Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

¡L'ERPWL.

ACPJOS SARAH JACOB.

ATEBIAD I OFYNIAD "YMGE1SYDD"…

Cyfarfod Mawr y Glowyr yn…

News
Cite
Share

Cyfarfod Mawr y Glowyr yn Aberdar. Dydd Sadwrn diweddaf, cynaliwyd cyfarfod mawr gan y glowyr ar Goedcae, Aberaman, oddeutu dwy filldir islaw Aberdar. Er fod y tywydd yn fygythiol yn y boreu, eto, erbyn oddeutu deg o'r gloch, yr oedd yr haul yn de- chreu dangos ei wyneb hawddgar, a throdd y dydd allan yn un dymunoL Yr oedd y cyfarfod wedi ei gyhoeddi i dde- chreu am ddeg o'r gloch, ond yr oedd yn un- ar-ddeg cyn dechreu ar weithrediadau y cyfar- fod. Yr oedd yr holl lowyr wedi ymwisgo yn eu dillad dywedydd, a gwelid hwy yn ficteioedd yn dyfod o bob cyfeiriad, gan ddringo i fyny ochr y mynydd i le yr ym- gyfarfyddiad. Yr oedd rhai yno cyn deg o'r gloch, a pharhausant i ddyfod am o leiaf ddwy awr wedi hyny, nes i'r dorf gyrhaedd yn agos i 4.000. Dewiswyd Mr Thomas Thomas, Gwmdar, i'r gadair, yr hwn, yn ei ddull tawel ac hunan- feddianol, eto difrifol a dylanwadol, a anerch- odd y cynulliad oddiar ben careg fawr. Yn ei anerchiad agoriadol, taer ddymunodd ar ei gydweithwvr i fod yn dawel a threfnus, gan addaw perffaith chwareu teg i bob un a ddy- munai siarad. Eu bod wedi ymgyfarfod yno trwy yr aberth o ddiwrnod, ond ei fod yn gobeithio y byddai i'r dydd dalu yn dda dros- to ei hun yn y dyfodol. Wedi gwneud sylw neu ddau pellach, galwodd ar William Gwi- lym i egluro am can y cyfarfod. William Gwilym a ddywedai fod y cyfarfod wedi ei alw mewn canlyniad i'r hyn a gy- merodd le mewn cynadledd o gynrychiolwyr o bob rhan o Ddeheudir Cymru, yr hon a gynaliwyd yn Mhontypridd ychydig yn ol. Fod 27 o gynrychiolwyr yn bresenol yn y cyfarfod hwnw, a'u bod oil o blaid rhoddi rhybudd ar y cyntaf o Fawrth. Efe oedd yr unig un presenol o Aberdar, a thrwy nad oedd efe yn hysbys o syniadau glowyr Aber- dar, yr oedd efe wedi gomedd cydymffurfio a syniadau y rhai hyny heb gael eydym- gyngoriad a'i gydweithwyr. Bod cynrychiol- wyr sir Fynwy wedi dywedyd nad gwiw idd- ynt hwy roddi rhybudd heb fod glowyr Aberdar yn gwneud yr un peth, canys yn ystod eu strike diweddaf hwy, yr oedd glowyr Aberdar yn gweithio, a'u gwageni yn cael eu llenwi ganddynt. Yr oeddynt wedi bod ar strike am 16 o wythnosau, ac wedi gorfod rhoddi i mewn yn y diwedd. Yr oedd efe yn foddlon gweithredu yn unol a glowyr Aber- dar, a bod cyfarfod wedi ei gynal bymthegnos yn ol er penderfynu y pwnc, ond trwy fod cynrychiolwyr o luaws o lofeydd poblogaidd yn apsenol y pryd hwnw, i'r cyfarfod gael ei ohirio hyd heddyw. Ar yr adeg hon, dywedodd y llywydd fod amryw yn y cyfarfod ond odid nad oeddynt yn deall Cymreig—rhai wedi bod yn gweithio yn y dyffryn am amryw flynyddoedd, ond eto heb ddysgu eu hiaith ardderchog felly ei fod yn angenrheidiol rhoddi cyfieithiad o sylwadau W. Gwilym, a gofynodd i William Edwards, Mountain Ash, i wneud hyny, yr hyn a wnaeth yn dra boddhaus. Wedi ychydig ymddyddau yn nghylch y dull o fyned yn mlaen, penderfynwyd galw enwau y gwahanol byllau, a bod y cynrych- iolwyr i ddyfod yn mlaen i hysbysu canlyniad eu hymddyddan a'u meistri, a phenderfyniad y gweithwyr yn ngwyneb hyny. Penderfyn- wyd dechreu yn Mountain Ash, achymerwyd y pyllau yn olynol i fyny yr ochr ogleddol nior belled ag Hirwaun, a dychwelwyd yr ocbr arall, fel y canlyn :— Pwll Navigation.—Yr oedd y cynrychiolaeth wedi gweled y prif oruchwyliwr, yr hwn oedd wedi gohebu a Mr. Nixon. Yr oedd llythyr wedi ei dderbyn mewn atebiadf, yn hysbysu nad allai efe roddi codiad yn bresenol. Yr oedd cyfarfod o'r gweithwyr wedi ei gynal wedi hyny, a daethant i'r penderfyniad o roddi rhybudd. Deep Dyffryn.-Yr un a Navigation. Y mae y pyllau hyn yn perthyn i'r un perchen- ogipn. Owmpenar.—Yr oedd saith o ddynion wedi cael eu penodi i ymddyddan a Mr. Wilkinson, y prif oruchwyliwr. Dywedodd y boneddwr hwnw yr ysgrifenai at Mr. Elliot. Yr oedd yr atebiad wedi dyfod dydd Iau. Cynwys yr atebiad oedd, nad oedd sefyllfa y fasnach lo y fath fel ag y gellid rhoddi codiad yn bresenol. Yy oedd y pwlt ar stqp y diwrnod hwnw, a bod y gweithwyr yn benderfynol o weithredu yn unol a phenderfyniad y cyfarfod hwn. Yr un oedd yr ateb o'r pyllau ereill a berthynant i Mri. Elliot a Chyf. Llety Shenkin.—Yr oedd rhai o'r dynion am roddi rhybudd, ac ereill yn erbyn hyny ond yr oedd y mwyafrif yn barod i weithredu. yn ol penderfyniad y cyfarfod hwn, Ateb y meistr oedd ei bod yn rhy fuan i toddi cod- iad. Cwmbach.—Yr oedd cyfarfod wedi ei gynal gan y glowyr yr wtthnos ddiweddaf, pryd y pe&derlfrnwyd rhoddi rhybudd, canys yr oedd- ynt yn credu oddiwrth yr hyn yr oedd y meistr wedi ei ddywedyd wrthynt nad oedd- ynt i gael codiad buan. Yr oeddid wedi gweled Mr. Lewis y dydd o'r blaen, ae yr oedd efe wedi dywedyd y buasai yn rhoddi atebiad cadarnhaol yr wythnos nesaf. (Derbyniwyd y newydd hwn gyda chsyn lawer o anfodd- lonrwydd.) W erfa. Yr oedd dau wedi eu penodi i ymweled a Mr. Johnson, yr hwn a'u hyabys- odd y byddai iddo ohebu a'r perchenog. Yr oedd llythyr wedi ei dderbyn yn gofyn i'r gweithwyr am aros nes y byddai i'r perchenog weled pa faint o godiad y gallai efe fforddio ei roddi. Yr oedd y dynion wedi anfon ato dra- chefn, ac yr oedd wedi dywedyd y buasai yn rhoddi yr ateb y diwrnod hwnw, ond yr oedd- ynt hwy (y glowyr) wedi anfon dau ddyn ato i Gaerdydd. Am y rheswm hwn nid oeddynt wedi dyfod i unrhyw benderfyniad. Pyllau Abernant.—Dywedodd y cadeirydd ei fod ef wedi ei benodi i gynrychioli pyllau Abernant. Fod ei meistr hwy-Mr Fother- gill-wedi dywedyd wrthynt y dydd Mawrth blaenorol y buasent yn cael codiad ar y laf o Fawrth. Derbyniwyd yr hysbyeiad hwn gydag uchel gymeradwyaeth. Dywedodd y cadeiirdd yn mhellach ei fod wedi cael ar ddeall gan Mr Smith, fod y codiad i fod yn 10 punt y cant, ac efallai y gallent weled gwell amser eto. (Llefau y mae 15 y cant yn ddyledus i ni.) Sguborwen.— Yr oeddid wedi siarad a Mr Thomas ddau fis yn ol. Yr oedd efe yr adeg hono wedi addef fod codiad wedi cymeryd lie yn mhris y glo, fod y perchenogion yn cael 10s. y dynell am dano, ac y buasai efe yn gwneud yr un peth a meistri ereill. N id oedd y dynion wedi dyfod i unrhyw bender- fyniad. Hirwaun.—Yr oeddynt hwy wedi gweled Mr. Wilmer, y prif oruchwyliwr, chwech wythnos yn ol, yr hwn a'u hysbvsold y buas- ent hwy yn cael codiad pan y celai gweithwyr ereill hyny. Yr oedd gweithwyr Hirwaun wedi penderfynu gweithredu yn unol a phen- derfyniad y cyfarfod hwn. Nantmelyn.—Yr oeddynt wedi gweled Mr. Jones ddau fi5* yn ol, yr hwn a ryfeddai eu bod yn dysgwyl am gael codiad. Ond yr oedd yn awr wedi deall fod y glo wedi codi yn ei bris. Yr oeddynt wedi ei weled drachefn yr wythnos ddiweddaf, ac yr oedd wedi addaw rhoddi atebiad iddynt wedi y cyfarfod yn Nghaerdydd. Yr oedd yn dra boddhaol, a dangosai iddynt eu bod yn cael eu talu yn well nac yn y gweithfeydd haiarn, ac yr oedd yn awyddus am gael gwybod beth oedd i'w wneud y diwrnod hwnw. Dywedai fod y newyddiaduron wedi gwenwyno eu meddyl- iau. Dywedai y cynrychiolwyr nad oedd efe wedi ymddwyn tuag atynt yn rhesymol, y dylasai efe roddi y codiad iddynt heb ei geisio. Nos Wener yr oedd wedi eu hysbysu fod y meistri wedi penderfynu rhoddi codiad yn nechreu Mai. Bwllfa.—Yr un a Nantmelyn. Rhys a Richards.—Yr oedd dau o'r dynion wedi gweled Mr. Rhys, yr hwn a'u hysbysodd fod y cyfarfod yn Caerdydd wedi penderfynu rhoddi codiad yn Mai. Yr oedd archebion wedi eu cymeryd am bris isel, ac y dylid gad- ael i'r rhai hyny redeg allan yn gyntaf. Dy- wedai Mr. Rhys eu bod yn cael eu talu yn well na'r gweithwyr glo yn Dowlais; yno yr oedd 5c. y dynell llai yn cael ei dalu. Yr oedd y dynion yn y pwll hwn wedi pender- fynu peidio rhoddi rhybydd, canys bob tro y rhoddid ef, strike oedd yn canlyn. Ni allai rhai dynion fforddio strikio, yr oeddynt yn rhwym o weithio am y pris a gelent. Yr oedd y dynion yno yn credu mai y ffordd oreu oedd cefnogi ymfudiaeth, a thrwy hyny leihau y dwylaw, a chynygient ar fod i bob glowr dalu swllt yn y mis tuag at yr amcan hwnw. (Der- byniwyd y cynygiad hwn gydag anghymerad- wyaeth mawr.) n Powells', Cwmdar.—Yr oedd y dynion wedi cynal cyfarfod y boreu hwnw. Yr oedd rhai am roddi rhybydd, ac ereill am beidio; ond yr oeddynt oil wedi boddloni i weithredu yn ol penderfyniad y cyfarfod hwn. Pyllau y Gadlys.—Yr oeddid wedi gweled Mr. Davies, ac yr oadd yntau wedi addaw gwneud yr un fath a meistri ereill. Nid oedd y dynion wedi ymgyfarfod i ystyried pa un a roddent rybydd neu beidio. Blaengwawr ac Abercwmboy.—Yr oedd Mr Davies wedi addaw codiad yn Mai, a'r gweith- wyr wedi penderfynu peidio rhoddi rhybydd. Cwmneol.—Dim cyfarfod wedi ei gynal, nac un penderfyniad wedi <^yfod iddo. Cwmaman.—Yr oeddid wedi gweled Mr. Burns, ac yntau yn hawddgar iawn wedi addaw gweled Mr. Elliot. Yr oedd wedi gweled y boneddwr hwnw, ac yr oedd yn dy- wedyd ei bod yn anmhosibl rhoddi codiad yn bresenol. Ei fod wedi rhoddi allan ganoedd o filoedd o bunau yn nyffryn Aberdar, ac nad oedd efe wedi derbyn 5 punt y cant oddiwrth- ynt. Fod cymaint o byllau wedi eu hagor mewn gwahanol leoedd, fel yr oedd y cyflen- wad yn fwy na'r gofyn. Nad oedd y dynion wedi dyfod i unrhyw benderfyniad, ond y byddai iddynt weithredu yn ol penderfyniad y cyfarfod hwn. < Pwll Sheppard.—Yr oedd Mr Thomas wedi dywedyd fod Mr Evans oddi cartref, ac nad allai efe roddi atebiad cyn y dychwelai. Dywedodd y cadeirydd eu bod yn awr wedi cael yr adroddiadau oddiwrth holl byllau y dyffryn, a chynghorai hwy i fod yn bwyllog ac ystyriol. Yn cyfeirio at nodiad o eiddo cynrychiolydd pwll Rhys a Richards, dywedai y cadeirydd y gallai dyn meddw ddyfod yn sobr drachefn, ond nad oedd un gobaith iffwl ddyfod yn gall. Yr oedd yn awr yn cael ei adael i'r cyfarfod a fyddai iddynt roddi rhy- budd neu beidio. Rhoddwyd yn nesaf wrandawiad ar gyn- rychiolwyr o Gwm Rhondda a air Fynwy. Y cyntaf oedd Lewis Morgan, Cwm Rhon- dda. Dywedodd fod y glowyr yno wedi gwneud i fyny eu meddyliau ddLau fis yn ol i fynu codiad yn eu cyflogau, gan ddangos yn eglur mai nid xttikes oe4d bob amaer yndilyn rhybuddion o eiddo y gweithwyr. Bodpris y glo wedi codi, a bod sefyllfa masnach yn dda. Os byddat i rybudd am godiad gael ei roddi yn awr, y byddai i'r meistri ei roddi. Ach. wynai hefyd yn fawr eisieu fod ydiwaneg o ymddiriedaeth gan y dynion yn eu harwein- wyr. Yr oedd efe yn gryf dros fod y cyfarfod yn penderfynu rhoddi rhybudd ar unwaith. Wedi hyny, cafwyd gair gan gynrychiolydd o sir Fynwy. Dywedai ei fod yn cynrychioli cymydogaeth Abeitillery. Yr oedd yn hynod hyawdl, ac anogai y glowyr i fod yn unol. Cafwyd anerchiadau hefyd gan gynrychiolwyr o Gaerffili, Pent^rch, a lleoedd ereill, yr oil o ba rai a wasgant ar lowyr Aberdar i roddi rhybudd. Dywedai cynrychiolwyr Pentyrch eu bod hwy wedi cael swllt er's dau fis yn ol, a'u bod yn awr am gael dau yn ychwaneg. Yna cododd David Griffiths i gynyg y pen- derfyniad fod rhybudd i'w roddi. Dywedai ei fod yn gyfarfod pwysig, a bod pawb a'u llygaid ainynt. Yr oedd cyfeillion sir Fynwy yn cwyno fod pobl Aberdar wedi eu niweidio mewn amser a aeth heibio nad oedd efe yn caru niweidio neb. Pan y gostyngwyd eu cyflogau dwy flynedd yn ol, yr oeddynt wedi cael addewid o'i gael yn ol pan yr adfywiai masnach, a bod yr adeg hono wedi dyfod yn. awr. Eiliwyd y cynygiad gan David Morgan. Mountain Ash, yr hwn a anogai y cyfarfod i ymuno yn unfrydol a chyfeillion sir Fynwy a Chwm Rhondda. Rhoddwyd y cynygiad i fyny, a chododd bron bawb eu dwylaw gydag ef. Gofynodd y cadeirydd am i'r rhai hyny oedd yn wrth- wynebol iddo godi eu dwylaw, a chodwyd oddeutu 20. Cafwyd cyfarfod da a rheolaidd oddieithr un eithriad o'r siaradwyr, ac hyderir fod hwnw wedi gweled ei ffolineb cyn diwedd y cyfar- fod, ac na bydd iddo ymddwyn felly o hyn allan. Rhoddodd y dorf a'r llywydd awgrym- iadau pwrpasol iddo. D.S.-Hyderir, gan nad ydyw holl lofeydd Aberdar, a lleoedd ereill, a'u misoedd yn de- chreu nac yn diweddu ar yr un adeg, fod yr holl lofeydd wedi ystyried hyny, yn hytrach na dyfod i un dyryswch cyfreithiol rhagllaw. YSGRIF MR. BRUCE.—Dywedodd y cadeir- ydd fod ysgrif Mr Bruce wedi ei ddarllen yr ail waith, ac nad oedd dim amser i'w golli er ystyried y camråu a gymerid gyda golwg ami. Gwawdiai sylw Mr Bruce, sef fod ped- war diwrnod yn ddigon bach i arolygu ambeU i waith, ac y byddai i'r arolygwr mewn un amgylchiad orfod cerdded 88 o filldiroedd. Wedi cyfeirio yn mhellach at bwnc y Sub- Inspectors, cynygiodd ar fod i'r saith wyr a, ddewiswvd rhyw amser yn ol i wylio symud- iadau y Senedd, ar ran glowyr y Deheudir, i'w hail ddewis, ac iddynt weithredu yn y dull goreu a ymddangosai iddynt hwy gyda golwg ar yr ysgrif. Cariwyd y cynygiad yn un- frydol. Yn yr hwyr am saith o'r gloch, cafwyd cyf- arfod lluosog o gynrychiolwyr yn y Fother- gills Arms, Aberdar, pryd yr etholwyd Mr. T. Thomas, Cwmdar, yn llywydd. Amcan y cyfarfod hwn oedd cymeryd golwg ar y dy- fodol, pryd hefyd y cafwyd ar ddeall fod Mr. Fothergill wedi anfon am Mr. T. Thomas, er ceisio gauddo hysbysu y seithwyr sydd wedi eu dewis gan lowyr y Deheudir i wylio dros y Mines Regulation Bill, ei fod am eu gweled y dydd Llun canlynol, a'i fod yn dymuno ar- nynt i fod yn Abernant House erbyn 11 o'r gloch. Ymd lyddanwyd Uawer ar bwac yr Ysgrif, ac ystyrid llawer o honi yn niweidiol iawn i'r glowyr. Wedi ymddyddan maith ar wahanol bethau, deuwyd i'r penderfyniad unfrydol fod ri gwir angen cael ceiniog oddiwrth bob glowr clrwy ddyffryn Aberdar a Chwmrhondda, er cyfarfod a'r treulion ag yr oeddid wedi myned iddynt mewn cysylltiad a gosod allan yr hys- bysleni, yn nghyda'r gwahanol gyhoeddwyr yn Mountain Ash ac Aberdar. Casglwyd ya y cyfarfod mawr dydd Sadwrn rhyw 17s., pryd y dywedodd rhywrai y byddai yn well cas;<lu y ceiniogau hyn yn y pyllau. Hysbysodd y llywydd y byddai y cyfarfod nesaf prydnawn dydd Sadwin wvthnos i'r nesa.f, sef y 13eg cryfisol, yn y Fothergills Arms, pryd y dysgwylir i'r holl gynrychiol- wyr o gwm Aberdar, i fod yn bresenol, a hyny i'r dyben o ddyfod a'r arian o'r gwahanol byll- au, er cyfarfod a threulion y mudiadau. Dysgwylir i wyr Cwmrhondda i gyfarfod a'u gilydd yn y Pentre Inp. i'r un perwyl, o hyn i hyny, ac iddynt anfon yr arian i'r Foth- ergills Arms, i ofal Mr, Jones, (Oaradog,) sef gwr y ty. Y dydd Llun canlynol, aeth chwech o?r saith wyr i gyfaxfod a Mr Fothergill, ar yr adeg penodedig, sef 11 o'r gloch, i Abernant House. Cawsant dderbyniad croesawgar ac wedi caal bobo gadair i eistedd, tynodd y boneddwr allan gopi q Ysgrif Mr Bruce ar Lywodraethiad Gweithfeydd Mwn. Dywed- odd wrthynt am fod yn bwyllog, ac y buasent yn myned tros bob adran ohoni gyda'r manyl- rwydd. mwyaf, er nodi aMan yr hyn oedd yn wrthwynebus yn mhob clause. Gwnawd hyn gyda'r pwyll dVladwy. Yr oeddid yn cydweled, efe a hwythau, fod amryw bethau. ynddynt yn groes i bob rheswm, fel erbyn pwyso y da a'r drwg yn yr ysgrif newydd, deuwyd i'r penderfyniad fod yn well bod heb- ddi o gwbl. Y peth nesaf y darfa i Mr Fothergill taer ddymuno arnynt, gan eu bod yn cynrychioli glowyr Deheudir Cymru, i gyfansoddi math o ddeiseb, mor eglur ag oedd modd, ac iddo yn- tau gael y fraint o'i darllen o flaen Ty y Cy- ffredin, er rhoddi ar ddeaM i'r Ty sad ydyw y glowyr yn cydweled mewn un modd gwelliantau tybiedig Mr Bru6e yn ei ysgrif. Cytunwyd ar hyn, ae. erbJp hyny, yr oedd wedi myned yn 3 o'r gjoeh yn y prydoawa, ac nid oedd yr awaer yn eaniataa ond jrn aaig i fwrw golwg ar y dnll i weithrocur yn y, dyfodol ae felly penderiVnwyd ar fed y saith i gyfarfod au gilydd ddydd lion neeaf, a hyny am nad oes amser i'w golli gydaV mater. Ond buom bron ag anghofio, pan