Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

19 articles on this Page

Advertising

CYMRAEG YN YR YSGOLION DYDDIOL.

MAEWOLAEjlH S. R.

. EBENEZER, TRECYNON.

News
Cite
Share

EBENEZER, TRECYNON. Nos Fawrth a dydd Mercher, Medi yr 22ain a'r 23ain, cynaliodd yr eglwys uchod gyfarfodydd ordeinio Mr: J. Grawys Jones, fel olynydd i'r Hybarch William Edwarda. Brodor ydyw Mr. Jones o Glandwr, Penfro, a chafodd ei addysgu yn Ngholeg Caerfyrdd- in. Dygwyd tystiolaethau cryfion parthed cymeriad Mr. Jones gan y Parch. 0. R. Owen, Glandwr, a Proff. Jones, Caerfyrddin. Nid oeddynt am honi ei fod yn berffaith yn holl ragoriaethau duwioldeb, caem ein twyllo wrth ddysgwyl holl rinweddau da Oristioxi ogaeth gyfarfod yn yr un dyn; pe felly, caem berffeithrwydd yn trigfanu ar y ddiear, yr hyn ni ddichon fod. Ond digon yw dweyd ei fod yn bregethwr da, cywir—yn gymeriad dysglaer, ac yn feddianol ar bob cymhwysder i wneud gweinidog da i lesu Grist. Dechreuwyd y cyfarfod nos Fawrth gan y Parch. D. H. Thomas, Felindre, a phregethwyd gan y Parchn. T. J. Morris, Aberteifi, a Rowlands, Treflys. Am ddeg boreu dydd Mercher, dechreuwyd gan y Parch. D. Griffiths, Cwmdar, a phregethwyd ar Natur Eglwys' gan Proff. Jones, Caer- fyrddin, a dilynwyd ef gan y Parch. D. Thomas, Cymer. Am ddau, awd at brif' waith y cyfarfodydd, pryd y dechreuwyd gan y Parch. Evan Powell, Tredegar. Llywyddwyd gan y Parch. J. Morgan, Cwm- bach. Holwyd y gofyniadaa arferol gan y Parch. J. Davies, Soar, a chafwyd atebion boddhaol gan Mr. Jones. Offrymwyd yr urdd-weddi gan y Parch. R. Griffiths, Cefn. Yna pregethwyd siars i'r gweinidog gan y Parch. O. R. Owen, Glandwr, ac i'r eglwys gan y Parch. D. Silyn Evans, Siloa, Aberdar. Am chwech, dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. Mr. Thomas, Llan- gadog yna pregethwyd gan y Parchn O. R. Owen, Glandwr, a J. Thomas, Soar, Merthyr. Cafwyd cyfarfodydd lluosog a phregethau grymus a gafaelgar, ac arwyddion amlwg fod y cenadau yn derbyn nerth oddi uchod. Hyderus genym fod yr hyn a rwymwyd ar y ddaear wedi ei rwymo hefyd yn y nef, ac y bydd i'r bugail ieuanc, gobeithiol, fod o dan ofal y Pen-bugail mawr hyd derfyn ei oes, a bod yn flyddlon i ddefnyddio ei ddoniau i fynegu holl gyngor Duw. Mae arwyddion ffafriol ar gychwyniad ei weinidogaeth yn y lie, a theimlir gan yr eglwys fod ei ddyfodiad i'w plith yn gaffaeliad mawr. IJydded i ni roesawi ei berson-bod yn daer yn ein gweddiau—yn gyson yn ein cynulliadau, fel y byddai i'r gwrandawyr dderbyn ei weinid- ogaeth, a Duw drwy y cwbl gael ei ogoneddu. AELOD. O.Y.—Derbyniwyd hefyd eiddo T. R. G. (Tom Cynon), ond yr oedd eiddo Aelod mewn llaw yn flaenorol.

RHYMNI.

BETHANIA, ABERDAR.

YSGOLDY TYCHWYTH, MAESTEG.

CALFARIA, TREDEGAR.

ELIM, PENYDARRAN.

Y LLOFRUDDIAETH YN ABERTAWE.

Family Notices

TELEGRAM NEWYDD CHWE'

EBENEZER, TONYPANDY.

NAZARETH, TREWILLIAM.

ABERDAR—MARWOLAETH.

YSTALYFERA.

YSPYTTY, CASLLWORWR.

BETHANIA, ABERDAR.

HAFOD FOUNDRY, ABERTAWE.