- iad y Parch. J. T, Phillips; yr oedd, ac y mae felly yn ddirwestwr i'r earn. Yr wyf yn deall ei fod wedi symud i Gaerdydd, i wasanaetbu o dan y Gymdeithas Ddirwestol Credaf y gwna ef yn well, gan nad oedd ond nifer fechan o'i eglwys yma yn ddirwestwyr. Nid oes neb yn gwneud arian yn well na'r tafarn- wyr yn y lie hwn. Y mae yn ben bryd i'r bobl feddwl am yr amser dlawd. Y mae llu jaawr wedi anghofio, ond daw y diwedd. GOB.
IuWERSI DADGYSLLTIAD YR IWERDDON.
I uWERSI DADGYSLLTIAD YR IWERDDON. Yr ydym wedi derbyn yn ohebiieth gaD- lynol oddiwrth awdurdodau y Wes'ern Mail, yr bwn a ^ydnabyddir fel newyddiadur Toriaidd, ac wrth ystvried hyn y mae yn syndod ei fod yn cylioeddi ysgrif sydd mor iach ar bwnc y dadgysylltiad. Na ddyweder mwy- acb nad all daioni ddyfod o Nazareth: — Yn ddiweddar anfonodd y Western Mail ohebydd arbenig i r Iwerddon, i wneud ym- cbwiiiad i effeithiau Dadgysylltiad a Dad- waddoliad yn y wlai hono. Yn y rhifyn am ddydd Iau cyhoeddwydd erthygl derfynol y gohebydd, yn symio i fyny y tystiolaethau a gasglwyd ganddo. Dywed iddo wneud ym- holiadau gyda pob gradd o glerigwyr o Arch- esgob Dublin i lawr; gyda phob dosbarth o leygwyr; gyda Phabyddion lien a lleyg, a cbydag Iuddewoa. Dyddorol ydyw sylwi ar y casgliadau y daeth iddynt oddiwrth ei ym- chwiliad. Cyn i'r mesur gael ei basio dadleuai ei gefn- ogwyr j (a) Y byddai iddo osod trigolion yr iwer- 1 ddon yn gydradd fi u gilydd mewn ystyr gref- I yddol. ( (b) Y byddai iddo brofi yn geuadwri o hedd- web oddiwrth Loegr at yr Iwerddon. (c) Y byddai iddo symud ymaith bob teiml- ad o anfoddogrwydd, a chynyrchu heddwch rhwng y sectau. Ar y llaw arall, dadleuai ei wrthwynebwyr (a) Na fyddai yn fesur cyfiawn, gan y byddai iddo ladrata ei heiddo oddiar yr Eglwys. (b) Na fyddai ond dechreHad i gyfres o gyse-r-ysbeilio yn Lloegr, Cymru, ac Ysgot- land. (c) Y byddai iddo ysgubo ymaith y gwrth- glawdd a ataliai lifeiriant anffyddiaeth. (d) Y byddai iddo achosi dirywiad yn moes y clerigwyr, trwy eu bamddifadu o'u hanni- byniaeth arianol; ac na fyddai y cynulleid- faedd yn alluog i gario y gwaith yn mlaen yn ol y drefn wirfoddol o gyfranu. Gwelir erbyn hyn pa fodd y trodd pethau allan. Mewn un cyfeiriad ni wnaeth Dadgy- sylltiad yr hyn a broffwydai ei gefnogwyr. Ni phrofodd yn genadwri o heddwch i'r Iwerddon. Ni roddodd derfyn ar y drygau a boenent y wlad hono, ac ni tbawelodd y cynwrf tirol. Y mae erchyllderau mileinig wedi cym- eryd Ile yno wedi dadgysylltu'r Eglwys yn gystal a. chynt. Ar y Haw arall, nis gellir dweyd fod Dadgy- sylltiad wedi dinystrio y gwrthglawdd a dybid oedd yn atal llifeiriant anffyddiaeth. Nid yw angbrefyddolder ac atheistiaeth wedi llenwi'r wlad. Nis gelir dweyd ychwaith fod y clerig- wyr wedi dirywio yn gymdeithasol neu yn ddeallol, nac fod y cynulleidfaoedd yn methu cynal yr achos yn mlaen trwy roddion gwir- foddol. Y mae y lleygwyr yn cymeryd mwy o ddyddordeb yn materion yr Eglwysi; y gwas- anaethau yn fwy defosiynol a chalonog y canu yn well; mwy o gydymdeimlad rhwng y clerigwyr a'r lleygwyr; mwy o gyfranu at achosion cenaiol a dyngarol; mwy o ofala am yr eglwysdai, ac o gyfranu tuag at eu hadfer au hailadeiladu. Y mae y pethau rhagorol hyn oil wedi cael eu cynyrchu yn uniongyrchol pan Ddadsefydliad yr Eglwys. Nis gellir ambeu am foment, medd y goheb- ydd, nad yw y Gwyddelod yn awr, mewn mat- erion crefyddol, wedi eu gosod ar dir cydradd. Ar y naill law, nid yw yr Eglwyswyr eu hun- ain yn cwyno o herwydd ei rbyddhad oddi- wrth y Wladwriaeth; ac ar y llaw arall, y m&.e Dadgysylltiad wedi rhoddi boddlonrwydd i'r bobl yn gyffredinol. Bodola yr undeb a'r cydgordiad mwyaf cyflawn rhwng yr Eglwys- wyr, y Pabyddion, a'r Ymneillduwyr. Nid oedd hyn yn bosibl o dan yr hen drefn. Gyda golwg ar hawl y V/ladwriaeth i gym- eryd eiddo oddiar sefydliad, a'i gymhwyso at amcanion ereill, nid yw y gohebydd hwn yn l dtttgaJti barn. O wnaed byny yn yr Ivverddou yn unol a dymuniad y bobl, ac y mae yr effeithiau a i dilynodd yn ddaionus. Yn by- tracb na cbael ei golledu, y mae y sefvdliad a ysbeiliwyd wedi derbyn budd a benctifcii. Ac os bu felly yn lwerddon dlawd, pa faint mwy y bydd yn Nghymru, gyda'i rhagorfreintiau a'i manteision mwy rhagorol?
GWAENCAEGURWEN.
GWAENCAEGURWEN. Brwydr fawr Senead Llangiwc wedi dechreu, a diolch am gael adeg adnewyddiad. Y dydd o'r blaen cawsom gyfarfod lluosog er dewis aelodau newyddion, gan ein bod fel ardal yn credu yn gydwybodol fod gwir angen am newid y senedd un ac oil. Y tri y mae yr ardal hon yn fwriadu i'n cynrychioli ydynt: T. Hargreaves, Ysw., Manager; J. M. Price, Ysw., Station Master; a S. D. Morgan, Ysw., Llwynhen. Credwyf fod yr ardal wedi bod yn ffodus yn ei dewisiad. Y mae y tri wyr byn yn ysgolbeigion da, ac yn gwybod gwerth addysg. Byddwn yn nghanol y frwydr yn mhen ycbydig ddyddiau, a gobeithiaf y bydd i bob trethdalwr ofalu am bersonau a ofalant am danynt hwythau. Y mae yn gywilydd meddwl fod y dreth wedi cwnu i 2/8 yn y X, ac yn bur debyg na fydd hyny yn ddigon i ateb y gofyniadau. Y mae nhw yn dweyd fod yn agos i fil o bunau wedi cael eu gwario gan y bwrdd presenol. Tair blynedd ynol nid oedd ond tri chant o adyled ar yr hen fwrdd, ac yn awr y mae yn agos i fil o bunau. Beth ddyw- ed y trethdalwyr am byn,wys? Clywais gan un o bwyll^or Eisteddfod ddyfodol Cwmgorse, eu bod yn bwriadu cynyg dau gini o wobr am draethawd ar banes School Board Llangiwc am y tair blynedd diweddaf, a g"n y bydd yn destyn dyddorol. Bydd archwiliad yn cael ei wnend, gan fod acbwyniad fod Votes yn dyfod i mewn ac heb fod yn deilwng, dynion yn fotio heb fod yn byw mewn tai. Credaf y bydd Mr James Hinkin yn debyg o wneud cyfiawader ar y mater hwn. Y mae yn dda genyf hysbysu fod gan ein hardal ddigon o votes i ddodi y tri boneddwr i mewn y tro hwn. Bach ydyw r olwg sydd gan ardalwyr y Waun ar unrhyw berson fyddo yn gwthio ei bun i'r cyboedd fel aelod o'r bwrdd, ac yn cardota votes ei bunan ar draws y tai fel rbyw hen wrach. Lie byddo gwir foneddwr, fe wel yr ardal pa un ai teilwng neu beidio ydyw i fo1, yn aelod o'r Bwrdl. Beth ddywed rhyw 9 o honom ni y rhai mawrion am hyn, wys ?— 1 Suro o hyd mae y sir hon At y segur swyddogion.' Nid wyf yn credu yn gryf iawn mewn i oifeir- iadon a phregetbwyr i fod ar y bwrdd, a'r rheswm sydd genyf dros hyny ydyw, fod pethau drwg yn llygru moesau da.' lr, yn siwr, y mae digon o waith ganddynt i oj.al-3 am eu pechaduriaid. Gobeithiaf y bydd members y Board dyfodol weithrec Vlt f. unol a heddycliol, ac yn scholars i V^neddwyr yr hen fwrdd. FF Jyboedd eu bod nhw yn byddysf gebra, Euclid, Phrenology, Astrouon, .ax Theology, Mathematics, a Mechanics, a lia^er o'r pethau pert ereill yna. Bravo gw vry Senedd. Yn y llith nesaf, fe fydd genyi: ftfis ddarlun o'r ddyled y maent wedi -*yk'h y trethdalwyr iddo.—Yr eiddoch, WIL O'R M
Advertising
Y MAE yn cael ei hysbysu I. _■ tow wedi gwneud hafoe dychrynliyd 11 y gwinwydd yn rhanau o Germrz-i, ac vedi lladd miloedd o'r coed. DYWED brys-hysbysiad o'r W; Mgrug fod cwymp mawr wedi cyme vo yn nglofa Padeswood Canal, a oca- iau weithiwr wedi eu lladd.
(DEG PUNT AM CHWE' CHEINIOG.
( DEG PUNT AM CHWE' CHEINIOG. M'H. GOL.Mewn colofn arall gwelir hys- bysiad am Prize Drawing y cyfaill anffodus Gomer Williams, Robertstown, neu fel y bydd- ys yn arfer galw'r lie, Tresalem, yn yr hwn y rhoddir jSlO am 6c. i'r enillydd. Nid yw 6c. yn llawer i un person, ond hyddai JB10 yn swm gweddol i'r hwn fydd mor ffodns a'i enill; oblegyd bydd rbywun yn sicr o enill. Heblaw hyny, ceir gwobrwyon ereill llai mewn arian, y rhai fydd yn werth cynyg am danynt. Hefyd y mae'r gwrtbddrych, i'r hwn y cyf- lwynir yr elw, yn deilwng o sylw a chydym- deimlad y cyhoedd, dyn ieuanc 30ain oed, wedi cyfarfod a damwain trwy yr hon yr am- ddifadwyd ef bron yn hollol o'i olygon, wedi anmharu ei brydferthwch a dibysbyddu ffyn- on ei boll gysuron am ei oes, beb obaith am enill dim at ei gynaliaeth ef 'a'i dad, yr hwn am flynyddau, o herwydd afiecbyd, fu'n ym- ddibynu i raidau helaeth arno. Wrth wneud yr apel hwn at y cyhoedd, nid ydym am an- wybyddu ereill sydd ag angen cydymdeimlad, oDd mae yntau, fel y lleill, yn aros am gynhyrf- iad y dwfr yn llyn cydymdeimlad a haelioni y werin, ac yr ydym ninau yn ceisio ei dafla i'r llyn yn yr hyder a'r gobaith y lleddfir ychydig ar ei ofnan a'i bryderon am y dyfodol yn wyn. eb ei sefyllfa adfydus ac anobeithiol. Godd- efwch i mi ar ran y pwyllgor, yn nghyd a'r cyfaill anffodus, ddiolch yn gynes i'r rhai hyny sydd wedi derbyn a gwerthu tocynau, yn nghyd a dymuno ar i ereill eto anfon am lyfr- au a thocynau at yr ysgrifenydd. Mae digon i'w cael, er fod canoedd o lyfrau wedi eu gwasgaru trwy bob rhan o'r Dywysogaeth. Priodol y gellir dweyd, Eto mae lie. — Yr eiddoch, JACOB TREHARNE (Tiberog).
LADV.J Y DULL NEWYDD 0 DRIN…
LADV.J Y DULL NEWYDD 0 DRIN AFIECHYD. 54, Dyffryn, Merthyr Tydfil, Hyd. 3,1892. Anwyl Syr,—Y mae yn dda genyf eich hys- bysu fod eich Dull Newydd o Drin Dolnriau wedi gwneud gwaith i w ryfeddu arnaf; wedi myned drwy y Driniaeth yn unol a'ch cyfar- wyddyd, yr wyf yn teimlo yn berffaith iach. Yr wyf yn awr yn gallu sugno cysur a mwyn- iant o'r hyn oeddwn er's rhai blynyddoedd bellach yn arfer deimlo yn faich a gorthrwm arnaf. Barnwyf yn gydwybodol oddiwrth sefyllfa bresenol fy nghorff a'm meddwl, mewn cydmariaeth a'r hyn oeddwn yn teimlo cyn myned drwy y Driniaeth, eich bod wedi estyn o leiaf ryw 20 mlynedd ar fy einioes j n v byd. Yr wyf yn honi fy mod wedi cael mantais neillduol, a hyny ar raddfa eang, i wybod mwy na'r cyffredin am gyflwr a sefyllfa gweithwyr tanddaearol yn enwedig, ac wedi blynyddoedd o brofiad o gwynion y glowyr. yr wyf yn beiddio gwneud amcangyfrif o naw o bob deg or dosbarth hwn ag sydd dros ugain oed, eu bod yn dyoddef i raddau mwy neu lai oddi- wrth y Piles, Diftyg Anadl, a Diffyg Treuliad, ac nid oes yr un bod meidrol a fedr amgyffred y swm arian a delir yn flynyddol gan y dy- oddefwyr am foddion ag fydd ag ychydig o duedd ynddynt i leddfu eu poenau yn amser- ol. Ond yr wyf fi bellach wedi dyfod i'r pen- derfyniad i gyfeirio y neb ag sydd am gael gwellhad sicr a thrwyadl at Mr George, a dymunaf eich mawr lwyddiant i'r unrhyw gyfeiriad. —Ydwyf yr eiddoch yn ddiolchgar, Mr. W. George, M.R.P.S. THOS. REES. 10, Oxford St., Swansea.
.ADOLYGIAD.
ADOLYGIAD. ANTHEM, 'Dychwel, Arglwydd.' Gan DAVID EVANS, G. (Resolven), Coleg y Brifysgol, Caerdydd. I'w chael gan yr awdwr. Pris 2g. Cyfansoddwyd yr anthem hon ar gais Cym- anfa Gana Dosbarth Uchaf Castellnedd. Cy- chwyna gyda cherddoriaeth lawn yn F leiaf. ydvm yn hofft y croes-aceriiad ar y gair x)ychwei. in* fhoddir tostvn allan gan y Bass, yr bwn a gymerir i fyny gan yr oii o r lleisian yn eu tro. Yna cyplysir y felodi gyntaf a gafwyd gan y Soprano ar y geiriau I Dychwel, Arglwydd,' gyda'r ail destyn a roddwyd allan gan y Hass, ar y geiriau I Achub fi er mwyn dy drugaredd. Gweitbir y ddau destyn yma gyda'u gilydd yn y gwahanol leisiau, a gwneir defnydd o honynt yn y cywair mwyaf yn ogystal a'r lleiaf. Yna arweinir i ddiweddeb ar gord seithfed llywyddol Aj? fwyaf. Dilynir y symudiad hwn gan Driawd i A.T.B., ar y geiriau, Ctybu yr Arglwydd fy neisyfiad,' &c. Y mae hwn yn symudiad tyner a tblws yn yr amser tripblyg, ac yn amrywiaeth hapns i'r darn. Yna daw y lleisiau i gyd i mewn ar y geiriau, Canaf i'r Arglwydd,' &c. Wedi hyny ceir symudiad allegro ar yr un geiriau yn F fwyaf. Da iawn yw yr unsain ar y geiriau, Canaf i'r Arglwydd,' tu dal. 6, yr hwn a ail- adroddir yn Bj?, ac y mae yn sicr o foi yn effeithiol iawn. Ar tu dal. 7 cawn y lleisiau eto yn canu unseiniau da iawn. Y mae yr Anthem hon, o'r dechreu i'r di- wedd, wedi ei hysgrifenu gyda Hawer o fedrus- rwydd, a dengys fod yr awdwr, er yn ieuanc, yn feddianol ar wyboua^th eang mewn cy- nghanedd a gwrthbwynt Y mae cynllun (form) yr anthem hefyd yn rhagorol o dda, ac y mae y gwahanol gyweirnodau wedi eu dewis gyda gofal neillduol. Hyderwn y cymerir yr Anthem hon i fyny gan lawer o'n Cymanfaoedd Canu. Y mae yn mbell uwchlaw y rhai a glywir ynddynt yn gyffredin. R. T. DAVID AND SAUL. Mr. D. Jenkins, M.B. (ParJiad.) Rhif 8fed, Recitative i Tenor, I They paused.' Y rhifyn hwn sydd yn agoriad i'r ail ran o'r gwaith. Y mae yn dechreu gydag Andante Sostenuto style, ac yn cael ei ddilyn gan Alle- gro Agitato Gjj a Dp, ac yn diweddu yn yr ar- ddull dechreuol ar y geiriau, Now let the so- lemn numbers flow,' &c. yr hwn sydd yn ar- weiniad hapus i Rhif 9fed, sef Cydgan, 'Heav'nly Harp.' Y mae yn dechreu gyda Fugue gyflawn, a'r test- yn cael ei efelychu am ddau tu dalen. Y mae y Staccato Notes yma, sydd yn dechreu y gwahanol fra^ Megau, yn hynod dderbyniol gan y glust. Y ruae yn peri i'r testyn fod yn amlwg iawn trwy y rban yma o'r rhifyn. Y mae y 7 oudiad Nn yn diweddu yn unsain yn pp; yu cael ci ddilyn gan Unawd Tenor byr. yn rhagfiacnu y rhan olaf or Cydgan, yr hwn sydd mev n arddull synedigol, ac yn di- v?eadu yJ unsain eto yn ppp. Y mae RLiifynau 10 ac lleg—yr olaf yn gyd- gg,l1 jlejslau gwrywaidd-yn meddu y cyffelyb iKidwerd a Rhif 9fed. Y mae prif bwynt y Ülêm hwn or gwaith yn cael ei gyrhaedd yn Iihif 13, sef y Fugal Chorus ardderchog, Now th impetuous torrents rise.' Fe gofir mai hwn oedd un o'r darnau yn y brif gystadl- euaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, ac i fod yn brif destyn cerddorol Eisteddfod fawr Chicago y flwyddyn hon. Gan fod y rhifyn hwn eisioes yn adnabyddus yn Nghymru, ac hefyd fel cyfansoddiad uwchlaw canmol- iaeth, gadawaf iddo lefarn drosto ei bun. Cyn terfynu y tro hwn, Mr. Gol., dymunaf gael rhoddi gair bach fel amddiffyniad i gy- buddiad sydd wedi ei ddwyn yn fy erbyn am yr hyn a ddywedais yn fy llythyr cyntaf, sef I nad oedd David and Saul hyd ye hyn wedi ei ddatganu yn Nghymru yn ol y trefniad presenol sydd arno.' Carwn gael gwybod yn mha le a pba bryd y rhoddwyd datganiad o hono cyn y -26ain o'r mis hwn (Ionawr), set yn Abertawe. Yr wyf yn cydnabod iddo gael ei ddatganu yn Eisteddfod Genedlaethol Merthyr er's rhai blynyddau yn ol, ond nid yn ol y trefniad presenol sydd arno, gan mai tu fewn i'r mis hwn (Ionawr) y daeth y Band Parts allan o'r wasg gyntaf. Fe gofia fy ngbyhudd. wyr fod gan Mr. D. Jenkins, M.B., Gantawd arall o'r enw I Dafydd a Goliath," yr hon sydd wedi ei datganu lawer gwaith yn Nghymru; d el ond David and Saul' oedd y llyfr y cafwyd datganiad mor ardderchog o hono ar y 26ain o fis Ionawr. Cyfarfod y bydd cof am dano am hir amser yn Abertawe oedd hwnw. Yr oedd yr artistes, Miss VSedora Hensou, Miss H. M. Jongs, a Mri. B. Davies a B. Hughes uwchlaw canmoliaeth, String Band Mr. W. F. Hulley a chor y Babell wedi myned trwy eu rhanau yn ddifwlch, a'r Awdwr ei hun yn arwain yr oil mor feistrolgar, fel y mae yn arfer wneud. Yr wyf yn gobeithio y bydd Pwyllgor Cerdd- orol Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd mor ddoeth a dewis y darn hwn ar gyfer un o'r cy- ngherddau. Yr wyf yn sicr na fydd yn edifar ganddynt. Y mae llawer o glod yn ddyledus i Mr. D. Williams (yn benaf), Mr. Watkins, a Mr. W. T Samuel, am drefnu y fath wledd i ni yn Abertawe. G. A. (I'w barhau.)
GAIR AT 'EPHRAIM.'
GAIR AT 'EPHRAIM.' SYR,—Ar ol darllen eich llythyr doniol ac ysgubol dan y penawd Nodiadau Cyffredinol I I yn y DARIAN ddiweddaf, enynwyd cywrein- rwydd ynof am fwy o oleuni ar ddwy blaid fawr wleidyddol America. Gan fod amcanion gwleidyddiaeth y ddwy wlad bron yn hollol wahanol i'w gilydd, yr osddwn wedi arfer meddwl nad oedd llawer o briodoldeb mewn galw y Gwerinwyr yn Rhyddfrydwyr a'r De- mocrats (a oes enw Cymreig ar y blaid ?) yn Doriaid, neu vice versa. Ond gwelaf eich bod chwi o farn hollol wahanol, ac felly yr wyf am gyflwyno yn ostyngedig yr ychydig ofyniadau hyn i'ch sylw, gan obeithio yr atebwch hwynt gyda'ch cvfleusdra cyntaf. 1. Pa blaid sydd wedi gwneud fwyaf dros y Deyrnas Gyfunol, y Rhyddfrydwyr neu'r Tori- aid? 2. Pa blaid sydd wedi gwneud fwyaf dros yr Unol Dalaetbau, y Gwerinwyr neu'r Demo- crats ? 3. Dros ba eywyddor fawr yr ymladdwyd brwydrau y Gwrthryfel ? 5. Onid oedd Section 10 o lwyfan Cleveland yn Nghynadledd Chicago cyn yr Etholiad di. weddaf, ac ar yr hwn y cafodd ei ethol, yn gy- maint o wrthryfel yn erbyn yr egwyddor hono ag oedd y taniad ar Fort Sumnter ? 5. Ai Masnach Rydd yw criterion Rhydd- frydiiaeth ? ac oni fyddai ycbydig o ddiffyn- doll mewn rhai cyfeiriadau yn llesol i'r gweith- iwr Prydeinig ? 6. Os oedd Carnegie ac ereill o gyfoethogion y Gorbewinfyd mewn cyngbrair &'u gilydd yn ffurfiad a phasiad y McKinley Bill a gellid casglu hyny oddiwrth eich nodiadau chwi— a ydyw yn rhesymol i gredu y buasai Carnegie yn achosi cyfiafan Homestead ar gynddydd yr etholiad megys ? 7. Y mae y McKinley Bill yn cyflym ateb dyben ei fodolaeth, sef gwneud alcan yn Am- erica a ydych yn meddwl y bydd Cleveland mor ffol a chau y gweithiau byny i fyny ? 8. I lywod.ddysg pa blaid y mae America yn ddvledus am yr hyn ydyw yn bresenol-y wlad wyfoethocaf a'r oreu i'r gweithiwr o holl wledydd y ddaear ? 9. Pa blaid ydyw'r Progressive Party, y Gwerinwyr neu'r Democrats ? Y mae llawer o gwestiynau ereill y carwn ofyn i chwi, ond gall atebiad cyflawn i'r uchod roddi goleuni i mi. Gadewch i ni wybod pa blaia sydd yn cam lies ^neillduol ei wlad ei hun, ac yna gallwn gymharu a dosbarthu pleidiau y ddwy wlad yn lied ddidraSerth.— tr eiddoch mewn tywyllwch1 J. W.
ARCHWILIAD : , JWMNEOL (PWLL…
ARCHWILIAD JWMNEOL (PWLL BAOPKiS), "MAMAN. Ionawr y 17()g j osol buom ni, y rhai sydd a'n henwan isnd, an awilio y lofa uchod, yn unol A phend jnf'rydoi ein oydw«iib- wyr. Cawsru; jT sefyllfa "•—* pyllau, Up • t 1, Oast, mewn sefyllfa dda. Lefelau a oa\v V: (inclines), mewn cyflwr toddhaol, ac ,I"'Ü a dyfrhau yn briodol, gyda digonedd o icch^ iyllau (manholes) a lleoedd gweithio. Gwytb en y 2 a'r 9 mewn sefyllfa weithiol Ida, KC yn rhydd oddiwrth nwy. Jnwbili. gwyihien 4 troedfedd, mewn sefyllfa weithiol en:" -c yn rhydd oddiwrth nwy. South, y 4 t. ifedd eto, yr un modd. North, y 4 troedfedd, No. 1 a 2, mewn sefyllfa weith- iol dda, ac yn rhydd oddiwrth nwy. Gwythien y 6 troedfedd, North a South, mewn sefyllfa weitbiol dda, ac yn rhydd oddiwrth nwy. Awyrffyrdd dychwelol mewn sefyllfa wir dda. V peiriant awyru mewn sefyllfa weithiol dda. Yr hen weithleoedd, 4 troedfedd y Jnwbili: cawsom blower byeban yn hen heol John James, ond cymysgid ef a. ffrwd o awyr iachus, fel ag i'w rwystro i fod yn niweidiol. South, y 6 troedfedd cawsom blower bychan yn hen heol William Davies, ac un arall yn hen Head- ing Henry Evan3. Cymysgid y rhai hyn eto a digon o awyr iachus, fel ag i'w rhwystro i fod yn niweidiol. Peirianau o bob [Lath perth- ynol i'r lofa mewn sefyllfa weithiol dda, ac wedi eu hamgau yn ddyogel. Mae yn hyfryd- wch genym hysbysu ein cydweithwyr a'n swyddogion ein bod we I- i cael y lofa mewn cyflwr boddhaus, ac yu rhydd oddiwrth un- rhyw grynhoad o nwy. Y skriwn fod clod mawr yn ddyledus i Mr Rees, yr Arolygwr, a'i is-swyddogion am gadw glofa mor eang, ac mor bell i fewn a'r uchod, mewn sefyllfa mor anrhydeddus o drefnus a dyogel. Hynyna ar air a chydwybod. Arwyddwyd — ENOS DAVIES, JAMES JAMES, Main Deep, 6 troedfedd REES DAVIES, JOHN EVANS, 4 troedfedd, South; WILLIAM PARRY, SHADRACH HARRIES, North, 6 troedfedd; JOHN KEES, WILLIAM JONES, North, 4 troedfedd.
Y WASG GYMREIG.
Y WASG GYMREIG. Yr ydym wedi derbyn rhifyn cyntaf y papyryn a elwir PAPUR PAWB, ac a gyhoeddir yn fisol yn Nghaerynarfon. Odid nad oes He i gyhoeddiad misol 0 r fath. Bron yr un amser daeth i law bapyr o'r un nodwedd a elwir GWREICHION, yn cael ei gyhoeddi, dros y I pf rchenog, yn Aberdar. Y mae rhywbeth yn hynod fod dau gyhoeddiad o'r un nodwedd wedi dyfod allan bion yr un dyddiau—un yn y Gogledd, a'r llall yn y Deheudir. YR HAUL.—Y mae yr Haul am Chwefror wedi cyrhaedd, ac mor ddysglaer ag erioed o ran ei lenyddiaeth. Nid oes yr un Haul, fel rheol, ond a adeilada yn mbob ystyr daionus, ac os nad yw y rhan fwyaf o Eglwyswyr Cymreig Cymru yn ei dderbyn, y maent yn sicr o fod yn golledwyr. Y mae y dyfyniad canlynol yn y rhifyn bwn, Y wlad sydd well,' a chredwn y bydd yn ddyfyniad y gellir ei arfer mewn cyfarfodydd chwarterol Ysgolion Sab- botbol, &c. "0 I Awen fyw, y mae rhyw wlad sydd well,' Rhyw dy fy nhad yn mysg y bydoedd pell, Yn gymhwys gartref i naturiaeth dyn, Lie gall ei alw'n eiddo iddo ei hun, Lie gall ymfudj heb betrusder bron 0 gyfyng faes y bellen fechan hon. Rhy gaetb yw cul derfynau daear lawr, Rhy bell oddiwrth Dduw i r enaid mawr; Nis gallwn weled d;m ond 61 ei law, Ac 61 ei droed yn cyffwrdd yma a thraw: Mae arnom eisieu gweled gwen ei wedd, Mae arnom eisieu teimlo'i rasol hedd. Y ddaear oil a'i Uwyth o ddynolryw, Fel llong ymfudol ar y cefnfor yw Mae arnom eisieu canfod disigl fan, Lie gall lluddedig unig rai gael glan. "Fe ddywed athronyddwyr chwilgar byd, Diflana r oil a welir yma 'nghyd Gan dreulio allan llysg yr haul yn llwyr, J Fel canwyll diffydd ryw ofnadwy hwyr; Gan adaw murddyn drvlliog ddaear dlos Yn amblygedig mewn ofnadwy nos Pan wisga daear allan dan ein traed, Pan drydd yr haul yu nos a r lloer yn waed,' Am fan pryd hyny gwaedda'r enaid byw I wastad drigo yn ngoleuui Duw: A gwelnf fan mewn teg oleuni draw, Lle'r eistedd lesa ar y ddeheulaw."
NAZARETH, PONT YATES.
NAZARETH, PONT YATES. Traddodwyd darlith yn y capel uchod, nos Sadwrn, Ionawr 28ain, 1893, gan y Parch D. Geler Owen (M.C.), Cydweli, ar y testyn, 4 Thomas Rowlands a'i Ffraetb-ddywediadau.' Fel y gwyr llawer, y mae Mr Owen yn breg- ethwr da; ac fel darlithiwr y mae yn uchel iawn hefyd; nid rhaid iddo wrth ganmoliaeth. Dyma y tro cyntaf i mi gael y cyfleusdra i'w glywed yn traddodi ei ddarlith odidog, ac yn wir ni chefais fy siomi, na'r lluaws gwranda- dawyr oeddynt yn bresenol, oblegyd yr oedd yn llawn o wersi buddiol ac addysgiadol iawn. Yr oedd Mr Owen yn ei hwyliau goreu. Cad- eiriwyd yn ddebeuig gan Dr Charles, Cydweli. Yr oedd yr elw yn myned tuag at Bethel, Carwy. CARWY.
DR. HERBER EVANS A'R IAITH…
DR. HERBER EVANS A'R IAITH GYMRAEG. SYR,—Yn y Geninen am Ionawr ceir ertbygl gan y Parch E. Herber Evans ar Cymru Fydd,' yn yr hon y dywed llawer o bethau buddiol a llesiol mewn perthynas i ochelyd drygau sydd yn dylifo i'n gwlad y dyddiau presenol. A'r cyngorion yma yr wyf yn per- ffaith gytuno ond nrwnaf gytuno am foment a'r syniadan a'r awgrymiaaau a deflir allan gan Herber mewn pertbynas i'w ffafriaeth i'r Saesoneg a'i wrthwynebiad i'r Gymraeg. Er nad yw yn ddigon gwynebagored i ddweyd ei feddwl yn eglur, eto hawdd casglu drwy ei boll erthygl ei fod yn ffafriol ac am i'r Saeson. aeg ladd y Gymraeg yn Nghymru. Ei ofid ydyw, nid fod llawer o'r Cymry yn myned yn Saeson unieithog, ond fod y Cymry eto yn Gymry unieithog. Felly gellir casglu, yn ol ei farn ef, ei fod yn fwy o anffawd i fod yn un- ieithog Gymreig nag yn unieithog Seisonig. Cytunaf ag ef yn hollol fod gwybodaeth o'r ddwy iaith yn fanteisiol iawn-fod gwybod- aeth o'r Gymraeg a'r Saesonaeg yn beth i'w fawr ddymuuo, ac i lafurio am ei gael. Ond o ddau ddrwg, gwell o lawer ydyw y drwg o fod yn Gymro unieitbog na bod yn Sais unieitbog, fel y gellir gweled yn y siroedd a r ardaloedd byny yn Ngbymru ydynt wedi oolli y Gy- mraeg. Nid oas cymhariaeth, yn grefyddol nac yn wleidyddol, rhwng y Cymro unieithog a'r Sais-Gymro unieithog, neu'r Sais unieithog. Gall, feallai, fod allanolion y Sais yn well, megys tai, &c.; eitbr am y dyn, ni baedda ei gymharu i'w frawd y Cymro mewn gallu meddyliol, mewn gwybodaeth Feiblaidd, mewn galluoedd a'i gwna yn ddeiliad da, ac yn enw- edig mewn parodrwydd gogyfer a byd arall. Materol o'r materolion ydyw y Sais. fel Esau; ond maecrefydd yn y Cymro fel Jacob, os yw yn gymysgil llawer sydd i'w gondemnio. Eto dyma allwn gasglu ydyw ymdrech y Parch E. Her- ber Evans fel Cymro, fel pregethwr byawdl, ie, fel pregethwr sydd wedi enill enw mawr iddo ei hun yn yr iaith Gymreig, a mawr fel athraw duwinyddol pregethwyr i Gymru. Pa werth sydd yn ei gyffesiad ei fod yn Gymro o waed coch cyfan,' pan ddefnyddia ei allu a'i safle i ladd y Gyrrraeg ? Onid yw yn ddigon i Herber fod y Saesonaeg beddyw yn Fghymrn yn iaith yr ysgol ddyddiol, yn iaitb y colegau enwadol, yn iaith yr Ys olion Uwch- raddol a Cbanolraddol, yn iaith y Colegau Normalaidd, yn iaith y Prifysgolion yn Aber- ystwyth, Caerdydd, a Bangor, ac nad oes gair o son am y Gymraeg yn y Frei q, dynwyd allan y dydd o'r blaen gan (J yn yr Amwythig am gael Prif ysgol T ymru ? Gallem dybied fod yr holl fa J "■-10■ yma yn llawn digon i Gymry i ddys x Hee^o^eg, heb i Herber jmdrechu eu eada ^sgrR y ctenincn. Ond mwyn* —' • ysbryd iaithgarn". n&wj'a.' an I-lerber, a chan bawb sydd or a f> yr hwn a hawha i r Gymraeg be'' raddoldeb a'r Saesoneg, beth byn8, H; 1 sefydliadau addysgol a gweinydcj lad. Ac y mae y lefain hwn yn de. ■ <.<. ithio eisioes; y mae amryw Fyrddaf; /edi gosod y Gy- mraeg fel pwnc a^ v<ig yn yr ysgolion dan eu hawdurdod; ac y e. u, i ganlyn, hyd nes y bydd y Gymraeg c ol chwareu teg vn ei cbartref ei hun yn holi ^ylchoedd addysgol a gweinyddol Cymru. Ofer wed'yn fydd i Her- ber ddyfynu Tennyson- Ring out the old, ring in the new,' a'i gymbwyso at ddifodiad y Gymraeg yn Nghymru a gorlifiad gorcbestol y Saesoneg. Ofer gwaeddi buddugoliaeth hyd nes byddo y frwydr wedi ei benill; ofer bostio nes y bydd- och allan o'r dyrysni. Pe buaswn i yn credu y byddai yn fendith i genedl y Cymry i gael difodi eu biaith, buaswn am y goreu yn ei di- fodi; ond nis gall fod, ac ni fydd byth yn enill i unrhyw genedl golli ei biaith gynbenid. Felly glynwn fel Cymry wrth ein hiaith, a mynwn ei dysgu i'n plant a'n hwyrion, tel pan gymerir ni oddiyma, y bydd yr hen wlad a'r hen iaith mor gryfed ac iached ag erioed. Pe buasai ymresymiad Herber yn iawn, Saeson fyddai oreu fel Aelodau Seneddol; ond beth ydyw y ffaith ? Y gwir yw mai aelodau Cymreig, o deimlad ac iaith, sydd wedi d'od a Chymru i'r amlwg yn y Senedd,-Tom Ellis, Lloyd George, a S. T. Evans; a Saeson tebyg i E. J. Reed a Rathbone sydd yn bwyta bara seguryd yno, beb godi llaw na throed dros hawliau y wlad a gynrychiolant. Ac hyd yn nod i Loegr ac i'r ymherodraeth, y peth goreu i ni ydyw glynu yn dyn wrth ein hiaith, a charu ein Duw a'n gwlad, a'n biaith a'n cen- edl. Pwy ydyw y pregethwyr blaenaf, lawer o honynt, yn mhlith y Saeson heddyw ? Cy- mry trwyadl, yn gwybod Cymraeg a diameu fod gwybodaeth o'r Gymraeg yn gymhorth mawr iddynt, oblegyd y mae ganddynt ddi- wylliant mor eang. Gwaatbruddir y rhai sydd am gadw y Gymraeg i fyny yn holl gylchoedd Cymru fel rhai cul, crebachlyd; eithr y rhai wrthwynebant hyny sydd yn gul a chrebacb- lyd mewn gwirionedd, drwy ein cau i uniaith. -Yr eiddoch, D. FF. DAFIS.
TYLORSTOWN.
TYLORSTOWN. Da fydd gan luaws cyfeillion y gantores ieuanc ond tra enwog, Miss Gwen Erasmus, ei bod wedi llwyddo i ddod allan yn fnddugo iaethus yn arholiai diweddaf Dr mae yn debyg fod boneddiges yn Chester (nis gwn ai hen neu ieuanc) yn teimlo di'os y gweithwyr, ac yn rhoddi ysgoloriaeth iddynt mewn cerddoriaeth, a byny i'r swm 0 bymtheg punt ar hugain (35p.), a dyma Gwen Erasmus, merch i weitbiwr tlawd, yn dyfod allan yn llwyddianus. Onid yw hyn yn siarad yn uchel am dani hi, ac yn teilyngu cefaogneth gan yr ardal lle y mae yn byw, sef Ton Ystrad. Chwithau bwyllgorau 3isteddfodau a chyngerddau, cofiwch y ferch ieuanc hon. Sicr yw na chaiff neb ei siomi OLd yr ocbr oreu. Y mae pawb a'i clywodd yn dweyd, Melus, moes eto. 0 ie, dylaswn ddweyd fod yr holl vmgeiswyr i fod yn enedigol Gymreig. 0 J. T. JONES.
[No title]
HYSBYSIK ni fod eglwys y Tabernacle Liverpool, yn yr hon y gweinidogaethai Dr. John Thomas adeg ei farwolaeth, wedi rhoddi galwad unfrydol i'r Parch. R. Thomas, Glandwr, ger Abertawe, a bod yntau wedi ei derbyn. Adwaenir Mr. Thomas fel un o bregethwyr galluocaf ei enwad, a bydd yn olynydd teilwng i un fu am genedlaeth gyfan yn un o oleuadau dysgleiriaf y pwlpud Cymreig.
-----SARON, RHYDYFRO.
SARON, RHYDYFRO. DARLITH. Traddodwyd dartith yn y lie uchod nos Sadwrn, yr 28ain o Ionawr, gan y Parch Ben Davies, Pantteg, ar Fy mreu- ddwyd a i gwersi.' Er mai breuddwyd oedd y testyn, yr oedd y darlithydd yn berffaith ddihun yn ei thraddodi, a chadwodd bawb ereill yn effro iawn am yn agos i ddwy awr, oblegid yr oedd yn llawn o'r ffeithiau a'r sylweddau mwyaf byw. Yn wir, y mae yr awdwr wedi agor maes newydd, na cblywais am neb yn ei rodio o'r blaen, a dengys y medr godi trysorau o hono sydd yn cyfoethogi pob dosbarth a phob oed o ddynion. Y mae ai syniadau yn bur, ei iaith yn goeth, ai wersi yn addysgiadol dros ben. Byddai yn fendith i boll ieuenctyd Cymru ei gwrando, a mynu byw yn ol cyfarwyddyd ei gwersi. Cad- eiriwyd gan y Parch J. Joues, diweddar weini- dog y He, yn ffraeth a phwrpasol iawn. a rhyngddo ef a'r darlithydd, cawsom oil wield o'r fath ag a garem. W.W.
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL .PONTYPRIDD.
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL PONTYPRIDD. Y mae pwyll'gor y babell ar gyfer yr Eis- teddfod bon, mewn cyfarfod a gynaliwyd gan- ddynt prydnawn dydd Mercber diweddaf, dan lywyddiaetb Mr D. Leysbon, wedi pen- derfynu derbyn cynygiad Mr Fishburn, Nia- gara Hall, Llundain, am yr adeilad haiarn sydd ganddynt, yr hwn a wertbant, ac a rodd- ant i fyny am £1,550, ac a ffurfia ganolran yr Eisteddfod. Gwneir porth allanol o gwmpas yr adeitad hwn, fel y bydd yr oil yn ddigon eang i gynwys 20,000 o b.>bl. Bydd yr adeilad baiarn ei hun yn ddigon eang i gynwys 8,000 o bobl, a dywedir fod cwmni yn awr yn cael ei ffurfio er ei brynu, a'i gadw i fyny mewn lie cyfleus yn Mhontypridd.
TEYRNGED Ail GALE NIG.
TEYRNGED Ail GALE NIG. Cyflwynedig i Griffith Thomas, Ysw Manager y Maerdy, am ei galenig o Lyfrau gwerth- fawr i Ysgol Sabbothol Bethania, Cwm- twrch. Parch a bri y ddaear yma Ynt astroniaid pell i rai; Ereill wedyn fythol ddringa Fryn enwogrwydd mwy neu lai; Un o'r cyfryw ydyw'n harwr, Gwr Samaritanaidd iach; Hyn yw banes Goruchwyliwr Glcfa'r Maerdy, Rhondda Fach. Y mae'n gabledd anrhydeddu Llawer corach, baedda sen; Clod i'r cyfryw yw pentyru Marwor tanllyd ar eu pen Ond am Griffith Thomas yma, Ni raid ofui hyny, na, Gwyr Betha.nia oil ddymuna Iddo flwyddyn newydd dda. Mae ymweliad ambell Gristion, Ofna Dduw, a barcha ddyn, 'N anfarwoli'i negeseuon, Fr yn few Mr Thomas yn ddiweadar Er ein cysar bendith ddaeth O'i ymweliaÃ, fel uadawa'i; Don ei h.Lrgraff ar y traetb. Mae ei glod fel goruut. A'yUwr Medrus yn aruchel iawn Ond mewn crefydd mae ei gryfdwr, Gwisga yr arfogaeth lawn Nis gadawa i grefydd loew Yn y Maerdy ar ei ol; Mewn gweithredoedd dwg ei enw Fel haf awel ar y ddol. Bydd ei enw'n gysegredig Mwy yn ein calonau cu, Am ein cofio a chalenig Ddechreu'r flwyddyn '93; Fel bu teulu bach Bethania Gynt i'r lesu lawer tro, Byddwn ninau pan ymwela Mr Thomas mwy a n bro. Dyma gofeb o ymweliad Llaw a chalon estron-ddyn, Wnaeth enynu fflam o gariad i Yn nghalonau'r plant bob uu Siarad wna r cyfrolau bylaw Wrthym ni gyfrolau maith, Ar haelioni i hyrwyddaw'r Ysgol Sul i wneud ei gwaith. Boed rhagluniaeth iddo'n dyner Tra parhao dyddiau 'i oos, Ac na ddeued un gorthrymder Baro iddo fraw na gloes I Duw'n rhwydd' bellach yw'n dymuniad Yn Bethania, fawr a man Pan yn marw caed dderbyniad Cynes, fry, i wlad y gan. Dros yr Eglwys. DEWI GLAN TWRCH.
'JOSEPH' YN ABERDAR.
'JOSEPH' YN ABERDAR. Nos Lun diweddaf rhoddwyd ail berfformiad o'r ddrama ragorol uchod yn y Neu&dd Ddir- westol, gan Gor y Gadlys, ac er fod yr hin dipyn yn arw, yr oedd y neuadd eang yn llawn. Yn ngwyneh y ffaith fod y cor wedi perfformio mor ddiweddar o'r blaen, a bod y neuadd ar yr acblysur naor feichus o lawn, yr oeddym wedi meddwl y cawsem ddigon o le y tro hwn, ond cawsom ein siomi; yr oedd y neuadd yn llawn yn mbell cyn amser dechreu. Yr oedd y per- fformiad y tro hwn, os oedd lie, yn rhagori ar y tro o'r blaen, ac y mae y cor a r arweinydd ieuanc yn deilwng o glod am anrhegu y cy- hoedd a gwledd na ellir ei gael yn Aberdar yh fynych. Yr oedd yn bleser genym weled yr awdwyr galluog yn bresenol, a'u clyw^d yn dwyn tystiolaeth mor uchel 1 deilyngdod y perfformiad. Y mae y cymyriadau mor lluos og, a r rhai a'u cynrychiolent yn ddieithriad wedi gwneud eu gwaith mor dda, fel y pa^ai gofod i ni basio unrhyw nodiadau araynt; ond gwn y maddeua y cyfeillion i ni am r duo Dina a Jacob, a Pharaoh a Joseph, I JI y rhai a gymerasant y rhan fwyaf bla^ii law. Cynrychiolid y chwaer gan Miss Annie Jones, ac nid oeddem yn synu clywed awdwr y gerdd- oriaeth, Efell Trefor, yn dweyd fod wedi cael fnwy na'i foddloni a'i datganiadau, a'i bop'yn deilwng o gefnogaeth y cyhoedd. G 1 niibth y tad (D. L. Edwards), y brenin (J. I jSliiis), a'r prif gymeriad JoF?ph, en gwaith 'hwythau yn dda iawn. Deallwn fod y parti yn bwriadu rhoddi perfformiad yn Cwmaman nos Fawrth nesaf, a gobeithiwn weled pobl gwaelod Aberaman, Capcoch, a'r Cwm yno yn lluosog, a sicr yw na fydd iddynt edifarbau.
RIGOS.
RIGOS. DARLiTH.— Nos Iau, Chwefror yr 2il, yn nghapel y Wesleyaid, traddododd y Parch. J. Griffiths, Aberdar, ei ddarlith benigamp ar Samuel Bn,dburn.' Wedi i "Ir Morgans roddi emyn allan i w ganu, ac i Mr Howells weddio yn fyr, pasiwyd fod Mr Watkins, Aberdar, i lywyddu hyd nes y denai y llywyd apwyntied- ig i mewn, sef Mr T. Evans, Hirwaun, yr hwn a luddiwyd i allu cyraedd cyn haner y cyfar- fod. Nid oes dim ond da i'w ddweyd am y ddarlith, ac yr ydym yn sicr fod pawb yn gresynu na buasent yn gwybod rhagor am y gwr mawr" oedd yn wrthddrych iddi. Eiddunwn i Mr Griffiths lwyr adferiad i iechyd, fel y gallo barbau i wasanaethu ei enwad a'i genedl.
Advertising
DYGWYDDODD damwain i'r peirianau plumpio yn nglofa. No. 1, Bedlinog, nos Fercher diweddaf, yr hon a achosodd nad allai gwaith gael ei gario yn mlaen yno am beth amser. Gorfuwyd codi hyd yn nod y ceffylau o'r pwll. j