Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

BARDDONIAETH A BEIRDD.

Y CI PONTO.

COED-DUON.

LLUNDAIN.

FLEUR-DE-LIS.

News
Cite
Share

FLEUR-DE-LIS. SALEM.—Nos Iau, y 4ydd cyfisol, cynal- iwyd cyngherdd ardderchog yn y capel newydd hwn, pryd y gwasanaethwyd gan yr artistes enwog a ganlyn ;-Misses Gertrude Lewis a Jennie Lewis, Caerdydd Mrs. Thomas, Coed-duon; J. P. Jones (Eosydd Mynach), Deri Mr. Gwilym Thomas, Caer- ffili yn nghyd a glee party W. Parry. Llyw- yddwyd yn ddeheuig. iawn gan Edmund Thomas, Ysw., Y.H., Clifton. Cafwyd ganddo anerchiad byr, cynwysfawr, a doeth a derbyniwyd ei sylwadau gyda chymeradwy- aeth gwresog. Amlygodd ei ofid a'i gydym- deimlad a gweithwyr tanddaearol y gymydog- aeth yn ngwyneb y caledi oeddynt ynddo, a thalodd iddynt y gwarogaeth o briodoli I mawredd Prydain i fodolaeth a gwerthfawr- edd llafur y dosbarth yma o weithwyr mai y glowyr yw grym cymdeithas yn Nghymru felly, yr oedd yn drueni o'r mwyaf fod y dosbarth yma mor isel eu hamgylchiadau, ac yn gorfod dyoddef angen. Anogodd y gwydd- fodolion i gefnogi pob mudiad ac achos daionus mor bell ag oedd yn ddichonadwy iddynt, a sylwodd fod budd y cyngherdd i ddwyn treuliau perthynol i'r eglwys. Yr oedd y programme yn un chwaethus, ac o nodwedd lied classical. Dechreuwyd trwy i gor Mr. Parry ddatganu "Rhyfelgyrch gwyr "Y Harlech." Er nad wyf yn hoffi bod yn critic mewn gwneuthur yr ychydig nodiadau hyn, eto i gyd, rhaid dweyd yn onest mai gwael iawn oedd y datganiad—pell o ddyfod i fyny a safon y cyngherdd. "Y bachgendewr" gan Eosydd Mynach yn dda dros ben. Gweithiodd allan ysbryd a theimlad y gan i'w dringeb priodol, a chafodd encore wresog ond oherwydd rhywbeth, ni atebodd. The blind girl to her harp gan Mrs. Thomas yn dda iawn eto. "The village blacksmith" gan Gwilym Thomas yn Iled dda. Y mae ganddo volume o lais rhagorol, ond nid yw yn gystal esgynloriwr. Y mae hwn yn un, er hyny, o'r lleiswyr goreu fel basso a giywais erioed. She wandered down the mountain side" gan Miss Gertrude Lewis yn gampus. Ni raid crybwyll rhagor am ddatganiad y foneddiges hon yr oedd i fyny a'r nod. "Thou art gone up on high" gan Eosydd Mynach, ar y cyfan, yn wir dda. Dygwydd- odd camgymeriad, yr hyn-a-acnosuau IT aat- j ganwr ail ddechreu yr unawd hwn. Nis gwn I 1 yn sicr beth oedd achos yr anffawd, ond barnu wyf wrth y copi mai y cyfeillion gam- syniodd y "block." Modd bynag, gellir dweyd yn ngeiriau Shakespeare, "All's well that ends well;" felly y datganiad hwn. "The manly heart" (deuawd) gan Gwilym Thomas a Miss Gertrude Lewis yn dda an- nghyffredin. Y ffrwd gan gor Mr. Parry yn wael iawn eto. Darfu i'r bass, fel enffraifft, daro allan yn y tudalen cyntaf, ond llwyddwyd i fyned trwyddo rywsut. "The lost chord gan Miss Jenny Lewis yn dda dros ben. "Let the hills resound" gan y cor; ystyrid hwn yn well na'r lleill. Y gardotes fach gan Mrs. Thomas yn gampus, a chafodd encore wresog, ac atebodd ef. "Ye, men o Gazah oedd y peth nesaf, gan Miss G. Lewis, ond datganodd ddernyn arall yn ei Ie, a chafodd encore brwdfrydig. The white squall" gan Eosydd Mynach yn gampus, a chafodd encore wresog. Cawsom ein sioini o'r oclir oreu yn nhatganiad Eosydd Mynach o'r gan odidog hon. What are the wild waves saying ?" (deuawd) gan Mr. G. Thomas a Miss G. Lewis yn ardderchog. The blind orphan girl gan Mrs. Thomas yn lied dda. Ni theimlais hi yn gystal a'r troion blaenorol, y llais dipyn yn galed. "Glyndwr" gan Mr. G. Thomas yn weddol. Amlwg oedd canfod fod anwyd arno, ac hys- bysodd hyn, gan erfyn ar y gwrandawyr i basio heibio iddo ar yr unawd Honour and arms," a chydymdeimlasant ag ef. "With verdure clad gan Miss G. Lewis yn fendig- edig canu mewn gwirionedd ydoedd. He was despised" gan Miss Jenny Lewis yn fendigedig eto. Yr oedd ymddangosiad syml a dirodres, a Uais tyner a swynol y foneddig- es hon fel pe yn gwefreiddio y cwbl o'i ham- gylch. Nid yn gyffredin y ceir cystal cy- ngherdd a hwn yr oedd yn treat ar y cyfan. Aed i mewn a thocynau 2s. 6c., 2s., Is. 6c., a Is. Yr elw i'r eglwys.—Gohebydd.

LLITH O'R ALLTWEN.I

ABERDAR.I

Advertising

LLANDEBIE.

ABERTAWE.

BRITON FERRY.