Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

! POLITICAIDD A SENEDDOL.

News
Cite
Share

POLITICAIDD A SENEDDOL. Bu dau siaradwr ar eu traed yr wythnos ddiweddaf, Yr ydym yn gwybod fod mil- oedd lawer wedi bod yn siarad, ond dim ond dau wrth yr holl genedl, a'r ddau hyny oeddynt SYI'J Michael Hicks-Beach a Syr George Trevelyan. Y mae y ddau ddyn hyn mor alluog. ac wedi cael y fath brofiad, fel y gwrendy y wlad arnynt. Nid ydynt o'r un golygiadau nac yn perthyn i'r un blaid wleidyddol; ond y mae y ddau wedi bod yn llywodraethwyr yr Iwerddon, ac felly yn awdurdod gan eu pleidiau ar v pwnc gor- bwysig hwn. Myn y Weinyddiaeth aRWV- byddu hwn, a gwneir ymdrech pan gyfer- fydd Ty y Cyffredin i gau genau pawb arno, ac Did oes dim yn sicrach na bydd yr ym- drech yn llwyddianus mewn un ystyr, ond ynwaeth nag ofer mewn ystyron ereill. u* Siaradodd Syr Michael wrth ei etholwyr yn Bristol, a goddefer i ni ofyn wrth fyned heibio, pa bryd y bwriada yr aelodau dros Ferthyr anerch eu hetholwyr ? Yn absenol- deb Mr. Gladstone ac Arglwydd Churchill, meddai Syr Michael, y mae yn rhaid i mi a'm cyffelyb bwyso ar y pwnc Gwyddelig, yr hwn na ellir ei anghofio os na eHir symud yr Iwerddon i borthladd New York, Ni ddywedodd paham i New York mwy na rhyw fangre arall, ond nid yw hyn mor bwysig, canys ni ellir symud yr Ynys o'r man y mae yn bresenol, a'r cwestiwn pwysig yw pa fodd i'w llywodraethu. Siaradodd I Syr Michael dipyn yn anibynol ar hyn, ac ni foddhaodd yn hollol ei blaid ei hun, ac wrth gwrs, ei wrthwynebwyr. Pan y siarada Ardalydd Salisbury yn gyhoeddus neu un o'i weinidogion, yr Iwerddon yw baich mawr eu hareithiau, ac y mae llythyrau byrion, pwd- ion ac adgas Mr. John Bright ar y testyn hwn yn hollol annheilwng 0 hono, ac wrth fodd calon Toriaid penfeddal Tredegar a Ilawer man arall. Profa y cyfan mai hwn yw prif bwnc y dydd, ac y bydd yn rhaid ei benderfynu cyn hir. *u* Nid yw ef dros Home Rule, a chyfaddefa fod y Gwyddelod braidd i gyd am hyn, yr hyn a wadir gan Mr. Bright; ond pwy sydd yn gwybod oreu, neu yn well na'u hen lywodraethwr yn Nghastell Dublin. Ofna fod teimlad angerddol yn erbyn Lloegr yn yr Iwerddon, a bod yr etholwyr wedi eu gwenwyno gan y National League. Nid yw yn hyderus y gellir darostwng hwn drwy lywodraeth ormesol am ugain mlynedd, er mai hyn a grybwyllir ganddo fel y feddyg- iniaeth gyntaf. Ond, meddai, mae yn rhaid rhoddi cymaint 0 his i'r Gwyddelod yn eu hachosiou cartrefol ag a nodwyd i'r Alban- iaid. Y mae yma Home Rule, ac mae y blaid Doriaid wedi galw Syr Michael i gyfrif, a'i atebiad ydyw fod yr hyn a lefarodd yn Bristol yn rhan o'i gredo er's blynyddau lawer. Ni fyn Home Rule Mr. Gladstone, ond beth sydd mewn enw, os cyfaddefir yr egwyddor. Nid yw yn erhyn coercion, ond dywed yn bendant fod y Llywodraeth wedi gwneud camsyniadau pwysig. Yn Nghymru ac yn SwyddBenfro y llefar- wyd gan Syr George Trevelyan, ac yr oedd dysgwyliad mawr am dano i'r bwrdeisdrefi haner Toriaidd hyn. I leoedd gweiniaid yr a Syr George, a dywedodd yn ddiamwys wrth wyr Radicalaidd Merthyr, nad oedd ei angen yno. Bu y gynadledd yn llwyddiant yn mhob ystyr, a dylai y wlad yn gyffred- inol ddiolch i awdurdodau y Federation am ddwyn oddiamgylch gyfarfodydd fel hyn. Y maent yn bared i weithio ond cael cym- horth arianol gan Ryddfrydwyr Deheudir Cymru a Sir Fynwy. VJR Er mor uchel y dysgwyliadau, ni siomwyd Radicals y Deheudir yn Syr George, ac y mae lIe i gasglu y bydd dychweliad Mr. L Lewis Morris yn ffaith cyn hir, a sedd Mr. William Davies yn fwy dyogel nag erioed. Baich araeth Syr George hefyd oedd y pwnc Gwyddelig, ac nid oes amheuaeth beilach am ei uniawrgrededd ar y mater hwn. Siaradodd hefyd arfgamwri Cymru, yn neill- ag duol, pwnc y degwm a'r dadgysylltiad, addysg ganolradd, a diwygiad yn neddfau y tir. Dywedodd yn hyf nad oes ambeuaeth am ein bodolaeth fel cenedl, a chanddi ei neillduolion, ei harferion, a'i hangenion ei hunan, yr hyn a wedir 0 hyd gan y Times unochrog, sarhaus, a dallbleidgar. Dywedodd Syr George ein bod yn credu mewn cydraddoldeb ciefyddol, a chymwyswn yr egwyddor er dadgysylltu a dadwaddoli yr Eglwys Sefydledig yn .Nghymru. Yr ydym yn credu yn yr egwyddor o gydradd- oldeb, a chariwn hon allan er cael i un dyn un bleidlais. Credwn yn yr egwyddor 0 lywodraethu gan y bob], a chymwyswn hon at reoli y tafarnau a'u masnach. Credwn mewn llywodraeth leol boblogaidd, a char- iwn hyn allan er cael llywodraeth deilwng i Lundain, a llywodraeth sirol i'r holl wlad. Credwn yn yr egwyddor fawr sydd wrth wraidd pob mesur Rhyddfrydol-y dylai y bobl lywodraethu eu hunain, er eu lIe" eu hunain, ac nid fel yn bresenol. A chymwys- wn yr egwyddor hon at yr Iwerddon. Dyma gredo ein plaid, ac y mae y Llywodraeth bresenol yn erbyn ein holl egwyddorion; ond penderfynwn lynu wrthynt er ein bod ar y pryd presenol yn y lleiafrif yn y Senedd, ac ni adawn ein plaid fel y gwnaeth rhai. Y mae yn ddrwg genym eu bod wedi ein gadael-enwau anrhydeddus lawer 0 honynt; ond nid yw eu canlynwyr yn lluosog, a gwyddom y bydd y rhai sydd gyda ni yn y lleiafrif presenol yn gywir pan ddaw tro ar bethau, a phan gawn fuddugol- iaeth, yr hyn sydd mor sicr a chyfodiad yr haul yfori. Yr wythnos ddiweddaf, bu farw un 0 Doriaid hen ffasiwn Cymry, sef Mr. Howel Gwyn. Castelinedd. Yr oedd dros belwar ugain oed, ac yn adnabyddus drwy yr holl Ddeheudir. Bu amryw weithiau yn Nhy y Cyffredin, a chafodd ei ddiseddu amryw droion am lwgrwobrwyaeth. Taflwyu ef allan am hyn gan dref Aberhonddu ym- drechodd ar ol hyny am ddwyn sedd y sir oddiar Mr. Maitlend, ond bu yn aflwydd- ianus. Yr oedd yn garedig a haelionus i dlodion ac ereill, ond ar yr amod y buasent yn ei bleidio, fel yr arferai yr hen fonedd- wyr Cymreig flynyddau yn oL Ca' ei blaid golled, ac yn neillduol Eglwys Loegr, yr hon a amddiflynodd mewn amser ac allan 0 amser. Cyhoeddwyd y dydd o'r blaen gan bapyr Toriaidd Caerdydd fod Mr. Talbot, ein haelod hYDaf, a thad Ty y Cyffredin, yn dyfod i'r dref hono i amddiffyn yr Eglwys. Paradd hyn gryn gyffro yn y gwersyll Rhyddfrydol yn y sir, ac yn mhlith y rhai a gredent yn ngeirwiredd y Mail. Yr oedd yr ysgrifenydd mor anwybodus fel na wyddai fod dau o'r enw Talbot yn y Ty, a gwneid twrw mawr am fod perthynas Mr. Dillwyn Llewellyn yn dyfod gydag ef i ymosod ar y Radicaliaid. Cafodd Mr. Llewellyn gyfleus- dra i wadu nad ei ewythr oedd y Talbot a gydsiaradai ag ef; ond cyfaddefodd y Mail ei anwybodaeth, ond ni wnaeth ymddiheur- iad i'r cyhoedd y tro hwn fel arfer. Nid pob Judas a aeth ac a ymgrogodd, ac yr ydym yn cael un yn y papyr crybwvll- edig yn bwrw ei glafoerion ar ei hen gyfefll- ion crefyddol 0 herwydd iddynt ei ddysg- yblu am anfoesoldeb cywilyddus. Pa beth a wnaf, canys ni allaf weithio, a chardota sydd gywilyddus genyf; af i wasanaeth gelynion fy ngwiad a'm hen gyfoedion, a 3 galwaf fy hunan yn Anghydffurfiwr hyd nes gallaf fyned i mewn i gorlan yr Esgob Lewis o Landaf, yr hyn sydd gamp rhy anhawdd i mi hyd yn hyn. Ni phrisiaf am gydwybod na chrefydd os gallaf, rywfodd, gael bara a chaws, a dyna friwfwyd blasus a ga darllen- wyr Toriaidd Caerdydd oddiar fy mwrdd. **¡. '='<' Sonir llawer y dyddiau hyn am ddileu y gwahaniaeth mawr sydd rhwng cvfreithwyr a chounselwyr, neu far-gyfreithwyr. Gwell fuasai genym pe gallesid difodi y ddau ddosbarth, ond y mae hyn yn annichonadwy yn ngwyneb sefyllfa bresenol pethau. Sonir weithiau am 'ddrwg angenrheidiol,' er y gwad llawer fod y fath yn bosibl, ond os yw, bodolaeth cyfreithiwr ydyw. Y mae y gwaith trwm i gyd gan y cyfreithwyr, ond y rhagorfreintiau gan y bar-gyfreithwyr. Ni cha y cj^ntaf siarad o gwbl yn ein llysoedd I uchaf, ac ni allant gael swyddi ar y faine farnol hyd yn nod yn ein llysoedd isaf. Y mae ganddynt eu camwri, a phenderfynant weithio er cael mwy o chwareu teg yn y dyfodol. Nid oes genym ddim neillduol yn erbyn hyn, os ceir deddf i wneud eu biliau yn fwy rhesymol. Sibrydir fod Mr. Chamberlain ar gael ei wneud yn Llywoaraethwr Canada, ond gwad ef hyn. )l mae mwy nag un blaid am gael gwared 0 hono, ac mae gallu ac awdurdod am bum' mlynedd, yn nghyda £10,000 yn y flwyddyn a llety am ddim, yn abwd lied effeithiol. Y mae ei holl frodyr a'i berthyn- asau wedi eu taflu allan 0 Gyngor Trefol Birmingham, a hyny hefyd er gwaethaf ei gyfaill, Mr. John Bright. Cychwynwyd papyr newydd o'r enw Starr yn ddiweddar yn Llundain, ac mae ei gylch- rediad dyddiol yn barod dros 150,000 o gopiau. Dimai yw ei bris, ac yr oedd gwir angen am dano, canys Undebwyr Papyr yw y rhan fwyaf 0 bapyrau y Brif-ddinas, a'r Echo yn y fargen. Ei olygydd yw Mr. P. O'Connor, y gwr a arferai ysgrifenu llythyr Llundain i'r South, Wales Daily News, ac y mae yn ysgrifenwr poblogaidd iawn ac yn Rhyddfrydwr trwyadl. Gwneir parotoadau ar raddfa eang er rhoddi croesawiad teilwng i Ardalydd Ripon a Mr. John Morley, yn Dublin. Siaredir wrth yr holl wlad yma, a chyhoeddir rhyfel yn erbyn holl ormeswyr yr Iwerddon. Maes y frwydr fydd Ty y Cyffredin, ac y mae digon o arwyddion mai Senedd dymor derfysglyd iawn fydd yr hon sydd ar ddechreu, heblaw fod tua dwsin o aelodau yn y carchar yn barod.

LLANDYBIE.

BUDDUGWYR 0 GYMRU YN EISTEDD-FODAU…

LLANGYNNOR, CAERFYRDDIN-MAR…

Advertising

ENWAU SEISNIG AR LEOEDD CYMREIG.

Y GYNADLEDD RYDDFRYDIG YN…