Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
20 articles on this Page
NODION MIN Y FFORDD.
NODION MIN Y FFORDD. MARWOLAEIH OFFEIRIAD. Cofnodwn gyda gofid am farwolaeth y Parch. Lewis Morgan, M.A., periglor St. Hilary, Pontfaen. ijymerodd yr amgylchiad le dydd Iau yn ei breswylfod, wedi cystudd Iled faith. Gwasanaethodd yr ymadawedig fel curad yn Broome, Norfolk, am beth amser, ac yn 1853, derbyniodd ofal Eglwys Brewis, ger Llanilltyd Fawr. Cafodd wedi hyny Eglwys St. Hilary i weinidogaethu ynddi, ac yn hon y gwasanaethodd olaf. Bu yn ysgrif- enydd i Fwrdd Addysg Sir Forganwg am flynyddau lawer. Gwelsom Lewis Morgan yn ngwmni hynafiaethwyr goreu yr oes. Hoffai hynafiaeth yn fawr. Yr oedd yn ysgolor gwych, ac yn foneddwr hawddgar. Mae wedi trealio y rhan fwyaf o'i oes yn Mro Morganwg.
GWEITHGARWCH CREFYDDOL.
GWEITHGARWCH CREFYDDOL. Adeiladwyd capel y Bedyddwyr Seisonig (Bethel), Tonypandy, yn 1879. Y mae -6500 o'r ddyled wedi ei symud yn ystod y chwech mlynedd diweddaf, Dyled bresenol yr addol- dy yw £ 2,000. Y mae ar lyfr yr Ysgol Sul 221 o aelodau, Mr. James Norman yw yr arolygwr. Ysgrifenydd, Mr. Percy Phillips, a Mr. James Thomas, Traffic Manager, yw ar- weinydd canu yr Ysgol Sabbathol. Ceir yn nglyn a'r addoldy dan sylw Obeithlu (Band of Hope) addawol iawn. Yr arweinydd ydyw Mr James Morris, a chynorthwyir ef gan Mr. J. J. Thomas. Mr. W. Stephens sydd yn chwar- eu yr harmonium, a cheir gwasanaeth Mr. W. H. Davies wrth yr offeryn pan fydd galw. Y Parch. B. Davies yw y gweinidog. Y mae Mr. Davies wedi gwasanaethn am ngain mlynedd yn y cylch pwysig hwn yn Nghwm Rhondda, deuddeng mlynedd yn Nhreorci, ac 8 yn Nhonypandy. Hoffir Mr. Davies yn fawr fel pregethwr a bugail. Y mae yn ber- ffaith gartrefol yn y ddwy iaith, ac y mae hyn yn ei gymhwyso i lanw pob cylch o bwys yn ddieithaiad. Y mae y ffeithian uchod yn profi fod y gweinidog a'r eglwys yn weithgar dros lwyddiant yr achos da sydd mor hoff gan- ddynt ei fawrhau.
HARDD BRIODAS.
HARDD BRIODAS. Unwyd mewn glan briodas Rhag. 28, Mr. John Lewis, A.O., Clydach Vale (mab Edward a Jane Lewis, gynt o Penylan, Aberystwyth), a Miss Kate Lewis, merch Edward a Jane Lewis, o Salem, Aberystwyth. Aed drwy y y gwasanaeth priodasol yn nghapel yr Anni- bynwyr, Baker St., gan y Parch. Job Miles, yn eglwys yr hwn y mae Mr. Edward Lewis yn flaenor parchus. Yr oedd tad y briodas- ferch, ei dau frawd, a'i chwaer, a brawd y pri- odfab, ac amryw ereill yn y briodas. Wedi dyfod allan o'r addoldy, aethant ell i breswyl- fod Mr. Evans, grocer, Bridge St., lie yr oedd boreufwyd wedi ei barotoi gan air. Evans, a mwynbawyd o'r danteitbion gan amryw, a dyn:unodd pawb hawddfyd a llwyddiant i'r par ieuanc. Cafodd y briodasferch a'r priodfab lawer o anrhegion gwerthfawr. Ymadawodd Mr. a Mrs. Lewis yr un dydd am Birmingham, lie y treuliasant eu mis mel. Mr. John Lewis (y priodfab) yw arweinydd canu Libanus (T.C.), Clydach Vale. Mae cyfaill iddynt wedi gwneud y llinellan canlynol iddynt: 4 Mae cariad mor ddystaw a'r gwlithyn Yn disgyn ar fynwes y byd, A'i rwyd yn ddeniadau hudolfawr Mae n tynu rhai ieuainc yn nghyd. Bu John a'i deg feinwen yn rhodio Heb gofio fod cariad a'i saeth Yn barod ar linyn ei fwa Yn bybyr am ddechreu ei waith. Fe dynwyd y iiinyn, y saeth aeth yn neges, Priodwyd y ddeuddyn yw diwedd i'w hanes.
BRIGYN AR FRIGYN.
BRIGYN AR FRIGYN. Bywedir fod o chwech i saith cant o blant yn mogi yn ddamweiuiol bob blwyddyn yn Llundain wrth gysgu gyda'u rliieni. —Cynal- weld ejl-vys Z xic ei clxyfar- I fodydd blynyddol, Ionawr 3ydd a'r 4ydd cy- fisol. Prcgethwyd i bwrpas ar yr achlyusir gan y Parchn. A. Morgan, Maesteg, a J. R. Jones, Pontypridd.—Ystori wan iawn ywhono fel rheol sydd a Peidiwch dyWeyd wrth neb' yn ddiweddglo iddi.-Pedwar o arweinyddion Eisteddfodol cymwys,—Nathan Wyn, Trithyd, Oenin, ac Ap Rhydderch.—Mae ysgol Bab- yddol yn Nghwm Raondda, ac mae dros gant o blant yn perthyn iddi. Y mae wedi ei sef- ydlu yn Nhonypandy.
Y CYNGOR SIROL A MR. OWEN…
Y CYNGOR SIROL A MR. OWEN HAR- RIS, GROCER, TRECYNON. Mr. Gol.—Yn gymaint ag fod y si wedi myned ar led trwy'r gymydogaeth fod Mr. Owen Harris yn myned i sefyll yn yr ethol- iad nesaf yn erbyn y Parch. Richard Morgan am aelodaeth ar y Cyngor Sirol, dymunodd arnaf gywiro y camarweiniad hwn trwy gyf- rwng y DARIAN. Dywedodd wrth rhyw un neu ddau mewn ffordd o joke, fel y dywedir, ond ar yr un pryd nid oedd yn meddwl y bu- asai yn myned yn mhellach. Felly nid oes raid i bleidwyr y Parch. R. Morgan bryderu dim yn y cyfeiriad hwn; ac yn ngwyneb fod Mr. Morgan wedi cynrychioli y ddosran hon, yn nghyd a'r sir, cystal yn y tymor diweddaf, credwn, a chredai Mr. Owen Harris, na an- turia unrhyw Ryddfrydwr yn ei erbyn, a sicr i m mai ofer i Dori wneud hyny.—Yr eiddoch, JACOB TREHARNE (Tiberog).
BWRDD YSGOL ABERDAR AC ADDYSG…
BWRDD YSGOL ABERDAR AC ADDYSG UWCHRADDOL. MR. GOL. Yn eich TABIAN glodwiw am Rhagfyr y lOfed, ymddangosodd llythyr cabl- eddus dan y penawd uchod gan un a gyfenwai ei bun yn 'Pen Hydd,' a chan iddo wneud ymosodiadau bawaidd ac angharedig arnaf fi yn bersonol, teimlais yn ddyledswydd arnaf i ysgrifetiu gair, gan ofyn iddo fod mor ddynol a boneddigaidd ag ysgrifenu dan ei enw priodol, yna y gwnawn ymgymeryd ag am- ddiffyn fy ymddygiad yn pleidleisio fel y gwnaethum ar Fwrdd Ysgol Aberdar. Ym- ddangosodd fy llythyr, fel y gwyddoch, yn y DARIAN am Rbagfyr y 17eg, 1891. Ond er i mi roddi llawn tair wythnos o amser, ac felly ddigou o gyfleusdra i Pen Hydd i ateb, uid yw wedi beiddio gwneud hyny. Dylasai dos- barth gweithgar dyffryn Aberdar fod yn ochelgar rhag cymeryd eu harwain a'u cario ymaith gan ddynion gywilyddiant arddel eu bunain yn gyhoeddus, neu a ofnant ysgrifenu dan eu henwau priodol neu adnabyddus. Yn eich TARLUi ddiweddaf, ymddangosodd mynegiad pur ffyddlawn o weitbrediadau ein Bwrdd am Tachwedd y 27ain, 1891. Er fod y mynegiad, fel y dywedwn, yn bar gyflawn, eto, nid yw yn gyflawn a chywir. Prawf,- Siaradoda Ficer parchus Aberdar yn y Bwrdd sonedig, ond nid oes gair am hyny yn y mynegiad. Cyfieithiad yw mynegiad y DAR- IAN o'r hyn a ymddangosodd mewn newydd- iadur arall. Nid yw reporter y cyfryw yn medru y Haw fer fel ag i roddi adroddiad cyf- lawn o'r hyn siaredir mewn cyfarfod. Y mae yn ysgrifenwr cyflym, a chredwn ei fod gyda r goreu sydd wedi bod yn gohebu o Aberdar, eto, gan ei fod yn gorfod ymddibynu llawer ar ei gof, ni eUir dysgwyl iddo fod yn gywir. Gallaf ddweyd mor bell ag y mae y report yn myned yn gysylltiedig & mi, ei fod yn anghywir. Yr hyn a ddywedais oedd, 4 Na charwn gael fy nghamsynied, nad oeddwn i ddim yn myned yn erbyn y dosbarth gweith- gar, gan fy mod yn un o honynt. Pe buaswn yn astudio buddiant personol, buaswn yn pleidleisio dros gynygiad Mr. David Morgan, oblegyd yr oeddwn yn talu yn awr swllt yr wythnos i fy mhlant yn yr Ysgol Uwchraddol. Gan fy mod yn ystyried mai y dosbarth gweithgar oeddynt y trethdalwyr mwyaf, os nid yn uniongyrchol (direct) yn anuniongyrchol yn sicr, nid oeddwn yn teimlo y gallwn eu beichio & threth ychwanegol.' [I egluro fy meddwl, dywedais], 4 Mai nid yn ol cyfartal- taledd (ratio) y codiadau yn y gyflog a'r trethu yr oedd y gweithiwr yn gorfod talu, oblegyd pan fuasai codiad yn y gyflog, a'r dreth yn myned i'r lan fel ag i gyfiawrihwu, perchenogion tai i roi rybydd i godi y rhent chwe' cheiniog yn y mis. Mai nid rhybydd i godi chwe' cheiniog roddid, ond swllt ar unwaith o leiaf, felly ei fod yn gorfod talu yn ddwbl mewn llawer achos.' Gofynaf yn ddi- frifol, a oedd ymresymn fel hyn yn myned yn erbyn y gweithwyr ? Eto, dywedaf, yr heriaf unrhyw un i brofi mai nid felly y siaredais ar y mater hwn. Eto, gyda golwg ar ofni canlyniad yr ethol- iad nesaf, ac nad oedd un pwys genyf roddi fy sedd i fyny, &c. Gallaf ddywedyd nad yw hwn yn adroddiad teg a chywir eto. Fel y gwelir oddiwrth y mynegiad, yr oedd Mr. Henry Davies, mewn atebiad i'r cadeirydd, wedi bygwth yr etholiad nesaf arnom fel Bwrdd. Dywedais inau pan yn siarad ar gynygiad Mr. Morgan fy mod yn barod i roddi fy sedd i fyny i unrhyw un a'i llenwai yn well. Nad oeddwn yn ofni yr etholiad, gan fy mod wedi gwasanaethu mor gydwy- bodol ffyddlon ac effeithiol ag oedd fy ngallu- oedd bychain i yn ganiatau, fy mod yn cydna- bod nad oeddynt yn llawer, ac os nad oedd fy ngwasanaeth yn dderbyniol, fy mod yn fodd- Ion roi fy sedd i arall, a'i fod yn iawn i mi wneud hyny. Gofyuaf eto, beth allaswn wneud yn decach ? ac a ydoedd hyn, fel y deallwyf ei fod yn cael ei ddweyd am danaf, yn heriad i r dosbarth gweithgar ? Own yr etyb pob dyn cydwybodol a gonest, na Yn mbellach, gyda golwg ar fy mod wedi dweyd nad oeddwn yn ei ystyried yn iawn i neb ddyfod a chynygiad o r fath yn mlaen yn awr ar ddiwedd y tymhor, ond ei ohirio yn hytrach i'r Bwrdd newydd. Addefaf yn onest na fu dim erioed yn mhellach o fy meddwl na gwadu bawl Mr. Morgan nac unrhyw aelod arall i ddwyn y cynygiad yn mlaen, er i mi gael fy neall felly gan Mr. Morgan. A bu ychydig eiriau rhyngom ar y mater, eitlir dywedyd yr oeddwn nad oeddwn yn credu ei fod yn deg i wneud hyny mor agos i ddiwedd y term. Ac yn y goleu hwn y darfu i'r Parch. R. B. Jenkins, y Ficer, ddeall fy meddwl fel yr eglurodd pan yr atebodd i Mr. Morgan, mai inexpedient i'w ddwyn yn mlaen yr oedd efe wedi sylwi oedd fy meddwl, ac felly yr oedd, fel y dywedais mewn eglurhad pellach i Mr. Morgan. Yn awr, saif y mater gyda mi yn gywir fel hyn,— y mae y dosbarth gweithgar wedi cwyno llawer fod y Safonau 4yde a'r 5ed yn rhy uehel, ac y mae ceisiadau mynych wedi eu gwneud i gael y bechgyn bach i'r gwaith cyn eu bod yn 12eg oed. Y mae canoedd o deuluoedd, gwaethaf y modd, wedi gorfod myned a'r plant i'r gwaith gyda eu bod yn 12eg oed, ac wedi pasio y 4th Standard. Pa- ham ? Amgylchiadan cyfyng a gwasgfeuon yn eu gorfodi i hyny. Yn awr, gofynaf a ydyw yn deg i'r cyfryw dealuoedd gael talu yn rhanol am ysgol ac Addysg Uwchraddol i blant dynion ereill nad ydynt yn well na hwythau, ond eu bod yn fwy ffodus eu ham- gylchiadau, hyd nel9 y byddo y plant hyny yn UN neu DDWY AR BYMTHEG oed ? Dywedaf fi, Nac ydyw; a dyna, yn wir, oedd fy mhrif reswm drwy bleidleisio fel y gwnaethum. Gorfu i mi fyned i'r lefel a'r pwll yn grwt eg ".ran liai nag wgth niheythl oed. Nid wyf I erbyn heddyw yn waeth o hyny, ac nid oes arnaf gywilydd o'i herwydd. Ond y mae Deddf Seneddol yn rhwystro i hyny gymeryd lie yn awr. Ond y mae canoedd o fechgyn bychain yn gorfod myn'd i'r gwaith pan yn cldeuddeg, felly nid wyf yn ei ystyried yn deg a'r bechgyn bychain hyny, a'u rhieni gweith- gar a diwyd, i'w gorfodi helpu talu am Ysgol Uwchraddol i iechgyn ereill un ar bymcheg oed sydd ddim mewn un ystyr yn well na hwynthwy eu hunain. Bum i yn talu 1/6 yr wythnos i'm plant yn yr Ysgol Uwchraddol yn Aberdar. Yr wyf yn awr, fel y dywedais yn y Bwrdd, yn talu swllt. Yn ol oedran, ac wedi pasio y Safonau, dylasai fy mab hynaf fod wedi gweithio pedair blynedd a haner; ond gan fy mod i yn dewis ei gadw yn yr ys- gol cyhyd, y mae yn iawn i mi, ac nid neb arall, i'w gynal, a thalu ei dreuliau. Dyna i ti, weithiwr gonest a pharchus, fy rheswm am bleidleisio fel 'y gwnaethum. Nis gallwn fod o'r gydwybod a votio rhan o draul ysgol fy mhlant, allent fod yn gweithio, ar ddynion ereill a'u plant sydd yn gorfod myned i'r gwaith gyda bod y gyfraith yn caniatau idd- ynt. Myfi yw yr unig aelod or Bwrdd, cred- wyf, sydd a phlant yn yr Ysgol Uwchraddol, ac wrth beidio ategu cynygiad Mr. Morgan, aethum yn erbyn fy muddiant personol; ac os ystyrir fy mod wedi gwneyd yn anghywir o'r ivrong wrth hyny, dylaswn gael credit fy mod wedi bod yn egwyddorol a chydwybodol yn y mater. Nid wyf wedi gwneud ond ychydig sylw o lith unochrog ac annynol 4 Pen Hydd,' ond y mae digon o 4 yd yn yr Aifft' ar ei chyfer. Gall ddyfod allan o'r llwyn, y mae wedi ei weled a'i adnabod, ac y mae yr hyn a ddy- wedais yn fy llythyr diweddaf yn gysylltiedig ag ef yn aros. Gan fy mod i, Mr. Gol., yn ysgrifenu yn y goleu, dan fy enw priodol, ystyriwyf mai teg fydd i bob un arall a ewyllysia ddweyd gair ar y mater dan sylw, ac yn neillduol yn gysylltiedig a mi, wneud yr un peth. Credwyf y dylid bod yn onest a dynol gyda phynciau o'r natur hyn. Yn diobh i chwi am eich gofod gwerthfawr a'ch hynawsedd arferol, y gorphwysaf, yr eiddoch yn gydwybodol, Gadlys. B. EVANS.
--CLYDACH VALE.
CLYDACH VALE. Rhagfyr 29ain, 1891, unwyd mewn glan briodas yn nghapel yr Annibynwyr. Aber- ystwyth, Mr. John Lewis, A.C., Clydach Vale, a Miss Kate Lewis, Aberystwyth. John Lewis ddoeth ddewisodd—ei asen, Mun iesin a hoff odd I hon yn glau ei bun glodd, Ac i'w rhwydi y cu redodd. Rhodio gaiff yn y rhwydi-drwy ei oes, Druan bach, a'i drosi; Yn mhob nwyd yn rhwyd bydd hi, Nad hawdd i dd'od o honi. Ar uniad y par anwyl,—rho'wn hwre Hyrwyddol i'r perwyl; A boed hedd y byd a'i hwyl Yn brysio idd eu preswyl. Hir ddyddiau mewn dedwyddwch-flo iddynt Feddianu yn ddidrwch Llwyddiant 'ynt, a phlant yn fflwch, I ddenu eu dyddanweh. W.O.
Advertising
BEULAH, CWMTWRCH. rr AER ddymunir ar i bawb sydd yn berchen beddau yn y fynwent gysylltiedig a'r eglwys uchod, i dayfod i'w harddel a'u glan- hau o hyn i'r dydd cyntaf o Ebrill, 1892, a phwy bynag na chydsynia a'r uchod, bydd hawl gan y frawdoliath yn y lie wneud fel y gwelont yn oreu a'r cyfryw. Dros yr eglwys, TITUS MATHIAS, Arolygydd y Fynweht. RHYBUDD. NID wyf fi, Thomas Roberts, yn gyfrifol ar ol y dyddiad hwn am unrhyw ddyled a dyno fy ngwraig, Sarah Roberts, 14, Glyn- mynach Street, Ynysybwl, ar fy enw. Dydd- iedig Ionawr 4ydd, 1822. Arwyddwyd.-THOMAS ROBERTS. Tystion -David Evans, John John. SALEM, LLANILLTYD FAERDREF. pYNELIR YR 16EG EISTEDDFOD FLYN- YDDOL yn y lie uchod dydd Gwener y Groglith, 1892, pryd y gwobrwyir yr ymgeis- wyr llwyddianus mewn caniadaeth, barddon- iaeth, rhyddiaeth, adrodd, a chwareu. Llywydd,-Mr D. Leyshon, Pontypridd. Beirniad y canu,—Mr W. H. Powell, A.C., Merthyr Tydfil. Ar\veinydd y dydd, a beirniad y cyfansodd- iadau,—Mr Iwan Jenkin, F.R.G.S., golygydd y Free Press, Pontypridd. Cyfeilydd y dydd,—Mr Edwards, Hopkins' Town, Pontypridd. I'r cor, heb fod dan 80 o rif, a gano yn oreu Dated mae Rhwymau Caethiwed,' J. Thomas, gwobr 20p I'r parti o wrywod, ddim dan 40 o rif, a gano yn oren Cydgan y Medelwyr,' gan D. Jenkins, Aberystwyth, gwobr 5p., a 10/- i bob arweinydd anfuddugoi. Am y Bryddest oreu i'r diweddar Mr Jabez Evans, The Cottage, Llanilltyd Fardref, gwobr 5p Am y Traethawd goreu ar 4 Judas Iscariot,' gwobr 15/- Rhoddir gwobrwyon da am unawdau ac adroddiadau fel arfer, Am y gweddill o'r j testynau gwel y program, i'w gael gan yr ysgrifenydd am y pris arferol.—Thomas i Williams, Maesyffynon, Llantwit Faerdref, ] Pontypridd. ] < pYMMER COFFEE TAVERN.—Y mae y Cymmer Coffee Tavern yn agos at y Rhon. ] dda and Swansea Bay Station, ac ar gyfer y t Signal Box, ac wedi ei wneud yn gyneus a J chysurus i ymwelwyr. Te, Coffi, a Choooa I yn barod bob amser, a phob math o fwyd yn cael ei barotoi at archeb. Cyfeirier llythyran i at Miss WARD, Ccffee Tavern, Cymmer, via Maesti'g. LargestStock IN WALES. 22CT. GOLD WEDDING RINGS 18CT. GOLD KEEPERS r E NGLISH pATENT LEVE ^yATCHES j JgRAZILIAN CRYSTAL gPECTACL WILLIAMS, WATCHMAKER & JEWELLER, 29,Castle St., SWANSEA. Gymry hoff I de'wch at y Cymro, Os am heirdd fodrwyau aur Oriaduron ac awrleisiau, Gemau, a chadwynau claer. Yspectol gelfydd, hin-fynegydd, Gwres-fesurydd, cwmpawd m6r; Geir gan WILLIAMS, Heol-y-Castell, Trowch i mewn i wel'd ei 'sfcor. Prize Medal Teeth. Gymry, de'wch at y Danedd-wneuthurwr Cymreig, D. Tudor Williams, SURGEON DENTIST, Medical Hall, gyferbyn a'r Qaeen's Hotel, Aberdar. JuJID yn unig y mae y danedd yn ychwanegu at harddweh ac ymddangosiad allanol personau, ond y maent yn angenrheidiol er iawn seiniad geiriau a threuliad ymborth. Gan fod y personau sydd heb- ddynt yn fynych yn methu seinio geiriau yn briodol. ac mewn llawer iawn 0 amgylchiadau yn agored 1 ddiflyg treuliad, biliousness, ac anhwylderau gyfan- soddiadol ereilL Nid rhyfedd gan hyny fod celfyddyd yn cael ei defnyddio er adosod y cyfryw. Y mae y gallu 0 roddi danedd vn lie y rhai a gollwyd, yn awr wedi dyfod i'r fath berffeithrwydd fel nad all neb braidd wybod y gwahaniaeth trwy eu lliw na'u llun, er bod yn ymcnwilwyr. Y gefyniad naturiol ydyw, a all danedd celfydd- ydol gael eu gosod yn Ile y rhai naturiol fel ag i fod mewn gwirionedd vn ddefnyddiol yn gystal ag yn harddweh personol J Nid oes amheuaeth bellacn nad ellir, fel ag i wella dilfyg treuliad, ac i roddi y cyfan- soddiad eilwaith yn ei le. Nid yw yn angenrheidiol, cofier, i dyna gwreiddiau yr hen ddanedd er gwneud fit da, ac y mae y gwaith o barotoi y genau ar gyfer y danedd newyddion, bron yn hollol ddiboen. Tystiolaethau. 4Yr ydwyf wedi bod 0 dan yr angenrheidrwydd 0 dynu amryw o'm danedd yn ystod fy oes, ond gallaf sicrhau na chefais neb i gyflawni v gorchwyl anny- munol hwnw erioed yn well nac yn l'ai diboen na Mr. D. Tudor Williams, Dentist. Ar air a chydwybod. DR. DAVIES, Conwil." Syr,—Y mae yn dda genyf gael y fantais 0 ddwyn tystiolaeth i'ch gallu hyglodus i dynu danedd. Ni chefais neb i gynawnu y gwaith yn well, na chystal a chwi. Byddwch yn sicr o'r job nesaf fydd genyf yn y cyfeiriad hwn. ISAAO THOMAS, Undertaker, &a, Seymour Street, Aberdar." Os ydych yn dyoddef ODDIWRTH DOLUR Y PEN, ANHWYLDERAU Y GERIAWG. DIFFYG TREULIAD, HWYMEDD, GEWYNWST, A DOLUR Y WYNEB, TREIWOH BELENI LLYSIEUOL KERNICK Y maeut yn fyohain. so felly yn bawdd i'w oymeryd, ao nid yw yn aDgenrheidiol i area yn y ty tra yn eu oymeryd. Y maent yn ocyfhaa v cyfausoddiad, ao y maent wedi ea treio gan filoedd, ao wedi eu datgan tel y Y FEDDYGINIAETH OREU YN Y BYD. Tystiolaeth oadiwrth J. BALBIRNIE, Ysw., M.A., M.D., darlithiwr ar 'Physiology,' aw dwr 'Traethawd ar y Turkish Batb,' ka. "Yr wyf wedi archwilio y Peleni a adoa- byddir wrth yr enw 'Kernick's Vegetable Pille.' Yr wyf yn ardystio fod eu defnydd yn hollol lysienol. Yr wyf wedi proi fen heffaith, ac ystyriaf hWJnt y Peleni ryddhaol goreu ag yr ydwVf yn gwybod am danynt, (Arwyddwyd), JOHN BALBIRNIZ, M.A., M.D." Y mae feieni Kernick yn cryfhau a bywiocau yr holl gyfaiiboddiad, ao nid ydyo yn gofyn nurhyw reolau neillduol mewn perthynaa i ym- borth, ao y maent yn oael eu oydnabod fel feddygimaetb oreu sydd wedi ei darganfod Ar wertb mewn blvrhau 7+0, Is Ho a 2a 9o rpHE ABERDARE STEAM LAUNDRY -1- COMPANY, LIMITED, require the ser- vices of a number of women and girls for the Washing and Ironing Departments.—Particu- n lars on application to the Secretary, 53, Dean Street, Aberdare. 1 In aid of a Cottage Hospital. < pO R T H, RHONDDA VALLEY. A GRAND EISTEDDFOD will be held on ] the First Monday and Tuesday in June, 1892, in a Spacious Pavilion. Chief Choral Competitions- 1. To the choir, not under 160, nor over 250 m number, that will sing best 4 Hark, the c deep tremendous voice,' Haydn's Seasons, and Now by day's retiring lamp,' Bishop, first j prize, 100 guineas (. £ 105); second do., 20 8 guineas (£21). To the Male Voice Party, not under 60 nor r aver 100 in number, that will sing best 4 The c War Horse,' D. Jenkins, On the Ramparts,' c first prize, 40 guineas ( £ 42): second do., 10 guineas (Xlo 10s.) t To the Brass Band, not under 20 nor over 26 c In number, that will best play 4 Lucia de I Lammermoor,' No. 71, Bandmaster Journal, ( prize 30 guineas (£31 10s.) Published by c Goo. Bell, 15, Byron Street, Leeds, England. To the Juvenile Choir, not under 40 in lumber, nor over 16 years of age, that will { iing best 4 Mark the Merry Elves,' prioe: LO guineas (.£10 10s. The conductor to choose is many Tenors and Basses as is required. Programmes and all other particulars will j shortly appear. BENJAMIN DAVIES, Secretary. 1 THOMAS RICHARDS, President. I J5! I ° DYMUNWN ALW SYLW PAWB YDYNT AM ORIAWR DDA A RHAD, I FYNBD AT Richard Jones, JEWELLER, 17, Canon St., Aberdare. Carwn hefyd alw sylw neillduol Clybiau Watches a gynelir yma a thraw drwy y cylchoedd, at fy Oriaduron. Ymgymeraf a gwerthu i glybiau am bris mor isel ag unrhyw firm yn y deyrnaa. Cymhellaf a gwahoddaf y cyhoedd i gyferbynu a chyfartalu fy Oriaduron a'r rhai ydynt wedi eu cael o fanau pellenig. Dealler, rhaid dangos papyr gwerthiant yr oriawr y byddis yn ei chyferbynu a fy oriawr i, er gwneud cyferbyniad teg, Na thwyller chwi a geiriau bostfawr Saeson Llundain a manau ereill. Chwilier yn gyntaf pa fath oriaduron ellir gael gartref, gan gymeryd addysg oddiwrth yr hen ddiareb, 4 Nac ewch dros yr afon i gyrchu dwfr.' Deuwoh yma a gwelweh ddigonedd o oriaduron i wneud dewisiad allan o honynt, ac nid cymeryd yr unig un a ddanfonir i chwi gan firms Llundain a manau ereill. Dymunwyf hefyd alw syltC a4 fy Engagement Rings, Modrwyau (Wedding Jlt¡,¡¡;(), a Keepers, yr oil o'r mathau goreu. Ymgymeraf a gwerthu English faient Levet Watches, Capped, ac yn cynwys y elliantau diweddaraf a goreu am X3 Os. Od. ac uchod. R. Jones a wertha yr oriawr uchod, neu unrhyw nwydd arall, yn ei faelfa, gan roddi gwaranteb (warranty) o bedair blynedd, yn ymrwymo am gywirdeb, ar dderbyniad Cheque neu P. 0. Order. Byddaf yn gyfrifol am unrhyw ddamwain gyda't llythyrdy neu y gledrffordd, a thalaf y cludiad. Oriawr neu unrhyw nwydd arall na roddant fodd- lonrwydd, bydd yn dda genyf bob amser i'w cyf newid. Dymunaf hefyd hysbysu fod genyf Glwb Oriaduron yn fy siop ar delerau hawdd. Gan ddiolch i'r cyhoedd am y 74 o flynyddoedd o gefnogaeth y mae fy nhad a minau wedi dderbyn, taer erfyniaf am barhad o'r unrhyw gefnogaeth. Nac anghofier y cyfeiriad 17, CANON STREET, Gerllaw Neuadd Ddirwestol. 4 Goreu arf, arf dysg.' pUBLIC HALL, CWMAMAN, ABERDAR. Cynelir EISTEDDFOD GADEIRIOL Telyn Cymru,' o Urdd yr Alffrediaid, yn y lie uchod, Gwyl Mabon, Chwefrer laf, 1892. Llywydd,—W. Pritchard Morgan, Ysw., A.S. Arweinydd,-D. E. Davies (Dewi Mabon), Ysw. Beirniad y canu,- Mr D. T. Prosser (Eos Cynlais), Treorci. Beirniad y farddoniaeth,—Mr W. Thomas (Morfab), 27, Sunny Bank Street ,Aberdar. Cyfeiles,-Miss S. J. Hitchings, Cwmaman. 0 Prif ddarn—I'r cor, heb fod o dan 60 o rif, a gano yn oreu 'Y Gwlithyn,' Alaw Ddn, gwobr 12p., a Medal gwerth 21/- i'r arweinydd bnddugol; a 10/- i bob arweinydd anfuddugoi. I r.cor o'r un gynulleidfa a gane yn oreu 4 Aberystwyth,' Dr. Parry, o Lyfr Stephens a Jonas, gwobr 3p., a Medal arian i'r arweinydd. I'r cor o blant, heb fod o dan 30 a rif na thros 14 oed, a gano yn oreu 4 Diolchgarwch yr Aderyn,' o'r Cerddor, Rbif 31, gwobr Ip. a chadair i'r arweinydd. Am y Farwnad oreu i'r diweddar DaAid Hitchirgs, Cwmaman, gwobr 3p. 8s. a chadair. Am fanylion ymofyner a Mr D. L. Thomas 55, Glanaman Road, Cwmaman, Aberdar. Y mae y programs yn awr yn barod, ac i'w cael am 19l yr nn, trwy y post, 1ic., gan yr 2 Ysgrifenydd,—JOHN ROBERTS ,122, Fforchaman Road, Cwm-aman, Aberdar. THE ABERDARH AND TRBCYNON DOUBLE PRIZE DRAWING In aid of Thomas G. Morgans, will take place at the Gadlys Vestry Room, on Saturday, March the 13th, 1892. 1, £5. 2, £ 2 10/ 3, A Trousers, value 21/ 4, Dr. Fleetwood s Life of Christ. ro, A Ham. e, A Woollen Frame Picture, value 7/6. 7, A Fancy Mat, value 7/6. 8, A Hatchet, value 7/ 9, A Cambrian Lamp, value 6/6. 10, A Bottle of Brandy, value 5/ 11, A Turnover, value 4/6. 12, t doz. Cups & Saucers, value 3/. The winner of the first prize will receive a Handsome Oil Painting of himself (or herself) valued £ 8 8/ given by Mr. B. Thomas, Photo- grapher, Aberdare. On the same date and place a SECOND PRIZE DRAWING will take place for every 10/- worth of books sold. The Treasurer wiu forward a Complimentary Free Ticket to those that will be entitled to the Drawing. Drawing for Ticket Sellers only: 1st prize, 10/ 2nd, & ard, 2/6. Tickets, -/6 each, or a book of 12 for 5/. ecretary,—Mr George Williams, 12, Meirion Street, Trecynon, Aberdare. MARKET HALL, ABERDARE. Cynelir EISTEDDFOD FAWREDDOG yn y lie uchod dydd Gwyl Mabon, Mawrth 7fed, L892, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr budd- agol mewn caniadaeth, barddoniaeth, chwaren )fferynau cerdd, &c. Beirniaid y ganiadaeth,— J. T. Rees, Ysw., Hus. Bac., Aberystwyth, ac R. C. Jenkins, R.A.M., Llanelli. Beirniad y farddoniaeth, &c., ac arweinydd dydd,-Parch E Gurnos Jones, Porthcawl. I'r cor, heb fod dan 70 o rif, a gano yn oreu Ar Don o flaen Gwyntoedd," Dr. Parry, ;wobr 30p., a dwy gini i'r arweinydd. I'r parti o feibion a gano yn orea Meib y 36n,' D. Jenkins, gwobr 30p., a dwy gini i'r irweinydd. I'r cor o r un gynulleidfa, ddim dan 40 mewn hit, a gano yn oreu 4 Dyddiau dyn sydd fel :laswelltyn,' T. Davies, G.T.S.C., Ebbw Vale, ;wobr lOp. I'r cor o blant, heb fod dan 40 mewn rhff, ta thros 15 oed, a gano yn oreu 4 Deuwch, :anwn iddo ef,' Odlau Mawl, Rhan I., D. W. .ewis, gwobr gyntaf, 5p.; ail wobr, 2p. lOs janiateir y nifer gofynol o rai mewn oed i jynorthwyo er mwyn cydbwysedd. Programs yn awr yn barod, ac i w cael gan rr ysgrifenydd,—THOS. RODERICK, 17, Catber- ne Street, Aberdare. Oynelir Oyngherdd fawreddog yn yr hwyr un wv+- o'r glooh, yn y Temperance Hall. PIABRPHILLY ANNUAL EISTEDDFOD will be held in a large pavilion on Whit- Monday next, 1892. Paittculars will shortly ip^ear.—D. WILLIAMS, Sec.
BWRDD CERDDOROL.
BWRDD CERDDOROL. Cynaliwyd cyfarfod blynyddol Bwrdd Cerdd- orol Dosbarth Rhondda (Tonic Sol-ffa) yn festri capel Bedyddwyr Porth nos Sadwrn. Mae y Bwrdd presenol yn cael ei gyfansoddi o'r personau canlynol:—*fri. Wm. Jenkins, Treorci; M. 0. Jones, Obadiah Edwards, J. Crawnon Jones, Porth; Theophilus Thomas, Tylorstown; Tom Howells, Pentre; Tom Davies, Coedymeibion D. B. Davies, Ton; a Joseph Bowen, Cilfynydd. Apwyntiwyd Mri. O. Edwards, Theopbilus Thomas, J. C. Jones, ac un arall yn 'supervisors.' Ail-etholwyd Mri. Wm, Jenkins, G., Treorci, yn Llywydd, M. O. Jones, G., yn Ysgrifenydd, ac Obadiah Edwards, G., yn Drysorvdd, a hyny yn un. frydol. Mae yr arholiadau chwarterol nesaf i gymeryd lie ar y 16eg a'r 23ain cyfisol, yn Festri capel y Bedyddwyr, Porth. Mae am- ryw yn ymgeisio am dystysgrifau cerddorol y y pryd hyny eto. Dymunwn lwyddiant i'r Bwrdd Cerddorol gweithgar dan sylw.
0 YR HEN LANCIAU MEWN GOFID.
0 YR HEN LANCIAU MEWN GOFID. Mae hen lanciau Cwm Rhondda, bron yn ddieithriad, mewn ofn a dychryn ar hyn o bryd. Maent yn hysbys fod y flwyddyn hon yn un hynod, sef ei bod yn flwyddyn naid (leap year), ac mewn canlyniad mae hawl gan y rhyw deg osod eu serchiadau ar y rhai di- briod a hoffir ganddynt oreu. Dywedir fod rhai hen lanciau yn cadw rlIaa myn'd i ffyn- onau LlanWrtyd, a lleoedd cyffelyb, rhag ofn cael eu dal yn rhwylau Cupid, Mae'n debyg fod y rhyw deg yn mynychu yr ardaloedd a nodwyd pan yn eu dillad goreu, a rhwng hyn a'u gwenau serchog y maent mor ddeniadol a blodau Mehefin, ac arssvyd rhag y pethau yw yr unig reswm a roddir dros absenoldeb rhai o lionynt o'r ruanau y cyfeiriwyd atynt. Deallwn eu bod wedi llwyddo yn eu hamcan- canion yn hyn. ond nid oes modd iddynt gadw y flwyddyn naid rhag d'od yn ei thro, a gofid- iant oblegyd hyn. Ofni y maent y bvdd i'r merched droseddu yn ormodol ar eu hawl fraiut, sel drwy gydio yn eu gyddfau, bodd neu anfodd, a'ucusion. Fel gait o gysur i'r hen lanciau, nil oes achos iddynt ofni eu gwysio am braach of promise, dim ond idd- ynt ofalu na wel neb hwynt yn cael cusan melus. Os fel arall y bydd, perygl y cant dalu yn ddrud am daao. So, look out!
CYFARFODYDD JUWBILI. ,
CYFARFODYDD JUWBILI. Cynaliodd aelodau eglwyf Ebenezer (A) Tonypandy, eu cyfarfodydd Juwbili, dyddiau Snl a Llun, Ionawr 3ydd a'r 4ydd cyfisol. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y _Par2hn. J. Thomas, Zoar, Merthyr; B. Davies, Tre- lech; Oss.an Davies, Bournemouth; Dr. Cyn- onfardd Edwards, Caerdydd; a R. Thomas, Gland wr, Abertawe. Yn ystod y tair blynedd diweddaf y mae £ 2,100 wedi eu casglu at y ddyled, &c. V Parch. E. Richards yw y gweinidog. Mae eglwys Ebenezer yn un lu- ADSOG iawn, ac mae y ffaith uchod, a phethau da ereill yn ei hanes, yn brawf amlwg o'i gweithgarwch a'i gweinidog. Cafwyd gyfar- fodydd rhagoral.
ABERDAR.
ABERDAR. CYMDEITHAS DDADLEUOL Y GWYR IEUAINC.— Ymgynullcdd aelodau y gymdeithas uchod yn Festri Siloa nos Sadwrn diweddaf, gan, feddwl cael darlith gan y Parch. Robertson M.A., ar y testyn, The Bible in Shakespear, rhwystrwyd ef gan afiechyd. I gyflawni y diffyg cafwyd darlith ar Wordsworth,' gan y Parch. D. Christopher Thomas, B.A. Ni chaf- odd ond pedair awr ar hugain o rybudd, ond gwnaeth waith rhagorol. Cafwyd tameidiau blasus ganddo. Ar ddiwedd y cyfarfod gwnaeth Mr. Ishmael Harrios, yr ysgrifenydd, yn hysbys fod y Parch. H. Elfed Lewis. Abertawy, wedi addaw darlith Gymraeg yn rhad ar unrhyw destyn a ddewiso y gymdeith- as. Felly gwel darllenwyr y llinellau hyn fod y gymdeithas yn myned rbagddi.
II * CALFARIA, ABERDAR.
II CALFARIA, ABERDAR. CYFARFOD LmNYDDOL.-Nos Fercher diwedd. af, cynaliwyd cwrdd llenyddol yn y lie uchod Hwn ydoedd yr ail o'r gyfres, ac yn sicr yr oedd yn mhob modd yn tra rhagori ar y cyntaf a gynaliwyd, er fod hwnw yn neillduol o dda. Llywydd y cyfarfod ydoedd Mr. Rees Rees, Ynyslwyd Cottage; Arweinydd, Parch. J. Griffiths, gweinidog. Beirniaid y gerddoriaeth a'r amrywiaeth, Mr. Dd. Richards, Ynyslwyd; a Ffrwdonwy, Aberdar. Gwnaethant oil eu gwaith yn ddehenig dros ben, a chredwn idd- ynt roddi boddlonrwydd i bawb oedd yn bres- enol. Canodd y Calfaria Male Voice Party ddwywaith yn ystod y cwrdd. Hefyd cafwyd c&n gan Miss Lizzie Jones, ac adroddiad gan Mr. D. Thomas. Yr oedd 11a mawr o ymgeis- wyr ar y maes yn nglyn a'r gwahanol destyn- an, a chafwyd cystadleuaeth frwd ac hynod o ddyddorol. Gwobrwywyd fel y canlyn:— Unawd Tenor, Mr. J. Rosser Unawd Soprano, Miss Lizzie Jones a Mrs. P. Morris yn gydradd; Unawd Bass, Mr. Charles Davies. Traeth- awd ar I Pedr, Iago, ac loan,' Mr. E. Evans. Penillion, Gwaredigaeth Pedr o'r carchar,' Mr. E. Evans. Llyt-hyr Caru (mab at ferch) Mr. R. W. Davies. Adroddiad, Y Bywydfad.' Mr. D. Thomas. Darllen ar y pryd, Mr. Wm. -Thomas. Areithio difyfyr, Mr. R. W. Davies Daeth pedwar o bartion yn mlaen i gystadlu ar y don 4 Tiberias,' sef parti o Aberaman parti Brythoniaid; Glan Cynon Party; a Young Musicians (dan arweiniaeth Mr. Jno. Jones). Y parti olaf a gariodd y dydd. Dylid crybwyll fod Miss Botting a Mr. G. Jenkins yn gwasanaethu ar yr Harmonium pan fyddai galwad. Er fod Calfaria Hall wedi ei llanw hyd yr ymylon, eto ymddygodd y dorf yn neillduol o weddus, a phawb mewn hwyl dda o r dechreu i'r diwedd. — Cynelir y cwrdd nesaf Chwefror lOfed, a chlywsom fod llu o gerddorion, beirdd, a llenorion yn prysur hogi eu harfau ar gyfer y frwydr. CLIFFORD.
BIRCHGROVE.
BIRCHGROVE. Nos Sadwrn, Ionawr 9fed, yn Ysgoldy Bwrdd y lie uchod, cafwyd cyngherdd flasus. Cymerwyd y gadair gan y feoneddwr caredig, Mr. A. H. Thomas (Crymlin), Y.H a gwasan- aethwyd gan Miss Kate Morgan, Dowlais; Miss Gwen Rosser, Pontardulais; Mr David Evans, Treforris; a Gwilym Samlet, yn cael eu cynorthwyo gan ddau ddyn ieuanc sydd yn dechreu ymddangos yn gyhoeddus fel cantorion, sef Mr Thomas Maddocks, Birch- grove, a Mr W. Thomas, Clydach. Gwasan. aethwyd ar y berdoneg gan Mri G. Ogwen Hughes ac Iorwerth Prossor, Pontardulais. Wedi anerchiad byr ac i bwrpas gan y cadeir- ydd, awd drwy y rhaglen yn drefnus. Cafwyd datganiadau rhagorol gan yr oil o'r cantorion. Y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant, felly yn y gyngherdd hon; canodd Miss Morgan 'B'le mae'r Amen?' gyda dylan- wad mawr y mae rhyw swyn bendigedig yn y penillion hyn o waith y bardd naturiol Gwyrosydd, yn enwedig wedi eu cyplysu a'r gerddoriaeth aoddedig gan p Glaslyn. Sicr genyf y daw hon yn g&n boblogaidd, os nad felly eisioes. Cauodd Miss Prosser 'Bwthyn bach melyn fynhad' a 'Gyda'r Wawr' gyda llawer o swyn a naturioldeb. Encoriwyd y ddwy foneddiges. Gwnaeth y boneddigion ereill eu gwaith yu ganmoladwy iawn ni rhaid iddynt wrth ffyubaglau. Cafwyd ychydig atodiad at y rhaglen drwy i Mr Henry Harries, tfelincrythan, rhoddi unawd ar y berdoneg, a Ilri Phillip George, goruch- wyliwr, ac loan Davies, Glais, roddi deuawd ar y crwth a'r berdoneg. cafwyd cynulliad lluosog a chyngherdd gampus. Cyflwynir elw y gyngherdd i Mr L. Cynlais Thomas am ei ymdrechion gyda mudiad y Tonic Solffa yu y lie hwn. Penderfynodd ieuenctyd y lie, y rhai a dderbyniasant eu haddysg o dano yn y wybodaeth hon, i roddi testimonial iddo am ei wasanaeth rhad iddynt yn y gorphenel, ac am ei barhad yn yr un cyfeiriad yn bresenol. Hyderwu y bydd i elw da ddeilliaw o'r gyngherdd hon, fel y gellir cyflwyno rhyw- beth sylweddol iddo am ei wasanaeth. Cyflwynir a ganlyn i Miss Morgan a Vliss Prosser:- Kate Morgan, Dowlais, geneth Ion, Un ddifalch, fywiog, swynol, Llais slir, soniarus, fedda hon, Llais deimla'r byd cerddorol; Cawodwyd swyn sy'n d'od o'i phen, Dan dils ei seiniau anwyl, Ar edyn hwyl yr hen "Amen," Aed hi i gyngherdd engyl. Miss Prosser, Pontardulais, sydd Yn eneth ddel, hudolus Naturiol, swynol, fel y dydd Y'ut ei o'vui ,1. C:] melus; Un gynhes yw, aiff "Gyda'r Wawr I wel'd ei hoff anwylyn, Siriola, gwena, ar y llawr, Lie saif y Bwthyn bach melyn." ITT&JSILIB MAI.
Advertising
BRANDRETH'S SUGAR COATED-PILLS purify the btood, clear the vision, and bring health add strength to the weary and worn ont BRANDRETH'S SUGAR OOATED PILLS are a very safe medicine for children. ONE BRANDRETH'S SUGAR COATED PILL taken every day with yoar dluner wilt care indigestion or constipation. Are yoa troubled with SICK HB AD ACHES or Indigestion ? BRANDRETH'S SUGAR OOATED PILLS are the remedy. Agent:—F. W. MANDER, Toe Household Stores, 40 & 41, Commercial St., Aberdare.
Advertising
A PLEASANT, SAFE, AND RELIABLE MEDICINE are BRANDRETH'S SUGAR-COATED PILLS. One taken daily with dinner will cure the most obstinate cases of INDIGESTION and CONSTIPA- TION. Use for Torpid Liver and all Headaches. Ask for BRANDRETH'S SUGAR-COATED PILLS 40 in a box. Price 1/ Agent: F. W. MANDER, The Household Stores, 40, 41, & 42, Commer- cial Street, Aberdare.
TREHARRIS.
TREHARRIS. YMGOM YR ADAR.—Nos Iau, Rhagfyr 31ain, a nos Sadwrn, Ionawr yr 2il, cynaliodd Cor Plant Bethania ddwy Gyngherdd yn Nghapel y Tabernacl (A.), yr hwn yn garedig a ganiat- awyd, o dan yr amgylchiadau y mae Eglwys Bethania ynddynt yn y dyddiau hyn, trwy ymosodiad yr ystorm ddiweddar ar y capel. Rhoddwyd dan berfformiad gwir ragorol o'r Gantawd Gymreig adnabyddus a elwir Ym- gom yr Adar.' Yr oedd dysgwyliadau mawr yn ffynu yn y lie am gael eu llwyr foddloni yn y gwahanol ddatganiadau. Cadeiriwyd yn y ddau gyfarfod gan Mr W. M. Evans, a'r Parch. J. P. Jones, gweinidog Eglwys Beth- ania. Cymerwyd rhan y prif gymeriadau gan y personau canlynol:—Mri. David Thomas, Morris Jones, P. Williams, W. D. Griffiths, W. Rowlands, DavidJones, DavidJohnHughes, ac Iram Hughes, Miss Ann Jones, C. Lewis, Lizzie Jones, Edith Hughes a A. Lewis. Hefyd cafwyd adroddiad da gan Mr. David Davies, a chan gan Mr. W. Ross, ac Overture ar y berdoneg gan Miss Annie Rees. Cyfeil- iwyd yn y ddau gyfarfod gan y brawd ieuainc a thalentog Mr. W. Griffiths. Terfynwyd y ddan gyfarfod trwy dalu y diolchiadau arferol i'r llywyddion, &c. Ewch rhagoch eto, gyf- eillion anwyl, yw dymuniad calon llawer un heblaw LLWYDRUDD. —«
TREHERBERT.
TREHERBERT. Y mae pobl y lie uchod a'r gymydogaeth ar eu huchelfanau yn hyderus ddysgwyl Grand New Year's Treat ddydd Iau nesaf, Ionawr y 14eg, sef perfformiad y Gantawd 4 Esther, the Beautiful Queen,' yn y Public Hall, gan Gor Libanus ac ereill o'r lie uchod, yn cael eu cynorthwyo gan rai o brif gantorion a chantoresau Cymru, yn nghyda'r Treherbert String Band. Yr arweinydd eleni, fel y llynedd, yw y galluog Mr. M. Samuel. Barn pawb yw y try allan yn grand success.
AMMANFORD.
AMMANFORD. Y mae Art Union Mr John Roberts, Clyn- moch Terrace, wedi ei ohirio byd Chwefror laf, 1892. Yr holl lyfrau a'r Duplicates i'w hanfon i'r Ysgrifenydd, Morgan Morris, ar neu cyn y dyddiad uchod.
Y MUDIAD CYDWEITHREDOL YN…
Cafodd y blaenaf dderbyniad anrhydendus ar ei ddyfodiad i'r lie, trwy i seindorf bres Pontardawe, yn nghyda thosf luosog, ddyfod i gyfarfod ag ef i'r orsaf, a buasai Mr. Brown wedi cael yr unrhyw anrhydedd pe wedi gallu cyrhaedd gyda'r nn tren. Cadeirydd y cyfar- fod cyhoeddus ydoedd Mr. James Jenkyn, llywydd y Gvmdeithas, a gwnaeth ei waith yn rhagorol. Y mae pwyllgor y Gymdeithas yn haeddu clod neillduol am eu hymdrechion diflino i ledaenu yr egwyddor gydweithredol yn y lie. Teg yw crybwyll hefyd fod Mr. W. D. Thomas, aelod o'r C entral Fund, wedi bod bob amser yn barod i wneud a allo i gynorth- wyo y mudiad. EWYLLYSIWR DA.