Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
Advertising
D. THOMAS, Hafod, Swansea. Gents' and Ladies' Silver Watches, 18/ 21/ 25/ English Levers, from 52/- to 105/ Guaranteed and kept in order for three years, or exchanged (unless damaged) if not satisfactory.
Advertising
D. THOMAS, I Hafod, Swansea. H WEDDING RINGS & KEEPERS, H GOLD & SILVER CHAINS, &e., ■ EfcECTBO-PLATE, SPECTACLES, H &C. ■ liarge assortment, various qualities, lowest prices. Any article sent carriage paid.
YR WYTHNOS.
YR WYTHNOS. BORE dyc^llau diweddaf cyfarfyddodd tri o ddymon a'u diwedd yn nglofa South Liberty, Bedminster, trwy i gwymp tiwm ddyfod arnynt. Buwyd am rhai oriau yn cael y eyrff allan. Enwaru y trancedigion oeddyiit, William Alford, 47 oed; James Mereweather, 32 a James Vieary, 22. Yr oedd Mere- weather yn y lofa am y tro cyntaf, wedi myned yno o rywle yn Neheudir Cymru,. PRXDNAWN dydd Iau diweddaf gwel- odd beddgeidwad gorff ar wyneb y dwfr yn y North Dock, Abertawe. Wedi gwneud ymchwiliad, cafwyd mai corff wn Daniel Hughes, gweitliiwr llafiiau alcan, Llanelli, ydoedd, yr hwn oedd wedi ei golli er's mis. Yr oedd yn ei logell nodyn am arian o'r gwaith, peth arian, oriawr, &c. Yr oedd ei wyneb wedi ei anafu yn fawr. Yr oedd Hughesynddyn priod ac amryw o blant. Gadawodd Lanelli am Abertawe ryw bum wytbnos yn ol er bod yn bresenol mewn ymdrechfa pel droed. Y MAE Mrs. Minnie D. Morgan wedi ei bethol yn Eaeres Cottonwood Falls, Kansas. Bernir mai cyngor menyw- aidd fydd yn Llywodraethu y ddinas y flwyddyn nesaf. BORED dydd Mawrth yr wythnos ddi- weddaf, cyfarfyddodd dyn ieuanc o'r enw Gcmer James, yr hwn a weithiai gyda'i dad yn nglofa y Park, perthynol i gwmni yr Ocean, Treorci, a'i ddiwedd yn dra d'symwth, trwy 1 gareg fawr, oddeutu 0 z- dwy dynell o bwysau, syrthio arno o'r top. Yr oedd ei dad ar y pryd yn parotoi post i'w osod o dan y gareg, ac wedi gofyn i'w fab symud o'r lie peryglus nes y byddid wedi sicrhau y gareg. CYNALIWYD cyfarfod cyhoeddus o lowyr y Gelli, Tynybedw, a'r Pentre, y dydd o'r blaen, a p 11 en d e r fyn as a n t nad oeddynt i gymeryd eu rheoleiddio mwy- ach gan Sliding Scale. Y mae y cyfryw lowyv vn rhifo rhyw 1,500 o weithwyr. YN nghyfarfod Bwrdd Ysgol Llan- v/yno, y dydd o'r blaen, rlioddodd Mr. H Abraham, Hafocl, rybudd y byddai iddo gynyg ar fod i ddosbartli o addysg uwchraddol gael ei sefydlu yn nglyn Úg im o ysgolion y Bwrdd yn y Rhondda. Dywedodd y llywydd, Mr. J. W. Jones, y byddai iddo yntau gynyg fod dosbarth r-vtielyb i'w sefydlu yn nosbarth Mount- r-, Ash o'r Bwrdd. Y MAE glofa Abergwynfi, yr hon gynt a beithynai i Mr. Thomas Joseph, ond a drosglwyddwyd i Gymdeithas Adeiladu South Yorkshire pan y daeth Mr. Joseph yn fethdalwr, yn awr wedi dyfod yn ol i berchenogaeth Arglwydd Jersey, a hyny o herwydd fod amod neillduol yn y cytundeb gwreiddiol—sef fod glo i gael ei barhaus godi o'r lofa—wedi ei atari. Bu y pwnc o flaen barnwyr y Queen's Bench, ddydd Mercher, yr wvthnos ddiweddaf. Dydd lau diweddaf, cynaliwyd treng- holiad ar gorff dyn o'r enw William Irving, 71 oed, oedd wedi marw yn lihylotdy Castellnedd, o'r inflammation. Yr oedd y weinyddes yno wedi anfon am feddyg y tlotdy at y dyn pan y deall- wyd ei fod yn wael ei iecbyd, ond yr oedd Dr. Rusell wedi gomedd myned, a'r dyn o ganlyniad wedi bod am ddeu- ddeg awr mewn poenau arteithiol heb feddyg i weini arno. Gwnawd syl- wadau priodol gan y trengholydd ar ymddygiad y meddyg, a datganodd y rheithwyr hefyd eu hanghymeradwy- aeth i'w ymddygiad yn yr achos. Y mae yn dda i dlodion ac ereill yn y wlad fod proffeswyr meddygol yn aml- hau, fel na raid bellach ymddibynu ar un meddyg yn y gymydogaeth. Y mae miloedd o esiamplau o esgeulusdod cywilyddus meddygon i'w cael ar hyd a lied y wlad, yn enwedig gyda thlodion. Y MAE gwibdaith yn awr yn cael ei pharotoi o Gaerdydd i Hawarden ar adep" gwyliau y Groglith. Y mae sic- rwydcl wedi ei gael y bydd Mr. Glad- stone yn nhref, a bydd ymweliad a'r lie yn sicr o fod yn ddyddorol. Y mae y tocynau yn cael eu gwerthu wrth y canoedd. YR ydym yn cael fod Mr. William Walker a Mr. Thomas Harry Mattram wedi eu apwyntio yn Inspectors Glofaol cynorthwyol o dan y Llywodraeth. V ODDEUTU 11 o'r gloch boreu dydd Suldiweddaf, cafwyd corff dyn ieuanc o'r enw John Sullivan yn agos i ffwrnes flast No. 2, Dowlais. Yr oedd y tranc- --dig yn gweitliio yn y cast house, a gwel- yd ef awr cyn yr adegy deuwyd o hyd iddo, yn myned i'r cyfeiriad y cafwyd ei gorff. Bernir ei fod wedi cael ei ladd gan y nwy gwenwynig a anadlodd. Nid oes ond ychydig er pan y daeth o'r Iwerddon. Y MAE yn ddrwg genym ddeall fod y Parch. Kilsby Jones yn awr yn wael iawn ei iechyd. Ei anhwyldeb ydyw Inflammation oj the Lungs, wedi ei ddwyn oddiamgylch gan anwyd trwm.
Advertising
COLBREN JUNCTION. Cynelir EISTEDDFOD Flynyddol yn y lie uohod eleni eto, mewn pabell eang a onyflena, Awst 5ed, 1889-Buk Holiday. Ceil manyl- ion pellach yn fasu.-B. T.
GWEITHFAOL A MASNACHOL.
GWEITHFAOL A MASNACHOL. CYFARFOD o GYNKYCHIOLWYR Y GLOWYR YN ABBRDAR. Cynaliwyd y cyfarfod hwn ddydd Lien diweddaf, yn y Bute Arms, Aberdar, pryd y cynrychiolid 160 o lofeydd, yn y rhai y gweithiai 60,277 o weithwyr. Etholwyd yn ilywydd y cyfarfod, Mr. D. Lewis, Brynmawr; yu is lywydd, Mr. John Jenkins, Llanfabon. Etholwyd yn ysgfifen- enydd cynorthwyol, Mr. David Morgan, Plymouth, ac yn tellers, Mr. Henry Dalies, Aberaman, a Mr. Alffred Onions, Abercarn. Caniatawyd i'r wasg fod yn bresenol ac y tir nad oeddynt i gyhoeddi dim mewn cysylltiad &'r ail fater ar y rhaglen. Penderfynwyd galw llechres y glofeydd er dyfod o hyd i'r glofeydd oedd yn cael eu cynrycbioli. Yna cafwyd adroddiad o'r cytundeb cyflog- awl a wnawd rhwng cynrychiolwyr y gweith- wyr ar y gidirg Scale, a chvnrychiolwyr y meistri, sylwedd yr hwn sydd wedi ym- ddangos yn y DARIAN eisoes. Cafwyd yr adroddiad yn Saesoneg gan Mr. Phillip Jones, Abertilleri, yr hwn a ddywedodd mai y cynygiad cyntaf agafwyd gan y meistri oedd pump y cant am Ebrill, a phump arall yn Mai, ond eu bod wedi gwithod hyny yn benderfynol. Pan yr ail ymgynullasant, e* bod wedi cael cynyg 7 yn Ebrill, a 2b rD 2 2 yn Mai; ac os buasai canlyniad archwiliad Ilyfrau y meistri yn daniatau ychwaneg na 2-! yn nechreu Mai, y celid hyny beth bynag fyddai. Rhoddwyd yr adroddiad yn Gym- raeg gan Mr. Isaac Evacs, yr hwn a ddy- wedai eu bod, fel pwyllgor, wedi ceisio rhyw faint o godiad yn Mawrth, ODd fod y meistri wedi gwrthod hyny am fod rhybydd wedi ei roddi i derfynu bob cytundeb ar ddiwedd y mis hwn. Fod un peth yn y cytundeb ag yr edrychai efe arno yn fwy gwerthfawr na'r codiad, sef yr addewid o revciso y Scale, gyda'r amcan o'i gwella ac fel y dywedodd un o'r siaradwyr, fod ul y tymor ar bob cytundeb ac yn awr, gan ei bod yn dymor llewyrchus ar y fasnach, ei fod ef yn credu y byddai delw yr amser da ar gytundeb y Scale nesaf. Mr. D. Morgan a gyfeiriodd at y diwrnod misol a gedwid gan y gweithwyr, a bod y meistri wedi dymuno arnynt, yn gymaint a bod y gweithwyr yn awyddus am ddiwrnod segur bob mis, am iddynt geisio gael gan y gweithwyr gymeryd dydd Sadwrn yn lie dydd Llun. Dywedodd ef ei fod ef o'r farn y byddai dydd Sadwrn yn fwy mantoisiol er cadw y gweithfeydd yn mlaen am yr wyth- ncs. Yn nghylch tynu yn ol y rhybndd, fod y rhybudd wedi ei dynu yn ol fel rhybudd cyffredinol, ond nad oedd felly yn bresenol; os cedd rhyw berson am newid ei! lofa neu ei wlad, fod y rhybudd a roddwyd yn nechreu Mawrth yn gwneud y tro. Adroddodd Mabon swm a sylwedd yr hyn a ddywedwyd gan Mr. Morgan, yn Saesonig. Wedi cael yr adroddiad, pasiwyd pender- fyniad, a hyny yn unfrydol, fod yr adroddiad a gafwyd yn foddhaol, ond fod pwnc dydd- iod yr wyl fisol, yn gymaint ag nad oedd ar ragdrefn y dydd, i'w anfon yn ol i'r glofeydd, er cael eu barn arno mewn cyfarfod dyfodol o gynrychiolwyr. Wedi ail ymgyfarfod yn y prydnawn, dechreuwyd siarad am y priodoldeb o gael uu.Scale i holl Ddeheudir Cymru, pryd yr aeth y cyfarfod braidd yn gynhyrfus, a hyny o herwydd fod rhai glofeydd yn syniaw nad oedd eisieu Scale o gwbl; ereill am gyfnewid a gwella yr hen, tra y siaradai rhai o gyfeill- ion y glo tai yn gryf am gael Scale iddynt eu hunain. Wrth weled a chlywed y siarad cryf oedd yn erbyn egwyddor y Scale, dywedodd Mr. D. Morgan fod yn rhaid iddynt gofio eu bod hwy, fel cynrychiolwyr y gweithwyr ar y Scale, pan y rhoddwyd iddynt y llawn awdurdod yn y cyfarfod diweddaf i drafod pwnc y cyflogau, wedi gwneud y cytundeb a wnawd ar ran gweithwyr y Deheudir a Swydd Fynwy ar y dealldwriaeth fod egwyddor y Scale yn cael ei fabwysiadu a'i gadarnhau; ac os oeddynt yn myned i daflu y Scale dros y bwrdd, fod y cytundeb a wnawd hefyd yn myned yr un ffordd, mai un rhan o'r cytundeb, ac efallai y rhan bwys- icaf, oedd iod y Scale i'w hail ystyried a'i gwella. Yn mhen enyd pasiwyd y penderfyniadau canlynol:— 1. Fod y cyfarfod hwn o'r farn mai y peth goreu er budd a llwyddiant gweithwyr a masnach lofacl Deheudir Cymru a Swydd Fynwy, fyddai cael un Scale gyffredinol i'w llywodraethu. 2. Fod pwyllgor o 12 o bersonau i'w apwyntio er cymeryd o dan ystyriaeth y gwelliantau sydd yn angenrheidiol yn y Scale bresenol—y deuddeg hyny i gynorthwyo a chydweithredu ag aelodau presenol y Scale ar ran y gweithwyr. 3. Fod yr holl welliantau a ystyrid oedd yn angeurheidiol, i'w hanfon mor gynted ag y gellid, o bob glofa, i ysgrifenydd presenol y gweithwyr ar y Scale, sef Mr. Lewis Miles, Bedwas, MonnnuthBhiie, y rhai a osodid o flaen y pwyllgor penodedig, pan yr ymgyfarfyddant, i'w hystyried. 4. Mai y personau canlynol oedd i ffurfio y pwyllgor i ystyried y gwelliantau angen- rheidiol ar y Scale, ao i gydweithredu a'r aelodau presenol,-J ohn Thomas, Garw Thomas Davies, Gelligaer; James Collins, Rhondda; a Lewis Jenkins, Castellnedd, ar ran gweithwyr y glo tai Enoch Rees, Bryn- amao, ar ran glowyr y glo careg, a Mi. Henry Davies, Aberaman; Thomas Isaac, (Daronwy), Treorci; David Thomas, Great Western; David Morgan, Merthyr; William Whitcombe, Mountain Ash; David Lewis, Brynaman; ac Alfred Onions, Abercarn, ar ran gweithwyr glo ager. 5. Fod y personau hyn, mor belled ag yr oedd y glo mor a chareg ya myned, i'w talu o drysorfa y SKding Scale. 6. Fed dymuniad yn cael ei wneud ar foci i weithwyr yr Ocean nodi darn berson i weithredu ar au rhan hwy, ac i weithwyr Ferndale nodi un person, i gydweithredu ar eu rhan hwythau, ar y pwyllgor hwn. 7. Fod aelodau presenol y Seale i barhau yn eu swyddi, ac nad oes etholiad i gymeryd lie hyd nes y byddai i welliaatau a chyfaew- idiadau y Scale gael eu dwyn oddiamgylch. Terfynwyd y cyfarfod trwy roddi diolch- garweh y cyfarfod i swyddogion y dydd.
--I AT WEITHWYR GLO TAI Y…
I AT WEITHWYR GLO TAI Y RHONDDA. Bydded hysbys genych y cynelir Cyfarfod Misol y gymdeithas uchod yn y Washington Hotel, yr hwn sydd gyferbyn a Station Porth, dydd Llun nesaf, (15fed cyfisol), am haner awr w2di deg yn y boreu, er cymeryd i ystyriaeth ad-drefniad y Sliding Scale. Os oee gan unrhyw lofa welliant i'w gynyg yn nglyn a'r mater uchod, taer ddymunir arnynt anfon eu cynrychiolydd i'r yfarfod. M. WEEKS, Ysg.
AT LOWYR DYFFRYN RIIONDDA,…
AT LOWYR DYFFRYN RIIONDDA, A DEHEU- DIR CYMRU. GYD-WEITHWYR,—Mewn cyfarfod neillduol o gynrychiolwyr y Rhondda, a gynaliwyd yn y Bate Arms, Aberdar, boreu dydd Llun diweddaf, deuwyd i'r penderfyniad can- lynol yn unfrydol:—"Fod y cyfarfod hwn, yn gymaint ag fod tna 40 o bersenau allan ar Strike yn y Great Western, ac wedi bod allan am bedair-wythnos ar-ddeg, yn dymuno ar, ac yn taer anog gweithwyr y Cwm i anfon cynorthwy arlano! iddynt ar unwaith, ac fod cylch-Iythyr yn cael ei anfon allan yn galw sylw y gweithwyr at y ddyledswydd sydd arnynt yn y mater hwn; ac yn ych- wanegol, fod un ymdrech arall yn cael ei wneud i geisio cael terfyn boddhaol ar yr annealldwriaeth." Felly, y mae i'w fawr obeithio y cymer y glowyr yn yr holl lofeydd y mater i fyny yn ddioed, ac y caifi ein brodyr gynorthwy arianol ar unwaith. Yr eiddoch fel arfer, MABON.
GLOWIS Y BARGOED.
GLOWIS Y BARGOED. Cynaliwyd cyfarfod o weithwyr y Darran a'r Cefn, Brithdir, yn Old illill Inn, Bargoed, dydd Llun diweddaf,— Mr. David Williams yn y gadair. Pasiwyd penderfyniad unfryd- ol yn cymeradwyo y penderfyniad y deuwyd iddo yn nghyfarfod y cynrychiolwyr, a llaweclieid yn fawr yn nheifyniac> yr ar- I gyfwng. Ymdriniwyd &'r gwelliataa cynyg- iedig yn y Sliding Scale, ac awgrymwyd fod i weithwyr y glo tai gael Scale yn annibynol ar weithwyr y glo ager, o herwydd y cytun- debau hirion a wneid gan yr olaf, a phasiwyd penderfyniad i'r perwyl hwnw. Cyfeiriwyd ft y budd a ddeiiliai i'r gweithwyr pe y telid y cyflogau yn wyth- noscl, a dewiswyd dau gynrychiolydd i fyned at Mr. Smith, y goruchwyliwr, i ddadleu y cwestiwn. :7.&i ATTLOWYR CYMOEDD Y DAR A MERTHYR. Gyfeillion,—Caniatewch i mi eto eich had- gofio fod ein Cyfarfod 11;01 o'r Dosbarth i'w gynal dydd Llun nesaf, yn y Red Lion, Penheolgeryg, Merthyr Tydfil, i ddechreu am haner awr wedi deg yn y boreu. Cofiwch am anfon cynrychiolwyr yno am fod hwn yn gyfarfod pwysig. Aberdar. D. MORGAN.
----__-------rERUH IEUANC…
rERUH IEUANC FFODUS. Yr wythnos ddiweddai aerbyniodd merch ieuanc oedd ar ymweliad a Chaerdydd, y newydd derbyniol ei bod wedi dyfod yn berchenog ar y swm anrhydeddns o 2,000p. a gwesty yn New York. Y ferch ieuanc ydyw un Miss Bessie McDonald, Nelson Street, Glasgow. Rhai blynddoedd yn ol, bu yn caru ag un Mr. Henry McLeod, yr hwn a preswyliai yn New York er's rhai blynyddoedd. Yr oedd yno yn cadw gwesty, ac yn berchenog ar y Great Eastern Eagle, Turner's Falls, Yr oedd wedi anfon amryw weithiau at Miss McDonald, yn ceisio ganddi ddyfod i New York er priodi &g ef; ond yr oedd arni ofn y siwrnai, ac felly wedi aros nes y mae yn rhy ddiweddar, canys y mae wedi derbyn y newydd ei fod wedi marw ar y 15fecl o'r mis diweddaf. Derbyniodd ar yr un pryd, oddiwrth gyfreith- iwr ei chariadfab, Mr. Fry, New York, gopi o'i ewyllys, trwy yr hon y mae wedi dyfod i feddiant o'r eiddo uchod.
DOUBLE PRIZE DRAWING WILLIAM…
DOUBLE PRIZE DRAWING WILLIAM JONES, ABERAMAN. WINNING NUMBERS: 1490 864 1905 3441 1817 808 3105 577 2674 2318 213 584 525 1823 255 787 2947 3713 SECOND DSLAVVING 18 65 32 All Prizes must be claimed within one month from this date, April 8th, 1839 if not, the same will be null and void. EVAN JONES, Sec.
YR AMERICANIAID A MR. GLADSTONE.
YR AMERICANIAID A MR. GLAD- STONE. Y mae Michigan wedi adeiladu ac enwi tref er anrhydedd i arweinydd anrhydedd- us yr Wrthblaid. Pymtheg mis yn ol yr adeiladwyd y ty cyntaf yn 11 Gladstone, Mich." Heddyw, bostia o fod yn meddu ar boblogaeth o 2,000, set o ystrydoedd gwych- ion, tan-orsaf, goleuni try dan ol, neuadd drefol gwerth pedair mil o ddcleri, pump o eglwysi, tri ysgoldy, chwech o iaw-weith- feydd, un newyddiadur, a haner cant o ystordai masnachol.
I TWYLLWR CYMREIG WEDI EI…
TWYLLWR CYMREIG WEDI EI DDAL. Yn llya heddgeidwaid Abertawe, dydd Ian diweddaf, cyhuddid un John Taliesyn Benjamin,Jo gasglu arian trwy dwyll oddiar nifer o fO ddigion yn Abertawe a'r gymyd- ogaeth. Ii mae yn ymddangos ei fod yn cymeryd d amgyloh lyfr, ar yr hwn yr oedd apel am danysgrifiadau at goigolofn Christ- mas Evans. 0 dan hwn yr oedd y geirian, Y mae John Lawia, Gwernllwyn, yn idyn cyneradwy a theilwng o gasglu at yr achom rhagorol." Yn canlya hyny yr oedd niier mawr o enwau personaa gwladgaroi wedi cyfranu. Profwyd nad oedd y person twyllodrua wedi cael ei awdurdodi gan neb i dderbya tanyigrifiadau at y cyfryw aehos, na neb wedi derbyn dim ag yr oedd wedi ea casglu felly yn dwyllodrus. Trosglvryddwyd ef i sefyll ei brawl. Y mae yn ymddangos mai yr un persan ydyw ag a gasglai yn Merthyr rhyw amser yn ol, gan ddweyd mai iife oedd I Cosmos,' Y mae un Dell ddau o garn-ladron Cymreig yn byw trwy dwyll o'r fath. Os nad ydym yn camsyuied, y mae un o'r cyfryw ar daith yn awr yn Ngogledd Cymru. Cymerer gefal o hen bregethwyr meddw a chrach-fefrdd digymeriad. Dyma y personau sydd yn rhy ddiog i weithio, ond a wnant bob bryntwiith cardotawl. E BWRDD LLEOL ABERDAR.
THOLIAD BWRDD LLEOL ABERDAR.
Cymerodd etholiad Ie yn rhan uchaf Dos- barth Trefol Aberdar, er cael aelod ar y Bwrdd Lleol. Yr oedd tri o ymgeiswyr allan am y sedd, a throdd yr etholiad fel y canlyn Mr. Owen Harris, grocer 788 Mr. J. L. Thomas, goruchwyliwr glofaol 466 Mr. Rees Thomas, goruchwyliwr glofaol 387
DR. T. C. EDWARDS A CHOLEG…
DR. T. C. EDWARDS A CHOLEG Y BALA. Yr ydym yn cael fod Dr. T. C. Edwards wedi rhoddi atebiad nacaol i'r gwahoddiad y mae wedi ei gael gan y Methodistiaid i lyw- yddu eu coleg yn y Bala. Dywedodd ei fod wedi dyfod i'r penderfyniad hwn o herwydd nad oedd yn gallu gweled unrhyw obeithion rhesymol o syfydlu athrofa dduwinyddol eang a chadarn o dan yr amgylchiadau presenol.
Advertising
JfaAL AMERICA. — LAMB & EDWABDS, PASSENGER BROKERS, 4, WATER ST., LIVERPOOL. M y Cludiad Cynorth-wycl a Rh&taf i bob rhan o'r America, Canada, Awsfcralia, Buenos Ayros, a Phatagonia, ysgrifener at y goruch-mylwyr (Llywodraeth) nchod, gan am- gtm stamp. Cyfarfyddireinholldeithwyryn yr orsaf ar eu cyrhaeddiad yn L'erpwl- Cy- merir gofal o'u luggage, a byddwn yn bersoDol yn eu gosod mewn lie cysoras ar fwrdd yr age^loEff y diwrnod v bydd yn hwylio. Llety rbad, o man i gadw'r Lnggage yn ddigost yn L'erpwl. Pydd i deithwyr a chanddynt Passes b'r Am. orica gael cymeryd gofll o hon- ynt genym, so anfonir atynt yr hoil fanyiion parthed y dyddiad y byddis yn hwylio, a pha bryd i ddyiod 1 L'eorfwl. Caniateir tocynan rhad ar y rheilff yrdd i'n teithwyr i unrhyw ran o America neu Canada y dymunont fyued iddo. Frisncs and relatives informed of the arrival of Steamships free of charge. Agents for the Whita Star, Canard, Inmac, GUiOD, Anchor, National, ao Allan liines. The only agents for Patagonia. Information given in Welsh or English. TEMPERANCE HALL, ABERDARE. Two Grand Performances of the Sacred Opera,— -L-% 'DAVID AND GOLIATH,' Will be given at the above hall on Easter Monday, April 22nd, 1889, by b THE ABERDARE CLEE SOCIETY, With New and Costly Scenery, Israclitish and Philistian Costume of the time of King David, at an enormous expense. Chief Cliaracter,, Hilda, the Prophetess Miss MAGGIE MOSES, Aberdarc. David, the Shepherd Boy MR. H ACKROYDE, Principal Tenor of the Celebrated Hnddersfield Choir. Goliath MR. DAVID HUGHES, R.A.M., London. Chorus,—The Aberdare Glee Society, Conductor—Mr. Dan Jones. Orchestra,—The Aberdare Orchestral Society, Conductor—Mr. 0. Chew. Accompanists,—Messrs. R. HowellS and E. Moses. Stage Manager,—Mr. R. R. Price. Doors open at 2.30 and 7.30 plll., to commence at 3 & 8. Admission,—Reser^id Seats, 2s. 6d.; Second Seats, Is. 6d.; Third Seats, Is. JERUSALEM, YSTALYFERA. pYNELIR YR AIL EISTEDDFOD FLYN. YDDOL A CHYNGHERDD yn y lie uchod y Llnngwyn nesaf, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr llwyddianus mewn cerddor- xaeth, barddonlaeth, &c. Beirniad y gerddoriaeth,—Mr. W. James (Eos Morganwg), Aberaman. Y prif ddarn corawl-I'r cor, heb fod dan 50 mewn nifer, a gano yn oren Mawr yw yr Arglwydd,' M. Morgan, Ystaiyfera, gwobr SA 10s., a Batbodyn Anr i'r arweinydd. Yr ail ddarn-I Arglwydd, pAr i mi wybod fy niwedd,' W. D. Thomas, (G), Ystalyfera, gwobw jBl 10s. Oeir manylion pellaoh ar y program, i'w gael gan yr Yogrifenycld,-Rbys Lewis, Co- operative Stores, Yetalyferig. I QUININE BITTERS GWILYM EVANS. Darganfyddiai penaf yr Oes l»*GBenol mewn Me&d- yginiaofch Lysieuol yw Quinine Bitten Gwilym Evans. As gytrff ei ria. weddato iaohaol rhyfeddol oymeradwyir hwa gan brif feMygon gwahanol wied. ydd fel meddyiaeth aicr a dyogel at holl anbwyI. derau y Cylla, yr Afu, a'r Gian. Oeir miloedd o dystiolaethau o bob partli •'r byd yn tystio i'w et. eithiau iachusol, ac ystyrir ef gan luoedd yn feddyg. iniaeth anmhrisiadwy. —— Anhirylderau y Cylla. Provision Stores, 205, SeT- ern Rd., Canton. Anwyl Syr,—Y mae gwerthinia mawr ar eich Quinine Bit. ters yma, a siaradir yn cchel iawn am danynt. Dywjdodd gwraig wrthyf ddoe fod ei gwr wedi bod yn glaf am chwe mis, yn methu eadw dim ar ei gylla er defnyddio pob meddyginiaeth. O'r diw- edd gwnaeth brawf ar eich Quinine Bitters, ac ar ol oymeryd un botelaid, c&f- odd eamwythad mawr, ac nid yw wedi dyoddef dim wedi hyny. Yr eiddoch,— T. PARSONS, Manager. Enyniad yr Ysgy faint, 70, Ynysllwyd Terrace, Aberdare, Gor. 4, 1887.— Anwyl Syr,—Nis gallaf siarad yn rhy ucheram eich meddyginiaeth werthfawr. Bum yn dyoddef oddiwrth enyniad yr ysgyfaint, gwen. did, diffyg archwaeth at fwyd, ac yn y blaen. Cy- ghorwyd fi i wneud prawf ar y Quinine Bitters, a chy- merais bedair botelaid, gan dderbyn lies mawr iawn i mi fy hun. Mae fy mhrof- iad o hono mor dda fel y bydd yn bleser genyf ei gymeradwyo i'm cyfeillion bob amser. Wyf, yr eidd- och, &c,,—G. RICHARDS. 31 & 32 Richardson Street, Swansea. Anwyl Syr,— Wedi dyoddef am ugain mlynedd oddiwrth ddiffyg treuliad, a chael llawer o boen, methais gael dim i wneud ilea parhaol i mi. I O'r diwedd, cymhellwyd fi i wneud prawf o'r Quinine Bitters. Cymerais ddwy neu dair poteiaid a chefais Iwyr iachad. Yr VtYf yn awr yn teimlo yn ddyn arall. Yr wyf yn wir ddi- olchgar i chwi am eioh dar- ganfyddiad anmhrisiadwy. Yr ciddoch,-E. T. JONES. | MeddyginiaethAnmhristadtnj Ty Main Farm, Newbor- ough, Anglesea, Hyd. 3, 1888. Syr,—Gallaf roddi y ganmoliaeth uwchaf i'r feddyginiaeth werthfawr ao anmbrisiedwy hon, sef Quinine Bitters Gwilym Evans. Yr oeddwn mewn gwirionedd wedi meddwl nad oedd gwellhad i fod i mi, ac yr oedd y doctoriaid yn dweyd yn ddistaw bach na buaswn yn gwella o gwbl, ond er mawr syndod a llaw- enydd i mi a'm teulu, pan ddeohreuais gymeryd eich meddyginiaeth werthfawr chwi, teimlais fy hun yn ddyn newydd, a byddaf yn ei ganmol wrth bawb fel y feddyginiaeth oreu rhag nychdod a gwendid. Yr eiddoch, &c., JOHN OWEN. Gwlad Chupat, Patagonia, Tach.5,1888. Anwyl Syr, Yr oeddwn yn teimlo fod fy ngwaed wedi myned yn aamhur ao yn donea, ac yr oedd caothdra mawr yn fy mrest, ond ar ol i mi gy- meryd Quinine Bitters Gwilym Evans, teimiwn fy ngwaed yn cael ei buro ao yn cryfhau, a chefais rydd. had hollol oddiwrth y caethdra yn fy mrest. Yr eiddocb, JAMES HARRIES. Pris, Poteli, 2s. 9c eto dwbl faint, 4s 6c. blwch yn cynwys tair potel ddwbl, 12s. 6c. Gellir cael Quinine Bitters Gwilym Evans yn America oddiwrth y prif oruchwyliwr, B. D. WILLIAMS, Medical Hall Plymouth, Penn I'w gael yn mhob man. Goruchwylwyr yn mhob parth o'r byd. Os ceir unrhyw anhawsder i'w gael, danfonir ef am y prisiau uchod yn rhad a dyogel drwy y post i un- rhyw gyfeiriad yn y Deyrnas Gyfunol, yn uniongyrchol oddiwrth y perchenogion' QUININE BITTERS MANUFACTURING CO. LIMITED, LLANELLY, S. WALES. l Tystiolaeth unfrydol y byd yw mai MEDDYGINIAETH ANGHYDMAROL TW HUGHEb DROPSY PILLS At y Clefyd BUB y maect yn dwyn enw. DROPSY PILLS At y Clefyd BUB y maect yn dwyn enw. Wrth y nodau canlynol gellwch adnabod y Clefyd os bydd wedi gafaelyd ynoch: Diffyg Dwfr, Gravel; Chwydd yn y Traed, Cliniau, Ymysgarc«dd, &c<; Gwynta Uawn- der yn y Bol, Poen yn y Cefn a'r Arenpu Curifid y Galon, Cramp a Chwsg y Cliniaa, Asthma, neu Ddiffyg Anadl, Teimlad o Stiffdra yn y Corff, &c., y rhai ydynt brawf aicr o bresenoldeb Y DROPSY yn y cyfansoddiad, ac y mae yn bwysig peidio esgeuluso defnyddio Meddyginiaeth ar ol teimlo un o'r nodau uchod. Trwy anwybodaeth a diffyg ofal goddefir i'r clefyd marwol hwn i sefydlu a wreiddio yn v cyfansoddiad cyn sicrhau y feddyginiaeth briodol, ac felly terfyna yn angeuol i filoedd yn flynyddol Er sicrhau gwellhad buan a sicr, dylai pob dyoddefydd sicrhau blychaid o'i Pills bydenwog, sef HUGHES'S DROPSY PILLS. EFFEITHIAU RHYFEDDOL AB WYNT A DWFR Ysgrifena y Parch. W. M. Jones, gwein- idog y Bedyddwyr yn Ebbw Yale. Yr wyf wedi fy awdurdodi i anfon y dystiolaeth ganlynol gyda'r bwriad i chwi wn'eud unrhyw ddefnydd cyhoeddus o honi a fernweh yn briodol er lleshad dynolryw. Ymwelais a Evan Francis yn ddyddiol, ao yr oedd y cyflymder gyda pha un y gostyrfgwyd y chwydd anghyfFredin y peth mwyaf rhyfeddol yn fy ngolwg i. x mae Evan Francis yn hen wr 66 mlwydd oed. Dyoddefodd yn ddrwg oddiwrth y DROPSY yn ystod y gauaf diweddaf. Yr oedd wedi myned yn llwyr analluog i ddyfod o'i wely gan y chwydd a'r poen yn ei Gefa, Ymysgaroedd, a'i Goesau Yr oedd yn barhaus o dan ofal y meddyg, ond er hyny myned yn waelach oedd bob dydd. Nid oedd neb yn meddwl y gallai walla mwyach. Yn unol a chyngor rodd- wyd iddo, treiodd HUGHES'S DROPSY PILLS.' Oddeutu y pedweaydd dydd wedi iddo ddechreu eu cymeryd. ymddang- osai arwyddion ei fod yn dyfod yn well. Cysgodd y bedwaredd nos, yr hyn nad oedd wedi allu wneud am wythnosau cyn hyny. Cafodd y Pills yr efleithiau rhy- feddaf ar y Gwynt a'r Dwfr. Yn mhen oddeutu wythnos yr oedd y chwydd yn ei goesau wedi d'od i lawr o 24 modfedd i 12 modfedd. Y mae yn awr mor iach fel y mae yn gallu tieulio wythnos oddi- cartref. Y mae yn teimlo o dan rwyrnau i wneud ei wellhad cyflym a rhy- feddol yn hysbys i'r cyhoedd, fel y byddo i ereill i allu treio y FEDDIGINIAETH WERTHFAWR HON." Syr,—Yr wyf yn ddiolchg&r i chwi am eich darganfyddiad gwerthfawr, sef HUGHES'S DROPS Y PILLS, y rhai a wnaetbent ddaiont mawr i mi wrth i mi gymeryd dim ond dan flychiaid. Yr wyf yn awr yn berffaith iach ac yn ailyn fy ngwaith, wedi bod am naw mis o dan driciaeth meddygol, ond heb gael dim Ue&had hyd nes i mi dreio HUGHES'S DROPSY PILLS. Gwnewch hyn yn hysbys i bawb. JOHN PHILLIPS Colliers' RoWi Treorci. Syr,—Yr wyf mewn sefyllfa i ddwyn tystiol- aeth i rinweddau mawr eioh HUGHES'S DROPSY PILLS. Y mae yr hon oedd yr. ymyl y bedd ao yn dyoddef oddiwrth y Dropsy, Prinder Dwfr, Chwyddiadau mawrion a'r Galon bron ar sefyll, yn awr wedi ei gwell- hau trwyddynt, ao yn teimlo yn wir ddioloh- gar Towyn, Prestatyn. G. DAVIES. Y mae Gwyr, Gwragedd, a Phlant ya mhob gwlad wedi derbyn budd anrhaefch- adwy o'u defnyddio. j3T RHYBUDD. Er mwyn sicrhan pawb rhag twyll, gofalej gael y Trade Mark (Bef linn Diamond) a'vgeir. iau "DROPSY PILLS" oddifewn ar blwch, ao enw JACOB HUGHES ar Stamp y Llywodraeth. Heb hyn twyll ydyw. Ar werth trwy yr holl deyrnas am Is l £ o, 2a 9o, a 4s 6c; trwy y Post, Is So, 2s 11c, a 4s 9o, oddiwrth y perchenog,— Jacob Hughes, D.S. A.PH.S., Manufacturing Chemist, bawb. JOHN PHILLIPS Colliers' Row, Trecrci. Syr,—Yr wyf mewn sefyllfa i ddwyn tystiol- aeth i rinweddau mawr eioh HUGHES'S DROPSY PILLS. Y mae yr hon oedd yr. ymyl y bedd ao yn dyoddef oddiwrth y Dropsy, Prinder Dwfr, Chwyddiadau mawrion a'r Galon bron ar sefyll, yn awr wedi ei gwell- hau trwyddynt, ao yn teimlo yn wir ddioloh- gar Towyn, Prestatyn. G. DAVIES. Y mae Gwyr, Gwragedd, a Phlant ya mhob gwlad wedi derbyn budd anrhaefch- adwy o'u defnyddio. j3T RHYBUDD. Er mwyn sicrhan pawb rhag twyll, gofalej gael y Trade Mark (Bef linn Diamond) a'vgeir. iau "DROPSY PILLS" oddifewn ar blwch, ao enw JACOB HUGHES ar Stamp y Llywodraeth. Heb hyn twyll ydyw. Ar werth trwy yr holl deyrnas am Is l £ o, 2a 9o, a 4s 6c; trwy y Post, Is So, 2s 11c, a 4s 9o, oddiwrth y Perchenog.- Jacob Hughes, D.S. A.PH.S., Manufacturing Chemist, PENARTH, CARDIFF. Goruchwyliwr yn America,—Mr. B. D. WILLIAMS, Chemist, Plymouth, Pa., gan yr hwn y gellir cael hefyd GOMER'S BAug HUGHES'S DROPSY PILLS.'